Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

ERTHYGL ASTUDIO 31

Wyt Ti’n Barod i Ddisgwyl am Jehofa?

Wyt Ti’n Barod i Ddisgwyl am Jehofa?

“Dw i’n disgwyl yn hyderus.”—MICH. 7:7.

CÂN 128 Dyfalbarhau i’r Diwedd

CIPOLWG *

1-2. Beth byddwn ni’n ei ystyried yn yr erthygl hon?

SUT wyt ti’n teimlo pan dydy parsel rwyt ti wir ei angen ddim yn cyrraedd pan oeddet ti’n ei ddisgwyl? A wyt ti braidd yn siomedig? Mae Diarhebion 13:12 yn gwbl realistig pan mae’n dweud: “Mae gobaith sy’n cael ei ohirio yn torri’r galon.” Ond beth os wyt ti’n cael gwybod bod ’na rheswm da pam bydd dy barsel yn cyrraedd yn hwyrach na’r disgwyl? Yn yr achos yna, mae’n debyg byddi di’n amyneddgar ac yn fodlon disgwyl.

2 Yn yr erthygl hon, byddwn ni’n edrych ar sawl egwyddor o’r Beibl a all ein helpu ni i feithrin amynedd a “disgwyl yn hyderus.” (Mich. 7:7) Yna byddwn ni’n trafod dwy sefyllfa lle bydd rhaid inni ddisgwyl yn amyneddgar i Jehofa weithredu. Ac yn olaf byddwn ni’n ystyried y bendithion sy’n barod ar gyfer y rhai sy’n fodlon disgwyl am Jehofa.

EGWYDDORION O’R BEIBL SY’N DYSGU AMYNEDD INNI

3. Beth mae’r egwyddor yn Diarhebion 13:11 yn ei bwysleisio?

3 Mae Diarhebion 13:11 yn ein dysgu ni pam dylen ni fod yn amyneddgar. Mae’n dweud: “Mae cyfoeth gafodd ei ennill heb ymdrech yn diflannu’n hawdd, ond bydd cyfoeth sydd wedi ei gasglu o dipyn i beth yn cynyddu.” A wyt ti’n gweld yr egwyddor? Mae’n ddoeth i fod yn amyneddgar a gwneud pethau yn ofalus, un cam ar y tro.

4. Beth mae’r egwyddor yn Diarhebion 4:18 yn ei bwysleisio?

4 Mae Diarhebion 4:18 yn dweud: “Mae llwybr y rhai sy’n byw yn iawn yn ddisglair fel y wawr, ac yn goleuo fwyfwy nes mae’n ganol dydd.” Mae’r geiriau hyn yn dangos yn glir bod Jehofa yn helpu ei bobl i ddeall ei bwrpas—a hynny’n raddol. Mae’r adnod hon hefyd yn ein helpu ni i ddeall y ffordd mae Cristion yn gwneud cynnydd ysbrydol yn ei fywyd. Allwn ni ddim rhuthro cynnydd ysbrydol. Mae’n cymryd amser. Os ydyn ni’n astudio’r cyngor rydyn ni’n ei gael drwy Air Duw a’i gyfundrefn yn ofalus, ac yn ei roi ar waith, byddwn ni fesul tipyn yn meithrin rhinweddau tebyg i Grist. Byddwn ni hefyd yn dod i adnabod Duw yn well. Ystyria sut gwnaeth Iesu egluro hynny.

Mae rhywun sy’n clywed ac yn derbyn neges y Deyrnas yn tyfu’n ysbrydol fesul tipyn, yn union fel mae planhigyn yn tyfu fesul tipyn (Gweler paragraff 5)

