ERTHYGL ASTUDIO 5
“Pen Pob Gŵr yw Crist”
“Pen pob gŵr yw Crist.”—1 COR. 11:3, BCND.
CÂN 12 Mawr Dduw, Jehofa
CIPOLWG *
1. Pa ffactorau sy’n debygol o ddylanwadu ar agwedd dyn tuag at benteuluaeth?
BETH mae’r gair “penteuluaeth” yn ei olygu i ti? Mae rhai dynion yn caniatáu i draddodiad, diwylliant, neu eu cefndir teuluol ddylanwadu ar y ffordd maen nhw’n trin eu gwraig a’u plant. Sylwa beth mae Yanita, chwaer sy’n byw yn Ewrop, yn ei ddweud: “Lle dw i’n byw, mae’r syniad fod merched yn is na dynion wedi ei wreiddio’n ddwfn, yn ogystal â’r syniad y dylen nhw gael eu hystyried fel morynion.” Ac mae brawd o’r enw Luke, sy’n byw yn yr Unol Daleithiau, yn dweud, “Mae rhai tadau yn dysgu eu meibion y dylai merched gael eu gweld ac nid eu clywed, ac nad ydy eu barn yn bwysig.” Ond, dydy’r agweddau hynny ddim yn adlewyrchu’r ffordd mae Jehofa eisiau i ddynion drin eu gwragedd. (Cymhara Marc 7:13.) Sut, felly, gall dyn ddysgu bod yn benteulu da?
2. Beth sydd rhaid i benteulu ei wybod, a pham?
2 Er mwyn bod yn benteulu da, yn gyntaf mae’n rhaid i ddyn ddeall beth mae Jehofa yn ei ofyn ganddo. Mae hefyd angen iddo wybod pam sefydlodd Jehofa benteuluaeth, ac yn benodol, sut y gall efelychu esiampl Jehofa ac Iesu. Pam mae’n bwysig i ddyn wybod y pethau hyn? Am fod Jehofa wedi rhoi rhywfaint o awdurdod i bennau teuluoedd, ac mae’n disgwyl iddyn nhw ei ddefnyddio’n dda.—Luc 12:48b.
BETH YW PENTEULUAETH?
3. Beth rydyn ni’n ei ddysgu am benteuluaeth o 1 Corinthiaid 11:3?
3 Darllen 1 Corinthiaid 11:3, BCND. Mae’r adnod hon yn disgrifio’r ffordd y mae Jehofa wedi trefnu ei deulu nefol a daearol. Mae ’na ddwy elfen allweddol i benteuluaeth—awdurdod a bod yn atebol. Jehofa yw’r “pen,” neu’r awdurdod uchaf, ac mae pob un o’i blant, boed nhw’n angylion neu’n fodau dynol, yn atebol iddo. (Rhuf. 14:10; Eff. 3:14, 15) Mae Jehofa wedi rhoi awdurdod i Iesu dros y gynulleidfa, ond mae Iesu’n atebol i Jehofa am y ffordd mae’n ein trin ni. (1 Cor. 15:27) Mae Jehofa hefyd wedi rhoi awdurdod i’r gŵr dros ei wraig a’i blant, ond mae’r gŵr yn atebol i Jehofa ac Iesu am y ffordd mae’n trin ei deulu.—1 Pedr 3:7.
4. Pa awdurdod sydd gan Jehofa ac Iesu?
4 Fel Pen dros y bydysawd cyfan, mae gan Jehofa awdurdod i osod rheolau ynglŷn â sut dylai ei blant ymddwyn, ac mae’n gallu mynnu ein bod ni’n cadw’r rheolau hynny. (Esei. 33:22) Mae gan Iesu hefyd, fel pen y gynulleidfa Gristnogol, yr hawl i wneud rheolau a mynnu ein bod yn ufudd iddyn nhw.—Gal. 6:2; Col. 1:18-20.
5. Pa awdurdod sydd gan ben teulu Cristnogol, a beth yw’r cyfyngiadau ar hynny?
5 Fel Jehofa ac Iesu, mae gan ben teulu Cristnogol yr awdurdod i wneud penderfyniadau ar ran ei deulu. (Rhuf. 7:2; Eff. 6:4) Ond, mae ’na gyfyngiadau ar ei awdurdod. Er enghraifft, dylai ei reolau fod yn seiliedig ar egwyddorion Gair Duw. (Diar. 3:5, 6) A does gan benteulu ddim yr awdurdod i wneud rheolau ar gyfer pobl sydd ddim yn rhan o’i deulu. (Rhuf. 14:4) Hefyd, pan fydd ei feibion a’i ferched yn tyfu i fyny ac yn gadael y cartref, byddan nhw’n parhau i’w barchu, ond fydd ef ddim bellach yn ben arnyn nhw.—Math. 19:5.
