Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

ERTHYGL ASTUDIO 34

Cael Blas ar Ddaioni Jehofa—Sut?

Cael Blas ar Ddaioni Jehofa—Sut?

“Profwch drosoch eich hunain mor dda ydy’r ARGLWYDD! Mae’r rhai sy’n troi ato am loches wedi eu bendithio’n fawr!”—SALM. 34:8.

CÂN 117 Rhinwedd Daioni

CIPOLWG *

1-2. Yn ôl Salm 34:8, sut gallwn ni ddysgu am ddaioni Jehofa?

DYCHMYGA fod rhywun yn cynnig bwyd iti nad wyt ti wedi ei gael o’r blaen. Gallet ti ddysgu rhywbeth amdano drwy edrych arno, ei arogli, cael y rysáit, neu ofyn i eraill beth maen nhw’n ei feddwl amdano. Ond yr unig ffordd o fod yn sicr a wyt ti’n ei hoffi yw drwy ei flasu drostot ti dy hun.

2 Gallwn ni ddysgu rhywbeth am Jehofa drwy ddarllen y Beibl a’n cyhoeddiadau, yn ogystal â gwrando ar eraill yn siarad am y bendithion maen nhw wedi eu cael gan Jehofa. Ond byddwn ni’n deall go iawn pa mor dda ydy Jehofa dim ond pan fyddwn ni’n blasu ei ddaioni droston ni’n hunain. (Darllen Salm 34:8.) Dyma un ffordd gallwn ni wneud hynny. Dyweda ein bod ni eisiau gwasanaethu Jehofa’n llawn amser, ond er mwyn cyrraedd y nod hwnnw, bydd rhaid inni symleiddio ein bywyd. Efallai ein bod ni’n gyfarwydd iawn ag addewid Iesu y bydd Jehofa yn rhoi inni’r pethau rydyn ni wir eu hangen os ydyn ni’n rhoi’r Deyrnas yn gyntaf, ond dydyn ni’n bersonol erioed wedi gweld Jehofa’n gwneud hynny inni. (Math. 6:33) Ond oherwydd bod gynnon ni ffydd yn addewid Iesu, rydyn ni’n gwario llai, yn cwtogi ein horiau gwaith, ac yn canolbwyntio ar ein gweinidogaeth. Drwy wneud hynny, byddwn ni’n dysgu o brofiad ein hunain bod Jehofa’n wir yn gofalu am ein hanghenion, Byddwn ni’n blasu daioni Jehofa yn bersonol.

3. Yn ôl Salm 31:19, pwy sy’n cael pethau da gan Jehofa?

3 Mae Jehofa “yn dda i bawb,” hyd yn oed y rhai sydd ddim yn ei adnabod. (Salm 145:9; Math. 5:45) Ond mae Jehofa’n bendithio’r rhai sy’n ei garu ac yn gwneud popeth allan nhw i’w wasanaethu yn fwy byth. (Darllen Salm 31:19.) Gad inni drafod rhai o’r ffyrdd rydyn ni’n elwa o ddaioni Jehofa.

4. Sut mae Jehofa’n dangos ei ddaioni i’r rhai sy’n dechrau agosáu ato?

4 Bob tro rydyn ni’n rhoi beth rydyn ni’n ei ddysgu gan Jehofa ar waith, byddwn ni’n gweld yr effaith dda mae’n ei chael ar ein bywydau. Er enghraifft, pan wnaethon ni ddechrau dysgu amdano a dod i’w garu, mi wnaeth ef ein helpu ni i drechu meddyliau ac arferion oedd yn ein gwahanu ni oddi wrtho ar un adeg. (Col. 1:21) A phan wnaethon ni gysegru ein hunain i Jehofa a chael ein bedyddio, gwnaethon ni brofi ei ddaioni yn fwy byth wrth iddo roi cydwybod lân inni, a’n denu ni i berthynas agos ag ef.—1 Pedr 3:21.

