Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

ERTHYGL ASTUDIO 35

Dangosa Barch Tuag at Bawb yng Nghynulleidfa Jehofa

Dangosa Barch Tuag at Bawb yng Nghynulleidfa Jehofa

“Dydy’r llygad ddim yn gallu dweud wrth y llaw, ‘Does arna i ddim dy angen di!’ A dydy’r pen ddim yn gallu dweud wrth y traed, ‘Does arna i ddim eich angen chi!’”—1 COR. 12:21.

CÂN 124 Bythol Ffyddlon

CIPOLWG *

1. Beth mae Jehofa wedi ei roi i bob un o’i weision ffyddlon?

ALLAN o’i gariad, mae Jehofa wedi rhoi lle yn ei gynulleidfa i bob un o’i weision ffyddlon. Er bod gynnon ni i gyd rôl wahanol, mae pawb yn werthfawr ac angen ei gilydd. Mae’r apostol Paul yn ein helpu i ddeall y wers bwysig hon. Sut?

2. Yn ôl Effesiaid 4:16, pam mae rhaid inni werthfawrogi ein gilydd a chydweithio?

2 Ym mhrif adnod yr erthygl hon, pwysleisiodd Paul y ffaith na all yr un ohonon ni edrych ar un o weision eraill Jehofa a dweud, “does arna i ddim dy angen di!” (1 Cor. 12:21) Er mwyn cael heddwch yn y gynulleidfa, rhaid inni werthfawrogi ein gilydd a chydweithio. (Darllen Effesiaid 4:16.) Pan weithiwn gyda’n gilydd mewn undod, mae’r gynulleidfa’n ffynnu ac yn cael ei chryfhau gan gariad.

3. Beth byddwn ni’n ei drafod yn yr erthygl hon?

3 Ym mha ffyrdd gallwn ni ddangos parch tuag at eraill yn y gynulleidfa? Yn yr erthygl hon, byddwn ni’n ystyried sut gall henuriaid ddangos parch tuag at henuriaid eraill. Yna, byddwn ni’n trafod sut gall pob un ohonon ni ddangos ein bod ni’n gwerthfawrogi ein brodyr a’n chwiorydd dibriod. Ac yn olaf, byddwn ni’n dysgu sut gallwn ni ddangos cariad tuag at y rhai sydd ddim yn siarad ein hiaith yn rhugl.

DANGOSA BARCH TUAG AT GYD-HENURIAID

4. Pa gyngor gan Paul yn Rhufeiniaid 12:10 dylai henuriaid ei ddilyn?

4 Mae pob henuriad yn y gynulleidfa wedi ei benodi gan ysbryd glân Jehofa. Ond eto, mae gan bob un wahanol ddoniau a galluoedd. (1 Cor. 12:17, 18) Efallai bod rhai wedi eu penodi’n ddiweddar ac yn gymharol ddibrofiad. Hwyrach bod eraill yn methu gwneud cymaint oherwydd henaint a phroblemau iechyd. Eto, ni ddylai’r un o’r henuriad edrych ar henuriad arall a dweud i bob pwrpas, “does arna i ddim dy angen di!” Yn hytrach, dylai pob henuriad ddilyn cyngor Paul yn Rhufeiniaid 12:10.—Darllen.

Mae henuriaid yn dangos eu bod yn parchu eu cyd-henuriaid drwy wrando’n astud arnyn nhw (Gweler paragraffau 5-6)

5. Sut mae henuriaid yn dangos eu bod yn parchu eu cyd-henuriaid, a pham mae hi’n bwysig iddyn nhw wneud hynny?

5 Mae henuriaid yn dangos eu bod yn parchu eu cyd-henuriaid drwy wrando’n astud arnyn nhw. Mae hyn yn angenrheidiol yn enwedig pan fydd y corff henuriaid yn cyfarfod i drafod materion pwysig. Pam? Sylwa ar beth ddywedodd rhifyn Hydref 1, 1988 y Tŵr Gwylio Saesneg: “Bydd henuriaid yn cydnabod bod Crist, drwy’r ysbryd glân, yn gallu llywio meddwl unrhyw henuriad ar y corff i roi’r egwyddor Feiblaidd sydd ei hangen er mwyn delio ag unrhyw sefyllfa neu wneud unrhyw benderfyniad pwysig. (Act. 15:6-15) Does gan yr un o’r henuriaid ar y corff fonopoli ar yr ysbryd glân.”

