ERTHYGL ASTUDIO 31
CÂN 12 Mawr Dduw, Jehofa
Beth Mae Jehofa Wedi Ei Wneud i’n Hachub Ni o Bechod
“Gwnaeth Duw garu’r byd gymaint nes iddo roi ei unig-anedig Fab.”—IOAN 3:16.
PWRPAS
Sut mae Jehofa wedi bod yn ein helpu ni i frwydro yn erbyn pechod a sut mae wedi gwneud yn bosib inni fwynhau bywyd am byth, heb bechod.
1-2. (a) Beth ydy pechod, a sut gallwn ni frwydro yn ei erbyn? (Gweler hefyd “Esboniad.”) (b) Beth byddwn ni’n ei drafod yn yr erthygl hon a’r erthyglau eraill yn y rhifyn hwn o’r Tŵr Gwylio? (Gweler hefyd “Nodyn i Ddarllenwyr” yn y rhifyn hwn.)
A FYDDI di’n hoffi gwybod faint mae Jehofa’n dy garu di? Dyma ffordd dda iti gael hyd i’r ateb: Astudia beth mae ef wedi ei wneud i dy achub di o bechod a marwolaeth. Gelyn ofnadwy ydy pechod. a Un na elli di ei drechu ar dy ben dy hun. Rydyn ni i gyd yn pechu bob dydd ac rydyn ni’n marw oherwydd pechod. (Rhuf. 5:12) Ond mae ’na newyddion da, heb os nac oni bai, bydd Jehofa yn ein hachub ni o bechod a marwolaeth.
2 Mae Jehofa wedi bod yn helpu dynolryw i frwydro yn erbyn pechod am tua 6,000 o flynyddoedd. Pam? Oherwydd ei fod yn ein caru ni. Mae Jehofa wedi caru pobl o’r cychwyn cyntaf, ac mae wedi gwneud llawer i’w helpu nhw yn y frwydr hon. Mae’n gwybod bod pechod yn arwain at farwolaeth a dydy ef ddim eisiau inni farw. Mae eisiau i bob un ohonon ni, gan dy gynnwys di, i fyw am byth. (Rhuf. 6:23) Yn yr erthygl hon, byddwn ni’n trafod tri chwestiwn: (1) Pa obaith mae Jehofa wedi ei roi i bobl bechadurus? (2) Sut gwnaeth pobl bechadurus yn adeg y Beibl blesio Jehofa? (3) Beth a wnaeth Iesu i’n hachub ni o bechod a marwolaeth?
PA OBAITH Y MAE JEHOFA WEDI EI ROI I BOBL BECHADURUS?
3. Sut daeth ein rhieni cyntaf yn bechaduriaid?
3 Pan greodd Jehofa’r dyn a’r ddynes gyntaf, roedd eisiau iddyn nhw fod yn hapus. Fe roddodd iddyn nhw gartref hyfryd, y rhodd o briodas, ac aseiniad cyffrous. Roedden nhw am lenwi’r ddaear gyda’u disgynyddion a gwneud y ddaear gyfan yn baradwys, fel gardd Eden. Fe roddodd iddyn nhw un gorchymyn syml yn unig. Gwnaeth Jehofa eu rhybuddio nhw petasen nhw’n mynd yn erbyn ei orchymyn yn fwriadol, bydden nhw’n marw. Rydyn ni’n gwybod beth ddigwyddodd. Yna, gwnaeth angel nad oedd yn caru Duw na nhwthau eu temtio nhw i bechu. Ni wnaeth Adda nac Efa drystio yn eu tad cariadus. Fe wnaethon nhw ildio i’r temtasiwn a phechu. Fel rydyn ni’n gwybod, daeth geiriau Jehofa’n wir. O’r diwrnod hwnnw ymlaen, roedd rhaid iddyn nhw wynebu’r canlyniadau. Dechreuon nhw heneiddio, ac yn y pen draw gwnaethon nhw farw.—Gen. 1:28, 29; 2:8, 9, 16-18; 3:1-6, 17-19, 24; 5:5.