PAM SEFYDLODD JEHOFA BENTEULUAETH?
6. Pam sefydlodd Jehofa benteuluaeth?
6 Sefydlodd Jehofa benteuluaeth allan o gariad tuag at ei deulu. Mae’n anrheg oddi wrtho. Mae penteuluaeth yn ei gwneud hi’n bosib i deulu Jehofa fod yn heddychlon ac yn drefnus. (1 Cor. 14:33, 40) Heb arweiniad clir penteuluaeth, byddai teulu Jehofa yn mynd yn anhrefnus ac yn colli eu llawenydd. Er enghraifft, fyddai neb yn gwybod pwy ddylai wneud penderfyniadau terfynol, a phwy ddylai gymryd y blaen wrth eu rhoi nhw ar waith.
7. Beth mae Effesiaid 5:25, 28 yn ei ddweud am sut mae Jehofa eisiau i ddynion drin eu gwragedd?
7 Os yw trefniant penteuluaeth Duw mor dda, pam mae ’na gymaint o ferched heddiw yn teimlo bod eu gwŷr yn eu trin yn greulon ac yn arglwyddiaethu drostyn nhw? Am fod llawer o ddynion yn anwybyddu safonau Jehofa ar gyfer y teulu ac yn dewis dilyn arferion neu draddodiadau lleol. Hwyrach eu bod nhw hefyd yn cam-drin eu gwragedd i fwydo rhyw chwant hunanol. Er enghraifft, efallai bydd gŵr yn arglwyddiaethu ar ei wraig mewn ymgais i roi hwb i’w hunan-barch, neu i brofi i eraill ei fod yn “ddyn go iawn.” Hwyrach y bydd yn rhesymu nad yw’n gallu gorfodi ei wraig i’w garu, ond mae’n gallu gwneud iddi ei ofni. A gallai ddefnyddio’r ofn hwnnw fel ffordd i’w rheoli. * Mae’r math yna o feddwl ac ymddwyn yn amlwg yn amddifadu merched o’r anrhydedd a’r parch maen nhw’n eu haeddu, ac mae’n gwbl groes i’r hyn mae Jehofa eisiau.—Darllen Effesiaid 5:25, 28.
SUT GALL DYN DDYSGU I FOD YN BENTEULU DA?
8. Sut gall dyn ddysgu i fod yn benteulu da?
8 Gall dyn ddysgu i fod yn benteulu da drwy efelychu’r ffordd mae Jehofa ac Iesu
yn defnyddio eu hawdurdod. Ystyria ddwy rinwedd mae Jehofa ac Iesu yn eu dangos, a sylwa ar sut gall penteulu ddangos y rhinweddau hynny wrth ddelio â’i wraig a’i blant.9. Sut mae Jehofa’n dangos gostyngeiddrwydd?
9 Gostyngeiddrwydd. Jehofa yw’r Person doethaf sydd; ond eto, mae’n gwrando ar farn ei weision. (Gen. 18:23, 24, 32) Mae wedi caniatáu i’r rhai o dan ei awdurdod gynnig awgrymiadau. (1 Bren. 22:19-22) Mae Jehofa’n berffaith, ond dydy ef ddim yn disgwyl perffeithrwydd gynnon ni ar hyn o bryd. Yn hytrach, mae’n helpu’r bobl amherffaith sy’n ei wasanaethu i lwyddo. (Salm 113:6, 7) Mae’r Beibl hyd yn oed yn disgrifio Jehofa fel rhywun sy’n ein “helpu” ni. (Salm 27:9; Heb. 13:6) Roedd y Brenin Dafydd yn cydnabod ei fod yn gallu cyflawni’r gwaith mawr a gafodd i’w wneud, dim ond oherwydd gostyngeiddrwydd a gofal Jehofa.—2 Sam. 22:36.
10. Sut dangosodd Iesu ostyngeiddrwydd?
10 Ystyria esiampl Iesu. Er ei fod yn Arglwydd ac yn Feistr ar ei ddisgyblion, fe olchodd eu traed. Beth yw un rheswm pam sicrhaodd Jehofa fod yr hanes hwn yn cael ei gofnodi yn y Beibl? I osod esiampl glir i bawb, gan gynnwys pennau teuluoedd. Dywedodd Iesu ei hun: “Dw i wedi rhoi esiampl i chi er mwyn i chi wneud yr un peth i’ch gilydd.” (Ioan 13:12-17) Er bod ganddo awdurdod mawr, doedd Iesu ddim yn disgwyl i eraill ei wasanaethu. Yn hytrach, fe wasanaethodd eraill.—Math. 20:28.
