ERTHYGL ASTUDIO 33
Mae’r Atgyfodiad yn Dangos Cariad, Doethineb, ac Amynedd Duw
“Bydd atgyfodiad.”—ACT. 24:15, BCND.
CÂN 151 Geilw Ef
CIPOLWG *
1. Pam creodd Jehofa fywyd?
ROEDD Jehofa ar ei ben ei hun ar un adeg. Ond doedd ef ddim yn unig. Mae Jehofa’n gyflawn ym mhob ffordd; does dim angen cwmni arno i fod yn hapus. Er hynny, roedd Duw eisiau i eraill fwynhau bywyd. Yn ei gariad, aeth Jehofa ati i greu.—Salm 36:9; 1 Ioan 4:19.
2. Sut roedd Iesu a’r angylion yn teimlo am weithiau creadigol Jehofa?
2 Yn gyntaf, creodd Jehofa gyd-weithiwr. Yna, drwy’r Mab cyntaf hwn, “crewyd pob peth,” gan gynnwys miliynau o ysbryd greaduriaid deallus. (Col. 1:16) Roedd Iesu wrth ei fodd yn gweithio gyda’i Dad. (Diar. 8:30) Ac roedd gan angylion Duw reswm i lawenhau hefyd. Roedd ganddyn nhw seddi blaen, fel petai, pan ffurfiodd Jehofa a’i Brif Weithiwr Iesu, y nefoedd a’r ddaear. Beth oedd ymateb yr angylion? Dechreuon nhw ‘weiddi’n llawen’ pan gafodd y ddaear ei ffurfio, a does dim amheuaeth eu bod nhw wedi moli Jehofa am bob un o’i weithiau creadigol, gan gynnwys ei gampwaith olaf, sef bodau dynol. (Job 38:7; Diar. 8:31) Mae pob un o’i greadigaethau yn dangos cariad a doethineb Jehofa.—Salm 104:24; Rhuf. 1:20.
3. Yn ôl 1 Corinthiaid 15:21, 22, beth sy’n bosib oherwydd aberth pridwerthol Iesu?
3 Bwriad Jehofa oedd i’r teulu dynol fwynhau bywyd tragwyddol ar y blaned hardd yr oedd wedi ei chreu. Ond pan bechodd Adda ac Efa yn erbyn eu Tad cariadus, fe Rhuf. 5:12) Beth oedd ymateb Jehofa? Dywedodd ar unwaith sut byddai’n achub y ddynoliaeth. (Gen. 3:15) Penderfynodd Jehofa ddarparu pridwerth a fyddai’n ei gwneud hi’n bosib i blant Adda ac Efa gael eu rhyddhau o afael pechod a marwolaeth. Byddai hynny’n caniatáu i bob unigolyn ddewis drosto’i hun i’w wasanaethu a chael bywyd tragwyddol.—Ioan 3:16; Rhuf. 6:23; darllen 1 Corinthiaid 15:21, 22.
wnaeth pechod a marwolaeth fwrw cysgod dros y ddaear. (4. Pa gwestiynau byddwn ni’n eu hystyried yn yr erthygl hon?
4 Mae addewid Duw i atgyfodi’r meirw yn codi nifer o gwestiynau. Er enghraifft, sut bydd yr atgyfodiad yn debygol o ddigwydd? A fyddwn ni’n gallu adnabod ein hanwyliaid pan ddôn nhw’n ôl yn fyw? Ym mha ffyrdd bydd yr atgyfodiad yn gwneud inni lawenhau? A sut gall myfyrio ar yr atgyfodiad gryfhau ein gwerthfawrogiad am gariad, doethineb, ac amynedd Jehofa? Gad inni ystyried y cwestiynau hyn.
SUT BYDD YR ATGYFODIAD YN DEBYGOL O DDIGWYDD?