4. Pam mae Jehofa’n casáu pechod ac yn ein helpu ni i frwydro yn ei erbyn? (Rhufeiniaid 8:20, 21)
4 Mae Jehofa wedi rhoi’r hanes trist hwnnw yn y Beibl er mwyn inni ddeall rhywbeth pwysig. Mae’n ein helpu ni i ddeall pam mae’n casáu pechod gymaint. Mae pechod yn ein gwahanu ni oddi wrth ein Tad ac yn arwain at farwolaeth. (Esei. 59:2) Satan ydy’r un a ddechreuodd y problemau hyn i gyd oherwydd ei fod yn caru pechod ac yn ei hyrwyddo. Efallai fod y digwyddiadau yng ngardd Eden wedi gwneud iddo feddwl ei fod wedi llwyddo. Ond, doedd ef ddim yn deall llawnder cariad Jehofa. Ni wnaeth Duw newid ei bwrpas ar gyfer disgynyddion Adda ac Efa. Mae’n caru’r holl deulu dynol, felly fe roddodd obaith i bawb heb oedi. (Darllen Rhufeiniaid 8:20, 21.) Roedd Jehofa’n gwybod y byddai rhai o’r disgynyddion hynny yn ei garu ef ac yn dibynnu arno i frwydro yn erbyn pechod. Fel eu Tad a’u creawdwr, rhoddodd Jehofa ffordd iddyn nhw i nesáu ato ac i gael eu rhyddhau o bechod. Sut byddai Jehofa’n gwneud hynny?
5. Pryd gwnaeth gobaith wawrio ar gyfer dynolryw bechadurus? Esbonia. (Genesis 3:15)
5 Darllen Genesis 3:15. Gwnaeth gobaith wawrio pan ddywedodd Jehofa y byddai Satan yn cael ei ddinistrio ac y byddai “disgynnydd” yn achub y ddynoliaeth. Yn y pen draw, bydd y disgynnydd hwnnw yn dinistrio Satan a dad-wneud yr holl broblemau a ddechreuodd yn Eden. (1 Ioan 3:8) Ond, byddai’r disgynnydd yn dioddef yn y broses. Byddai Satan yn ei daro ac yn achosi ei farwolaeth. Byddai hynny’n brifo Jehofa i’r byw, ond roedd yn barod i adael iddo ef a’i ddisgynnydd ddioddef er mwyn achub pobl o bechod a marwolaeth.
SUT GWNAETH POBL BECHADURUS BLESIO JEHOFA YN ADEG Y BEIBL?
6. Beth wnaeth rhai dynion ffyddlon, fel Abel a Noa, er mwyn nesáu at Jehofa?
6 Yn raddol dros y canrifoedd, dangosodd Jehofa sut gallai pobl bechadurus nesáu ato. Abel, ail fab Adda ac Efa, oedd y person cyntaf i roi ffydd yn Jehofa ar ôl y gwrthryfel yn Eden. Allan o gariad tuag at Jehofa, fe wnaeth geisio ei blesio a nesáu ato drwy aberthu rhywbeth iddo. Roedd Abel yn fugail, felly cymerodd rai o’i ŵyn ifanc, eu lladd nhw, a’u hoffrymu nhw. Beth oedd ymateb Duw? Roedd “Abel a’i offrwm yn plesio Jehofa.” (Gen. 4:4) Roedd Jehofa’n hapus gydag aberthau tebyg gan bobl eraill oedd yn ei garu a’i drystio—fel Noa. (Gen. 8:20, 21) Drwy dderbyn aberthau o’r fath, dangosodd Jehofa fod pobl bechadurus yn gallu ei blesio a nesáu ato. b
7. Beth rydyn ni’n ei ddysgu o’r hyn roedd Abraham yn fodlon ei wneud?
7 Gofynnodd Jehofa i Abraham wneud rhywbeth hynod o anodd—aberthu ei fab annwyl, Isaac. Er bod gan Abraham ffydd gref, roedd hyn yn aseiniad poenus ofnadwy. Er hynny, roedd yn barod i’w wneud. Ond ar y foment olaf, camodd Duw i mewn. Eto, mae’r hanes hwn yn dysgu gwers bwysig inni—bod Jehofa’n caru pobl gymaint nes iddo fod yn barod i aberthu ei Fab annwyl ei hun.—Gen. 22:1-18.
