Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Ffydd—Rhinwedd Sy’n Rhoi Nerth Inni

Ffydd—Rhinwedd Sy’n Rhoi Nerth Inni

MAE gan ffydd nerth aruthrol. Er enghraifft, er bod Satan eisiau chwalu ein perthynas â Jehofa, mae ffydd yn ein galluogi i ‘ddiffodd saethau tanllyd yr un drwg.’ (Eff. 6:16) Gyda ffydd, gallwn wynebu problemau sydd mor fawr â mynyddoedd. Dywedodd Iesu wrth ei ddisgyblion: “Petai’ch ffydd chi mor fach â hedyn mwstard, gallech chi ddweud wrth y mynydd yma, ‘Symud i’r fan acw’ a byddai’n symud.” (Math. 17:20) Gan ein bod ni’n gwybod y gall ffydd ein cryfhau yn ysbrydol, dylen ni feddwl am y cwestiynau hyn: Beth yw ffydd? Sut mae cyflwr ein calon yn effeithio ar ein ffydd? Sut gallwn ni gryfhau ein ffydd? A phwy y dylen ni roi ein ffydd ynddo?—Rhuf. 4:3.

BETH YW FFYDD?

Mae ffydd yn golygu mwy na chredu beth mae’r Beibl yn ei ddweud yn unig, oherwydd mae hyd yn oed “y cythreuliaid yn credu hynny hefyd [bod Duw yn bodoli], ac yn crynu mewn ofn!” (Iago 2:19) Felly, beth yw ffydd?

Yn union fel rydyn ni’n hyderus y bydd ’na wastad ddydd a nos, rydyn ni’n hyderus y bydd gair Duw wastad yn dod yn wir

Mae’r Beibl yn dweud bod gan ffydd ddwy agwedd. Yn gyntaf, “ffydd ydy’r sicrwydd fod beth dyn ni’n gobeithio amdano yn mynd i ddigwydd.” (Heb. 11:1a) Os oes gen ti ffydd, yna rwyt ti’n hollol hyderus fod popeth mae Jehofa’n ei ddweud yn wir ac am gael ei gyflawni. Er enghraifft, dywedodd Jehofa wrth yr Israeliaid: “Does neb yn gallu torri’r patrwm o nos a dydd yn dilyn ei gilydd mewn trefn. A’r un fath, does neb yn gallu torri’r ymrwymiad dw i wedi’i wneud i Dafydd fy ngwas.” (Jer. 33:20, 21) A wyt ti erioed wedi poeni y byddai’r haul yn stopio codi a machlud yn yr awyr, fel na fydd dydd na nos rhagor? Os nad wyt ti’n amau deddfau natur sy’n cadw’r ddaear yn troi ar ei hechel o gwmpas yr haul, a ddylet ti amau na fydd Creawdwr y deddfau hyn yn gallu cyflawni ei addewidion? Na ddylet wrth gwrs!—Esei. 55:10, 11; Math. 5:18.

Yn ail, mae ffydd yn “dystiolaeth sicr o realiti beth dyn ni ddim eto’n ei weld.” Dywedir bod ffydd yn “dystiolaeth sicr” o bethau sy’n anweladwy i’r llygaid ond eto’n real. (Heb. 11:1b) Ym mha ffordd? Dychmyga fod plentyn yn gofyn iti, ‘Sut rwyt ti’n gwybod bod aer yn bodoli?’ Er nad wyt ti erioed wedi gweld aer, mae’n debyg y byddet ti’n trafod pethau sy’n profi ei fod yn bodoli, fel anadlu, effaith y gwynt, ac yn y blaen. Unwaith i’r plentyn fod yn argyhoeddedig o’r dystiolaeth, mae’n deall ei bod hi’n bosib credu mewn rhywbeth nad wyt ti’n gallu ei weld. Mewn ffordd debyg, mae ffydd yn seiliedig ar dystiolaeth gadarn.—Rhuf. 1:20.