5. Sut gwnaeth Iesu egluro cynnydd graddol?

5 Defnyddiodd Iesu eglureb i esbonio sut mae neges y Deyrnas rydyn ni’n ei phregethu yn debyg i hedyn bach sy’n tyfu’n raddol yng nghalonnau’r rhai sy’n caru beth sy’n iawn. Dywedodd: “Mae’r had gafodd ei hau yn egino ac yn dechrau tyfu heb i’r dyn wneud dim mwy. Mae’r cnwd yn tyfu o’r pridd ohono’i hun—gwelltyn yn gyntaf, wedyn y dywysen, a’r hadau yn y dywysen ar ôl hynny.” (Marc 4:27, 28) Beth roedd Iesu yn ei olygu? Roedd yn esbonio bod rhywun sy’n derbyn neges y Deyrnas yn tyfu’n ysbrydol fesul tipyn, yn union fel mae planhigyn yn tyfu fesul tipyn. Er enghraifft, wrth i’n myfyrwyr y Beibl agosáu at Jehofa, mae’r holl newidiadau da maen nhw wedi eu gwneud yn dod yn amlwg. (Eff. 4:22-24) Ond mae’n rhaid inni gofio mai Jehofa sy’n gwneud i’r hedyn bach hwnnw dyfu.—1 Cor. 3:7.

6-7. Beth rydyn ni’n ei ddysgu o’r ffordd gwnaeth Jehofa greu’r ddaear?

6 Beth bynnag mae’n ei wneud, mae Jehofa yn amyneddgar, ac yn cymryd faint bynnag o amser mae ei angen i orffen ei waith. Mae’n gwneud hynny er mwyn dod â chlod i’w enw, ac i helpu eraill. Ystyria, er enghraifft, y ffordd gwnaeth Jehofa baratoi’r ddaear ar gyfer y ddynoliaeth fesul cam.

7 Wrth ddisgrifio sut gwnaeth Jehofa greu’r ddaear, mae’r Beibl yn sôn amdano yn penderfynu “ei maint,” ac yn gosod “ei sylfeini,” a’i “chonglfaen.” (Job 38:5, 6) Gwnaeth ef hyd yn oed gymryd amser i fyfyrio ar ei waith. (Gen. 1:10, 12) Elli di ddychmygu sut roedd yr angylion yn teimlo wrth iddyn nhw weld creadigaeth Jehofa yn dod at ei gilydd fesul tipyn? Mae’n rhaid oedd hynny’n hynod o gyffrous iddyn nhw! Ar un adeg, gwnaethon nhw hyd yn oed ddechrau “gweiddi’n llawen.” (Job 38:7) Beth rydyn ni’n ei ddysgu? Cymerodd filoedd o flynyddoedd i Jehofa greu popeth, ond pan edrychodd ar bopeth roedd wedi ei greu mor ofalus, dywedodd ei fod yn “dda iawn.”—Gen. 1:31.

8. Beth byddwn ni’n ei ystyried nawr?

8 Mae’r enghreifftiau uchod yn dangos bod ’na lawer o egwyddorion yng Ngair Duw sy’n pwysleisio’r ffaith ein bod ni angen bod yn amyneddgar. Nawr, byddwn ni’n edrych ar ddwy sefyllfa lle mae’n rhaid inni fod yn barod i ddisgwyl am Jehofa.

PRYD YDYN NI ANGEN DISGWYL AM JEHOFA?

9. Beth yw un sefyllfa lle mae’n rhaid inni ddisgwyl am Jehofa?

9Efallai bydd rhaid inni ddisgwyl am ateb i weddi. Pan ydyn ni’n gweddïo am nerth i ddelio â threial, neu am help i drechu gwendid, efallai byddwn ni’n teimlo bod Jehofa yn cymryd hirach nac oedden ni wedi gobeithio i ateb ein gweddi. Pam nad ydy Jehofa yn ateb pob un o’n gweddïau ar unwaith?

10. Pam mae angen inni ddisgwyl yn amyneddgar i Jehofa ateb ein gweddïau?

10 Mae Jehofa yn gwrando’n astud ar ein gweddïau. (Salm 65:2) Mae’n ystyried ein gweddïau taer fel tystiolaeth o’n ffydd. (Heb. 11:6) Hefyd, mae Jehofa eisiau gweld pa mor benderfynol ydyn ni o fyw yn unol â’n gweddïau a gwneud ei ewyllys. (1 Ioan 3:22) Felly, efallai bydd angen inni ddangos amynedd a gwneud popeth allwn ni i geisio trechu arferion drwg neu wendid. Gwnaeth Iesu ein helpu ni i ddeall na fydd pob un o’n gweddïau yn cael eu hateb ar unwaith. Dywedodd: “Daliwch ati i ofyn a byddwch yn ei gael; chwiliwch a byddwch yn dod o hyd iddo; curwch ar y drws a bydd yn cael ei agor. Mae pawb sy’n gofyn yn derbyn; pawb sy’n chwilio yn cael; ac mae’r drws yn cael ei agor i bawb sy’n curo.” (Math. 7:7, 8) Pan fyddwn ni’n dilyn y cyngor hwn ac yn ‘dal ati i weddïo,’ gallwn fod yn gwbl hyderus y bydd ein Tad nefol yn ein clywed ni ac yn ateb ein gweddïau.—Col. 4:2.