5. Sut rydyn ni’n profi daioni Jehofa yn ein gweinidogaeth?

5 Rydyn ni’n parhau i brofi daioni Jehofa wrth inni gael rhan yn y weinidogaeth. Wyt ti’n berson swil? Mae hynny’n wir am lawer o bobl Jehofa. Cyn iti ddod yn un o weision Jehofa, efallai gwnest ti feddwl na fyddet ti byth yn gallu cnocio ar ddrws rhywun hollol ddieithr, a rhannu neges amhoblogaidd ag ef. Ond heddiw, rwyt ti’n gwneud hynny’n aml. Mae Jehofa hefyd wedi dy helpu di i fwynhau’r gwaith pregethu, a hynny mewn llawer o ffyrdd! Mae wedi dy helpu di i beidio â chynhyrfu pan oedd rhywun yn gas gyda ti ar y weinidogaeth. Mae hefyd wedi dy helpu di i gofio’r adnod orau i’w rhannu â rhywun wnaeth ddangos diddordeb. Ac mae wedi rhoi’r nerth iti ddal ati i bregethu, hyd yn oed pan oedd neb yn gwrando.—Jer. 20:7-9.

6. Sut mae’r hyfforddiant mae Jehofa’n ei roi yn dangos ei ddaioni?

6 Mae Jehofa hefyd wedi dangos ei ddaioni inni drwy ein hyfforddi ar gyfer y weinidogaeth. (Ioan 6:45) Yn ein cyfarfodydd canol wythnos, rydyn ni’n gwrando ar sgyrsiau enghreifftiol gwych, ac rydyn ni’n cael ein hannog i’w defnyddio nhw yn y weinidogaeth. I gychwyn, efallai byddwn ni braidd yn nerfus am drio rhywbeth newydd, ond pan wnawn ni, efallai byddwn ni’n gweld bod yr awgrymiadau hyn yn gweithio’n dda iawn. Rydyn ni hefyd yn cael ein hannog mewn cyfarfodydd a chynadleddau i gael rhan mewn gwahanol fathau o’r weinidogaeth rydyn ni heb eu trio o’r blaen. Efallai bydd hyn hefyd yn ein gwneud ni braidd yn nerfus, ond drwy drio’r pethau hyn, rydyn ni’n rhoi rhywbeth i Jehofa ei fendithio. Gad inni drafod rhai o’r bendithion sy’n dod pan fyddwn ni’n trio gwneud mwy i Jehofa, ni waeth beth yw ein hamgylchiadau. Yna, gad inni ystyried rhai ffyrdd gallen ni ehangu ein gweinidogaeth.

MAE JEHOFA’N BENDITHIO’R RHAI SY’N EI DRYSTIO

7. Pa fendithion ydyn ni’n eu cael pan ydyn ni’n trio ehangu ein gweinidogaeth?

7Rydyn ni’n agosáu’n fwy byth at Jehofa. Ystyria esiampl henuriad o’r enw Samuel, * sy’n gwasanaethu gyda’i wraig yng Ngholombia. Roedden nhw’n mwynhau arloesi yn eu cynulleidfa, ond roedden nhw eisiau ehangu eu gweinidogaeth drwy helpu mewn cynulleidfa lle roedd yr angen yn fwy. Er mwyn cyrraedd y nod hwnnw, roedd rhaid iddyn nhw wneud rhai aberthau. “Wnaethon ni roi Mathew 6:33 ar waith, a stopio prynu pethau doedden ni ddim eu hangen,” meddai Samuel. “Ond y peth anoddaf oedd symud allan o’n fflat. Oedd o wedi ei ddylunio’n arbennig i ni, ac roedd y morgais wedi ei dalu.” Yn eu haseiniad newydd, sylweddolodd y cwpl eu bod nhw’n gallu byw ar ffracsiwn o’r incwm roedd ganddyn nhw gynt. “’Dyn ni wedi gweld sut mae Jehofa’n ein harwain ac yn ateb ein gweddïau,” meddai Samuel. “’Dyn ni’n teimlo cymeradwyaeth Jehofa a’i gariad mewn ffyrdd ’dyn ni erioed wedi eu profi o’r blaen.” A elli di ehangu dy weinidogaeth mewn rhyw ffordd? Os felly, gelli di fod yn sicr y byddi di’n agosáu at Jehofa, ac y bydd yn gofalu amdanat ti.—Salm 18:25.