6. Sut gall henuriaid gydweithio mewn undod, a sut mae’r gynulleidfa yn elwa ar hynny?

6 Dydy henuriad sy’n parchu ei gyd-henuriaid ddim bob amser yn ceisio cael y gair cyntaf mewn cyfarfodydd henuriaid. Dydy ef ddim yn cymryd drosodd y sgwrs, nac yn credu bod ei farn ef wastad yn iawn. Yn hytrach, mae’n rhoi ei farn mewn ffordd ostyngedig a gwylaidd. Mae’n gwrando’n astud ar sylwadau’r lleill. Yn bwysicach fyth, mae’n awyddus i rannu egwyddorion Beiblaidd a dilyn cyfarwyddyd y gwas ffyddlon a chall. (Math. 24:45-47) Pan fydd yr henuriaid yn dangos cariad a pharch tuag at ei gilydd wrth drafod pethau, bydd ysbryd glân Duw yn bresennol ac yn eu harwain i ddod i benderfyniadau a fydd yn cryfhau’r gynulleidfa.—Iago 3:17, 18.

DANGOSA BARCH TUAG AT GRISTNOGION DIBRIOD

7. Beth oedd agwedd Iesu tuag at fod yn sengl?

7 Mae’r gynulleidfa heddiw yn cynnwys cyplau priod a theuluoedd. Eto, mae hefyd yn cynnwys llawer o frodyr a chwiorydd sydd heb briodi. Sut agwedd dylen ni ei chael tuag at y rhai sengl? Ystyria agwedd Iesu tuag at fod yn sengl. Yn ystod ei weinidogaeth ar y ddaear, wnaeth Iesu ddim priodi. Arhosodd yn sengl, gan ddefnyddio ei amser i ganolbwyntio ar ei aseiniad. Wnaeth Iesu erioed ddysgu bod rhaid priodi nac aros yn sengl chwaith. Ond dywedodd y byddai rhai Cristnogion yn dewis peidio â phriodi. (Math. 19:11, 12) Roedd Iesu’n parchu’r rhai dibriod. Doedd ef ddim yn edrych i lawr ar bobl sengl nac yn meddwl bod rhywbeth ar goll yn eu bywydau.

8. Yn ôl 1 Corinthiaid 7:7-9, beth gwnaeth Paul annog Cristnogion i’w ystyried?

8 Fel Iesu, arhosodd yr apostol Paul yn sengl yn ystod ei weinidogaeth. Wnaeth Paul erioed ddysgu na ddylai Cristnogion briodi. Cydnabyddodd mai mater personol yw hyn. Eto, fe wnaeth Paul annog Cristnogion i ystyried a allen nhw wasanaethu Jehofa fel pobl sengl. (Darllen 1 Corinthiaid 7:7-9.) Yn bendant, wnaeth Paul ddim edrych i lawr ar Gristnogion sengl. Fe ddewisodd Timotheus, brawd ifanc sengl, i ofalu am aseiniadau pwysig. * (Phil. 2:19-22) Yn amlwg felly, byddai’n anghywir i feddwl bod brawd yn fwy neu’n llai cymwys ar sail ei statws priodasol yn unig.—1 Cor. 7:32-35, 38.

9. Beth gallwn ddweud ynglŷn â phriodi ac aros yn sengl?

9 Wnaeth Iesu na Paul erioed ddysgu bod rhaid i Gristnogion briodi, nac aros yn sengl chwaith. Felly, beth gallwn ddweud ynglŷn â phriodi ac aros yn sengl? Rhoddodd rhifyn Hydref 1, 2012 y Tŵr Gwylio Saesneg ateb da i’r cwestiwn drwy ddweud: “Mewn gwirionedd, gall priodi ac aros yn sengl ill dau gael eu disgrifio fel rhoddion gan Dduw. . . . Dydy Jehofa ddim yn meddwl y dylai pobl sengl deimlo cywilydd na bod yn drist am eu bod nhw heb briodi.” Gyda hyn mewn golwg, mae’n rhaid inni barchu brodyr a chwiorydd sengl yn y gynulleidfa.

