Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

ERTHYGL ASTUDIO 34

Mae Gen Ti Le yng Nghynulleidfa Jehofa!

Mae Gen Ti Le yng Nghynulleidfa Jehofa!

“Mae’r corff yn uned er bod iddo lawer o rannau gwahanol, ac mae’r holl rannau gwahanol gyda’i gilydd yn gwneud un corff. Dyna’n union sut mae hi gyda phobl y Meseia.”—1 COR. 12:12.

CÂN 101 Cydweithio Mewn Undod

CIPOLWG *

1. Pa fraint sydd gynnon ni?

AM FRAINT yw bod yn rhan o gynulleidfa Jehofa! Rydyn ni mewn paradwys ysbrydol sy’n llawn pobl hapus a heddychlon. Beth yw dy le di yn y gynulleidfa?

2. Pa eglureb a ddefnyddiodd yr apostol Paul mewn nifer o’i lythyrau ysbrydoledig?

2 Gallwn ddysgu llawer am hyn o eglureb a ddefnyddiodd yr apostol Paul mewn nifer o’i lythyrau ysbrydoledig. Yn y llythyrau hyn, cymharodd Paul y gynulleidfa â’r corff dynol. Hefyd, cymharodd unigolion y gynulleidfa â rhannau o’r corff.—Rhuf. 12:4-8; 1 Cor. 12:12-27; Eff. 4:16.

3. Pa dair gwers byddwn ni’n ei hystyried yn yr erthygl hon?

3 Yn yr erthygl hon, byddwn ni’n ystyried tair gwers bwysig gallwn ni ei dysgu o eglureb Paul. Yn gyntaf, byddwn ni’n dysgu bod gan bob un ohonon ni le * yng nghynulleidfa Jehofa. Yn ail, byddwn ni’n trafod beth gallwn ni ei wneud os ydyn ni’n ei chael hi’n anodd gweld ein lle yn y gynulleidfa. Ac yn drydydd, byddwn ni’n trafod pam mae angen inni aros yn brysur yn gwneud y gwaith mae Jehofa wedi ei roi inni yn y gynulleidfa.

MAE GAN BAWB RÔL YNG NGHYNULLEIDFA JEHOFA

4. Beth mae Rhufeiniaid 12:4, 5 yn ein dysgu?

4 Y wers gyntaf gallwn ei dysgu o eglureb Paul yw fod gan bob un ohonon ni le pwysig yn nheulu Jehofa. Mae Paul yn dechrau ei eglureb drwy ddweud: “Mae’r eglwys yr un fath â’r corff dynol—mae gwahanol rannau i’r corff, a dydy pob rhan o’r corff ddim yn gwneud yr un gwaith. Yn yr eglwys dŷn ni gyda’n gilydd yn gwneud un corff, sef corff y Meseia. Mae pob un ohonon ni’n rhan o’r corff ac mae arnon ni angen pawb arall.” (Rhuf. 12:4, 5) Beth oedd Paul yn ei olygu? Mae gan bawb rôl wahanol yn y gynulleidfa, ond mae pob un ohonon ni yn werthfawr.

Mae gynnon ni i gyd rôl wahanol yn y gynulleidfa, ond mae pob un ohonon ni yn werthfawr (Gweler paragraffau 5-12) *

5. Pa ‘roddion’ mae Jehofa wedi eu rhoi i’r gynulleidfa?

5 Wrth feddwl am y rhai sydd â lle yn y gynulleidfa, efallai y byddi di’n meddwl gyntaf am y rhai sy’n arwain. (1 Thes. 5:12; Heb. 13:17) Mae’n wir fod Jehofa, drwy Iesu, wedi rhoi dynion yn “rhoddion” i’w gynulleidfa. (Eff. 4:8) Mae’r “rhoddion” hyn yn cynnwys aelodau’r Corff Llywodraethol, cynorthwywyr i’r Corff Llywodraethol, aelodau Pwyllgorau Cangen, arolygwyr cylchdaith, hyfforddwyr yn y maes, henuriaid, a gweision gweinidogaethol. Mae pob un o’r brodyr hyn wedi eu penodi gan yr ysbryd glân i ofalu am ddefaid gwerthfawr Jehofa ac i gryfhau’r gynulleidfa.—1 Pedr 5:2, 3.

