Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

ERTHYGL ASTUDIO 30

Trysora Dy Le yn Nheulu Jehofa

Trysora Dy Le yn Nheulu Jehofa

“Rwyt wedi ei wneud ond ychydig is na’r bodau nefol, ac wedi ei goroni ag ysblander a mawredd!”—SALM 8:5.

CÂN 123 Ymostwng yn Ffyddlon i’r Drefn Theocrataidd

CIPOLWG *

1. Pa gwestiynau all godi wrth inni feddwl am bopeth mae Jehofa wedi ei greu?

PAN fyddwn ni’n meddwl am y bydysawd enfawr wnaeth Jehofa ei greu, efallai byddwn ni’n teimlo fel gwnaeth y salmydd Dafydd a ofynnodd mewn gweddi: “Wrth edrych allan i’r gofod, a gweld gwaith dy fysedd, y lleuad a’r sêr a osodaist yn eu lle, Beth ydy pobl i ti boeni amdanyn nhw? Pam cymryd sylw o un person dynol?” (Salm 8:3, 4) Fel Dafydd, efallai byddwn ni’n meddwl am ba mor fach ydyn ni o gymharu â’r bydysawd mae Jehofa wedi ei greu, ac yn synnu ei fod yn meddwl amdanon ni o gwbl. Ond eto, fel byddwn ni’n gweld, gwnaeth Jehofa fwy na sylwi ar y bodau dynol cyntaf, Adda ac Efa, fe wnaeth nhw’n rhan o’i deulu hefyd.

2. Beth roedd Jehofa eisiau i Adda ac Efa ei wneud?

2 Adda ac Efa oedd plant daearol cyntaf Jehofa, a Jehofa oedd eu Tad nefol cariadus. Roedd wedi rhoi gwaith i’r cwpl yma, ac roedd yn disgwyl iddyn nhw ei wneud. Dywedodd wrthyn nhw: “Dw i eisiau i chi gael plant, fel bod mwy a mwy ohonoch chi. Llanwch y ddaear a defnyddiwch ei photensial hi.” (Gen. 1:28) Roedd ef eisiau iddyn nhw gael plant ac edrych ar ôl y ddaear. Petasen nhw wedi edrych ar ôl y ddaear a gwneud beth roedd Jehofa eisiau, byddai Adda, Efa, a’u plant wedi aros yn rhan o deulu Duw am byth.

3. Pam gallwn ni ddweud bod Jehofa wedi rhoi lle pwysig i Adda ac Efa yn ei deulu?

3 Roedd gan Adda ac Efa le pwysig yn nheulu Jehofa. Yn Salm 8:5, dywedodd Dafydd hyn am sut gwnaeth Jehofa greu dyn: “Rwyt wedi ei wneud ond ychydig is na’r bodau nefol, ac wedi ei goroni ag ysblander a mawredd!” Mae’n ddigon gwir fod Jehofa heb greu pobl yr un mor bwerus, clyfar, a galluog â’r angylion. (Salm 103:20) Ond eto, mae’r ddynoliaeth ond “ychydig is” na’r angylion pwerus hynny. Onid ydy hynny’n rhyfeddol! Yn bendant, rhoddodd Jehofa gychwyn bendigedig i’n rhieni cyntaf!

4. Beth ddigwyddodd i Adda ac Efa, a beth byddwn ni’n ei drafod yn yr erthygl hon?

 4 Yn anffodus, mi wnaeth Adda ac Efa golli eu lle yn nheulu Jehofa. Mae hyn wedi achosi problemau ofnadwy i’w disgynyddion, fel byddwn ni’n gweld yn hwyrach ymlaen yn yr erthygl. Ond dydy pwrpas Jehofa heb newid. Mae eisiau i bobl ufudd fod yn blant iddo am byth. Yn gyntaf, gad inni drafod sut mae Jehofa wedi dangos ein bod ni’n werthfawr iddo. Yna, byddwn ni’n trafod beth gallwn ni ei wneud nawr i ddangos ein bod ni eisiau bod yn rhan o deulu Duw. Ac yn olaf, byddwn ni’n ystyried y bendithion bydd plant Jehofa yn eu mwynhau am byth.