11. Beth gall penteulu ei ddysgu am ostyngeiddrwydd o esiampl Jehofa ac Iesu?
11 Gwersi i ni. Gall penteulu ddangos gostyngeiddrwydd mewn llawer o ffyrdd. Er enghraifft, dydy ef ddim yn disgwyl perffeithrwydd gan ei wraig a’i blant. Mae’n gwrando ar farn aelodau’r teulu, hyd yn oed pan na fyddan nhw’n cytuno ag ef. Mae Marley, sy’n byw yn yr Unol Daleithiau, yn dweud: “Dydy fy ngŵr a minnau ddim bob tro’n cytuno. Ond dw i’n teimlo fy mod i’n bwysig iddo a’i fod yn fy mharchu am ei fod yn gofyn am fy marn ac yn ei hystyried yn ofalus cyn iddo wneud penderfyniad.” Ar ben hynny, mae gŵr gostyngedig yn ddigon bodlon gwneud gwaith tŷ, hyd yn oed os yw’r
bobl yn ei gymuned yn ystyried hynny fel gwaith merched. Gall hynny fod yn her. Pam? “Yn fy ardal i,” meddai chwaer o’r enw Rachel, “os bydd gŵr yn helpu ei wraig i olchi’r llestri neu lanhau’r tŷ, bydd ei gymdogion a pherthnasau yn amau a yw’n ‘ddyn go iawn.’ Byddan nhw’n meddwl nad yw’n gallu rheoli ei wraig.” Os yw’r agwedd honno’n gyffredin yn dy ardal di, cofia fod Iesu wedi golchi traed ei ddisgyblion, er bod hynny’n cael ei ystyried yn waith caethwas. Dydy penteulu da ddim yn poeni am wneud i eraill feddwl ei fod yn bwerus neu’n bwysig, mae’n well ganddo fod ei wraig a’i blant yn hapus. Yn ogystal â gostyngeiddrwydd, pa rinwedd arall sy’n hanfodol ar gyfer penteulu da?12. Beth mae cariad yn cymell Jehofa ac Iesu i’w wneud?
12 Cariad. Dyna sy’n cymell popeth mae Jehofa’n ei wneud. (1 Ioan 4:7, 8) Mae’n dangos ei fod yn ein caru ac eisiau inni fod yn ffrind iddo drwy roi inni ei Air—y Beibl—a’i gyfundrefn. Mae’n gofalu am ein hanghenion emosiynol drwy ein sicrhau ei fod yn ein caru ni. A beth am ein hanghenion materol? Mae Jehofa yn “rhoi popeth sydd ei angen arnon ni, i ni ei fwynhau.” (1 Tim. 6:17) Pan fyddwn yn gwneud camgymeriadau, mae’n ein cywiro ni, ond dydy ef ddim yn stopio ein caru ni. Allan o gariad, trefnodd Jehofa’r pridwerth ar ein cyfer ni. Ac o ran Iesu, mae’n ein caru ni gymaint fe roddodd ei fywyd droston ni. (Ioan 3:16; 15:13) Does dim byd a all rwystro Jehofa ac Iesu rhag caru’r rhai sy’n ffyddlon iddyn nhw.—Ioan 13:1; Rhuf. 8:35, 38, 39.
13. Pam mae hi’n bwysig i benteulu ddangos cariad tuag at ei deulu? (Gweler hefyd y blwch “ Sut Gall Dyn Sydd Newydd Briodi Ennill Parch ei Wraig?”)
13 Gwersi i ni. Dylai popeth mae penteulu yn ei wneud gael ei gymell gan gariad. Pam mae hynny mor bwysig? Mae’r apostol Ioan yn ateb: “Os ydy rhywun ddim yn gallu caru Cristion arall [neu deulu] mae’n ei weld, sut mae e’n gallu caru’r 1 Ioan 4:11, 20) Bydd dyn sy’n caru ei deulu ac sydd eisiau efelychu Jehofa ac Iesu yn gofalu am anghenion ysbrydol, emosiynol, a materol ei deulu. (1 Tim. 5:8) Bydd yn hyfforddi ac yn disgyblu ei blant. Bydd hefyd yn dal ati i ddysgu i wneud penderfyniadau sy’n anrhydeddu Jehofa ac sydd er lles ei deulu. Gad inni ystyried pob un o’r gofynion hynny a gweld sut gall penteulu efelychu Jehofa ac Iesu.
