ERTHYGL ASTUDIO 32
CÂN 44 Gweddi’r Un Mewn Angen
Mae Jehofa’n Dymuno i Bawb Edifarhau
“Dydy Jehofa ddim yn . . . dymuno i unrhyw un gael ei ddinistrio ond mae’n dymuno i bawb gael cyfle i edifarhau.”—2 PEDR 3:9.
PWRPAS
I ddeall beth mae’n ei olygu i edifarhau, pam mae’n bwysig, a sut mae Jehofa wedi helpu pobl o bob math i edifarhau.
1. Beth mae’n ei olygu i edifarhau?
OS YDYN ni’n gwneud rhywbeth drwg, mae’n hanfodol ein bod ni’n edifarhau. Yn y Beibl, mae person sy’n edifarhau yn newid ei feddwl am ei ymddygiad, yn stopio gwneud y peth drwg, ac yn benderfynol o beidio â’i wneud eto.—Gweler Geirfa, “Edifeirwch.”
2. Pam mae angen inni i gyd ddysgu am edifeirwch? (Nehemeia 8:9-11)
2 Mae angen i bawb ddysgu am edifeirwch. Pam? Oherwydd ein bod ni’n pechu bob dydd. Fel disgynyddion Adda ac Efa, mae pob un ohonon ni wedi etifeddu pechod a marwolaeth. (Rhuf. 3:23; 5:12) Does neb yn gallu dianc rhagddyn nhw. Roedd hyd yn oed pobl ffyddlon, fel yr apostol Paul, yn gorfod brwydro yn erbyn pechod. (Rhuf. 7:21-24) Ydy hynny’n golygu byddwn ni’n teimlo’n ddigalon drwy’r adeg oherwydd ein pechodau? Nac ydy, mae Jehofa’n drugarog ac eisiau inni fod yn hapus. Ystyria beth ddigwyddodd i’r Iddewon yn nyddiau Nehemeia. (Darllen Nehemeia 8:9-11.) Doedd Jehofa ddim eisiau iddyn nhw gael eu llethu gan dristwch oherwydd y pethau drwg roedden nhw wedi eu gwneud yn y gorffennol, roedd eisiau iddyn nhw fod yn hapus yn eu haddoliad. Mae Jehofa’n gwybod bod edifeirwch yn arwain at hapusrwydd. Felly, mae’n ein dysgu ni am edifeirwch. Os ydyn ni’n edifarhau am ein pechodau, gallwn ni fod yn hyderus bydd ein Tad trugarog yn maddau inni.
3. Beth byddwn ni’n ei ystyried yn yr erthygl hon?
3 Bydd yr erthygl hon yn dysgu tri pheth am edifeirwch inni. Yn gyntaf, byddwn ni’n gweld beth ddysgodd Jehofa i’r Israeliaid am edifeirwch. Yna, byddwn ni’n canolbwyntio ar sut mae Jehofa wedi ceisio helpu pechaduriaid i edifarhau. Ac yn olaf, byddwn ni’n trafod beth ddysgodd Iesu i’w ddilynwyr am edifeirwch.
BETH DDYSGODD JEHOFA I’R ISRAELIAID AM EDIFEIRWCH?
4. Beth ddysgodd Jehofa i’r Israeliaid am edifeirwch?
4 Pan ffurfiodd Jehofa genedl Israel, fe wnaeth gyfamod, neu gytundeb, ffurfiol â nhw. Petasen nhw’n cadw ei gyfreithiau, fe fyddai ef yn eu hamddiffyn nhw a’u bendithio nhw. Ynglŷn â’r cyfreithiau hynny, fe ddywedodd: “Dydy beth dw i’n ei orchymyn i chi heddiw ddim yn anodd i’w ddeall, nac yn amhosib i’w gyrraedd.” (Deut. 30:11, 16) Ond, petasen nhw’n gwrthryfela—er enghraifft gan addoli duwiau eraill—fe fyddai ef yn stopio eu hamddiffyn nhw a byddan nhw’n dioddef. Ond, doedd hynny ddim yn golygu bod Jehofa wedi cefnu arnyn nhw’n llwyr. Roedden nhw’n gallu “troi’n ôl at yr ARGLWYDD” a “bod yn ufudd iddo.” (Deut. 30:1-3, 17-20) Mewn geiriau eraill, roedden nhw’n gallu edifarhau. Petasen nhw’n gwneud hynny, byddai Jehofa’n nesáu atyn nhw ac yn eu bendithio nhw eto.