SUT MAE JEHOFA WEDI ANRHYDEDDU BODAU DYNOL

Ym mha ffyrdd mae Jehofa wedi ein hanrhydeddu ni? (Gweler paragraffau 5-11) *

5. Sut gallwn ni anrhydeddu Duw am ein creu ni yn ei ddelw?

5Mae Jehofa wedi ein hanrhydeddu ni drwy ein creu ni â’r un rhinweddau ag ef. (Gen. 1:26, 27) Am ein bod ni wedi ein creu ar ddelw Duw, gallwn ni feithrin a dangos llawer o’i rinweddau hyfryd fel cariad, tosturi, ffyddlondeb, a chyfiawnder. (Salm 86:15; 145:17) Wrth inni feithrin y fath rhinweddau, rydyn ni’n anrhydeddu Jehofa ac yn profi ein bod ni’n ddiolchgar iddo. (1 Pedr 1:14-16) Pan fyddwn ni’n ymddwyn mewn ffordd sy’n plesio ein Tad nefol, byddwn ni’n hapus ac yn fodlon. Hefyd, am fod gynnon ni rinweddau tebyg i Jehofa, mae hi’n bosib inni fod y math o berson mae ef eisiau yn ei deulu.

6. Sut gwnaeth Jehofa anrhydeddu bodau dynol wrth baratoi’r ddaear?

6Gwnaeth Jehofa baratoi cartref arbennig ar ein cyfer ni. Ymhell cyn iddo greu’r dyn cyntaf, gwnaeth Jehofa baratoi’r ddaear ar gyfer bodau dynol. (Job 38:4-6; Jer. 10:12) Am ei fod yn garedig ac yn hael, rhoddodd Jehofa ddigonedd o bethau da inni eu mwynhau. (Salm 104:14, 15, 24) Ar adegau, cymerodd amser i feddwl am yr hyn roedd ef wedi ei greu, ac roedd yn “gweld bod hyn yn dda.” (Gen. 1:10, 12, 31) Gwnaeth ef anrhydeddu bodau dynol drwy eu gwneud nhw’n “feistr” ar yr holl bethau rhyfeddol roedd ef wedi eu creu ar y ddaear. (Salm 8:6) Bwriad Duw ydy i fodau dynol perffaith fwynhau gofalu am ei greadigaeth hyfryd am byth. Wyt ti’n diolch i Jehofa’n aml am yr addewid bendigedig hwnnw?

7. Sut mae Josua 24:15 yn dangos bod gan bobl ewyllys rhydd?

7Mae Jehofa wedi rhoi ewyllys rhydd inni. Gallwn benderfynu beth i’w wneud â’n bywydau. (Darllen Josua 24:15.) Mae’r gallu i ddewis yn cael ei alw’n ewyllys rhydd. Mae ein Duw cariadus wrth ei fodd pan ydyn ni’n dewis ei wasanaethu. (Salm 84:11; Diar. 27:11) Gallwn ni ddefnyddio ein hewyllys rhydd i wneud llawer o benderfyniadau da eraill hefyd. Ystyria’r esiampl a osododd Iesu.

8. Rho esiampl o sut gwnaeth Iesu ddefnyddio ei ewyllys rhydd.

8 Gan ddilyn esiampl Iesu, gallwn ni ddewis rhoi lles pobl eraill yn gyntaf. Un diwrnod pan oedd Iesu a’i apostolion wedi blino’n lân, gwnaethon nhw deithio i rywle distaw gan obeithio cael rhywfaint o orffwys. Ond dim dyna ddigwyddodd. Daeth torf o hyd iddyn nhw, ac roedden nhw’n awyddus iawn i gael eu dysgu gan Iesu. Ond wnaeth Iesu ddim gwylltio. Yn hytrach, roedd yn teimlo dros y bobl. Felly beth wnaeth Iesu? “Treuliodd amser yn dysgu llawer o bethau iddyn nhw.” (Marc 6:30-34) Pan fyddwn ni’n efelychu Iesu drwy ddefnyddio ein hamser ac egni i helpu eraill, byddwn ni’n dod â chlod i’n Tad nefol. (Math. 5:14-16) Ac rydyn ni hefyd yn dangos i Jehofa ein bod ni eisiau bod yn rhan o’i deulu.