5. Pam gallwn ni ddisgwyl na fydd pawb yn cael eu hatgyfodi ar yr un pryd?
5 Pan fydd Jehofa yn atgyfodi miliynau di-rif drwy ei Fab, gallwn ni ddisgwyl na fyddan nhw i gyd yn dod ôl yn fyw ar yr un pryd. Pam lai? Achos byddai ffrwydrad ym mhoblogaeth y ddaear yn debygol o achosi anhrefn llwyr. A dydy Jehofa byth yn gwneud unrhyw beth mewn ffordd anhrefnus. Mae’n gwybod bod rhaid cadw trefn ar bethau er mwyn cadw heddwch. (1 Cor. 14:33) Roedd Jehofa Dduw yn ddoeth ac yn amyneddgar pan weithiodd gyda Iesu i baratoi’r ddaear yn raddol cyn creu bodau dynol. Yn ei dro, bydd Iesu yn dangos yr un rhinweddau yn ystod y Teyrnasiad Mil Blynyddoedd, pan fydd yn gweithio gyda goroeswyr Armagedon wrth iddyn nhw baratoi’r ddaear i dderbyn y rhai gaiff eu hatgyfodi.
6. Yn ôl Actau 24:15, pwy fydd ymysg y rhai bydd Jehofa yn eu hatgyfodi?
6 Yn fwy na dim, bydd angen i oroeswyr Armagedon ddysgu’r rhai sydd wedi cael eu hatgyfodi am Deyrnas Dduw a gofynion Jehofa. Pam? Oherwydd bydd y rhan fwyaf sy’n dod yn ôl yn fyw yn dod o blith yr “anghyfiawn.” (Darllen Actau 24:15, BCND.) Bydd rhaid iddyn nhw wneud llawer o newidiadau er mwyn elwa ar bridwerth Crist. Meddylia faint o waith fydd dysgu’r gwirionedd am Dduw i filiynau o bobl sydd heb unrhyw wybodaeth am Jehofa. A fydd gan bob unigolyn ei athro ei hun, fel sy’n digwydd ar astudiaeth Feiblaidd heddiw? A fydd y rhai newydd hyn yn cael eu haseinio i gynulleidfaoedd a chael eu hyfforddi i ddysgu’r rhai sy’n cael eu hatgyfodi ar eu holau? Cawn weld. Ond yn bendant erbyn diwedd Teyrnasiad Mil Blynyddoedd Crist, “bydd y ddaear yn llawn pobl sy’n nabod yr ARGLWYDD.” (Esei. 11:9) Bydd y mil o flynyddoedd hynny yn hynod o brysur, ond yn bleser pur!
7. Pam fydd gan bobl Dduw gydymdeimlad wrth ddysgu’r rhai atgyfodedig?
7 Yn ystod Teyrnasiad Mil Blynyddoedd Crist, bydd rhaid i bob un o blant daearol Jehofa wneud newidiadau er mwyn ei blesio. Felly, bydd pob un ohonyn nhw yn dangos gwir gydymdeimlad wrth helpu’r rhai atgyfodedig i drechu tueddiadau pechadurus, ac i fyw yn ôl safonau Jehofa. (1 Pedr 3:8) Does dim dwywaith y bydd y rhai sy’n dod yn ôl yn fyw yn cael eu denu at bobl ostyngedig Jehofa a fydd hefyd yn dal ‘i weithio ar eu hiechyd ysbrydol.’—Phil. 2:12.
A FYDDWN NI’N GALLU ADNABOD Y RHAI SY’N CAEL EU HATGYFODI?
8. Pam mae’n rhesymol inni ddisgwyl y byddwn ni’n gallu adnabod ein hanwyliaid atgyfodedig?
8 Am nifer o resymau, gallwn ddisgwyl y bydd y rhai sy’n cyfarch y rhai atgyfodedig yn gallu adnabod eu hanwyliaid. Er enghraifft, ar sail atgyfodiadau’r gorffennol, mae’n ymddangos y bydd Jehofa yn ail-greu pobl i edrych, siarad, a meddwl yn yr un ffordd ag oedden nhw yn fuan cyn iddyn nhw farw. Cofia fod Iesu wedi cymharu marwolaeth â chwsg, a’r atgyfodiad â deffro o gwsg. (Math. 9:18, 24; Ioan 11:11-13) Pan fydd rhywun yn deffro o’i gwsg, bydd yn edrych ac yn swnio’r un fath â phan aeth i gysgu, a bydd yr un atgofion ganddo. Ystyria esiampl Lasarus. Roedd wedi bod yn farw ers pedwar diwrnod, felly roedd ei gorff wedi dechrau pydru. Ond eto, pan wnaeth Iesu ei atgyfodi, roedd ei chwiorydd yn ei adnabod yn syth, ac yn amlwg roedd Lasarus yn eu cofio nhwthau.—Ioan 11:38-44; 12:1, 2.
