Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

ERTHYGL ASTUDIO 34

CÂN 107 Patrwm Dwyfol Gariad

Ymateb i Bechod Gyda Chariad a Thrugaredd

Ymateb i Bechod Gyda Chariad a Thrugaredd

[Mae] Duw yn ei garedigrwydd yn ceisio dy helpu di i edifarhau.”RHUF. 2:4.

PWRPAS

Sut mae’r henuriaid yn helpu’r rhai yn y gynulleidfa sydd wedi pechu’n ddifrifol.

1. Beth gall ddigwydd ar ôl i rywun bechu’n ddifrifol?

 YN YR erthygl flaenorol, gwelon ni sut ymatebodd yr apostol Paul pan wnaeth dyn yng nghynulleidfa Corinth bechu’n ddifrifol. Roedd y dyn yn ddiedifar ac roedd angen iddo gael ei roi allan o’r gynulleidfa. Ond, fel mae’r adnod sy’n thema i’r erthygl hon yn dweud, gall Duw helpu’r rhai sydd wedi pechu’n ddifrifol i edifarhau. (Rhuf. 2:4) Sut gall yr henuriaid eu helpu nhw i wneud hynny?

2-3. Beth dylen ni ei wneud os ydyn ni’n darganfod bod un o’n cyd-gredinwyr wedi pechu’n ddifrifol, a pham?

2 Os nad ydy’r henuriaid yn gwybod bod rhywun wedi pechu’n ddifrifol, ni allan nhw ei helpu. Felly beth dylen ni ei wneud os ydyn ni’n darganfod bod un o’n cyd-gredinwyr wedi pechu’n ddifrifol—y math o bechod a allai achosi iddo gael ei roi allan o’r gynulleidfa? Dylen ni ei annog i fynd at yr henuriaid am help.—Esei. 1:18; Act. 20:28; 1 Pedr 5:2.

3 Ond beth petasai’r person yn gwrthod siarad â’r henuriaid? Yna bydden ni’n hunain yn mynd at yr henuriaid i sicrhau bod y person yn cael yr help sydd ei angen. Dyna’r peth cariadus i’w wneud oherwydd dydyn ni ddim eisiau colli ein brawd na’n chwaer. Os bydd y person yn parhau i bechu, fe fydd yn gwneud mwy o niwed i’w berthynas â Jehofa. Hefyd, fe allai wneud niwed i enw da’r gynulleidfa. Felly oherwydd ein cariad at Jehofa ac at y person sydd wedi pechu, byddwn ni’n siarad â’r henuriaid, er bod hynny’n anodd ei wneud.—Salm 27:14.

SUT MAE’R HENURIAID YN HELPU’R RHAI SY’N PECHU’N DDIFRIFOL

4. Beth yw nod yr henuriaid pan maen nhw’n cyfarfod â rhywun sydd wedi pechu’n ddifrifol?

4 Pan fydd rhywun yn y gynulleidfa’n pechu’n ddifrifol, bydd y corff henuriaid yn dewis tri henuriad cymwys i ffurfio pwyllgor. a Mae angen i’r dynion hyn fod yn wylaidd ac yn ostyngedig. Er eu bod nhw’n ceisio helpu’r person i edifarhau, maen nhw’n sylweddoli na allan nhw orfodi rhywun i newid. (Deut. 30:19) Mae’r henuriaid yn cydnabod na fydd pob person yn ymateb mewn ffordd bositif fel y gwnaeth y Brenin Dafydd. (2 Sam. 12:13) Efallai bydd rhai’n dewis gwrthod gwrando ar gyngor Jehofa. (Gen. 4:​6-8) Er hynny, nod yr henuriaid ydy helpu’r person i edifarhau. Pa egwyddorion bydd yr henuriaid yn eu cofio wrth gwrdd â’r pechadur?

5. Pa agwedd dylai’r henuriaid ei dangos wrth iddyn nhw gyfarfod â’r pechadur? (2 Timotheus 2:​24-26) (Gweler hefyd y llun.)

5 Mae’r henuriaid yn gweld y pechadur fel dafad werthfawr sydd ar goll. (Luc 15:​4, 6) Felly, wrth gwrdd â’r unigolyn, fyddan nhw ddim yn ei drin yn angharedig nac yn siarad ag ef mewn ffordd gas. Hefyd fyddan nhw ddim yn meddwl mai’r unig beth sydd ei angen ydy gofyn cwestiynau a chael y ffeithiau. Yn lle hynny, byddan nhw’n dangos y rhinweddau yn 2 Timotheus 2:​24-26. (Darllen.) Bydd yr henuriaid yn parhau i fod yn addfwyn ac yn garedig wrth geisio cyffwrdd â chalon y person.