Tra ydyn ni’n disgwyl am Jehofa, rydyn ni’n parhau i weddïo arno mewn ffydd (Gweler paragraff 11) *

11. Os ydyn ni’n teimlo bod ateb i’n gweddi yn hwyr, beth dylen ni ei gofio? (Hebreaid 4:16)

11 Hyd yn oed os ydyn ni’n teimlo bod Jehofa yn hwyr yn ateb ein gweddïau, mae wedi addo ateb ein gweddïau “pan mae angen,” hynny yw, ar yr adeg iawn. (Darllen Hebreaid 4:16.) Dyna pam ddylen ni byth feio Jehofa os ydy rhywbeth ddim yn digwydd yn ddigon sydyn yn ein tyb ni. Er enghraifft, mae llawer wedi bod yn gweddïo am flynyddoedd i weld Teyrnas Dduw yn dod â diwedd i’r system hon. Gwnaeth Iesu hyd yn oed ddweud y dylen ni weddïo am hyn. (Math. 6:10) Am beth ffôl fyddai colli ffydd yn Nuw am fod y diwedd heb ddod pan oedden ni’n ei ddisgwyl! (Hab. 2:3; Math. 24:44) Mae’n beth doeth inni ddal ati i ddisgwyl am Jehofa, a gweddïo arno mewn ffydd. Mae Jehofa eisoes wedi dewis “y dyddiad a pha amser o’r dydd” i’r diwedd ddod ar yr union adeg gywir. Ac fe fydd y diwrnod hwnnw yn dod ar yr adeg orau i bawb.—Math. 24:36; 2 Pedr 3:15.

Pa wers am amynedd gallwn ni ei dysgu o esiampl Joseff? (Gweler paragraffau 12-14)

12. Pryd efallai bydd hi’n arbennig o anodd inni fod yn amyneddgar?

12Efallai bydd rhaid inni fod yn amyneddgar wrth ddisgwyl am gyfiawnder. Mae pobl yn y byd hwn yn aml yn cam-drin eraill o wahanol ryw, hil, cefndir, neu ddiwylliant. Mae eraill yn cael eu cam-drin am fod ganddyn nhw anableddau corfforol neu feddyliol. Mae llawer o bobl Jehofa wedi dioddef anghyfiawnder oherwydd eu daliadau. Pan fyddwn ni’n cael ein cam-drin, rhaid inni gofio geiriau Iesu pan ddywedodd: “Bydd yr un sy’n sefyll yn gadarn i’r diwedd un yn cael ei achub.” (Math. 24:13) Ond beth dylet ti ei wneud os wyt ti’n ffeindio allan bod rhywun yn y gynulleidfa wedi pechu’n ddifrifol? Ar ôl i’r henuriaid gael gwybod am y mater, a fyddi di’n amyneddgar ac yn trystio y bydden nhw’n delio â’r sefyllfa yn y ffordd mae Jehofa eisiau? Sut byddan nhw’n mynd o gwmpas hynny?