9. Beth dylai rhieni ei gadw mewn cof?

9Mae Jehofa wedi rhoi’r gallu i bobl gael plant, yn ogystal â’r cyfrifoldeb i’w dysgu nhw i’w garu a’i wasanaethu. Os wyt ti’n rhiant, wyt ti’n gwerthfawrogi’r rhodd arbennig hon? Er bod Jehofa wedi rhoi llawer o alluoedd bendigedig i’r angylion, does ganddyn nhw ddim y fraint o gael plant. Gyda hynny mewn cof, dylai’r rhai sy’n magu plant drysori eu cyfle i wneud hynny. Mae rhieni wedi cael y cyfrifoldeb pwysig o fagu plant a’u “dysgu nhw i wneud beth mae’r Arglwydd yn ei ddweud.” (Eff. 6:4; Deut. 6:5-7; Salm 127:3) Er mwyn helpu rhieni, mae cyfundrefn Jehofa wedi darparu llawer o bethau sydd wedi eu seilio ar y Beibl fel cyhoeddiadau, fideos, cerddoriaeth, ac erthyglau ar-lein. Yn amlwg mae ein Tad nefol a’i Fab yn trysori’r rhai ifanc. (Luc 18:15-17) Mae rhieni yn plesio Jehofa pan fyddan nhw’n dibynnu arno ac yn gwneud eu gorau glas i ofalu am eu plant annwyl. Mae’r rhieni hyn hefyd yn rhoi i’w plant y gobaith o fod yn rhan o deulu Jehofa am byth!

10-11. Beth mae Jehofa wedi ei wneud yn bosib inni drwy’r pridwerth?

10Rhoddodd Jehofa ei Fab annwyl er mwyn i ni gael bod yn rhan o’i deulu unwaith eto. Fel dywedon ni ym  mharagraff 4, pan bechodd Adda ac Efa, doedden nhw ddim bellach yn cael bod yn rhan o deulu Jehofa, a doedd eu plant ddim chwaith. (Rhuf. 5:12) Gwnaeth Adda ac Efa ddewis anufuddhau i Dduw, felly roedden nhw’n haeddu colli eu lle yn ei deulu. Ond beth am eu plant? Mae Jehofa yn caru pobl, felly fe wnaeth hi’n bosib i’r rhai oedd yn ufudd iddo gael eu mabwysiadu i’w deulu. Gwnaeth ef hyn drwy aberthu ei Fab unig-anedig, Iesu Grist. (Ioan 3:16; Rhuf. 5:19) O ganlyniad i aberth Iesu, cafodd 144,000 o bobl ffyddlon eu mabwysiadu fel meibion i Dduw.—Rhuf. 8:15-17; Dat. 14:1.

11 Hefyd, mae ’na filiynau o rai ffyddlon eraill sy’n gwneud ewyllys Duw. Mae’n nhw’n gobeithio bod yn aelodau llawn o’i deulu ar ôl y prawf olaf ar ddiwedd y mil blynyddoedd. (Salm 25:14; Rhuf. 8:20, 21) Am fod ganddyn nhw’r gobaith hwnnw, maen nhw eisoes yn galw Jehofa, eu Creawdwr, yn ‘Dad.’ (Math. 6:9) Ar ben hynny, bydd y rhai sy’n cael eu hatgyfodi yn cael y cyfle i ddysgu beth mae Jehofa yn disgwyl ganddyn nhw. Yn y pen draw, bydd y rhai sy’n dewis ufuddhau iddo yn dod yn aelodau o’i deulu hefyd.

12. Pa gwestiwn byddwn ni’n ei ateb nawr?

12 Fel rydyn ni wedi ei weld, mae Jehofa wedi gwneud llawer o bethau i anrhydeddu bodau dynol yn barod. Mae ef eisoes wedi mabwysiadu’r rhai eneiniog fel meibion iddo, ac wedi rhoi’r gobaith i’r dyrfa fawr o fod yn blant iddo yn y byd newydd. (Dat. 7:9) Beth gallwn ni ei wneud nawr i ddangos i Jehofa ein bod ni eisiau bod yn rhan o’i deulu am byth?

DANGOSA I JEHOFA DY FOD TI EISIAU BOD YN RHAN O’I DEULU

13. Beth gallwn ni ei wneud i fod yn rhan o deulu Duw? (Marc 12:30)

13Dangosa dy gariad at Jehofa drwy ei wasanaethu â dy holl galon. (Darllen Marc 12:30.) O’r holl bethau mae Duw wedi eu rhoi inni allan o’i gariad, efallai mai’r gallu i’w addoli ef yw’r un gorau. Rydyn ni’n dangos i Jehofa ein bod ni’n ei garu drwy fod “yn ufudd iddo.” (1 Ioan 5:3) Wrth siarad dros ei Dad, gwnaeth Iesu ein gorchymyn i wneud disgyblion a’u bedyddio nhw. (Math. 28:19) Gwnaeth ef hefyd ein gorchymyn i garu ein gilydd. (Ioan 13:35) Bydd Jehofa yn croesawu’r rhai sy’n ufudd i’w orchmynion fel rhan o’i deulu byd-eang o addolwyr.—Salm 15:1, 2.