6. Yn ôl 1 Thesaloniaid 2:6-8, beth mae brodyr sydd wedi eu penodi gan ysbryd glân yn ceisio ei wneud?

6 Mae brodyr yn cael eu penodi gan ysbryd glân i ofalu am amryw o gyfrifoldebau. Yn union fel mae gwahanol rannau’r corff, fel y dwylo a’r traed, yn gweithio er lles y corff cyfan, mae brodyr sydd wedi eu penodi gan ysbryd glân yn gweithio’n galed er lles y gynulleidfa gyfan. Dydyn nhw ddim yn ceisio clod gan eraill. Yn hytrach, maen nhw’n ceisio adeiladu ac atgyfnerthu eu brodyr a’u chwiorydd. (Darllen 1 Thesaloniaid 2:6-8.) Rydyn ni’n diolch i Jehofa am y brodyr cymwys hyn sy’n rhoi anghenion eraill yn gyntaf!

7. Pa fendithion sydd gan lawer o’r rhai mewn gwasanaeth llawn amser?

7 Efallai bod rhai yn y gynulleidfa wedi eu penodi i wasanaethu fel cenhadon, arloeswyr arbennig, neu arloeswyr llawn amser. Mewn gwirionedd, mae brodyr a chwiorydd ar draws y byd wedi dewis pregethu a gwneud disgyblion yn llawn amser. Wrth wneud hynny, maen nhw wedi helpu llawer i ddod yn ddisgyblion i Iesu Grist. Er nad oes gan y rhan fwyaf o bregethwyr llawn amser lawer o bethau materol, mae Jehofa wedi eu gwobrwyo â bywyd llawn bendithion. (Marc 10:29, 30) Rydyn ni’n trysori’r brodyr a chwiorydd annwyl hyn, ac yn ddiolchgar iawn eu bod nhw’n rhan o’r gynulleidfa!

8. Pam mae pob un o gyhoeddwyr y newyddion da yn werthfawr i Jehofa?

8 Ai brodyr apwyntiedig a phregethwyr llawn amser yw’r unig rai sydd â lle yn y gynulleidfa? Ddim o gwbl! Mae pob un o gyhoeddwyr y newyddion da yn bwysig i Dduw ac i’r gynulleidfa. (Rhuf. 10:15; 1 Cor. 3:6-9) Mae hyn yn wir oherwydd un o amcanion pwysicaf y gynulleidfa yw gwneud disgyblion i’n Harglwydd Iesu Grist. (Math. 28:19, 20; 1 Tim. 2:4) Mae pawb sy’n pregethu—cyhoeddwyr bedyddiedig a difedydd—yn ceisio blaenoriaethu’r gwaith hwn.—Math. 24:14.

9. Pam rydyn ni’n trysori ein chwiorydd?

9 Mae Jehofa yn anrhydeddu chwiorydd drwy roi gwaith pwysig iddyn nhw yn y gynulleidfa. Mae’n gwerthfawrogi’r gwragedd, y mamau, y gweddwon, a’r chwiorydd sengl sy’n ei wasanaethu’n ffyddlon. Mae’r Ysgrythurau yn sôn yn aml am ferched arbennig a oedd yn plesio Duw. Maen nhw’n cael eu canmol fel esiamplau rhagorol o ddoethineb, ffydd, sêl, dewrder, haelioni, a gweithredoedd da. (Luc 8:2, 3; Act. 16:14, 15; Rhuf. 16:3, 6; Phil. 4:3; Heb. 11:11, 31, 35) Rydyn ni’n ddiolchgar iawn i Jehofa am gael merched Cristnogol yn ein cynulleidfaoedd sy’n adlewyrchu’r rhinweddau hardd hyn!

10. Pam rydyn ni’n gwerthfawrogi’r rhai hŷn yn ein cynulleidfa?

10 Mae’r rhai hŷn yn y gynulleidfa yn fendith hefyd. Mae gan rai cynulleidfaoedd frodyr a chwiorydd hŷn sydd wedi gwasanaethu Jehofa yn ffyddlon ar hyd eu hoes. Efallai bod eraill mewn oed wedi dysgu’r gwirionedd yn fwy diweddar. Beth bynnag yw’r achos, mae gan lawer ohonyn nhw amryw o broblemau iechyd sy’n dod gyda henaint. Gall y problemau hynny gyfyngu ar yr hyn y gallan nhw wneud yn y gynulleidfa ac yn y gwaith pregethu. Ond eto, maen nhw’n gwneud popeth allan nhw yn y weinidogaeth, ac yn defnyddio pob gronyn o’u hegni i annog a hyfforddi eraill! Ac rydyn ni’n elwa ar eu profiad. Maen nhw’n brydferth iawn i Jehofa ac i ninnau.—Diar. 16:31.