Yn union fel bugeiliaid gynt, mae’r henuriaid yn ceisio achub dafad golledig (Gweler paragraff 5)


6. Sut bydd yr henuriaid yn paratoi eu calonnau eu hunain cyn iddyn nhw gyfarfod â’r pechadur? (Rhufeiniaid 2:4)

6 Bydd yr henuriaid yn paratoi eu calonnau eu hunain. Byddan nhw’n ceisio efelychu Jehofa yn y ffordd maen nhw’n trin pechaduriaid, gan gofio geiriau Paul: “[Mae] Duw yn ei garedigrwydd yn ceisio dy helpu di i edifarhau.” (Darllen Rhufeiniaid 2:4.) Mae’n rhaid i’r henuriaid gofio mai eu prif gyfrifoldeb yw bugeilio o dan arweiniad Crist. (Esei. 11:​3, 4; Math. 18:​18-20) Cyn cwrdd â’r person, bydd y pwyllgor yn gweddïo ar Jehofa fel eu bod nhw’n gallu helpu’r person i edifarhau. Byddan nhw’n gwneud ymchwil yn yr Ysgrythurau a’n cyhoeddiadau ac yn gweddïo am ddoethineb. Byddan nhw’n ystyried cefndir y person a allai fod wedi cyfrannu at ei ffordd o feddwl, ei agwedd, a’i ymddygiad.—Diar. 20:5.

7-8. Sut mae’r henuriaid yn efelychu amynedd Jehofa pan maen nhw’n cyfarfod â rhywun sydd wedi pechu?

7 Bydd yr henuriaid yn efelychu amynedd Jehofa. Byddan nhw’n cofio sut mae Jehofa wedi ceisio helpu pechaduriaid yn y gorffennol. Er enghraifft, fe wnaeth Jehofa resymu’n amyneddgar â Cain, gan ei rybuddio am ganlyniadau pechod, a dweud y byddai’n cael ei fendithio petasai’n dewis bod yn ufudd. (Gen. 4:​6, 7) Anfonodd Jehofa y proffwyd Nathan i roi cyngor i Dafydd. Defnyddiodd Nathan eglureb a wnaeth gyffwrdd â chalon y brenin. (2 Sam. 12:​1-7) Hefyd, roedd Jehofa’n “dal ati i anfon” ei broffwydi “dro ar ôl tro” at genedl anffyddlon Israel. (Jer. 7:​24, 25) Ni wnaeth aros i’w bobl edifarhau cyn eu helpu nhw. Yn lle hynny, fe gymerodd y cam cyntaf drwy eu hannog nhw i edifarhau.

8 Mae henuriaid yn dilyn esiampl Jehofa wrth geisio helpu’r rhai sydd wedi pechu’n ddifrifol. Fel mae 2 Timotheus 4:2 yn ei ddweud, maen nhw’n rhesymu “gyda phob amynedd” wrth ddelio â chyd-grediniwr sydd wedi pechu. Mae nodyn astudio i’r adnod hon yn dweud am henuriad o’r fath: “Bydd angen iddo reoli ei deimladau, gan apelio’n amyneddgar at awydd y pechadur i wneud beth sy’n iawn. Petasai’r henuriad yn ildio i unrhyw deimlad o ddicter neu rwystredigaeth, bydd peryg iddo faglu’r pechadur neu achosi iddo gilio’n ôl.”

9-10. Sut gall yr henuriaid helpu’r pechadur i resymu ar beth sydd wedi achosi iddo bechu?

9 Bydd yr henuriaid yn ceisio deall yr amgylchiadau sydd wedi arwain at y pechod. Er enghraifft, a ydy perthynas y Cristion â Jehofa wedi gwanhau’n raddol oherwydd ei fod wedi esgeuluso ei astudiaeth bersonol a’i weinidogaeth, neu wedi methu gweddïo yn rheolaidd? A ydy ef wedi gadael i chwantau drwg ei arwain? A ydy ef wedi bod yn annoeth wrth ddewis ffrindiau neu adloniant? Sut mae’r penderfyniadau hyn wedi effeithio ar ei galon? A ydy ef yn sylweddoli sut mae ei benderfyniadau a’i ymddygiad wedi effeithio ar ei Dad, Jehofa?

10 Heb fusnesu mewn materion diangen, gall yr henuriaid ofyn cwestiynau caredig a fydd yn helpu’r unigolyn i resymu ar beth sydd wedi achosi iddo bechu. (Diar. 20:5) Hefyd gallan nhw ddefnyddio eglurebau i’w helpu i weld beth oedd yn anghywir am y pethau y mae wedi eu gwneud, fel gwnaeth Nathan gyda Dafydd. Efallai, yn y cyfarfod cyntaf gyda’r pwyllgor o henuriaid, bydd y person yn dechrau teimlo’n drist dros ei benderfyniadau a’i ffordd o feddwl a hyd yn oed edifarhau.

