Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Ioan Fedyddiwr—Esiampl o Gadw Llawenydd

Ioan Fedyddiwr—Esiampl o Gadw Llawenydd

WYT ti’n dyheu am aseiniad yn y gynulleidfa sydd ar hyn o bryd y tu hwnt i dy gyrraedd? Efallai fod yr aseiniad hwnnw yng ngofal rhywun arall ar hyn o bryd. Neu mae’n bosib dy fod ti’n hiraethu am fraint a oedd gen ti yn y gorffennol. Ond, mae oed, iechyd gwael, caledi ariannol, neu gyfrifoldebau teuluol bellach yn cyfyngu ar yr hyn y gelli di ei wneud nawr. Neu hwyrach rwyt ti wedi ildio cyfrifoldeb a oedd gen ti am yn hir oherwydd newidiadau cyfundrefnol. Beth bynnag yw’r rheswm, mae’n bosib dy fod ti’n teimlo nad wyt ti’n gwneud popeth y byddet ti’n hoffi ei wneud yng ngwasanaeth Duw. Pan fydd hyn yn digwydd, mae’n naturiol iti deimlo’n ddigalon ar brydiau. Er gwaethaf hyn, sut gelli di rwystro emosiynau negyddol—fel digalondid, chwerwder, neu ddal dig—rhag gwreiddio? Sut gelli di gadw dy lawenydd?

Gallwn ddysgu sut i gadw ein llawenydd drwy ystyried esiampl Ioan Fedyddiwr. Roedd gan Ioan freintiau arbennig iawn, eto mae’n debyg nad oedd ef yn disgwyl i’w fywyd yng ngwasanaeth Jehofa droi allan fel y gwnaeth. Mae’n bosib na wnaeth ef erioed feddwl y byddai’n treulio mwy o amser yn y carchar nag y gwnaeth yn ei weinidogaeth. Eto i gyd, daliodd ati yn llawen, a chadwodd yr agwedd honno am weddill ei oes. Beth wnaeth ei helpu? Sut gallwn ninnau gadw ein llawenydd pan gawn ni ein siomi?

ASEINIAD LLAWEN

Yng ngwanwyn 29 OG, dechreuodd Ioan ei aseiniad fel rhagflaenydd y Meseia, gan ddweud: “Trowch gefn ar bechod, achos mae’r Un nefol yn dod i deyrnasu.” (Math. 3:2; Luc 1:12-17) Ymatebodd llawer gan dyrru o bell ac agos i wrando ar ei neges, ac fe gafodd llawer eu cymell i edifarhau a chael eu bedyddio. Rhybuddiodd Ioan yr arweinwyr crefyddol hunangyfiawn am y farn a oedd yn eu disgwyl oni bai y bydden nhw’n newid. (Math. 3:5-12) Gwelodd ei weinidogaeth yn cyrraedd ei hanterth yn hydref 29 OG pan fedyddiodd ef Iesu. O hynny ymlaen, dywedodd Ioan wrth bobl am ddilyn Iesu, y Meseia addawedig.—Ioan 1:32-37.

O ystyried rôl unigryw Ioan, gallai Iesu ddweud: “Mae Ioan Fedyddiwr yn fwy na neb arall sydd wedi byw erioed.” (Math. 11:11) Gallwn fod yn sicr yr oedd Ioan yn hapus iawn â’i fendithion. Fel Ioan, mae llawer heddiw wedi profi bendithion hyfryd. Gad inni ystyried esiampl brawd o’r enw Terry. Mae ef a’i wraig, Sandra, wedi treulio dros 50 mlynedd yn y gwasanaeth llawn amser. Yng ngeiriau Terry: “Dw i wedi cael llawer o freintiau hyfryd. Dw i wedi gwasanaethu fel arloeswr, aelod o’r Bethel, arloeswr arbennig, arolygwr cylchdaith, arolygwr rhanbarth, a nawr fel arloeswr arbennig unwaith eto.” Mae breintiau theocrataidd yn dod â llawenydd inni, ond fel y dysgwn o esiampl Ioan, mae cadw ein llawenydd yn gofyn am ymdrech pan fydd ein hamgylchiadau’n newid.