11-12. Sut mae’r rhai ifanc yn dy gynulleidfa wedi dy annog di?

11 Meddylia hefyd am y rhai ifanc. Maen nhw’n wynebu llawer o heriau wrth dyfu i fyny mewn byd sydd o dan reolaeth Satan a dylanwad ei syniadau dieflig. (1 Ioan 5:19) Ond, rydyn ni i gyd yn cael ein calonogi o weld ein rhai ifanc yn ateb yn y cyfarfodydd, yn cael rhan yn y weinidogaeth, ac yn amddiffyn eu daliadau yn ddewr. Yn bendant, mae gynnoch chi, y rhai ifanc, le pwysig yng nghynulleidfa Jehofa!—Salm 8:2.

12 Ond, mae rhai o’n brodyr a chwiorydd yn ei chael hi’n anodd credu eu bod nhw’n ddefnyddiol i’r gynulleidfa. Beth all helpu pob un ohonon ni i deimlo bod gynnon ni le yn y gynulleidfa? Gad inni weld.

MAE GEN TI LE YN Y GYNULLEIDFA

13-14. Pam gall rhai deimlo nad ydyn nhw’n werthfawr i’r gynulleidfa?

13 Sylwa ar yr ail wers gallwn ni ei dysgu o eglureb Paul. Mae’n tynnu sylw at broblem sydd gan lawer heddiw; maen nhw’n ei chael hi’n anodd credu eu bod nhw’n werthfawr i’r gynulleidfa. Ysgrifennodd Paul: “Petai troed yn dweud ‘Am nad ydw i’n llaw dw i ddim yn rhan o’r corff,’ fyddai’r droed honno yn peidio bod yn rhan o’r corff? Wrth gwrs ddim! Neu petai clust yn dweud, ‘Am nad ydw i’n llygad dw i ddim yn rhan o’r corff,’ fyddai hi’n peidio bod yn rhan o’r corff wedyn? Na!” (1 Cor. 12:15, 16) Beth roedd Paul yn ei ddysgu inni?

14 Os wyt ti’n cymharu dy hun ag eraill yn y gynulleidfa, efallai na fyddi di’n gweld dy werth dy hun. Hwyrach bod rhai yn y gynulleidfa yn athrawon gwych, yn dda am drefnu pethau, neu’n fugeiliaid medrus. Efallai nad wyt ti’n teimlo bod gen ti’r doniau hynny i’r un graddau. Mae hyn yn dangos dy fod yn ostyngedig ac yn wylaidd. (Phil. 2:3) Ond bydda’n ofalus. Os wyt ti wastad yn cymharu dy hun â’r rhai sydd â sgiliau rhagorol, byddi di ond yn siomi dy hun. Efallai gwnei di hyd yn oed feddwl nad oes gen ti le yn y gynulleidfa o gwbl, fel y soniodd Paul. Beth all dy helpu di i drechu’r fath deimladau?

15. Yn ôl 1 Corinthiaid 12:4-11, beth sy’n rhaid inni gydnabod am unrhyw ddoniau sydd gynnon ni?

15 Ystyria hyn: Rhoddodd Jehofa ddoniau’r ysbryd i rai o Gristnogion y ganrif gyntaf, ond chafodd pawb mo’r un galluoedd. (Darllen 1 Corinthiaid 12:4-11.) Rhoddodd Jehofa wahanol ddoniau a galluoedd iddyn nhw, ond roedd pob Cristion yn werthfawr. Heddiw, does gynnon ni ddim doniau gwyrthiol yr ysbryd glân. Ond mae’r egwyddor yn dal yn berthnasol. Does gynnon ni ddim yr un doniau â’n gilydd, ond mae pob un ohonon ni yn werthfawr i Jehofa.