O barch at deimladau’r rhai sengl, beth dylen ni ei osgoi? (Gweler paragraff 10)

10. Sut gallwn ni ddangos parch tuag at ein brodyr a chwiorydd sengl?

10 Sut gallwn ni ddangos parch tuag at deimladau ac amgylchiadau ein brodyr a chwiorydd sengl? Dylen ni gofio bod rhai Cristnogion wedi penderfynu aros yn sengl. Mae ’na Gristnogion sengl eraill a fyddai’n hoffi priodi, ond dydyn nhw ddim wedi cael hyd i’r person iawn eto. Ac mae ’na eraill sydd wedi colli eu cymar mewn marwolaeth. Beth bynnag yw’r sefyllfa, ydy hi’n briodol i’r rhai yn y gynulleidfa ofyn i Gristnogion sengl pam nad ydyn nhw wedi priodi, neu gynnig eu helpu i gael hyd i gymar? Efallai bydd rhai Cristnogion sengl yn gofyn am gymorth o’r fath. Ond os nad ydyn nhw’n gofyn, sut gallai cynigion felly wneud i frodyr a chwiorydd sengl deimlo? (1 Pedr 4:15; 1 Tim. 5:13) Gad inni ystyried rhai sylwadau gan frodyr a chwiorydd sengl.

11-12. Sut gallen ni ddigalonni’r rhai sengl?

11 Mae un arolygwr cylchdaith sengl sydd yn effeithiol iawn yn ei aseiniad yn teimlo bod ’na lawer o fuddion i fod yn sengl. Ond eto, dywedodd: “Mae’n gallu gwneud imi deimlo’n ddigalon pan fydd brodyr a chwiorydd yn ceisio helpu a gofyn, ‘Pam nad wyt ti wedi priodi?’” Dywedodd brawd sengl sy’n gweithio mewn swyddfa gangen: “Weithiau dw i’n gweld bod rhai brodyr a chwiorydd yn meddwl y dylen nhw deimlo trueni dros y rhai sengl. Gall hyn wneud iddi ymddangos bod bywyd sengl yn faich yn hytrach na rhodd.”

12 Dywedodd chwaer sengl sy’n gwasanaethu yn y Bethel: “Mae rhai cyhoeddwyr yn ei chymryd hi’n ganiataol fod pob person sengl yn chwilio am gymar, neu’n gweld pob achlysur cymdeithasol fel cyfle i gael hyd i gymar. Unwaith, pan es i i ran arall o’r wlad ar gyfer aseiniad, cyrhaeddais ar noson gyfarfod. Dywedodd y chwaer o’n i’n aros gyda hi fod ’na ddau frawd yn y gynulleidfa oedd yr un oed â fi. Mi wnaeth hi fy sicrhau nad oedd hi’n ceisio fy setio i fyny. Ond y funud aethon ni i mewn i’r Neuadd, wnaeth hi lusgo fi draw i gyfarfod y ddau frawd. Yn amlwg, oedd hynny’n sefyllfa annifyr i’r tri ohonon ni.”

13. Pa esiamplau wnaeth annog un o’n chwiorydd sengl?

13 Dywedodd chwaer arall sy’n gwasanaethu yn y Bethel: “Dw i’n nabod arloeswyr sengl hŷn sy’n bobl gytbwys, sydd â nod clir mewn bywyd, yn fodlon helpu eraill, ac yn hapus yn eu gwasanaeth. Maen nhw’n help mawr i’r gynulleidfa. Mae ganddyn nhw agwedd dda tuag at fod yn sengl, a dydyn nhw ddim yn meddwl eu bod yn well nag eraill am eu bod nhw wedi aros yn sengl, nac yn teimlo eu bod yn colli allan am nad oes ganddyn nhw gymar a theulu.” Dyna pam mae’n hyfryd bod mewn cynulleidfa lle mae pawb yn parchu ac yn gwerthfawrogi ei gilydd. Rwyt ti’n gwybod nad oes neb yn dy bitïo nac yn genfigennus ohonot ti, a does neb yn dy anwybyddu nac yn dy roi di ar bedestal. Rwyt ti’n gwbl sicr dy fod ti’n rhan o’r gynulleidfa.