BYDDA’N DDIOLCHGAR BOB AMSER

Un peth a helpodd Ioan Fedyddiwr i gadw ei lawenydd oedd y ffaith na wnaeth ef erioed golli ei werthfawrogiad am ei freintiau. Ystyria un enghraifft. Ar ôl bedydd Iesu, dechreuodd gweinidogaeth Ioan leihau a chynyddodd gweinidogaeth Iesu. Roedd disgyblion Ioan wedi dechrau pryderu am yr hyn a ddywedon nhw wrtho: “Wel, mae e’n bedyddio hefyd, ac mae pawb yn mynd ato fe.” (Ioan 3:26) Atebodd Ioan: ‘Mae’r briodferch yn mynd at y priodfab. Mae’r gwas priodas yn edrych ymlaen at hynny, ac mae wrth ei fodd pan mae’n digwydd. A dyna pam dw i’n wirioneddol hapus.’ (Ioan 3:29) Doedd Ioan ddim yn cystadlu â Iesu, ac ni aeth i feddwl bod y fraint a gafodd wedi colli ei bri oherwydd rôl bwysicach Iesu. Yn lle hynny, arhosodd Ioan yn llawen am ei fod yn trysori ei rôl fel “gwas priodas.”

Helpodd agwedd meddwl Ioan iddo aros yn fodlon er gwaethaf ei aseiniad anodd. Er enghraifft, roedd Ioan yn Nasaread o’i enedigaeth, felly, roedd yn rhaid iddo ymgadw rhag yfed gwin. (Luc 1:15) Dywedodd Iesu “fod Ioan ddim yn bwyta nac yn yfed fel pawb arall,” gan gyfeirio at ei fywyd syml. Ar y llaw arall, doedd Iesu na’i ddisgyblion o dan y fath gyfyngiadau ac roedd eu bywyd yn fwy normal. (Math. 11:18, 19) Hefyd, er na chyflawnodd Ioan wyrthiau, gwyddai fod disgyblion Iesu wedi cael y ddawn honno, gan gynnwys rhai oedd gynt yn dilyn Ioan. (Math. 10:1; Ioan 10:41) Yn hytrach na gadael i’r gwahaniaethau hyn dynnu ei sylw, parhaodd Ioan yn selog yn ei aseiniad gan Jehofa.

Os ydyn ni’n trysori ein haseiniad presennol yng ngwasanaeth Jehofa, gallwn warchod ein llawenydd. Dywed Terry, y soniwyd amdano gynt, “Wnes i ganolbwyntio ar bob un o’r aseiniadau a ges i.” Wrth iddo edrych yn ôl ar ei fywyd o wasanaeth llawn-amser, mae’n dweud, “Dw i’n difaru dim, mae gen i lu o atgofion hyfryd.”

Gallwn ni fod yn fwy llawen yng ngwasanaeth Jehofa drwy fyfyrio ar yr hyn sy’n gwneud unrhyw aseiniad neu gyfrifoldeb yn wirioneddol arbennig. Dyna’r fraint o fod ymhlith “cydweithwyr Duw.” (1 Cor. 3:9, BC) Yn yr un ffordd ag y gall polisio llestri arian gadw eu sglein, gall myfyrio ar yr anrhydedd o wasanaethu Duw gadw meddyliau negyddol rhag pylu ein llawenydd. Fe wnawn ni wrthsefyll y temtasiwn i gymharu ein hymdrechion ag ymdrechion pobl eraill. Fyddwn ni ddim yn meddwl yn llai o’n breintiau ni gan dybio bod Jehofa yn rhoi breintiau gwell i eraill.—Gal. 6:4.

CANOLBWYNTIA AR FATERION YSBRYDOL

Mae’n bosib fod Ioan wedi deall na fyddai ei weinidogaeth yn para’n hir, ond efallai na wnaeth hi erioed groesi ei feddwl pa mor sydyn y byddai’n dod i’w therfyn. (Ioan 3:30) Yn 30 OG, gwta chwe mis ar ôl bedyddio Iesu, cafodd Ioan ei garcharu gan y Brenin Herod. Ond, parhaodd Ioan i siarad am yr hyn oedd yn iawn. (Marc 6:17-20) Beth fyddai’n helpu Ioan i gadw ei lawenydd yn ystod y newid mawr ar ei fyd? Fe ganolbwyntiodd ar bethau ysbrydol.