5. Sut dangosodd Jehofa nad oedd wedi cefnu ar ei bobl? (2 Brenhinoedd 17:13, 14)
5 Gwnaeth pobl Jehofa wrthryfela yn ei erbyn dro ar ôl tro. Yn ogystal ag addoli eilunod, fe wnaethon nhw bethau dychrynllyd eraill a dioddef o ganlyniad. Ond, ni wnaeth Jehofa stopio ceisio helpu ei bobl. Fe anfonodd ei broffwydi eto ac eto i annog ei bobl i edifarhau a throi’n ôl ato.—Darllen 2 Brenhinoedd 17:13, 14.
6. Sut defnyddiodd Jehofa ei broffwydi i ddangos i’w bobl y pwysigrwydd o edifarhau? (Gweler hefyd y llun.)
6 Anfonodd Jehofa ei broffwydi yn aml i rybuddio ei bobl a’u cywiro nhw. Er enghraifft, dywedodd Duw trwy Jeremeia: “Tro yn ôl ata i, Israel anffyddlon! . . . Dw i ddim yn mynd i edrych yn flin arnat ti o hyn ymlaen. Dw i’n Dduw trugarog! Fydda i ddim yn dal dig am byth. Dim ond i ti gyfaddef dy fai—cyfaddef dy fod wedi gwrthryfela yn erbyn yr ARGLWYDD.” (Jer. 3:12, 13) Fe ddefnyddiodd Joel i ddweud: “Trowch yn ôl ata i o ddifri.” (Joel 2:12, 13) Dywedodd Jehofa wrth Eseia am fynegi: “Byddwch yn lân! Ewch â’r pethau drwg dych chi’n eu gwneud allan o’m golwg i! Stopiwch wneud drwg.” (Esei. 1:16-19) A derbyniodd Eseciel neges gan Jehofa i ddweud: “Ydw i’n mwynhau gweld pobl ddrwg yn marw? . . . Wrth gwrs ddim! Byddai’n well gen i eu gweld nhw’n troi cefn ar yr holl ddrwg a chael byw. Dw i ddim yn mwynhau gweld unrhyw un yn marw, . . . felly trowch gefn ar y cwbl, a cewch fyw!” (Esec. 18:23, 32) Mae gweld pobl yn edifarhau yn dod â phleser mawr i Jehofa oherwydd ei fod eisiau iddyn nhw fyw am byth! Felly, dydy Jehofa ddim aros i rywun newid ac yna’n cynnig help. Nawr, gawn ni edrych ar rai enghreifftiau eraill o hyn.
7. Beth ddysgodd Jehofa i’w bobl drwy esiampl Hosea a’i wraig?
7 Sylwa ar beth ddysgodd Jehofa i’w bobl gan ddefnyddio esiampl go iawn—Gomer, gwraig y proffwyd Hosea. Ar ôl iddi hi odinebu, fe wnaeth hi adael Hosea am ddynion eraill. A oedd hi wedi mynd yn rhy bell i dderbyn help? Gall Jehofa ddarllen calonnau, ac fe ddywedodd wrth Hosea: “Dos, a dangos gariad at dy wraig eto, er bod ganddi gariad arall a’i bod yn anffyddlon i ti. Dyna’n union fel mae’r ARGLWYDD yn caru pobl Israel, er eu bod nhw’n troi at eilun-dduwiau.” (Hos. 3:1; Diar. 16:2) Sylwa fod gwraig Hosea yn dal i bechu’n ddifrifol. Ond, dywedodd Jehofa wrth Hosea am gynnig maddeuant iddi a’i chymryd hi’n ôl fel gwraig iddo. a Dyna sut roedd Jehofa’n teimlo am ei bobl wrthryfelgar. Er eu bod nhw’n cyflawni pob math o bechodau ofnadwy, roedd yn dal i’w caru nhw ac roedd yn ceisio eu helpu nhw i edifarhau a newid eu ffyrdd. A ydy’r esiampl hon yn awgrymu y bydd Jehofa, yr un “sy’n profi’r galon,” yn estyn allan i unigolyn sy’n dal i bechu’n ddifrifol a cheisio ei helpu i edifarhau? (Diar. 17:3) Gawn ni weld.
SUT MAE JEHOFA’N HELPU PECHADURIAID I EDIFARHAU?
8. Sut gwnaeth Jehofa geisio helpu Cain i edifarhau? (Genesis 4:3-7) (Gweler hefyd y llun.)
8 Cain oedd mab cyntaf Adda ac Efa. Fe etifeddodd y tueddiad i bechu oddi wrth ei rieni. Hefyd, mae’r Beibl yn dweud bod “ei weithredoedd ei hun yn ddrwg.” (1 Ioan 3:12) Efallai dyna pam “doedd Cain a’i offrwm ddim yn [plesio Jehofa] o gwbl.” Yn hytrach na newid ei ffyrdd, “dyma Cain yn gwylltio’n lân ac yn digalonni.” Beth wnaeth Jehofa nesaf? Siarad â Cain. (Darllen Genesis 4:3-7.) Sylwa fod Jehofa wedi rhesymu’n garedig â Cain, rhoi gobaith iddo, a’i rybuddio yn erbyn canlyniadau pechod. Yn drist, ni wnaeth Cain wrando na gadael i Jehofa ei helpu i edifarhau. Ar ôl cael ymateb negyddol, a wnaeth Jehofa stopio ceisio helpu pechaduriaid eraill i edifarhau? Ddim o gwbl!