14. Sut gallwn ni ddangos ein bod ni’n parchu’r rhai sengl?

14 Bydd ein brodyr a chwiorydd sengl yn ddiolchgar os ydyn ni’n eu gwerthfawrogi am eu rhinweddau, ac nid am eu statws priodasol. Yn hytrach na meddwl, ‘O, druan â nhw,’ dylen ni werthfawrogi eu ffyddlondeb. O ganlyniad, ni fydd ein brodyr a chwiorydd sengl byth yn teimlo ein bod ni’n dweud wrthyn nhw: “Does arna i ddim eich angen chi!” (1 Cor. 12:21) Yn hytrach, byddan nhw’n gwybod ein bod ni’n eu parchu ac yn falch o’u cael nhw yn y gynulleidfa.

DANGOSA BARCH TUAG AT Y RHAI SYDD DDIM YN SIARAD DY IAITH YN RHUGL

15. Pa newidiadau mae rhai wedi eu gwneud i ehangu eu gweinidogaeth?

15 Yn y blynyddoedd diweddar, mae llawer o gyhoeddwyr wedi gosod y nod o ddysgu iaith arall er mwyn ehangu eu gweinidogaeth. Roedd hynny’n gofyn am newidiadau yn eu bywydau. Mae’r brodyr a chwiorydd hyn wedi gadael cynulleidfa yn eu mamiaith er mwyn gwasanaethu mewn cynulleidfa iaith arall, lle mae mwy o angen am gyhoeddwyr. (Act. 16:9) Mae hyn yn benderfyniad personol mae’r Cristnogion hyn yn ei wneud er mwyn ehangu eu gwasanaeth i Jehofa. Er ei bod hi’n gallu cymryd blynyddoedd i ddod yn rhugl mewn iaith newydd, maen nhw’n helpu’r gynulleidfa mewn llawer o ffyrdd. Mae eu profiad a’u rhinweddau hyfryd yn cryfhau’r gynulleidfa ac yn dod â sefydlogrwydd iddi. Rydyn ni’n trysori’r brodyr a chwiorydd hunanaberthol hyn!

16. Ar ba sail bydd henuriaid yn penderfynu a yw brawd yn gymwys i fod yn henuriad neu’n was gweinidogaethol?

16 Os nad yw brawd yn rhugl eto yn iaith y gynulleidfa, ni ddylai’r corff henuriaid ddal yn ôl rhag ei argymell i wasanaethu fel henuriad neu was gweinidogaethol am y rheswm hwnnw’n unig. Fe fydd yr henuriaid yn pwyso a mesur cymwysterau’r brawd ar sail y gofynion Ysgrythurol ar gyfer henuriaid a gweision gweinidogaethol, ac nid ar sail ei rugledd yn iaith y gynulleidfa.—1 Tim. 3:1-10, 12, 13; Titus 1:5-9.

17. Pan fydd teulu’n symud i wlad arall, beth fydd rhaid i’r rhieni benderfynu?

17 Mae rhai teuluoedd Cristnogol wedi ffoi i wlad arall am loches neu wedi symud yno i gael gwaith. Mewn achosion o’r fath, efallai bydd eu plant yn cael eu haddysg ym mhrif iaith eu gwlad newydd. Efallai bydd rhaid i’r rhieni hefyd ddysgu’r brif iaith er mwyn cael gwaith. Ond, beth os oes ’na gynulleidfa neu grŵp yn eu mamiaith? Pa gynulleidfa dylai’r teulu fynd iddi? A ddylai hi fod yn gynulleidfa ym mhrif iaith y wlad neu gynulleidfa ym mamiaith y teulu?

18. Yn unol â Galatiaid 6:5, sut gallwn ni ddangos parch at benderfyniad y penteulu?

18 Y penteulu ddylai benderfynu pa gynulleidfa bydd y teulu yn ei mynychu. Gan fod hyn yn fater personol, bydd rhaid iddo ystyried beth sydd orau ar gyfer ei deulu. (Darllen Galatiaid 6:5.) Rhaid inni barchu penderfyniad y penteulu. Beth bynnag fydd ei ddewis, gad inni dderbyn hynny a chroesawu’r teulu fel rhan werthfawr o’n cynulleidfa.—Rhuf. 15:7.