14. Sut gallwn ni ddangos cariad tuag at eraill? (Mathew 9:36-38; Rhufeiniaid 12:10)

14Dangosa gariad tuag at eraill. Cariad ydy prif rinwedd Jehofa. (1 Ioan 4:8) Dangosodd Jehofa gariad tuag aton ni cyn inni hyd yn oed ddod i’w adnabod. (1 Ioan 4:9, 10) Rydyn ni’n ei efelychu pan fyddwn ni’n dangos cariad tuag at eraill. (Eff. 5:1) Un o’r ffyrdd gorau gallwn ni ddangos cariad tuag at bobl yw drwy eu helpu nhw i ddysgu am Jehofa tra bod ’na amser. (Darllen Mathew 9:36-38.) Drwy wneud hynny, rydyn ni’n rhoi’r cyfle iddyn nhw fod yn rhan o deulu Duw. Ar ôl i rywun gael ei fedyddio, dylen ni barhau i ddangos cariad a pharch tuag ato. (1 Ioan 4:20, 21) Sut rydyn ni’n gwneud hynny? Am un peth, byddwn ni’n edrych ar ei ochr orau bryd bynnag gallwn ni. Er enghraifft, os ydyn ni’n methu deall pam maen nhw wedi gwneud rhywbeth, fyddwn ni ddim yn neidio i’r casgliad bod ei fwriadu yn ddrwg neu’n hunanol. Yn hytrach, byddwn ni’n anrhydeddu ein brawd gan ei ystyried yn well na ni.—Darllen Rhufeiniaid 12:10; Phil. 2:3.

15. At bwy dylen ni ddangos trugaredd a charedigrwydd?

15Dangosa drugaredd a charedigrwydd i bawb. Os ydyn ni eisiau bod yn rhan o deulu Jehofa am byth, mae’n rhaid inni roi Gair Duw ar waith yn ein bywydau. Er enghraifft, dysgodd Iesu y dylen ni ddangos trugaredd a charedigrwydd i bawb, hyd yn oed ein gelynion. (Luc 6:32-36) Efallai byddwn ni’n ei chael hi’n anodd gwneud hynny weithiau. Os felly, mae’n rhaid inni ddysgu meddwl ac ymddwyn fel Iesu. Pan wnawn ni ein gorau i ufuddhau i Jehofa ac efelychu Iesu, byddwn ni’n dangos i’n Tad nefol ein bod ni eisiau bod yn rhan o’i deulu am byth.

16. Sut gallwn ni warchod enw da teulu Jehofa?

16Gwarchoda enw da teulu Jehofa. Mewn teulu llythrennol, bydd bachgen yn aml yn copïo ei frawd mawr. Os ydy’r brawd hŷn yn rhoi egwyddorion y Beibl ar waith yn ei fywyd, bydd yn esiampl dda i’w frawd bach. Os ydy’r un hŷn yn dechrau gwneud pethau drwg, efallai bydd y brawd iau yn dilyn ei esiampl. Mae hi’n debyg yn nheulu Jehofa. Os ydy Cristion a oedd yn ffyddlon ar un adeg yn troi’n wrthgiliwr, neu’n dewis byw bywyd anfoesol neu anonest, efallai bydd eraill yn ei efelychu, a dechrau gwneud pethau drwg hefyd. Mae’r rhai sy’n gwneud hynny yn niweidio enw da teulu Jehofa. (1 Thes. 4:3-8) Mae’n rhaid inni osgoi efelychu esiamplau drwg, a pheidio â gadael i unrhyw beth amharu ar ein perthynas â’n Tad nefol cariadus.