13. Beth mae Jehofa eisiau i’r henuriaid ei wneud pan fydd rhywun wedi pechu’n ddifrifol?

13 Pan fydd yr henuriaid yn ffeindio allan bod rhywun yn y gynulleidfa wedi pechu’n ddifrifol, maen nhw’n gweddïo am y “doethineb sy’n dod oddi wrth Dduw,” fel eu bod nhw’n gallu cael safbwynt Jehofa ar y sefyllfa. (Iago 3:17) Eu nod yw helpu’r un sy’n pechu i “droi yn ôl o’i ffyrdd.” (Iago 5:19, 20) Maen nhw hefyd eisiau gwneud popeth allan nhw i amddiffyn y gynulleidfa a chysuro’r rhai sydd wedi cael eu brifo. (2 Cor. 1:3, 4) Wrth ddelio â sefyllfa o’r fath, mae’n rhaid i’r henuriaid gael y ffeithiau i gyd yn gyntaf, a gall hynny gymryd amser. Wedyn, byddan nhw’n gweddïo, ac yn dewis cyngor yn ofalus o’r Ysgrythurau, er mwyn cywiro’r un sydd wedi pechu yn ôl “faint [mae’n] ei haeddu.” (Jer. 30:11) Er nad ydyn nhw’n llusgo eu traed, dydyn nhw ddim yn rhuthro i benderfyniad chwaith. Pan fydd yr henuriaid yn dilyn cyfarwyddyd Jehofa, bydd y gynulleidfa gyfan yn elwa. Hyd yn oed pan fydd yr henuriaid wedi delio â’r mater yn y ffordd iawn, efallai bydd y rhai a gafodd eu brifo gan yr hyn a ddigwyddodd yn dal i deimlo’r boen. Os ydy hyn yn wir yn dy achos di, beth gelli di ei wneud i leddfu’r boen?

14. Pa esiampl o’r Beibl all dy helpu di i ymdopi os wyt ti wedi cael dy frifo’n ofnadwy gan Gristion arall?

14 A wyt ti erioed wedi cael dy frifo’n ofnadwy gan rywun, hyd yn oed brawd neu chwaer? Mae ’na esiamplau gwych yng Ngair Duw sy’n ein dysgu ni sut i ddisgwyl i Jehofa gywiro pethau. Er enghraifft, er bod Joseff wedi cael ei drin yn annheg gan ei frodyr ei hun, wnaeth ef ddim gadael i’w pechodau nhw ei droi’n chwerw. Yn hytrach, parhaodd i ganolbwyntio ar ei wasanaeth i Jehofa, a gwnaeth Jehofa ei wobrwyo am ei amynedd a’i ddyfalbarhad. (Gen. 39:21) Ymhen amser, roedd Joseff yn gallu gweld heibio’r boen, a gweld sut roedd Jehofa wedi ei fendithio. (Gen. 45:5) Fel Joseff, rydyn ni’n cael cysur o agosáu at Jehofa a gadael y mater yn ei ddwylo ef.—Salm 7:17; 73:28.

15. Beth helpodd un chwaer i symud ymlaen ar ôl anghyfiawnder?

15 Wrth gwrs, dydy pob anghyfiawnder ddim mor ofnadwy â’r rhai gwnaeth Joseff eu profi, ond rydyn ni i gyd yn brifo pan fyddwn ni’n cael ein cam-drin mewn rhyw ffordd neu’i gilydd. Pan fydd gynnon ni broblem â rhywun, gan gynnwys rhywun sydd ddim yn addoli Jehofa, byddwn ni’n elwa o roi egwyddorion y Beibl ar waith. (Phil. 2:3, 4) Ystyria un profiad. Cafodd chwaer ei brifo i’r byw o glywed bod un o’i chyd-weithwyr wedi bod yn siarad tu ôl i’w chefn yn dweud pethau negyddol amdani nad oedd yn wir. Yn hytrach na throi arni, cymerodd y chwaer amser i ystyried esiampl Iesu. Pan oedd eraill yn dweud pethau cas amdano, wnaeth ef ddim dweud pethau cas yn ôl. (1 Pedr 2:21, 23) Gyda hynny mewn cof, wnaeth hi benderfynu peidio codi twrw am y peth. Yn hwyrach ymlaen, cafodd hi wybod bod y ddynes arall wedi bod yn ymdopi â phroblemau iechyd difrifol a’i bod hi o dan straen. Daeth y chwaer i’r casgliad bod y ddynes wedi siarad heb feddwl. Felly, roedd y chwaer yn falch iawn ei bod hi wedi goddef yr annhegwch yn amyneddgar, a chafodd hi heddwch meddwl unwaith eto.

16. Beth all dy gysuro di os wyt ti’n dioddef oherwydd anghyfiawnder? (1 Pedr 3:12)

16 Os wyt ti’n dioddef oherwydd anghyfiawnder, neu rywbeth arall sydd wedi dy frifo di, cofia fod Jehofa yn “agos at y rhai sydd wedi torri eu calonnau.” (Salm 34:18) Mae Jehofa yn dy garu di am dy amynedd, ac am dy fod ti’n bwrw dy faich arno. (Salm 55:22) Ef ydy Barnwr y byd i gyd. Mae’n gweld popeth sy’n mynd ymlaen. (Darllen 1 Pedr 3:12.) Pan fydd gen ti broblem anodd na elli di ei datrys, wyt ti’n barod i ddisgwyl am Jehofa?