11. Sut gwnaeth Iesu drin pechaduriaid?

11 Bydd yr henuriaid yn ceisio efelychu Iesu. Wrth siarad â Saul o Tarsus, gofynnodd Iesu gwestiwn diddorol: “Saul, Saul, pam rwyt ti’n fy erlid i?” Roedd y cwestiwn hwnnw’n helpu Paul i sylweddoli bod ei weithredoedd yn ddrwg. (Act. 9:​3-6) Ac yn achos “y ddynes honno, Jesebel,” fe ddywedodd Iesu: “Gwnes i roi amser iddi i edifarhau.”—Dat. 2:​20, 21.

12-13. Sut gall yr henuriaid roi amser i’r pechadur i edifarhau? (Gweler hefyd y llun.)

12 Wrth efelychu Iesu, ni ddylai’r henuriaid fod yn gyflym i ddod i’r casgliad na fydd y person yn edifarhau. Efallai bydd rhai’n edifarhau yn ystod y cyfarfod cyntaf gyda’r pwyllgor, ond bydd angen mwy o amser ar eraill. Felly bydd yr henuriaid yn trefnu i gyfarfod gyda’r pechadur fwy nag unwaith. Ar ôl y cyfarfod cyntaf, efallai bydd y person yn dechrau meddwl yn ddwfn am yr hyn y mae’r henuriaid wedi ei ddweud wrtho. Efallai bydd yn gweddïo’n ostyngedig ar Jehofa. (Salm 32:5; 38:18) Felly, efallai bydd ei agwedd wedi newid erbyn y cyfarfod nesaf.

13 Er mwyn helpu’r pechadur i edifarhau, mae’r henuriaid yn dangos cydymdeimlad a charedigrwydd. Maen nhw’n gobeithio ac yn gweddïo y bydd Jehofa’n bendithio eu hymdrechion i helpu eu brawd i ddod ato’i hun ac edifarhau.—2 Tim. 2:​25, 26.

Efallai bydd yr henuriaid yn trefnu i gyfarfod gyda’r pechadur fwy nag unwaith er mwyn rhoi’r cyfle iddo i edifarhau (Gweler paragraff 12)


14. Pwy sy’n haeddu’r clod pan mae pechadur yn edifarhau?

14 Rydyn ni’n wir yn llawenhau pan fydd rhywun sydd wedi pechu yn edifarhau! (Luc 15:​7, 10) Pwy sy’n haeddu’r clod? Yr henuriaid? Cofia beth ysgrifennodd Paul am bechaduriaid: “Efallai bydd Duw yn rhoi iddyn nhw edifeirwch.” (2 Tim. 2:25) Mae nodyn astudio ar yr adnod hon yn dweud: “Mae’r clod yn mynd i Jehofa, nid i unrhyw ddyn. Ef yw’r un sy’n helpu’r pechadur i newid ei agwedd a’i ffordd o feddwl. Mae Paul yn mynd ymlaen i sôn am rai o’r canlyniadau hyfryd sy’n dod o edifeirwch, fel helpu’r pechadur i ddeall y gwir yn well, ei helpu i ddod ato’i hun, a’i alluogi i ddianc rhag magl y Diafol.—2Ti 2:26.”

15. Sut gall yr henuriaid barhau i helpu rhywun sydd wedi edifarhau?

15 Pan fydd pechadur yn edifarhau, bydd y pwyllgor yn trefnu ymweliadau bugeiliol, er mwyn rhoi’r help parhaol sydd ei angen arno i frwydro yn erbyn maglau Satan ac i wneud llwybrau syth i’w draed. (Heb. 12:​12, 13) Wrth gwrs, fydd yr henuriaid ddim yn datgelu manylion ei bechod i neb. Ond beth efallai bydd angen i’r gynulleidfa ei wybod?

“CERYDDA NHW O FLAEN PAWB”

16. Pan ddywedodd Paul yn 1 Timotheus 5:20 i geryddu “o flaen pawb,” at bwy roedd yn cyfeirio?

16 Darllen 1 Timotheus 5:20. Dywedodd Paul wrth Timotheus, a oedd hefyd yn henuriad, i geryddu pechaduriaid “o flaen pawb.” A oedd hynny’n golygu o flaen yr holl gynulleidfa? Ddim o reidrwydd. Roedd Paul yn cyfeirio at y rhai a oedd efallai’n gwybod am y pechod yn barod. Efallai eu bod nhw wedi gweld y digwyddiad neu roedd y person wedi datgelu ei bechod iddyn nhw. Byddai’r henuriaid yn gadael iddyn nhw wybod sut maen nhw wedi delio â’r mater a sut mae’r pechadur wedi cael ei gywiro.