8. Beth rwyt ti’n ei ddysgu o sylwadau Ivan a Viktoria?

8Rydyn ni’n cael llawenydd o wasanaethu Jehofa. Sylwa beth ddywedodd Ivan a Viktoria, cwpl priod sy’n gwasanaethu fel arloeswyr yn Cirgistan. Gwnaethon nhw gadw eu bywyd yn syml fel eu bod nhw’n gallu gwirfoddoli ar gyfer unrhyw aseiniad, gan gynnwys prosiectau adeiladu. Dywedodd Ivan: “Oedden ni’n gweithio mor galed ag y gallen ni ym mhob aseiniad. Er ein bod ni wedi blino erbyn diwedd y dydd, oedden ni’n hapus o wybod ein bod ni’n defnyddio ein hegni i weithio’n galed i Jehofa. Oedden ni hefyd yn hapus am ein bod ni wedi creu cymaint o ffrindiau newydd a chreu atgofion newydd.”—Marc 10:29, 30.

9. Beth wnaeth un chwaer i ehangu ei gweinidogaeth er gwaethaf amgylchiadau heriol, a gyda pha ganlyniadau?

9 Rydyn ni’n cael llawenydd yng ngwasanaeth Jehofa hyd yn oed pan ydyn ni’n wynebu amgylchiadau heriol. Er enghraifft, roedd Mirreh, gwraig weddw oedrannus yn Nwyrain Affrica, yn ddoctor, ond ar ôl iddi ymddeol, gwnaeth hi ddechrau arloesi. Mae gan Mirreh arthritis ofnadwy, a dydy hi ond yn gallu treulio awr ar y tro yn pregethu o dŷ i dŷ, ond mae hi’n gallu treulio mwy o amser yn tystiolaethu’n gyhoeddus. Mae ganddi lawer o alwadau ac astudiaethau Beiblaidd, gan gynnwys rhai dros y ffôn. Beth ysgogodd Mirreh i wneud mwy i Jehofa? “Mae fy nghalon yn gorlifo â chariad tuag at Jehofa ac Iesu Grist. A dw i’n gweddïo’n aml ar Jehofa i fy helpu i wneud gymaint ag y galla i yn ei wasanaeth.”—Math. 22:36, 37.

10. Yn ôl Ioan 6:45, beth mae’r rhai sy’n estyn allan yn ei gael gan Jehofa?

10Rydyn ni’n cael hyfforddiant ychwanegol gan Jehofa. Gwelodd Kenny, arloeswr yn Mawrisiws, fod hyn yn wir. Unwaith iddo ddysgu’r gwir, gwnaeth ef adael y brifysgol, cael ei fedyddio, a dechrau gwasanaethu’n llawn amser. Dywedodd: “Dw i’n trio byw yn ôl geiriau’r proffwyd Eseia, a ddywedodd ‘Dyma fi, anfon fi.’” (Esei. 6:8) Mae Kenny wedi gweithio ar nifer o brosiectau adeiladu, a hefyd wedi helpu i gyfieithu ein llenyddiaeth i’w famiaith. “Ces i hyfforddiant wnaeth roi’r sgiliau imi allu gwneud fy aseiniadau,” meddai Kenny. Ond nid gwybodaeth dechnegol oedd yr unig beth wnaeth ef ei ddysgu. Dywedodd: “Wnes i ddysgu am fy nghyfyngiadau, a’r rhinweddau dw i angen eu meithrin i ddod yn well was i Jehofa.” (Darllen Ioan 6:45.) Beth am asesu dy amgylchiadau i weld a elli di wneud newidiadau fel dy fod ti’n gallu cael hyfforddiant ychwanegol gan Jehofa?