RHAID CREDU O’R GALON

Gan fod ffydd wedi ei seilio ar dystiolaeth, i gael ffydd mae’n rhaid i rywun yn gyntaf ‘ddod i wybod y gwir.’ (1 Tim. 2:4) Ond, nid yw hynny’n ddigon. Ysgrifennodd yr apostol Paul: ‘Credu yn y galon sy’n dy wneud di’n iawn gyda Duw.’ (Rhuf. 10:10) Mae’n rhaid i rywun gredu yn y gwirionedd a hefyd ei werthfawrogi. Yna bydd ef yn cael ei ysgogi i roi ffydd ar waith, hynny yw, i fyw mewn ffordd sy’n plesio Duw. (Iago 2:20) Gall rhywun sydd ddim wir yn gwerthfawrogi’r gwirionedd anwybyddu hyd yn oed tystiolaeth gadarn oherwydd ei fod yn gwrthod newid ei ddaliadau neu’n ceisio esgusodi ei chwantau cnawdol. (2 Pedr 3:3, 4; Jwd. 18) Dyna pam yn adeg y Beibl, ni wnaeth pawb a welodd wyrthiau ddatblygu ffydd. (Num. 14:11; Ioan 12:37) Mae ysbryd glân Duw dim ond yn cynhyrchu ffydd mewn pobl sydd wir yn caru’r gwirionedd.—Gal. 5:22; 2 Thes. 2:10, 11.

SUT DATBLYGODD DAFYDD FFYDD GREF?

Ymhlith y rhai â ffydd gref yr oedd y Brenin Dafydd. (Heb. 11:32, 33) Fodd bynnag, nid oedd gan bawb yn nheulu Dafydd y fath ffydd. Er enghraifft, ar un achlysur dangosodd Eliab, mab hynaf Dafydd, ddiffyg ffydd pan wnaeth ef amau cymhellion Dafydd oherwydd iddo wylltio ynglŷn â her Goliath. (1 Sam. 17:26-28) Does neb yn cael ei eni â ffydd nac yn ei hetifeddu oddi wrth ei rieni, felly roedd ffydd Dafydd yn dod o ganlyniad i’w berthynas ei hun â Duw.

Yn Salm 27, mae Dafydd yn dangos sut y datblygodd ffydd gref. (Ad. 1) Myfyriodd Dafydd ar brofiadau’r gorffennol ac ar sut gwnaeth Jehofa ddelio gyda’i wrthwynebwyr. (Ad. 2, 3) Gwerthfawrogodd yn fawr iawn drefniant Jehofa ar gyfer addoli. (Ad. 4) Gwnaeth Dafydd addoli Duw ynghyd â chyd-gredinwyr yn y tabernacl. (Ad. 6) Gweddïodd yn daer ar Jehofa. (Ad. 7, 8) Roedd Dafydd hefyd eisiau cael ei hyfforddi yn ffordd Duw. (Ad. 11) Roedd ffydd mor bwysig i Dafydd nes iddo ofyn: “Lle byddwn i pe nad oedd gen i ffydd?”—Ad. 13, NW.

SUT I GRYFHAU DY FFYDD

Fe gei di ffydd fel Dafydd os wyt ti’n efelychu’r agwedd a’r arferion sy’n cael eu disgrifio yn Salm 27. Gan fod ffydd yn seiliedig ar wybodaeth gywir, bydd astudio Gair Duw a chyhoeddiadau Beiblaidd yn ei gwneud hi’n haws iti gynhyrchu fesul dipyn yr agwedd hon ar ffrwyth ysbryd Duw. (Salm 1:2, 3) Cymera’r amser i fyfyrio wrth iti astudio. Myfyrio yw’r pridd y mae gwerthfawrogiad yn tyfu ynddo. Wrth i dy werthfawrogiad am Jehofa dyfu, bydd dy awydd i roi ffydd ar waith drwy ei addoli yn y cyfarfodydd a chyhoeddi dy obaith i eraill yn tyfu. (Heb. 10:23-25) Hefyd, rydyn ni’n dangos ein ffydd drwy “ddal ati i weddïo, a pheidio byth ag anobeithio.” (Luc 18:1-8) Felly, “daliwch ati i weddïo” ar Jehofa, a bod yn hyderus ei fod yn “gofalu amdanoch chi.” (1 Thes. 5:17; 1 Pedr 5:7) Mae ffydd yn ein hysgogi i weithredu, ac yn ei dro, mae ein gweithredoedd yn cryfhau ein ffydd.—Iago 2:22.

YMARFER FFYDD YN IESU

Ar y noson cyn ei farwolaeth, dywedodd Iesu wrth ei ddisgyblion: “Credwch yn Nuw, a chredwch ynof fi hefyd.” (Ioan 14:1) Felly, mae’n rhaid inni gredu neu roi ein ffydd yn Jehofa ac yn Iesu. Sut gelli di roi dy ffydd yn Iesu? Gad inni ystyried tair ffordd.