17. Os ydy llawer yn y gynulleidfa yn gwybod am bechod difrifol neu mae’n debygol y byddan nhw’n dod i wybod amdano, pa gyhoeddiad bydd yn cael ei roi, a pham?

17 Mewn rhai achosion, bydd llawer yn y gynulleidfa yn gwybod yn barod bod rhywun wedi pechu’n ddifrifol, neu mae’n debygol y byddan nhw’n dod i wybod am y peth. Felly, bydd angen i henuriad gyhoeddi “o flaen pawb,” sef y gynulleidfa gyfan mewn sefyllfa o’r fath, fod y person wedi cael ei geryddu. Pam? Mae Paul yn ateb: “Fel rhybudd i’r gweddill” iddyn nhw beidio â phechu.

18. Sut bydd yr henuriaid yn delio â phlentyn dan oed sydd wedi pechu’n ddifrifol? (Gweler hefyd y llun.)

18 Beth petasai plentyn o dan 18 mlwydd oed, sydd wedi ei fedyddio, yn pechu’n ddifrifol? Bydd y corff henuriaid yn trefnu i ddau henuriad gwrdd â’r plentyn gyda’i rieni b Cristnogol. Bydd yr henuriaid yn gofyn beth mae’r rhieni wedi ei wneud yn barod i helpu’r plentyn i edifarhau. Os oes gan y plentyn agwedd dda, ac mae’n newid ei ffordd o feddwl a’i ymddygiad, efallai bydd y ddau henuriad yn penderfynu gadael i’r rhieni barhau i’w helpu. Wedi’r cwbl, mae Jehofa wedi rhoi’r cyfrifoldeb i rieni i gywiro eu plant yn gariadus. (Deut. 6:​6, 7; Diar. 6:20; 22:6; Eff. 6:​2-4) Ar ôl hynny, bydd yr henuriaid yn cysylltu â’r rhieni o bryd i’w gilydd i sicrhau bod y plentyn yn cael yr help sydd ei angen arno. Ond beth petasai plentyn sydd wedi cael ei fedyddio yn parhau i bechu? Os felly, bydd pwyllgor o henuriaid yn cwrdd ag ef â’i rieni Cristnogol.

Pan mae rhywun dan oed yn pechu’n ddifrifol, bydd dau henuriad yn cyfarfod ag ef a’i rieni Cristnogol neu ei warcheidwad cyfreithiol (Gweler paragraff 18)


“[MAE] JEHOFA YN FAWR EI DOSTURI A’I DRUGAREDD”

19. Sut mae’r henuriaid yn ceisio efelychu Jehofa yn y ffordd maen nhw’n trin pechaduriaid?

19 Mae gan henuriaid sy’n gwasanaethu ar bwyllgorau gyfrifoldeb o flaen Jehofa i gadw’r gynulleidfa’n lân. (1 Cor. 5:7) Maen nhw hefyd eisiau i bechaduriaid edifarhau os ydy hynny yn bosib. Felly mae henuriaid yn cadw agwedd bositif a gobeithiol. Pam? Oherwydd eu bod nhw eisiau efelychu Jehofa, sydd “yn fawr ei dosturi a’i drugaredd.” (Iago 5:11) Ystyria sut roedd yr apostol Ioan yn dangos yr un agwedd. Fe ysgrifennodd: “Fy mhlant bach, rydw i’n ysgrifennu’r pethau hyn atoch chi er mwyn ichi beidio â phechu. Ond eto, os oes rhywun yn pechu, mae gynnon ni helpwr gyda’r Tad, sef Iesu Grist, yr un cyfiawn.”—1 Ioan 2:1.

20. Beth byddwn ni’n ei ystyried yn erthygl olaf y cylchgrawn hwn?

20 Yn drist iawn, mae ’na adegau pan fydd Cristion yn gwrthod edifarhau. Os bydd hynny’n digwydd, bydd angen iddo gael ei roi allan o’r gynulleidfa. Sut mae’r henuriaid yn delio ag achosion mor ddifrifol? Byddwn ni’n ystyried yr ateb yn erthygl olaf y gyfres hon.

CÂN 103 Bugeiliaid—Dynion yn Rhoddion

a Yn y gorffennol, roedd y grwpiau hyn yn cael eu galw’n bwyllgorau barnwrol. Ond gan mai dim ond un rhan o’u gwaith ydy barnu, ni fyddwn ni’n defnyddio’r ymadrodd hwn bellach. Yn lle hynny, byddwn ni’n cyfeirio at grŵp o’r fath fel pwyllgor o henuriaid.

b Mae’r hyn sy’n cael ei ddweud am rieni hefyd yn berthnasol i warcheidwaid cyfreithiol neu eraill sydd â chyfrifoldeb rhiant dros blentyn