Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

ERTHYGL ASTUDIO 33

Bydd y “Rhai Sy’n Gwrando Arnat Ti yn Cael eu Hachub”

Bydd y “Rhai Sy’n Gwrando Arnat Ti yn Cael eu Hachub”

“Cadw lygad ar sut rwyt ti’n byw a beth rwyt ti’n ei ddysgu. Dal ati i wneud hynny. Wedyn byddi’n gwneud yn siŵr dy fod ti dy hun a’r rhai sy’n gwrando arnat ti yn cael eu hachub.”—1 TIM. 4:16.

CÂN 67 “Pregetha’r Gair”

CIPOLWG *

1. Beth mae pob un ohonon ni yn ei ddymuno i’n perthnasau?

“ERS imi ddysgu’r gwirionedd, dw i wastad wedi dymuno cael fy holl deulu gyda fi ym Mharadwys,” meddai chwaer o’r enw Pauline. * “Roeddwn i yn enwedig eisiau i fy ngŵr, Wayne, a’n mab ifanc ymuno â mi yng ngwasanaeth Jehofa.” Oes gen ti berthnasau sydd ddim wedi dod i adnabod a charu Jehofa eto? Fel Pauline, mae’n debyg dy fod tithau hefyd eisiau i dy berthnasau wasanaethu Jehofa gyda ti.

2. Pa gwestiynau y byddwn ni’n eu trafod yn yr erthygl hon?

2 Ni allwn ni orfodi ein perthnasau i dderbyn y newyddion da, ond fe allwn ni eu hannog i agor eu meddyliau a’u calonnau i neges y Beibl. (2 Tim. 3:14, 15) Pam y dylen ni dystiolaethu i’n perthnasau? Pam y dylen ni geisio deall eu teimladau? Beth y gallwn ni ei wneud i helpu ein perthnasau i garu Jehofa fel rydyn ninnau’n ei garu? A sut gall pawb yn ein cynulleidfa leol ein helpu?

PAM TYSTIOLAETHU I’N PERTHNASAU?

3. Yn ôl 2 Pedr 3:9, pam dylen ni dystiolaethu i’n perthnasau?

3 Yn fuan, bydd Jehofa’n dod â’r system hon i ben. Dim ond y rhai sydd “â’r agwedd gywir tuag at fywyd tragwyddol” fydd yn goroesi. (Act. 13:48, NW) Rydyn ni’n defnyddio llawer o amser ac egni yn pregethu i bobl sy’n ddiarth inni yn ein cymuned, felly mae’n naturiol ein bod ninnau hefyd eisiau i’n perthnasau wasanaethu Jehofa gyda ni. Dydy ein Tad cariadus, Jehofa, “ddim eisiau i unrhyw un fynd i ddistryw. Mae e am roi cyfle i bawb newid eu ffyrdd.”—Darllen 2 Pedr 3:9.

4. Pa gamgymeriad y gallen ni ei wneud wrth dystiolaethu i’n perthnasau?

4 Mae’n rhaid inni gofio bod ’na ffordd gywir ac anghywir o rannu’r newyddion da. Er ein bod ni’n siarad yn garedig wrth inni bregethu i rywun sy’n ddiarth inni, efallai fod gennyn ni dueddiad i siarad yn rhy blaen â’n perthnasau.

5. Beth dylen ni ei gofio cyn ceisio rhannu’r gwirionedd â’n perthnasau?

5 Mae llawer ohonon ni’n difaru’r ffordd y gwnaethon ni dystiolaethu i’n perthnasau y tro cyntaf ac yn meddwl y dylen ni fod wedi delio â’r sefyllfa’n wahanol. Rhoddodd Paul y cyngor hwn i’r Cristnogion: ‘Bydded eich gair bob amser yn rasol, wedi ei flasu â halen, ichwi fedru ateb pob un fel y dylid.’ (Col. 4:5, 6, BCND) Peth da yw inni gofio’r cyngor hwn pan fyddwn ni’n siarad â’n perthnasau. Neu, fel arall, gallen ni eu digio nhw yn lle eu perswadio nhw.

SUT GALLWN NI HELPU EIN PERTHNASAU?

Gall dy empathi ac ymddygiad roi’r dystiolaeth fwyaf (Gweler paragraffau 6-8) *

6-7. Rho esiampl sy’n dangos pam mae’n bwysig i gydymdeimlo â chymar sydd ddim yn gwasanaethu Jehofa.

6 Dangosa gydymdeimlad. Dywed Pauline, y soniwyd amdani’n gynharach: “Ar y cychwyn, roeddwn i eisiau siarad â fy ngŵr am bethau ysbrydol yn unig. Doedden ni ddim yn siarad am bethau pob dydd.” Fodd bynnag, doedd Wayne, gŵr Pauline, ddim yn gwybod llawer am y Beibl ac nid oedd yn deall beth roedd Pauline yn siarad amdano. Yn ei olwg ef, roedd hi’n gwneud dim byd ond siarad am ei chrefydd. Roedd yn poeni ei bod hi’n ymuno â sect beryglus ac yn cael ei thwyllo.