Mae cwpl yn pregethu mewn ardal lle mae ’na fwy o angen am gyhoeddwyr y Deyrnas; mae chwaer ifanc yn helpu i adeiladu Neuadd y Deyrnas; mae cwpl oedrannus yn pregethu dros y ffôn. Maen nhw i gyd yn cael llawenydd o’u gweinidogaeth (Gweler paragraff 11)

11. Beth wnaeth rhai chwiorydd yn Ne Corea er mwyn cael rhan yn y weinidogaeth, a gyda pha ganlyniad? (Gweler y llun ar y clawr.)

11 Mae hyd yn oed Tystion profiadol yn elwa o hyfforddiant pan fyddan nhw’n trio dulliau newydd o wasanaethu. Yn ystod y pandemig COVID-19, ysgrifennodd henuriaid un gynulleidfa yn Ne Corea: “Mae rhai oedd yn meddwl ar un adeg nad oedden nhw’n gallu cael rhan yn y weinidogaeth oherwydd eu hiechyd, bellach yn gwneud hynny drwy fideo-gynadledda. Gwnaeth tair chwaer yn eu 80au ddysgu sut i ddefnyddio technoleg newydd a dechrau cael rhan yn y weinidogaeth bron bob diwrnod.” (Salm 92:14, 15) A fyddet ti’n hoffi ehangu dy weinidogaeth a chael mwy o flas ar ddaioni Jehofa? Ystyria rai camau gelli di eu cymryd a fydd yn dy helpu di i gyrraedd y nod hwnnw.

SUT GELLI DI WNEUD MWY

12. Beth mae Jehofa’n ei addo i’r rhai sy’n dibynnu arno?

12Dysga i ddibynnu ar Jehofa. Mae’n addo tywallt bendithion arnon ni pan fyddwn ni’n ei drystio ac yn rhoi ein gorau iddo. (Mal. 3:10) Gwnaeth chwaer yn Colombia o’r enw Fabiola weld Jehofa yn cadw at ei addewid yn ei hachos hi. Roedd hi eisiau arloesi’n llawn amser yn fuan ar ôl iddi gael ei bedyddio. Ond, roedd ei gŵr a’u tri o blant yn dibynnu ar ei hincwm. Felly pan ddaeth yr amser iddi ymddeol, gweddïodd yn daer ar Jehofa am help. Dywedodd: “Fel arfer, mae’n cymryd amser hir i brosesu pensiwn, ond cafodd fy un i ei gymeradwyo ddim ond mis ar ôl imi wneud cais amdano. Oedd e’n wyrth!” Ddeufis wedyn, gwnaeth hi ddechrau arloesi. Mae hi bellach yn ei 70au ac wedi bod yn arloesi am dros 20 mlynedd. Yn ystod yr amser hwnnw, mae hi wedi helpu wyth o bobl i gyrraedd bedydd. Dywedodd: “Er fy mod i’n teimlo’n wan ar adegau, mae Jehofa’n fy helpu i bob dydd i gadw at fy rwtîn.”

Sut gwnaeth Abraham a Sara, Jacob, a’r offeiriaid wnaeth groesi’r Iorddonen ddangos eu bod nhw’n trystio Jehofa? (Gweler paragraff 13)

13-14. Pa esiamplau all ein helpu ni i drystio Jehofa a gwneud mwy?

13Dysga o esiamplau’r rhai wnaeth ddibynnu ar Jehofa. Mae’r Beibl yn llawn esiamplau o unigolion a weithiodd yn galed yng ngwasanaeth Jehofa. Mewn llawer o achosion, roedd rhaid iddyn nhw gymryd y cam cyntaf cyn i Jehofa eu bendithio nhw. Er enghraifft, gwnaeth Jehofa fendithio Abraham dim ond ar ôl iddo adael ei gartref, er “doedd e ddim yn gwybod ble roedd yn mynd.” (Heb. 11:8) Cafodd Jacob fendith arbennig dim ond ar ôl iddo ymladd â’r angel. (Gen. 32:24-30) Pan oedd cenedl Israel ar fin mynd i mewn i wlad yr addewid, dim ond ar ôl i’r offeiriaid gamu i mewn i’r Iorddonen wyllt roedd y bobl yn gallu ei chroesi.—Jos. 3:14-16.