Beth mae’n ei olygu i ymarfer ffydd yn Iesu?

Yn gyntaf, meddylia am y pridwerth fel rhodd bersonol oddi wrth Dduw. Dywedodd yr apostol Paul: “A’r bywyd yr wyf yn awr yn ei fyw yn y cnawd, ei fyw trwy ffydd yr wyf, ffydd ym Mab Duw, yr hwn a’m carodd i ac a’i rhoes ei hun i farw trosof fi.” (Gal. 2:20, BCND) Pan fyddi di’n ymarfer ffydd yn Iesu, byddi di wir yn credu bod y pridwerth yn berthnasol i ti, yn sail i faddeuant am dy bechodau, yn cynnig y gobaith o fywyd tragwyddol i ti, ac yn profi i’r eithaf fod Duw yn dy garu. (Rhuf. 8:32, 38, 39; Eff. 1:7) Bydd hyn yn dy gryfhau i gael gwared ar feddyliau negyddol amdanat ti dy hun.—2 Thes. 2:16, 17.

Yn ail, closia at Jehofa mewn gweddi ar sail aberth Iesu. Oherwydd y pridwerth, gallwn ni weddïo ar Jehofa yn hollol agored a bydd ef yn “trugarhau wrthon ni ac yn rhoi popeth sydd ei angen i ni pan mae angen help arnon ni.” (Heb. 4:15, 16; 10:19-22) Mae gweddïo yn ein gwneud ni’n fwy penderfynol o wrthsefyll y temtasiwn i bechu.—Luc 22:40.

Yn drydydd, ufuddha i Iesu. Ysgrifennodd yr apostol Ioan: “Mae bywyd tragwyddol gan bawb sy’n credu [“ymarfer ffydd,” NW] yn y Mab, ond fydd y rhai sy’n gwrthod y Mab ddim hyd yn oed yn cael cipolwg o’r bywyd hwnnw. Bydd digofaint Duw yn aros arnyn nhw.” (Ioan 3:36) Sylwa ar sut gwnaeth Ioan wrthgyferbynnu ymarfer ffydd â bod yn anufudd. Felly, rwyt ti’n ymarfer ffydd yn Iesu pan wyt ti’n ufuddhau iddo. Rwyt ti’n ufuddhau i Iesu drwy ddilyn cyfraith Crist, hynny yw, popeth a ddysgodd ac a orchmynnodd Iesu. (Gal. 6:2) Rwyt ti hefyd yn ufuddhau i Iesu drwy ddilyn y cyfarwyddyd mae’n ei roi trwy’r “gwas ffyddlon a chall.” (Math. 24:45, BCND) Pan fyddi di’n ufuddhau i Iesu, fe fydd gen ti’r nerth i ddal ati drwy stormydd bywyd.—Luc 6:47, 48.

“ADEILADU EICH HUNAIN AR SYLFAEN EICH FFYDD HOLL-SANCTAIDD”

Un tro, dyma ddyn yn gweiddi ar Iesu: “Yr wyf yn credu; helpa fi yn fy niffyg ffydd.” (Marc 9:24, BCND) Roedd ganddo rywfaint o ffydd, ond roedd y dyn yn ddigon gostyngedig i gydnabod bod angen mwy o ffydd arno. Yn debyg i’r dyn hwnnw, bydd angen mwy o ffydd ar bob un ohonon ni rywbryd yn ein bywydau. A gallwn ni i gyd gryfhau ein ffydd nawr. Fel y gwelson ni, rydyn ni’n cryfhau ein ffydd pan fyddwn ni’n astudio Gair Duw ac yn myfyrio arno, a bydd hynny’n gwneud inni werthfawrogi Jehofa’n fwy byth. Bydd ein ffydd hefyd yn cryfhau pan fyddwn ni—ynghyd â’n cyd-addolwyr—yn addoli Jehofa, yn dweud wrth eraill am ein gobaith, ac yn parhau i weddïo. Ar ben hynny, pan fyddwn ni’n cryfhau ein ffydd, byddwn ni’n cael y wobr orau oll. Mae Gair Duw yn ein cymell: “Rhaid i chwi, gyfeillion annwyl, eich adeiladu eich hunain ar sylfaen eich ffydd holl-sanctaidd,” er mwyn cadw “eich hunain yng nghariad Duw.”—Jwd. 20, 21, BCND.