7 Mae Pauline yn cyfaddef iddi arfer treulio llawer o’i nosweithiau a phenwythnosau gyda’i brodyr a’i chwiorydd ysbrydol—yn y cyfarfodydd, ar y weinidogaeth, ac yn cymdeithasu â nhw. “Roedd Wayne weithiau’n dod adref i dŷ gwag ac yn teimlo’n unig,” meddai Pauline. Wrth reswm, roedd Wayne yn colli ei wraig a’i fab. Nid oedd yn adnabod y bobl roedden nhw’n cymdeithasu â nhw, ac roedd hi’n ymddangos bod ffrindiau newydd ei wraig wedi dod yn fwy pwysig i Pauline nag ef. Ymateb Wayne oedd bygwth ysgaru Pauline. A fedri di feddwl am sut y gallai Pauline fod wedi dangos mwy o ddealltwriaeth?

8. Yn ôl 1 Pedr 3:1, 2, beth sy’n debygol o gael yr effaith fwyaf ar ein perthnasau?

8 Gosoda esiampl dda. Yn aml, mae’r hyn rydyn ni’n ei wneud yn cael mwy o effaith ar ein perthnasau na’r hyn rydyn ni’n ei ddweud. (Darllen 1 Pedr 3:1, 2.) Yn y diwedd, sylweddolodd Pauline fod hynny’n wir. “Roeddwn i’n gwybod bod Wayne yn ein caru a doedd ef ddim eisiau cael ysgariad mewn gwirionedd,” meddai hi. “Ond ar ôl iddo fygwth ysgaru, gwnes i sylweddoli bod rhaid imi wneud pethau yn ffordd Jehofa. Yn lle siarad gymaint, roedd angen imi osod esiampl dda trwy fy ymddygiad.” Stopiodd Pauline roi pwysau ar Wayne i siarad am y Beibl, a dechreuodd hi siarad ag ef am bethau pob dydd. Sylwodd Wayne ei bod hi’n fwy heddychlon, a bod eu mab yn fwy cwrtais ac ufudd. (Diar. 31:18, 27, 28) Pan welodd Wayne yr effaith dda roedd neges y Beibl yn ei chael ar ei deulu, agorodd ei feddwl a’i galon i neges Gair Duw.—1 Cor. 7:12-14, 16.

9. Pam dylen ni barhau i geisio helpu ein perthnasau?

9 Parha i geisio helpu dy berthnasau. Mae Jehofa’n gosod yr esiampl inni. “Dro ar ôl tro” mae’n rhoi’r cyfle i bobl ymateb i’r newyddion da a chael bywyd. (Jer. 44:4) A dywedodd yr apostol Paul wrth Timotheus am barhau i helpu eraill. Pam? Oherwydd trwy wneud hynny, byddai’n ei achub ei hun a’r rhai oedd yn gwrando arno. (1 Tim. 4:16) Rydyn ni’n caru ein perthnasau, felly rydyn ni eisiau iddyn nhw wybod gwirioneddau Gair Duw. Yn y pen draw, cafodd geiriau a gweithredoedd Pauline effaith dda ar ei theulu. Nawr mae ganddi’r llawenydd o wasanaethu Jehofa gyda’i gŵr. Mae’r ddau ohonyn nhw’n arloesi, ac mae Wayne yn gwasanaethu fel henuriad.

10. Pam mae angen inni fod yn amyneddgar?

10 Bydda’n amyneddgar. Pan fyddwn ni’n dewis ufuddhau i Dduw a gwneud newidiadau yn ein bywydau, gallai fod yn anodd i’n perthnasau dderbyn y newidiadau hyn. Yn aml, y peth cyntaf maen nhw’n sylwi arno yw ein bod ni’n gwrthod dathlu gwyliau crefyddol gyda nhw a chymryd rhan mewn pethau gwleidyddol. Efallai bydd ein perthnasau’n gwylltio ar y cychwyn. (Math. 10:35, 36) Ond ddylen ni ddim stopio ceisio eu helpu. Os nad ydyn ni’n ceisio eu helpu nhw i ddeall ein daliadau, rydyn ni, mewn ffordd, wedi barnu nad ydyn nhw’n haeddu cael bywyd tragwyddol. Dydy Jehofa ddim wedi rhoi’r cyfrifoldeb o farnu i ni—mae wedi rhoi’r aseiniad hwnnw i Iesu. (Ioan 5:22) Os ydyn ni’n amyneddgar, efallai un diwrnod bydd ein perthnasau’n fodlon gwrando ar ein neges.—Gweler y blwch “ Defnyddia Ein Gwefan i Ddysgu.”