9. Sut gwnaeth Jehofa helpu Dafydd i edifarhau?
9 Roedd y Brenin Dafydd yn annwyl iawn i Jehofa, ac fe wnaeth ei alw’n “ddyn sy’n plesio fy nghalon.” (Act. 13:22) Ond fe wnaeth Dafydd bechu’n ddifrifol a gwneud pethau fel godinebu a llofruddio. Yn ôl cyfraith Moses, roedd Dafydd yn haeddu marw. (Lef. 20:10; Num. 35:31) Ond, fe wnaeth Jehofa ymyrryd. b Fe anfonodd ei broffwyd Nathan i weld y brenin er nad oedd Dafydd wedi dangos unrhyw arwydd o edifeirwch. Defnyddiodd Nathan eglureb i gyffwrdd â chalon Dafydd. Wrth sylweddoli ei fod wedi brifo Jehofa, fe wnaeth Dafydd edifarhau. (2 Sam. 12:1-14) Fe ysgrifennodd salm i fynegi pa mor sori oedd ef. (Salm 51, uwchysgrif) Mae’r salm hon wedi cysuro llawer o bechaduriaid a’u cymell nhw i edifarhau. Onid ydyn ni’n ddiolchgar bod Jehofa wedi helpu Dafydd i edifarhau?
10. Sut rwyt ti’n teimlo am y ffordd amyneddgar a maddeugar y mae Jehofa’n delio â phobl bechadurus?
10 Mae Jehofa’n casáu pechod yn gyfan gwbl. (Salm 5:4, 5) Ond, mae’n gwybod ein bod ni i gyd yn bechaduriaid, ac allan o gariad, mae eisiau ein helpu ni i fwydro yn erbyn pechod. Mae’n wastad yn ceisio helpu hyd yn oed y pechaduriaid gwaethaf i edifarhau a nesáu ato. Mae hynny’n beth cysurus iawn! Wrth inni fyfyrio ar amynedd a maddeuant Jehofa, mae’n ein gwneud ni’n benderfynol o aros yn ffyddlon iddo ac i edifarhau yn gyflym pan ydyn ni’n pechu. Nawr, byddwn ni’n ystyried beth ddysgodd Iesu i’w ddisgyblion am edifeirwch.
BETH DDYSGODD IESU I’W DDILYNWYR AM EDIFEIRWCH?
11-12. Sut dangosodd Iesu i’w ddilynwyr fod ei Dad yn barod i faddau? (Gweler y llun.)
11 Yn y ganrif gyntaf OG, roedd yr amser wedi dod i’r Meseia gyrraedd. Fel dangosodd yr erthygl flaenorol, fe wnaeth Jehofa ddefnyddio Ioan Fedyddiwr ac Iesu Grist i ddysgu’r bobl am bwysigrwydd edifeirwch.—Math. 3:1, 2; 4:17.
12 Trwy gydol ei weinidogaeth, dysgodd Iesu i’r bobl fod ei Dad yn barod i faddau. Dangosodd Iesu hyn mewn ffordd bwerus iawn yn nameg y mab colledig. Dewisodd y dyn ifanc hwn fyw bywyd llawn pechod, ond mewn amser fe “ddaeth ato’i hun” a mynd adref. Beth oedd ymateb y tad? Dywedodd Iesu: “Tra oedd ef [y mab] yn dal yn bell i ffwrdd, gwnaeth ei dad ei weld ac roedd yn llawn trueni, a dyma’n rhedeg ato ac yn ei gofleidio ac yn ei gusanu’n dyner.” Roedd y mab yn bwriadu gofyn i’w dad i fod yn un o’i weision. Ond fe wnaeth y tad ei alw “fy mab” a’i gymryd yn ôl i’r teulu. Dywedodd y tad: “Roedd ar goll ac mae wedi cael ei ddarganfod” (Luc 15:11-32) Pan oedd Iesu yn y nefoedd cyn iddo ddod i’r ddaear, fe fyddai wedi gweld trugaredd ei Dad tuag at nifer di-rif o bechaduriaid. Mae’r ddameg hon yn wir yn ein cysuro ni ac yn ein helpu ni i weld tosturi ein Tad, Jehofa.
13-14. Beth ddysgodd yr apostol Pedr am edifeirwch, a beth ddywedodd wrth eraill am edifeirwch? (Gweler hefyd y llun.)