16. Pa gyngor gan yr apostol Paul sy’n rhaid inni ei roi ar waith?

16 Yn hytrach na chymharu ein hunain â Christnogion eraill, mae’n rhaid inni roi cyngor yr apostol Paul ar waith: “Dylai pawb yn syml wneud beth allan nhw. Wedyn cewch y boddhad o fod wedi’i wneud heb orfod cymharu’ch hunain â phobl eraill o hyd.”—Gal. 6:4.

17. Sut byddwn ni’n elwa o ddilyn cyngor Paul?

17 Os dilynwn gyngor ysbrydoledig Paul a gwneud beth allwn ni, hwyrach gwnawn ni ddechrau gweld bod gynnon ni hefyd alluoedd a doniau unigryw. Er enghraifft, efallai nad ydy henuriad ymhlith y siaradwyr gorau ar y llwyfan, ond mae’n hynod o effeithiol yn y weinidogaeth. Neu efallai nad yw mor drefnus â henuriaid eraill yn y gynulleidfa, ond mae eraill yn ei adnabod fel bugail cariadus sy’n hawdd mynd ato am gyngor Ysgrythurol. Neu hwyrach fod ganddo enw da am fod yn lletygar. (Heb. 13:2, 16) Pan ydyn ni’n gweld yn glir beth yw ein cryfderau a’n galluoedd, bydd gynnon ni reswm dros deimlo’n dda am yr hyn gallwn ni gyfrannu i’r gynulleidfa. A byddwn ni’n llai tebygol o fod yn genfigennus o’n brodyr sydd â galluoedd gwahanol i ni.

18. Sut gallwn ni ddatblygu ein galluoedd?

18 Ni waeth beth yw ein lle ni yn y gynulleidfa, dylai pob un ohonon ni geisio gwella yn ein gwasanaeth a datblygu ein galluoedd. I’n helpu ni i wella, mae Jehofa yn rhoi hyfforddiant bendigedig drwy ei gyfundrefn. Er enghraifft, yn ein cyfarfod canol wythnos, cawn ein hyfforddi i fod yn fwy effeithiol yn ein gweinidogaeth. Wyt ti’n manteisio’n llawn ar yr hyfforddiant hwnnw?

19. Sut gelli di gyrraedd y nod o fynd i’r Ysgol ar Gyfer Pregethwyr y Deyrnas?

19 Rhaglen hyfforddi ragorol arall yw’r Ysgol ar Gyfer Pregethwyr y Deyrnas. Mae’r ysgol hon yn agored i frodyr a chwiorydd sydd yn y weinidogaeth llawn amser ac sydd rhwng 23 a 65 oed. Efallai dy fod yn meddwl bod y nod hwn allan o dy gyrraedd. Ond yn hytrach na gwneud rhestr o resymau pam na elli di fynd, gwna restr o resymau pam wyt ti eisiau mynd. Yna, gwna gynllun a fydd yn dy helpu i gyrraedd y gofynion. Gyda help Jehofa, a gwaith caled ar dy ran di, gall yr hyn oedd yn ymddangos yn amhosib iti ddod yn realiti.

DEFNYDDIA DY DDONIAU I ADEILADU’R GYNULLEIDFA

20. Beth gallwn ni ei ddysgu o Rhufeiniaid 12:6-8?

20 Mae’r drydedd wers gallwn ni ei dysgu o eglureb Paul i’w gweld yn Rhufeiniaid 12:6-8. (Darllen.) Yma, mae Paul yn dangos unwaith eto fod gan bawb yn y gynulleidfa wahanol ddoniau. Ond y tro hwn, mae’n pwysleisio y dylen ni ddefnyddio pa bynnag ddawn sydd gynnon ni i adeiladu a chryfhau’r gynulleidfa.

21-22. Pa wers gallwn ni ei dysgu oddi wrth Rhodri a Felice?