11-13. Beth rwyt ti’n ei ddysgu o’r ffordd gwnaeth Alice ddelio â’i rhieni?

11 Bydda’n gadarn ond yn gwrtais. (Diar. 15:2) Ystyria esiampl Alice. Gwnaeth hi ddysgu am Jehofa tra oedd hi’n byw ymhell oddi wrth ei rhieni a oedd yn anffyddwyr ac yn cymryd rhan mewn pethau gwleidyddol. Sylweddolodd y byddai’n rhaid iddi ddweud wrthyn nhw am y pethau da roedd hi’n eu dysgu cyn gynted â phosib. “Os wyt ti’n aros tan hwyrach ymlaen i ddweud wrth eraill am y newidiadau i dy ddaliadau ac arferion,” meddai Alice, “bydd y sioc yn fwy i dy deulu.” Roedd hi’n ysgrifennu llythyrau at ei rhieni, ac yn gofyn beth roedden nhw’n ei feddwl am ddysgeidiaethau’r Beibl ar bynciau yr oedd hi’n gobeithio y bydden nhw o ddiddordeb i’w rhieni, fel cariad. (1 Cor. 13:1-13) Gwnaeth hi ddiolch i’w rhieni am iddyn nhw ei magu a gofalu amdani hi, ac anfonodd hi anrhegion atyn nhw. Pan fyddai hi’n ymweld â’i rhieni, byddai hi’n gwneud popeth ag y gallai i helpu ei mam o gwmpas y tŷ. Ar y dechrau, doedd ei rhieni ddim yn hapus pan ddywedodd Alice wrthyn nhw am ei daliadau newydd.

12 Pan oedd Alice yng nghartref ei rhieni, roedd hi’n parhau i ddilyn ei rhaglen o ddarllen y Beibl. “Roedd hyn yn helpu fy mam i ddeall pa mor bwysig yw’r Beibl i mi,” meddai Alice. Yn y cyfamser, penderfynodd tad Alice ddysgu rhywbeth am y Beibl er mwyn deall pam roedd ei ferch wedi newid, ac roedd ef eisiau darganfod diffygion yn y Beibl. “Rhoddais Feibl iddo,” meddai Alice, “ac ysgrifennais nodyn personol ar y tu mewn.” Beth oedd y canlyniad? Yn lle darganfod diffygion, cafodd calon tad Alice ei gyffwrdd gan yr hyn a ddarllenodd yng Ngair Duw.

13 Rydyn ni angen bod yn gadarn ond mae’n rhaid defnyddio tact, hyd yn oed wrth inni wynebu treialon. (1 Cor. 4:12b) Er enghraifft, roedd rhaid i Alice ddioddef gwrthwynebiad gan ei mam. “Pan ges i fy medyddio, gwnaeth Mam fy ngalw i’n ‘ferch ddrwg.’” Sut ymatebodd Alice? “Yn lle osgoi’r mater, esboniais yn barchus fy mod i wedi penderfynu bod yn un o Dystion Jehofa a doeddwn i ddim am newid fy meddwl. Gwnes i drio atgoffa fy mam fy mod i wir yn ei charu. Gwnaeth y ddwy ohonon ni grio, a choginiais bryd o fwyd blasus iddi. O hynny ymlaen, dechreuodd fy mam gydnabod bod y Beibl yn fy ngwneud i’n berson gwell.”

14. Pam ddylen ni byth adael i’n perthnasau newid ein penderfyniad i wasanaethu Jehofa?

14 Efallai bydd hi’n cymryd amser i’n perthnasau ddeall yn llwyr pa mor bwysig yw gwasanaethu Jehofa inni. Er enghraifft, pan benderfynodd Alice arloesi yn lle dilyn yr yrfa roedd ei rhieni wedi ei dewis iddi, gwnaeth ei mam grio eto. Ond arhosodd Alice yn gadarn. “Os wyt ti’n ildio i bwysau mewn un peth,” meddai Alice, “yna mae’n debyg bydd dy deulu yn rhoi pwysau arnat ti mewn pethau eraill. Fodd bynnag, os wyt ti’n garedig ond yn gadarn gyda dy deulu, efallai bydd rhai ohonyn nhw’n gwrando arnat ti.” Dyna beth ddigwyddodd yn achos Alice. Mae ei rhieni nawr yn arloeswyr, ac mae ei thad yn henuriad.

SUT GALL PAWB YN Y GYNULLEIDFA HELPU?