9. Pam na fydd y rhai marw yn cael eu hatgyfodi â meddwl a chorff perffaith?
9 Mae Jehofa yn addo bydd neb ym Mharadwys yn dweud: “Dw i’n sâl!” (Esei. 33:24; Rhuf. 6:7) Felly, bydd y rhai sy’n cael eu codi o farw’n fyw yn cael eu hail-greu â chyrff iach. Ond, fyddan nhw ddim yn berffaith ar unwaith. Neu fel arall, efallai na fyddai eu teulu a’u ffrindiau yn eu hadnabod nhw. Mae’n ymddangos bydd yr holl ddynolryw yn dod yn berffaith yn raddol yn ystod Teyrnasiad Mil Blynyddoedd Crist. Dim ond ar ddiwedd y mil blynyddoedd bydd Iesu’n trosglwyddo’r Deyrnas yn ôl i’w Dad. Bryd hynny, bydd y Deyrnas wedi cyflawni popeth roedd Jehofa wedi bwriadu iddi ei wneud, gan gynnwys gwneud y ddynoliaeth yn berffaith.—1 Cor. 15:24-28; Dat. 20:1-3.
YM MHA FFYRDD BYDD YR ATGYFODIAD YN GWNEUD INNI LAWENHAU?
10. Sut bydd yr atgyfodiad yn gwneud iti deimlo?
10 Dychmyga sut fydd hi i groesawu dy anwyliaid yn ôl eto. A fydd y llawenydd yn gwneud iti chwerthin neu grio? A fyddi di mor hapus y byddi di’n canu mawl i Jehofa? Mae un peth yn sicr, byddi di’n teimlo cariad angerddol tuag at dy Dad cariadus a’i Fab anhunanol am rodd fendigedig yr atgyfodiad.
11. Yn ôl geiriau Iesu yn Ioan 5:28, 29, beth fydd yn digwydd i’r rhai sy’n ufuddhau i Dduw?
11 Dychmyga lawenydd y rhai atgyfodedig wrth iddyn nhw roi heibio’r hen bersonoliaeth a byw yn ôl safonau cyfiawn Jehofa. Bydd y rhai sy’n gwneud y newidiadau hyn yn cael byw am byth ym Mharadwys. Ar y llaw arall, fydd Jehofa ddim yn gadael i’r rhai sy’n gwrthryfela amharu ar heddwch Paradwys.—Esei. 65:20; darllen Ioan 5:28, 29.
12. Ym mha ffordd bydd pawb ar y ddaear yn cael eu bendithio gan Jehofa?
12 O dan reolaeth y Deyrnas, bydd pob un o bobl Dduw yn gweld gwirionedd y ddihareb: “Bendith yr ARGLWYDD sy’n rhoi cyfoeth, ac nid yw’n ychwanegu gofid gyda hi.” (Diar. 10:22, BCND) Gyda help ysbryd Jehofa, bydd pobl Dduw yn dod yn ysbrydol gyfoethog, hynny yw, fe fyddan nhw’n dod yn fwyfwy tebyg i Grist ac yn dod i berffeithrwydd. (Ioan 13:15-17; Eff. 4:23, 24) Byddan nhw’n cryfhau bob dydd, ac yn dod yn well bobl. Bydd bywyd yn llawenydd pur! (Job 33:25) Ond, sut gall myfyrio ar yr atgyfodiad dy helpu di nawr?
GWERTHFAWROGA GARIAD JEHOFA
13. Yn unol â Salm 139:1-4, sut bydd yr atgyfodiad yn dangos cymaint mae Jehofa yn gwybod amdanon ni?
13 Fel gwnaethon ni drafod gynnau, pan fydd Jehofa yn atgyfodi pobl, bydd yn adfer eu hatgofion a’u personoliaeth unigryw. Meddylia beth mae hynny’n ei olygu. Mae Jehofa yn dy garu di gymaint, mae’n cadw cofnod o bopeth rwyt ti’n ei feddwl, ei deimlo, ei ddweud, a’i wneud. Felly petasai’n gorfod dy atgyfodi, byddai’n hawdd iddo dy ail-greu yn union fel roeddet ti gynt. Roedd y Brenin Dafydd yn gwybod bod Jehofa yn adnabod pob un ohonon ni i’r dim. (Darllen Salm 139:1-4.) Ym mha ffordd gall deall cymaint mae Jehofa yn ein hadnabod effeithio arnon ni nawr?