14 Gelli di hefyd ddysgu o esiamplau Tystion heddiw sydd wedi gwneud mwy drwy ddibynnu ar Jehofa. Er enghraifft, roedd brawd o’r enw Payton, a’i wraig Diana, yn mwynhau darllen am frodyr a chwiorydd oedd wedi ehangu eu gwasanaeth i Jehofa, fel y rhai sy’n cael eu disgrifio yn y gyfres “Gwasanaethu o’u Gwirfodd.” * Mae Payton yn dweud: “Wrth ddarllen eu profiadau, oedden ni’n teimlo fel petasen ni’n gwylio rhywun yn mwynhau pryd o fwyd blasus. Y mwyaf oedden ni’n gwylio, y mwyaf oedden ni eisiau ‘profi droston ni ein hunain mor dda ydy Jehofa.’” Yn y pen draw, symudodd Payton a Diana i le roedd yr angen yn fwy. Wyt ti wedi darllen y gyfres hon? Ac wyt ti wedi gwylio’r fideos Pregethu Mewn Ardaloedd Gwledig—Awstralia a Pregethu Mewn Ardaloedd Gwledig—Iwerddon sydd wedi eu cyhoeddi ar jw.org? Gall y deunydd hyn roi syniadau iti o sut gelli di ehangu dy weinidogaeth.

15. Sut gall cwmni da ein helpu ni?

15Dewisa gwmni da. Rydyn ni’n fwy awyddus i drio bwyd newydd os ydyn ni’n treulio amser gyda’r rhai sy’n ei fwynhau. Mewn ffordd debyg, os ydyn ni’n treulio amser gyda’r rhai sy’n rhoi Jehofa’n gyntaf yn eu bywyd, rydyn ni’n fwy tebygol o edrych am ffyrdd i ehangu ein gwasanaeth i Dduw. Dyna ddigwyddodd i gwpl o’r enw Kent a Veronica. “Gwnaeth ein teulu a’n ffrindiau ein hannog i drio ffyrdd newydd o wasanaethu,” meddai Kent. “Gwnaethon ni sylweddoli bod treulio amser gyda’r rhai sy’n rhoi’r Deyrnas yn gyntaf yn rhoi’r hyder inni drio rhywbeth newydd.” Mae Kent a Veronica bellach yn gwasanaethu fel arloeswyr arbennig yn Serbia.

16. Yn ôl eglureb Iesu yn Luc 12:16-21, pam dylen ni fod yn fodlon gwneud aberthau?

16Gwna aberthau i Jehofa. Does dim rhaid inni aberthu popeth rydyn ni’n ei fwynhau er mwyn plesio Jehofa. (Preg. 5:19, 20) Er hynny, petasen ni’n dal yn ôl rhag gwneud mwy yng ngwasanaeth Duw, dim ond er mwyn osgoi gwneud aberth bersonol, gallen ni wneud yr un camgymeriad â’r dyn yn eglureb Iesu wnaeth greu bywyd cyfforddus iddo’i hun, ond anwybyddodd Dduw yn llwyr. (Darllen Luc 12:16-21.) Dywedodd brawd o’r enw Christian, sy’n byw yn Ffrainc, “Doeddwn i ddim yn rhoi’r gorau o fy amser a’n egni i Jehofa nac i fy nheulu.” Penderfynodd ef a’i wraig arloesi. Ond er mwyn cyrraedd y nod hwnnw, roedd rhaid iddyn nhw adael eu swyddi. Er mwyn cynnal eu hunain, gwnaethon nhw ddechrau busnes glanhau bychan, a dysgu bod yn fodlon â llai o arian. Oedd yr aberth yn werth ei gwneud? Dywedodd Christian, “’Dyn ni’n mwynhau ein gweinidogaeth yn fwy y dyddiau yma, ac wrth ein boddau yn gweld astudiaethau Beiblaidd a galwadau yn dysgu am Jehofa.”