8. Beth rydyn ni’n ei ddysgu o’r aberthau o dan y Gyfraith? (Lefiticus 4:27-29; 17:11)
8 Canrifoedd wedyn, roedd y gyfraith a gafodd ei rhoi i genedl Israel yn gofyn am lawer o aberthau er mwyn i bobl Dduw dderbyn maddeuant am eu pechodau. (Darllen Lefiticus 4:27-29; 17:11.) Roedd yr aberthau hynny yn rhagfynegi aberth mwy, un a fyddai’n achub y ddynoliaeth o bechod. Dywedodd Duw wrth ei broffwydi am ysgrifennu am y disgynnydd addawedig. Byddai’r disgynnydd yn Fab arbennig i Dduw, a fyddai’n gorfod dioddef a chael ei ladd fel oen yn cael ei aberthu. (Esei. 53:1-12) Dychmyga hyn, byddai Jehofa’n trefnu i’w Fab annwyl gael ei aberthu er mwyn achub y ddynoliaeth—gan dy gynnwys di—rhag pechod a marwolaeth!
SUT GWNAETH IESU EIN HACHUB NI?
9. Beth ddywedodd Ioan Fedyddiwr am Iesu? (Hebreaid 9:22; 10:1-4, 12)
9 Yn y ganrif gyntaf, fe wnaeth Ioan Fedyddiwr weld Iesu o Nasareth a dweud: “Dyma Oen Duw sy’n cymryd pechod y byd i ffwrdd!” (Ioan 1:29) Roedd y geiriau ysbrydoledig hyn yn dangos mai Iesu oedd y disgynnydd a fyddai’n aberthu ei fywyd fel roedd Duw wedi addo. O’r diwedd, roedd disgynnydd Jehofa wedi dod i achub y ddynoliaeth o bechod—unwaith ac am byth.—Darllen Hebreaid 9:22; 10:1-4, 12.
10. Sut dangosodd Iesu ei fod wedi “dod i alw” pechaduriaid?
10 Fe wnaeth Iesu ganolbwyntio yn enwedig ar bobl oedd wedi eu llethu gan bechod a’u gwahodd nhw i’w ddilyn. Roedd yn gwybod mai pechod oedd wrth wraidd holl broblemau’r ddynoliaeth. Fe eglurodd: “Does dim angen meddyg ar bobl iach, ond mae angen un ar y rhai sy’n sâl.” Ychwanegodd: “Rydw i wedi dod i alw, nid pobl gyfiawn, ond pechaduriaid.” (Math. 9:12, 13) Dyna’n union a wnaeth Iesu. Mewn ffordd gynnes, fe wnaeth faddau pechodau’r ddynes a olchodd ei draed â’i dagrau. (Luc 7:37-50) Fe ddysgodd gwirioneddau pwysig i’r ddynes o Samaria er ei fod yn gwybod am ei bywyd anfoesol. (Ioan 4:7, 17-19, 25, 26) Roedd Iesu hyd yn oed yn gallu dad-wneud y canlyniad gwaethaf sy’n dod o bechod—marwolaeth. Sut? Oherwydd bod Jehofa wedi ei alluogi i atgyfodi pobl o bob math.—Math. 11:5.
11. Pam cafodd pobl bechadurus eu denu at Iesu?
11 Gallwn ni ddeall felly pam roedd pobl a oedd yn gwneud pethau drwg yn cael eu denu at Iesu. Roedd yn cydymdeimlo â nhw ac roedd yn garedig. Roedden nhw’n teimlo’n gyfforddus yn ei gwmni. (Luc 15:1, 2) Fe wnaeth Iesu ganmol a gwobrwyo’r rhai hyn am roi ffydd ynddo. (Luc 19:1-10) Drwy wneud hyn, roedd yn adlewyrchu trugaredd ei Dad yn berffaith. (Ioan 14:9) Mewn gair a gweithred, fe ddangosodd fod ei Dad yn caru pobl ac eisiau eu helpu nhw i ennill y frwydr yn erbyn pechod. Roedd Iesu’n helpu pobl i gael yr awydd i newid eu ffyrdd a’i ddilyn ef.—Luc 5:27, 28.