14. Sut dylen ni deimlo wrth fyfyrio ar ba mor dda mae Jehofa yn ein hadnabod?
14 Pan fyddwn ni’n myfyrio ar ba mor dda mae Jehofa yn ein hadnabod, ddylen ni ddim poeni. Pam ddim? Cofia fod Jehofa yn ein caru ni’n fawr iawn. Mae’n trysori’r hyn sy’n gwneud pob un ohonon ni’n unigryw. Mae’n cofio popeth sydd wedi dylanwadu arnon ni i siapio ein personoliaeth. Am gysur ydy hynny! Ddylen ni byth deimlo ein bod ni ar ein pennau’n hunain. Mae Jehofa gyda ni bob munud o bob dydd yn edrych am gyfleoedd i’n helpu ni.—2 Cron. 16:9.
GWERTHFAWROGA DDOETHINEB JEHOFA
15. Sut mae’r atgyfodiad yn dangos doethineb Jehofa?
15 Mae bygythiad marwolaeth yn arf pwerus. Mae’r rhai o dan reolaeth Satan yn ei ddefnyddio i orfodi pobl i fradychu Dat. 2:10) Rydyn ni’n hollol sicr na all unrhyw beth a wnân nhw ein gwahanu ni oddi wrth Jehofa. (Rhuf. 8:35-39) Mae Jehofa wedi dangos doethineb mawr drwy roi gobaith yr atgyfodiad inni. Drwy’r gobaith hwnnw, mae’n diarfogi Satan o un o’i arfau mwyaf effeithiol ac ar yr un pryd yn ein harfogi ni â dewrder na ellir mo’i dorri.
eu ffrindiau neu i gyfaddawdu eu ffydd. Ond dydy’r arf hwnnw ddim yn gweithio yn ein herbyn ni. Gwyddon ni’n iawn os bydd ein gelynion yn ein lladd ni, bydd Jehofa yn adfer ein bywyd. (16. Pa gwestiynau dylet ti ofyn i ti dy hun, a sut gall yr atebion helpu iti wybod faint rwyt ti’n ymddiried yn Jehofa?
16 Os bydd gelynion Jehofa yn bygwth dy ladd di, a fyddi di’n barod i roi dy fywyd yn Ei ddwylo? Sut elli di wybod? Un ffordd yw gofyn i ti dy hun, ‘Ydy’r penderfyniadau bach dw i’n eu gwneud bob diwrnod yn dangos fy mod i’n trystio Jehofa?’ (Luc 16:10) Gallwn ni hefyd ofyn, ‘A ydy fy ffordd o fyw yn profi fy mod i’n ymddiried yn addewid Jehofa i ofalu am fy anghenion materol os ydw i’n ceisio ei Deyrnas yn gyntaf?’ (Math. 6:31-33) Os wyt ti’n ateb yn gadarnhaol i’r cwestiynau hynny, rwyt ti’n dangos dy fod ti’n ymddiried yn Jehofa, a byddi di’n barod am unrhyw dreial a ddaw.—Diar. 3:5, 6.
GWERTHFAWROGA AMYNEDD JEHOFA
17. (a) Sut mae’r atgyfodiad yn dangos bod Jehofa yn amyneddgar? (b) Sut gallwn ni ddangos ein gwerthfawrogiad am amynedd Jehofa?
17 Mae Jehofa wedi penderfynu y dydd a’r awr pan fydd yn dod â’r hen system hon i ben. (Math. 24:36) Ni fydd yn colli amynedd a gweithredu cyn hynny. Mae’n dyheu am atgyfodi’r meirw, ond mae’n amyneddgar. (Job 14:14, 15) Mae’n disgwyl am yr amser iawn i’w hatgyfodi. (Ioan 5:28) Mae gynnon ni resymau da dros werthfawrogi amynedd Jehofa. Meddylia: Oherwydd hynny, mae llawer o bobl wedi cael yr amser i “newid eu ffyrdd,” gan gynnwys ninnau. (2 Pedr 3:9) Mae Jehofa eisiau i gynifer â phosib fyw am byth. Felly gad inni ddangos ein bod ni’n gwerthfawrogi ei amynedd. Sut? Drwy wneud ein gorau i chwilio am y rhai sydd “â’r agwedd gywir tuag at fywyd tragwyddol,” a’u helpu i garu Jehofa a’i wasanaethu. (Act. 13:48, NWT) Yna byddan nhwthau’n elwa ar amynedd Jehofa, fel ninnau.