17. Beth allai ein dal ni’n ôl rhag trio rhywbeth newydd yn ein gweinidogaeth?

17Bydda’n fodlon trio gwahanol fathau o weinidogaeth. (Act. 17:16, 17; 20:20, 21) Roedd rhaid i Shirley, arloeswraig yn yr Unol Daleithiau, addasu ei gweinidogaeth yn ystod y pandemig COVID-19. I gychwyn, roedd hi braidd yn gyndyn o dystiolaethu dros y ffôn. Ond unwaith iddi gael hyfforddiant yn ystod ymweliad arolygwr y gylchdaith, dechreuodd hi gael rhan yn y math yma o weinidogaeth yn aml. “I gychwyn,” meddai, “oedd o’n codi ofn arna i, ond erbyn hyn dw i’n ei fwynhau go iawn. ’Dyn ni’n cyrraedd mwy o bobl nag oedden ni wrth fynd o dŷ i dŷ!”

18. Beth all ein helpu ni i wynebu heriau wrth inni drio ehangu ein gweinidogaeth?

18Gwna gynllun a gweithreda arno. Yn wyneb heriau, rydyn ni’n gweddïo am help ac yn meddwl yn ofalus am beth i’w wneud amdano. (Diar. 3:21) Mae Sonia, sy’n arloesi’n llawn amser mewn grŵp Romani yn Ewrop, yn dweud: “Dw i’n hoffi sgwennu fy nghynlluniau ar bapur, a chadw hwnnw mewn rhywle amlwg. Mae gen i lun o gyffordd ar fy nreser. Pan fydd gen i benderfyniad i’w wneud, dw i’n edrych ar y gyffordd honno ac yn meddwl am ba ffordd i droi er mwyn cyrraedd fy nod.” Mae Sonia yn trio cadw agwedd bositif tuag at yr heriau mae hi’n eu hwynebu. “Mae pob sefyllfa newydd,” meddai, “yn gallu bod un ai fel wal sy’n fy rhwystro i, neu fel pont sy’n fy helpu i—mae i gyd yn dibynnu ar fy agwedd.”

19. Beth dylen ni fod yn benderfynol o’i wneud?

19 Mae Jehofa’n ein bendithio ni mewn llawer o ffyrdd. Gallwn ni ddangos gymaint rydyn ni’n gwerthfawrogi’r bendithion hynny drwy wneud popeth allwn ni i’w foli. (Heb. 13:15) Gall hynny gynnwys trio ffyrdd newydd o ehangu ein gweinidogaeth, ac efallai bydd Jehofa wedyn yn ein bendithio ni’n fwy byth. Bob diwrnod, gad inni edrych am ffyrdd i ‘brofi droston ni’n hunain mor dda ydy Jehofa.’ Yna, byddwn ni fel Iesu, a ddywedodd: “Gwneud beth mae Duw’n ddweud ydy fy mwyd i . . . a gorffen y gwaith mae wedi’i roi i mi.”—Ioan 4:34.

CÂN 80 Profwch Flas a Gwelwch mai Da Ydy Duw

^ Par. 5 Mae popeth da yn dod oddi wrth Jehofa. Mae’n rhoi pethau da i bawb—hyd yn oed pobl ddrwg. Ond mae’n hoffi gwneud pethau da ar gyfer ei addolwyr ffyddlon yn enwedig. Yn yr erthygl hon, byddwn ni’n trafod sut mae Jehofa yn gwneud hynny. Byddwn ni hefyd yn gweld sut mae’r rhai sy’n ehangu eu gweinidogaeth yn profi daioni Jehofa mewn ffordd arbennig.

^ Par. 7 Newidiwyd rhai enwau.

^ Par. 14 Roedd y gyfres hon yn cael ei chyhoeddi yn y Tŵr Gwylio, ond bellach mae hi ar jw.org. Dos i AMDANON NI > PROFIADAU > CYRRAEDD AMCANION YSBRYDOL.