12. Beth ragfynegodd Iesu am ei farwolaeth ei hun?
12 Roedd Iesu’n gwybod beth oedd o’i flaen. Dywedodd wrth ei ddilynwyr mwy nag unwaith y byddai’n cael ei fradychu a’i ladd ar stanc. (Math. 17:22; 20:18, 19) Roedd yn gwybod y byddai ei aberth yn cymryd pechod y byd i ffwrdd, fel roedd Ioan a’r proffwydi wedi rhagfynegi. Dywedodd Iesu y byddai’n denu “pob math o ddynion” ato’i hun ar ôl iddo farw. (Ioan 12:32) Gallai unrhyw un a oedd yn rhoi ffydd yn Iesu ac yn ceisio ei efelychu blesio Jehofa. Drwy wneud hyn, byddan nhw’n cael eu “rhyddhau o bechod.” (Rhuf. 6:14, 18, 22; Ioan 8:32) Yn ddewr, roedd Iesu’n barod i ddioddef marwolaeth boenus er mwyn ein hachub ni.—Ioan 10:17, 18.
13. Sut gwnaeth Iesu farw, a beth mae hynny’n ei ddysgu inni am Jehofa? (Gweler hefyd y llun.)
13 Cafodd Iesu ei fradychu. Yna, gwnaeth ei elynion ei arestio, dweud pethau cas, a’i gyhuddo o bethau doedd ef ddim wedi eu gwneud. Wedyn, gwnaethon nhw ei gondemnio i farwolaeth a’i arteithio. Nesaf, cafodd ei gymryd gan filwyr a’i hoelio ar stanc dienyddio i’w ladd. Roedd Iesu yn ffyddlon drwy ei holl ddioddefaint, ond roedd Jehofa’n dioddef yn fwy byth wrth weld ei Fab mewn poen. Er bod ganddo’r pŵer i stopio’r dioddefaint, roedd rhaid iddo ei ddal ei hun yn ôl. Pam? Beth fyddai’n gwneud i dad cariadus wneud hynny? Mewn gair, cariad. Dywedodd Iesu: “Gwnaeth Duw garu’r byd gymaint nes iddo roi ei unig-anedig Fab, er mwyn i bawb sy’n ymarfer ffydd ynddo beidio â chael eu dinistrio ond cael bywyd tragwyddol.”—Ioan 3:16.
14. Beth rwyt ti’n ei ddysgu o aberth Iesu?
14 Y dystiolaeth fwyaf o faint mae Jehofa’n caru disgynyddion Adda ac Efa yw aberth Iesu. Mae’n dangos cymaint mae Jehofa’n dy garu di. Fe aeth mor bell â dioddef poen tu hwnt i’r dychymyg er mwyn dy achub di o bechod a marwolaeth. (1 Ioan 4:9, 10) Yn wir, mae’n awyddus i helpu pob un ohonon ni i frwydro yn erbyn pechod—ac i ennill!
15. Beth mae’n rhaid inni ei wneud er mwyn elwa o aberth Iesu?
15 Gan fod Duw wedi rhoi ei unig-anedig Fab fel aberth, mae’n bosib inni gael maddeuant am ein pechodau. Ond er mwyn derbyn maddeuant Duw, beth mae’n rhaid inni ei wneud? Fe wnaeth Ioan Fedyddiwr ac yna Iesu Grist ei hun roi’r ateb: “Edifarhewch, oherwydd y mae Teyrnas y nefoedd wedi dod yn agos.” (Math. 3:1, 2; 4:17) Felly mae’n rhaid edifarhau er mwyn inni frwydro yn erbyn pechod a nesáu at ein Tad cariadus. Ond beth mae’n ei olygu i edifarhau, a sut mae hynny’n ein helpu ni i frwydro yn erbyn pechod? Bydd yr erthygl astudio nesaf yn ateb y cwestiwn hwnnw.
CÂN 18 Gwerthfawrogi’r Pridwerth
a ESBONIAD: Yn y Beibl, gall y gair “pechod” gyfeirio at weithredoedd drwg, hynny ydy, methu byw yn ôl safonau moesol Jehofa. Ond gall y gair “pechod” hefyd olygu’r cyflwr amherffaith, pechadurus, rydyn ni wedi ei etifeddu gan Adda. Dyna pam rydyn ni’n marw—oherwydd y pechod rydyn ni i gyd wedi ei etifeddu.
b Roedd Jehofa’n gallu derbyn aberthau gan yr holl rai ffyddlon hynny oherwydd iddo wybod y byddai Iesu yn y dyfodol yn aberthu ei fywyd i achub pawb yn gyfan gwbl.—Rhuf. 3:25.