Tra oedd Ioan yn y carchar, derbyniodd adroddiadau am Iesu yn ehangu ei weinidogaeth. (Math. 11:2; Luc 7:18) Roedd Ioan yn argyhoeddedig mai Iesu oedd y Meseia ond efallai ei fod wedi gofyn iddo’i hun sut y byddai Iesu yn cyflawni popeth roedd yr Ysgrythurau yn dweud y byddai’n ei gyflawni. Gan fod y Meseia am gael brenhiniaeth, a fyddai’r teyrnasiad hwnnw’n dechrau’n fuan? A fyddai’n arwain at Ioan yn cael ei ryddhau o’r carchar? Yn ei awydd i ddeall rôl Iesu yn well, anfonodd Ioan ddau o’i ddisgyblion i ofyn cwestiwn i Iesu: “Ai ti ydy’r Meseia sydd i ddod, neu dylen ni ddisgwyl rhywun arall?” (Luc 7:19) Pan ddaethon nhw yn eu holau, mae’n rhaid fod Ioan wedi gwrando’n astud wrth iddyn nhw ddisgrifio sut roedd Iesu wedi gwella pobl yn wyrthiol ac yna eu hanfon i adrodd y cwbl wrth Ioan: “Mae pobl ddall yn cael gweld, pobl gloff yn cerdded, pobl sy’n dioddef o’r gwahanglwyf yn cael eu hiacháu, pobl fyddar yn clywed, a phobl sydd wedi marw yn dod yn ôl yn fyw. Ac mae’r newyddion da yn cael ei gyhoeddi i bobl dlawd!”—Luc 7:20-22.

Yn sicr, fe fyddai eu hadroddiad wedi annog Ioan. Cadarnhaodd hynny fod Iesu yn cyflawni’r proffwydoliaethau Meseianaidd. Er na wnaeth presenoldeb Iesu arwain at ryddhau Ioan o’r carchar, gwyddai Ioan nad oedd ei wasanaeth yn ofer. Er gwaethaf ei amgylchiadau, roedd ganddo reswm i fod yn llawen.

Gall canolbwyntio ar adroddiadau da ynglŷn â’n gwaith pregethu ein helpu i aros yn llawen

Fel Ioan, os ydyn ni’n canolbwyntio ar bethau ysbrydol, fe fyddwn ninnau’n gallu dyfalbarhau gyda llawenydd ac amynedd. (Col. 1:9-11) Gallwn wneud hyn drwy ddarllen y Beibl a myfyrio arno, sydd yn ein hatgoffa nad yw’n gwaith yng ngwasanaeth Jehofa byth yn ofer. (1 Cor. 15:58) Dywed Sandra: “Mae darllen pennod o’r Beibl bob dydd wedi fy helpu i glosio at Jehofa. Mae’n fy helpu i ganolbwyntio arno ef yn hytrach nag arna’ i fy hun.” Gallwn ganolbwyntio hefyd ar adroddiadau o weithgaredd y Deyrnas, sydd yn ein galluogi i edrych y tu hwnt i’n hamgylchiadau a chanolbwyntio ar yr hyn mae Jehofa yn ei gyflawni. “Mae’r rhaglenni misol ar JW Broadcasting® yn ein helpu i deimlo’n nes at ein cyfundrefn,” meddai Sandra, “ac maen nhw yn ein helpu ni i ddal ati i lawenhau yn ein haseiniad.”

Cyflawnodd Ioan Fedyddiwr ei yrfa fer “gyda’r un ysbryd a nerth a oedd gan y proffwyd Elias,” ac, fel Elias, roedd yn ddyn “cyffredin fel ni.” (Luc 1:17; Iago 5:17) Os efelychwn ei esiampl o werthfawrogiad ac o flaenoriaethu pethau ysbrydol, yna gallwn ninnau gadw’n llawen yng ngwasanaeth y Deyrnas, doed a ddelo.