18. Pam dylen ni fod yn amyneddgar ag eraill?
18 Bydd Jehofa yn aros yn amyneddgar tan ddiwedd y mil blynyddoedd cyn iddo ddisgwyl inni fod yn berffaith. Tan hynny, mae Jehofa yn barod i faddau ein pechodau. Yn sicr felly, mae gynnon ni reswm dros edrych am y da ym mhobl eraill a bod yn amyneddgar â nhw. Ystyria esiampl un chwaer. Dechreuodd ei gŵr gael pyliau o bryder ofnadwy a stopiodd fynd i’r cyfarfodydd. Mae hi’n dweud: “Roedd hyn yn anodd iawn imi. Cafodd ein cynlluniau am y dyfodol fel teulu eu chwalu.” Ond eto, drwy’r cyfan, roedd y wraig gariadus hon yn amyneddgar â’i gŵr. Dibynnodd ar Jehofa, heb anobeithio. Fel Jehofa, edrychodd heibio’r broblem a chanolbwyntio ar y pethau da am ei gŵr. “Mae gan fy ngŵr rinweddau hyfryd,” meddai, “ac mae’n gwneud ei orau i drechu ei bryderon fesul tipyn.” Mae hi’n hynod o bwysig ein bod ni’n amyneddgar â’r rhai yn ein teulu neu’n cynulleidfa sy’n ceisio trechu heriau anodd!
19. Beth dylen ni fod yn benderfynol o’i wneud?
19 Roedd Iesu a’r angylion wrth eu boddau pan gafodd y ddaear ei chreu. Ond dychmyga pa mor hapus y byddan nhw i weld y ddaear yn llawn pobl berffaith sy’n caru Jehofa, ac yn ei wasanaethu. Dychmyga lawenydd y rhai fydd yn mynd i’r nefoedd pan fyddan nhw’n gweld dynolryw yn elwa o’u gwaith. (Dat. 4:4, 9-11; 5:9, 10) A dychmyga adeg pan fydd dagrau o lawenydd yn disodli dagrau o boen, pan fydd salwch, tristwch, a marwolaeth wedi mynd am byth. (Dat. 21:4) Tan hynny, bydda’n benderfynol o efelychu dy Dad cariadus, doeth, ac amyneddgar. Yna, byddi di’n cadw dy lawenydd ni waeth pa dreialon byddi di’n eu hwynebu. (Iago 1:2-4) Gallwn fod yn hynod o ddiolchgar am addewid Jehofa: “Bydd atgyfodiad”!—Act. 24:15.
CÂN 141 Gwyrth Bywyd
^ Par. 5 Mae Jehofa yn Dad cariadus, doeth, ac amyneddgar. Gallwn weld y rhinweddau hynny yn y ffordd y creodd bopeth, ac yn ei addewid i atgyfodi’r meirw. Bydd yr erthygl hon yn trafod rhai cwestiynau a all godi ynglŷn â’r atgyfodiad, a bydd yn pwysleisio sut gallwn ni ddangos gwerthfawrogiad am gariad, doethineb, ac amynedd Jehofa.
^ Par. 59 DISGRIFIADAU O’R LLUNIAU: Un o frodorion cynhenid America a fu farw gannoedd o flynyddoedd yn ôl yn cael ei atgyfodi yn ystod Teyrnasiad Mil Blynyddoedd Crist. Mae brawd a oroesodd Armagedon yn hapus i ddysgu’r dyn atgyfodedig beth sydd angen iddo ei wneud er mwyn elwa ar bridwerth Crist.
^ Par. 61 DISGRIFIADAU O’R LLUNIAU: Mae brawd yn dweud wrth ei gyflogwr fod ’na sawl diwrnod yn ystod yr wythnos nad yw’n gallu gweithio goramser. Mae’n esbonio ei fod yn neilltuo’r nosweithiau hynny ar gyfer gwasanaethu Jehofa. Ond, pan fydd wir angen, bydd yn fodlon gwneud mwy o waith ar adegau eraill.