Sut gall y gynulleidfa helpu aelodau o’n teulu sydd ddim yn Dystion? (Gweler paragraffau 15-16) *

15. Yn ôl Mathew 5:14-16 a 1 Pedr 2:12, sut gallai’r “pethau da” mae eraill yn eu gwneud helpu ein perthnasau?

15 Mae Jehofa’n denu pobl ato drwy’r “pethau da” y mae’r gynulleidfa Gristnogol yn eu gwneud. (Darllen Mathew 5:14-16; 1 Pedr 2:12.) Os nad ydy dy gymar yn un o Dystion Jehofa, a ydy ef neu hi wedi cwrdd ag aelodau’r gynulleidfa? Gwnaeth Pauline, y soniwyd amdani’n gynharach, wahodd brodyr a chwiorydd i’w chartref er mwyn i’w gŵr, Wayne, ddod i’w hadnabod. Mae Wayne yn cofio sut gwnaeth un brawd ei helpu i weld pa fath o bobl yw’r Tystion mewn gwirionedd: “Cymerodd ddiwrnod i ffwrdd o’r gwaith jest er mwyn gwylio gêm ar y teledu gyda fi. A meddyliais i, ‘Mae e’n normal!’”

16. Pam dylen ni wahodd ein perthnasau i ddod i’r cyfarfodydd?

16 Un ffordd wych o helpu ein perthnasau yw eu gwahodd nhw i ddod i’r cyfarfodydd gyda ni. (1 Cor. 14:24, 25) Aeth Wayne i’w gyfarfod cyntaf—y Goffadwriaeth—oherwydd roedd y rhaglen yn eithaf byr ac yn dechrau ar ôl iddo orffen ei waith. “Doeddwn i ddim yn deall yr anerchiad yn llwyr,” meddai, “ond fe wnes i gofio’r bobl. Daethon nhw ata’ i a fy nghroesawu ac ysgwyd fy llaw yn dynn. Roeddwn i’n gwybod eu bod nhw’n bobl ddiffuant.” Roedd un cwpl yn garedig iawn wrth Pauline, gan ei helpu gyda’i mab yn y cyfarfodydd ac ar y weinidogaeth. Felly pan wnaeth Wayne benderfynu o’r diwedd ei fod angen deall mwy am ddaliadau newydd Pauline, gofynnodd i’r gŵr astudio’r Beibl gydag ef.

17. Beth na ddylen ni ein beio ein hunain amdano, ond pam na ddylen ni byth roi’r gorau i geisio helpu ein perthnasau?

17 Rydyn ni’n gobeithio y bydd ein perthnasau i gyd yn ymuno â ni i wasanaethu Jehofa. Sut bynnag, er gwaethaf ein hymdrechion i helpu ein perthnasau i ddod yn weision Duw, efallai na fyddan nhw’n dod i mewn i’r gwirionedd. Os mai dyna yw’r sefyllfa, dylen ni beidio â beio ni’n hunain am eu penderfyniad. Wedi’r cyfan, ni allwn ni orfodi neb i dderbyn ein daliadau. Ond, os ydy dy berthnasau yn gweld pa mor hapus wyt ti oherwydd iti wasanaethu Jehofa, gall hynny gael effaith fawr arnyn nhw. Gweddïa drostyn nhw. Siarada â nhw yn barchus. Paid â dal yn ôl! (Act. 20:20) Bydda’n hyderus y bydd Jehofa’n bendithio dy ymdrechion. Ac os ydy dy berthnasau’n dewis gwrando arnat ti, fe fyddan nhw’n cael eu hachub!

CÂN 57 Pregethu i Bob Math o Bobl

^ Par. 5 Rydyn ni eisiau i’n perthnasau ddod i adnabod Jehofa, ond mae’n rhaid iddyn nhw benderfynu a fyddan nhw’n ei wasanaethu neu beidio. Bydd yr erthygl hon yn ystyried sut gallwn ni ei gwneud hi’n haws i’n perthnasau wrando arnon ni.

^ Par. 1 Newidiwyd rhai enwau. Yn yr erthygl hon mae’r term “perthnasau” yn cael ei ddefnyddio i gyfeirio at aelodau teulu sydd ddim yn gwasanaethu Jehofa eto.

^ Par. 53 DISGRIFIADAU O’R LLUN: Brawd ifanc yn helpu ei dad, sydd ddim yn Dyst, i weithio ar ei gar. Ar adeg briodol, mae’n dangos fideo iddo ar jw.org®.

^ Par. 55 DISGRIFIADAU O’R LLUN: Chwaer yn gwrando’n astud ar ei gŵr anghrediniol wrth iddo siarad am ei ddiwrnod prysur. Yn hwyrach ymlaen, mae hi’n mwynhau amser hamdden gyda’i theulu.

^ Par. 57 DISGRIFIADAU O’R LLUN: Mae’r chwaer wedi gwahodd aelodau o’r gynulleidfa draw i’w chartref. Maen nhw’n ceisio dod i adnabod ei gŵr yn well. Yn hwyrach ymlaen, mae’r gŵr yn mynd i’r Goffadwriaeth gyda’i wraig.