17. Pa fath o feddylfryd dylen ni ei osgoi, a pham?

17Trystia Jehofa yn hytrach na phethau materol. Mae Jehofa yn addo y bydd yn rhoi bwyd, dillad, a lloches inni os ydyn ni’n rhoi ei Deyrnas yn gyntaf ac yn byw yn unol â’i safonau cyfiawn. (Salm 55:22; Math. 6:33) Drwy gadw hynny mewn cof, byddwn ni’n osgoi dibynnu ar bethau materol y byd i’n hamddiffyn ni a’n gwneud ni’n hapus. Rydyn ni’n gwybod mai’r unig ffordd y gallwn ni gael heddwch meddwl go iawn yw drwy wneud ewyllys Jehofa. (Phil. 4:6, 7) Hyd yn oed os ydyn ni’n gallu fforddio prynu llawer o bethau, mae’n rhaid inni ystyried a oes gynnon ni’r amser a’r egni i ddefnyddio’r pethau hynny a gofalu amdanyn nhw. Oes ’na beryg y byddwn ni’n dod yn rhy hoff ohonyn nhw ac yn methu gadael iddyn nhw fynd? Mae’n rhaid inni gofio bod Duw yn disgwyl inni wneud y gwaith mae wedi ei roi inni. Mae hynny’n golygu na ddylen ni adael i bethau dynnu ein sylw. Yn bendant, dydyn ni ddim eisiau bod fel y dyn ifanc a wnaeth wrthod y cyfle i wasanaethu Jehofa a chael ei fabwysiadu fel un o’i feibion—a hynny i gyd am ei fod yn rhy hoff o’i bethau materol!—Marc 10:17-22.

BETH BYDD PLANT JEHOFA YN EI FWYNHAU AM BYTH

18. Pa fraint enfawr a pha fendithion bydd bodau dynol ufudd yn eu mwynhau am byth?

18 Bydd bodau dynol ufudd yn mwynhau’r anrhydedd mwyaf oll—y fraint o garu ac addoli Jehofa am byth! Hefyd, bydd gan y rhai sydd â’r gobaith daearol y llawenydd o ofalu am y blaned hyfryd hon wnaeth Jehofa ei chreu i fod yn gartref perffaith iddyn nhw. Yn fuan, bydd Teyrnas Dduw yn adnewyddu’r ddaear a phopeth arni. Bydd Iesu yn dad-wneud y problemau a achosodd Adda ac Efa pan wnaethon nhw benderfynu gadael teulu Duw. Bydd Jehofa yn atgyfodi miliynau ac yn rhoi’r cyfle iddyn nhw fyw am byth mewn iechyd perffaith ar baradwys ddaear. (Luc 23:42, 43) Wrth i ran ddaearol teulu Jehofa agosáu at berffeithrwydd, bydd pob un yn adlewyrchu’r “ysblander a mawredd” a ysgrifennodd Dafydd amdano.—Salm 8:5.

19. Beth dylen ni ei gofio?

19 Os wyt ti’n rhan o’r dyrfa fawr, mae gen ti obaith hyfryd. Mae Duw yn dy garu di; mae ef eisiau iti fod yn rhan o’i deulu. Felly gwna bopeth elli di i’w blesio. Cadwa addewidion Duw yn dy gof ac yn dy galon bob dydd. Gwerthfawroga dy fraint o addoli ein Tad nefol annwyl, a thrysora’r gobaith o’i foli am byth!

CÂN 107 Patrwm Dwyfol Gariad

^ Par. 5 Er mwyn i deulu fod yn hapus, mae’n rhaid i bob aelod wybod beth mae disgwyl iddo’i wneud, a chyd-weithio ag aelodau eraill y teulu. Mae’r tad yn cymryd y blaen yn gariadus, mae’r fam yn ei gefnogi, ac mae’r plant yn ufuddhau i’w rhieni. Mae’n debyg yn nheulu Jehofa. Mae gan ein Duw bwrpas ar ein cyfer, ac os ydyn ni’n byw’n unol â’r pwrpas hwnnw, byddwn ni’n rhan o’i deulu am byth.

^ Par. 55 DISGRIFIAD O’R LLUN: Am eu bod nhw wedi eu creu yn nelw Duw, mae cwpl yn gallu dangos cariad a thosturi tuag at ei gilydd, a’u meibion. Mae’r cwpl yn caru Jehofa. Mae’r rhodd o gael plant yn rhoi cyfle iddyn nhw fagu eu meibion i garu Jehofa a’i wasanaethu. Mae’r rhieni yn defnyddio fideo i esbonio iddyn nhw pam gwnaeth Jehofa roi Iesu fel pridwerth. Maen nhw hefyd yn eu dysgu y byddwn ni’n gofalu am y ddaear a’r anifeiliaid am byth yn y baradwys sydd i ddod.