19. Beth dylai pennau teuluoedd feddwl yn ofalus a gweddïo amdano?

19 Mewn achosion eraill, hwyrach bod rhai teuluoedd yn gwasanaethu mewn cynulleidfa mamiaith y rhieni, ond efallai nad ydy’r plant yn rhugl yn yr iaith honno. Os yw’r gynulleidfa mewn ardal lle mae’r iaith genedlaethol yn cael ei siarad, efallai bydd y plant yn cael trafferth deall y cyfarfodydd ac felly ddim yn gwneud cynnydd ysbrydol. Pam? Oherwydd mae’n bosib fod y plant yn mynd i ysgol sy’n defnyddio’r iaith genedlaethol ac nid mamiaith eu rhieni. Mewn achosion fel hyn, dylai pennau teuluoedd feddwl yn ofalus a gweddïo am ddoethineb i benderfynu beth sydd angen ei wneud i helpu eu plant i glosio at Jehofa a’i bobl. Un ai bydd rhaid iddyn nhw helpu eu plant i ddod yn rhugl yn eu mamiaith, neu bydd rhaid iddyn nhw ystyried symud i gynulleidfa sy’n defnyddio iaith mae’r plant yn ei deall yn iawn. Pa bynnag gynulleidfa mae’r penteulu yn dewis gwasanaethu ynddi, dylai pawb yno barchu ef a’i deulu a gwneud iddyn nhw deimlo’n werthfawr.

Sut gallwn ni ddangos ein bod ni’n trysori’r rhai sy’n dysgu iaith newydd? (Gweler paragraff 20)

20. Sut gallwn ni ddangos ein bod ni’n parchu ein brodyr a chwiorydd sy’n dysgu iaith newydd?

20 Am y rhesymau hyn i gyd, bydd brodyr a chwiorydd mewn llawer o gynulleidfaoedd yn gweithio’n galed i ddysgu iaith newydd. Efallai ei bod hi’n anodd iddyn nhw fynegi eu hunain. Ond, os ydyn ni’n edrych y tu hwnt i’w sgiliau iaith, byddwn ni’n gweld eu cariad tuag at Jehofa a’u dymuniad i’w wasanaethu. Os gwelwn y rhinweddau hyfryd hyn, byddwn ni’n trysori a pharchu’r brodyr a chwiorydd hyn yn fawr. Fyddwn ni ddim yn dweud, “does arna i ddim eich angen chi!” am y rheswm syml nad ydyn nhw’n siarad ein hiaith yn rhugl.

RYDYN NI’N WERTHFAWR I JEHOFA

21-22. Pa fraint hyfryd sydd gynnon ni?

21 Mae Jehofa wedi rhoi’r fraint hyfryd inni o gael lle yn ei gynulleidfa. P’un a ydyn ni’n wryw neu’n fenyw, yn sengl neu’n briod, yn hen neu’n ifanc, yn siarad iaith yn dda neu wrthi’n dysgu, rydyn ni i gyd yn werthfawr i Jehofa ac i’n gilydd.—Rhuf. 12:4, 5; Col. 3:10, 11.

22 Gad inni barhau i roi ar waith yr holl wersi bendigedig a ddysgon ni o eglureb Paul am y corff dynol. Drwy wneud hynny, byddwn ni’n fwy effro i’r gwahanol ffyrdd gallwn ni drysori ein lle ni a lle eraill yng nghynulleidfa Jehofa.

CÂN 90 Annog Ein Gilydd

^ Par. 5 Mae pobl Jehofa yn dod o wahanol gefndiroedd ac mae gan bob un ei rôl yn y gynulleidfa. Bydd yr erthygl hon yn helpu ni i weld pam mae’n bwysig i barchu pob aelod o deulu Jehofa.

^ Par. 8 Allwn ni ddim dweud yn bendant fod Timotheus erioed wedi priodi.