13 Dysgodd yr apostol Pedr lawer oddi wrth Iesu am edifeirwch a maddeuant. Roedd angen i Iesu faddau i Pedr yn aml, ac fe wnaeth Iesu hynny’n hael. Er enghraifft, ar ôl i Pedr wadu Iesu dair gwaith, roedd ei euogrwydd yn teimlo’n ormod iddo. (Math. 26:34, 35, 69-75) Ond ar ôl i Iesu gael ei atgyfodi, fe ymddangosodd i Pedr—mewn preifat yn ôl pob tebyg. (Luc 24:33, 34; 1 Cor. 15:3-5) Mae’n rhaid bod Iesu wedi maddau i’r apostol edifar a’i gysuro ar yr achlysur hwnnw.—Gweler Marc 16:7 a’r nodyn astudio “and Peter.”
14 Oherwydd ei brofiad ei hun, roedd Pedr yn gallu dysgu eraill am edifeirwch a maddeuant. Ar ôl Gŵyl y Pentecost, fe wnaeth Pedr esbonio i dyrfa o Iddewon eu bod nhw wedi rhoi’r Meseia i farwolaeth. Ond, fe roddodd yr anogaeth gariadus hon: “Edifarhewch, felly, a throwch yn ôl er mwyn i’ch pechodau gael eu rhwbio allan, fel y gall tymhorau sy’n adfywio ddod oddi wrth Jehofa ei hun.” (Act. 3:14, 15, 17, 19) Dangosodd Pedr fod edifeirwch yn cymell pechaduriaid i droi’n ôl—i newid eu ffordd anghywir o feddwl ac ymddwyn—ac i geisio byw mewn ffordd sy’n plesio Duw. Dangosodd yr apostol y byddai Jehofa’n “rhwbio allan” eu pechodau fel petai, neu’n gwneud i’r pechodau ddiflannu’n llwyr. Degawdau wedyn, dywedodd Pedr am Jehofa: “Mae ef yn amyneddgar â chi, oherwydd nad yw’n dymuno i unrhyw un gael ei ddinistrio ond mae’n dymuno i bawb gael cyfle i edifarhau.” (2 Pedr 3:9) Am obaith hyfryd i Gristnogion sy’n pechu—hyd yn oed yn ddifrifol!
15-16. (a) Sut cafodd yr apostol Paul ei ddysgu am faddeuant? (1 Timotheus 1:12-15) (b) Beth byddwn ni’n ei drafod yn yr erthygl nesaf?
15 Roedd Saul o Tarsus wedi gwneud llawer o bethau ofnadwy. Fe wnaeth erlid dilynwyr Crist yn ffyrnig. Mae’n debygol bod y mwyafrif o Gristnogion yn ei ystyried fel rhywun na fyddai byth yn newid, ac na fyddai byth yn edifarhau. Ond, doedd Iesu ddim yn rhesymu fel person amherffaith. Fe welodd ef a’i Dad rinweddau da yn Saul. Dywedodd Iesu: “Mae’r dyn yma fel llestr rydw i wedi ei ddewis.” (Act. 9:15) Gwnaeth Iesu hyd yn oed ddefnyddio gwyrth i helpu Saul i edifarhau. (Act. 7:58–8:3; 9:1-9, 17-20) Ar ôl dod yn Gristion, fe wnaeth Saul—a gafodd ei alw’n Paul wedyn—fynegi ei ddiolchgarwch am drugaredd a chariad Jehofa ac Iesu. (Darllen 1 Timotheus 1:12-15.) Yn ddiolchgar, dywedodd Paul: “[Mae] Duw yn ei garedigrwydd yn ceisio dy helpu di i edifarhau.”—Rhuf. 2:4.
16 Pan glywodd Paul am anfoesoldeb difrifol a oedd yn digwydd yn y gynulleidfa yng Nghorinth, sut gwnaeth ef ymateb? Ymatebodd mewn ffordd sy’n dysgu llawer inni am ddisgyblaeth gariadus Jehofa ac am y pwysigrwydd o ddangos trugaredd. Yn yr erthygl nesaf, byddwn ni’n trafod beth ddigwyddodd yn y gynulleidfa yng Nghorinth.
CÂN 33 Bwrw Dy Faich ar Jehofa
a Roedd yr achos hwn yn un unigryw. Heddiw, dydy Jehofa ddim yn gorfodi cymar dieuog i aros yn briod os ydy ei gymar wedi godinebu. Yn gariadus, dywedodd Jehofa wrth ei Fab am esbonio bod ’na sail iddyn nhw ysgaru os ydyn nhw’n dewis gwneud hynny.—Math. 5:32; 19:9.
b Gweler yr erthygl “What Does Jehovah’s Forgiveness Mean for You?” yn rhifyn Tachwedd 15, 2012, o’r Tŵr Gwylio Saesneg, tt. 21-23, par. 3-10.