21 Ystyria esiampl brawd gwnawn ni ei alw’n Rhodri. Ar ôl gwasanaethu mewn gwlad dramor, cafodd ei aseinio i wasanaethu yn y Bethel yn ei famwlad. Er bod y brodyr wedi dweud wrtho nad oedd wedi gwneud unrhyw beth o’i le, dywedodd: “Am fisoedd wedyn, o’n i’n ddigalon oherwydd o’n i’n teimlo fy mod i wedi methu rhywsut yn fy aseiniad. Ar brydiau, o’n i’n teimlo fel rhoi’r gorau i wasanaethu yn y Bethel.” Sut cafodd ei lawenydd yn ôl? Gwnaeth henuriad arall ei atgoffa bod Jehofa wedi ein hyfforddi yn ein haseiniadau blaenorol i fod yn fwy defnyddiol yn ein haseiniad presennol. Sylweddolodd Rhodri fod angen iddo stopio edrych yn ôl ar y gorffennol a dechrau canolbwyntio ar yr hyn y gallai ei wneud nawr.

22 Wynebodd y Brawd Felice Episcopo broblem debyg. Graddiodd o Gilead gyda’i wraig ym 1956, a gwasanaethon nhw ar y gylchdaith yn Bolifia. Cawson nhw blentyn ym 1964. Dywedodd Felice: “Roedd hi’n anodd iawn inni adael yr aseiniad yr oedden ni mor hoff ohoni. Mae’n rhaid imi gyfaddef, wnes i wastraffu tua blwyddyn yn teimlo piti drosto fi fy hun. Ond gyda help Jehofa, wnes i newid fy agwedd, a chanolbwyntio ar fy nghyfrifoldeb newydd fel rhiant.” A elli di uniaethu â Rhodri neu Felice? A wyt ti’n digalonni am nad oes gen ti’r un breintiau ag oedd gen ti yn y gorffennol? Os felly, byddi di’n hapusach os wyt ti’n newid dy ffordd o feddwl, ac yn canolbwyntio ar beth elli di ei wneud nawr i wasanaethu Jehofa a dy frodyr. Cadwa’n brysur, gan ddefnyddio dy ddoniau a dy alluoedd i helpu eraill, a chei di lawenydd o adeiladu’r gynulleidfa.

23. Beth dylen ni gymryd amser i’w wneud, a beth byddwn ni’n ei drafod yn yr erthygl nesaf?

23 Mae pob un ohonon ni’n werthfawr i Jehofa. Mae’n dymuno inni fod yn rhan o’i deulu. Os cymerwn amser i fyfyrio ar yr hyn y gallwn wneud i adeiladu ein brodyr a chwiorydd, ac yna’n gweithio’n galed i wneud hynny, byddwn ni’n llai tebygol o deimlo nad ydyn ni’n rhan o’r gynulleidfa! Ond beth am ein hagwedd ni tuag at eraill yn y gynulleidfa? Sut gallwn ni ddangos ein bod yn eu gwerthfawrogi? Yn yr erthygl nesaf, byddwn ni’n trafod y pwnc pwysig hwnnw.

CÂN 24 Dewch i Fynydd Jehofa

^ Par. 5 Rydyn ni i gyd eisiau teimlo ein bod ni’n werthfawr i Jehofa. Ond ar brydiau, gallwn feddwl, ‘Sut galla i fod yn ddefnyddiol iddo?’ Bydd yr erthygl hon yn ein helpu i weld bod gan bob un ohonon ni le gwerthfawr yn y gynulleidfa.

^ Par. 3 ESBONIAD: Mae ein lle yng nghynulleidfa Jehofa yn cyfeirio at y rôl rydyn ni’n ei chwarae yn adeiladu a chryfhau’r gynulleidfa. Dydy hyn ddim yn seiliedig ar ein hil, llwyth, sefyllfa ariannol, statws cymdeithasol, diwylliant, na’n haddysg.

^ Par. 62 DISGRIFIAD O’R LLUN: Mae’r tri llun yn dangos beth sy’n digwydd cyn, yn ystod, ac ar ôl cyfarfod. Llun 1: Henuriad yn rhoi croeso cynnes i ymwelwr, brawd ifanc yn gosod yr offer sain, a chwaer yn sgwrsio â chwaer oedrannus. Llun 2: Mae’r hen a’r ifanc yn ceisio ateb yn ystod yr Astudiaeth o’r Tŵr Gwylio. Llun 3: Cwpl yn helpu i lanhau Neuadd y Deyrnas. Mam yn helpu ei phlentyn i roi arian yn y blwch cyfraniadau. Brawd ifanc yn gofalu am y llenyddiaeth, a brawd arall yn annog chwaer oedrannus.