BENDITHION DIDDIWEDD I’R RHAI SY’N DISGWYL AM JEHOFA

17. Beth gwnaeth Jehofa addo ei wneud yn Eseia 30:18?

17 Yn fuan iawn, bydd ein Tad nefol yn ein bendithio ni’n fawr drwy ei Deyrnas. Mae Eseia 30:18 yn dweud: “Mae’r ARGLWYDD wir eisiau bod yn garedig atoch chi; bydd yn siŵr o godi i faddau i chi. Achos mae’r ARGLWYDD yn Dduw cyfiawn; ac mae’r rhai sy’n disgwyl amdano yn cael bendith fawr!” Bydd y rhai sy’n disgwyl am Jehofa yn cael llawer o fendithion nawr ac yn y byd newydd sydd i ddod.

18. Pa fendithion sy’n disgwyl amdanon ni?

18 Pan fydd pobl Dduw yn cyrraedd y byd newydd, fyddan nhw byth eto yn gorfod goddef y pryderon a’r heriau mae’n rhaid iddyn nhw wynebu heddiw. Fydd anghyfiawnder wedi diflannu, a fydd ’na ddim poen chwaith. (Dat. 21:4) Fyddwn ni ddim yn poeni am beidio â chael yr hyn rydyn ni ei angen, oherwydd bydd ’na ddigon i bawb. (Salm 72:16; Esei. 54:13) Am fendith fydd hynny!

19. Am beth mae Jehofa yn ein paratoi ni fesul tipyn?

19 Yn y cyfamser, gyda phob arfer drwg rydyn ni’n ei drechu, a gyda phob rhinwedd dduwiol rydyn ni’n ei datblygu, mae Jehofa yn ein paratoi ni am fywyd o dan ei deyrnasiad. Dalia ati a phaid â digalonni. Mae’r gorau eto i ddod! Gyda dyfodol disglair o’n blaenau ni, gad inni barhau i fod yn hapus ac yn fodlon disgwyl am i Jehofa orffen ei waith.

CÂN 118 Rho Inni Fwy o Ffydd

^ Par. 5 A wyt ti erioed wedi clywed rhywun sydd wedi gwasanaethu Jehofa am flynyddoedd yn dweud, ‘Doeddwn i ddim yn disgwyl mynd yn hen yn y system hon’? Rydyn ni i gyd yn awyddus i weld Jehofa yn dod â diwedd i’r byd drygionus hwn, yn enwedig yn ystod yr adegau anodd hyn. Ond, mae’n rhaid inni ddysgu bod yn amyneddgar. Yn yr erthygl hon, byddwn ni’n edrych ar egwyddorion o’r Beibl a all ein helpu ni i ddisgwyl yn hyderus. Byddwn ni hefyd yn trafod dwy sefyllfa lle mae’n rhaid inni ddisgwyl yn amyneddgar am Jehofa. Ac yn olaf byddwn ni’n ystyried y bendithion sydd ar y gorwel i’r rhai sy’n fodlon disgwyl.

^ Par. 56 DISGRIFIAD O’R LLUN: Mae chwaer wedi bod yn gweddïo ar Jehofa yn aml ers oedd hi’n blentyn. Pan oedd hi’n fychan, gwnaeth ei rhieni ei dysgu sut i weddïo. Gwnaeth hi ddechrau wasanaethu fel arloeswraig yn ei harddegau, ac roedd hi’n aml yn gofyn i Jehofa fendithio ei gweinidogaeth. Flynyddoedd wedyn, pan aeth ei gŵr yn sâl iawn, gwnaeth hi erfyn ar Jehofa am y nerth roedd hi ei angen i oddef y treial. Heddiw, a hithau’n weddw, mae hi’n dal ati i weddïo, yn gwbl hyderus y bydd ei Thad nefol yn ateb ei gweddïau—yn union fel y mae wedi ei wneud trwy gydol ei bywyd.