Duw dydy e erioed wedi ei weld?” (YR HYN DYLAI PENTEULU EI WNEUD
14. Sut mae penteulu yn gofalu am anghenion ysbrydol ei deulu?
14 Gofalu am anghenion ysbrydol ei deulu. Fel ei Dad, roedd Iesu’n awyddus i wneud yn siŵr bod y rhai o dan ei ofal yn cael digonedd o fwyd ysbrydol. (Math. 5:3, 6; Marc 6:34) Yn yr un modd, blaenoriaeth penteulu yw gofalu am anghenion ysbrydol ei deulu. (Deut. 6:6-9) Mae’n gwneud hyn drwy sicrhau ei fod ef a’i deulu yn darllen ac yn astudio Gair Duw, yn mynychu’r cyfarfodydd, yn pregethu’r newyddion da, ac yn dal ati i feithrin eu perthynas â Jehofa.
15. Beth yw un ffordd gall penteulu ofalu am anghenion emosiynol ei deulu?
15 Gofalu am anghenion emosiynol ei deulu. Roedd Jehofa’n dweud wrth Iesu’n gwbl agored ei fod yn ei garu. (Math. 3:17) Dangosodd Iesu yn aml mewn gair a gweithred ei fod yn caru ei ddilynwyr. Yn eu tro, gwnaethon nhw fynegi eu cariad tuag ato ef hefyd. (Ioan 15:9, 12, 13; 21:16) Gall penteulu ddangos i’w wraig a’i blant ei fod yn eu caru drwy’r hyn mae’n ei wneud, fel astudio’r Beibl gyda nhw. Dylai hefyd ddweud wrthyn nhw ei fod yn eu caru ac yn eu gwerthfawrogi, a phan fo’n briodol, eu canmol nhw o flaen eraill.—Diar. 31:28, 29.
16. Beth arall dylai penteulu ei wneud, a sut gall fod yn gytbwys yn hyn o beth?
16 Gofalu am anghenion materol ei deulu. Gofalodd Jehofa am anghenion sylfaenol yr Israeliaid hyd yn oed tra oedden nhw’n cael eu cosbi am anufudd-dod. (Deut. 2:7; 29:5) Mae hefyd yn gofalu am ein hanghenion sylfaenol heddiw. (Math. 6:31-33; 7:11) Yn yr un modd, bwydodd Iesu’r rhai oedd yn ei ddilyn. (Math. 14:17-20) Gofalodd hefyd am eu hiechyd corfforol. (Math. 4:24) Er mwyn plesio Jehofa, mae’n rhaid i benteulu ofalu am anghenion materol ei deulu. Ond, mae’n rhaid iddo fod yn gytbwys yn hyn o beth. Dylai beidio ag ymgolli gymaint yn ei waith seciwlar fel ei fod yn methu gofalu’n iawn am anghenion ysbrydol ac emosiynol ei deulu.
17. Pa esiampl mae Jehofa ac Iesu yn ei gosod yn y ffordd maen nhw’n ein hyfforddi a’n disgyblu?
17 Rhoi hyfforddiant. Mae Jehofa yn ein hyfforddi a’n disgyblu er ein lles. (Heb. 12:7-9) Fel ei Dad, mae Iesu’n hyfforddi’r rhai dan ei awdurdod mewn ffordd gariadus. (Ioan 15:14, 15) Mae’n gadarn ond yn garedig. (Math. 20:24-28) Mae’n deall ein bod ni’n amherffaith ac yn gwneud camgymeriadau’n aml.—Math. 26:41.
18. Beth mae penteulu da yn ei gofio?
18 Mae penteulu sy’n efelychu Jehofa ac Iesu yn cofio nad ydy ei wraig na’i blant yn berffaith. Dydy ef ddim “yn gas” â’i wraig na’i blant. (Col. 3:19) Yn hytrach, mae’n rhoi’r egwyddor yn Galatiaid 6:1 ar waith ac yn ceisio eu cywiro “yn garedig,” gan gofio ei fod ef hefyd yn amherffaith. Fel Iesu, mae’n sylweddoli mai’r ffordd orau i ddysgu yw drwy esiampl.—1 Pedr 2:21.
19-20. Sut gall penteulu efelychu Jehofa ac Iesu wrth wneud penderfyniadau?
19 Gwneud penderfyniadau anhunanol. Mae Jehofa’n gwneud penderfyniadau sydd er lles eraill. Er enghraifft, penderfynodd greu bywyd, nid er ei les ei hun, ond am ei fod eisiau i ninnau fwynhau bywyd hefyd. Wnaeth neb orfodi Jehofa i anfon ei Fab i farw dros ein pechodau. Dewisodd wneud hynny am ei fod eisiau ein helpu ni. Gwnaeth Iesu hefyd benderfyniadau oedd yn bennaf er lles eraill. (Rhuf. 15:3) Er enghraifft, pan oedd wedi blino’n lân, penderfynodd ddysgu torf o bobl yn lle gorffwyso.—Marc 6:31-34.
20 Mae penteulu da yn gwybod mai un o’r pethau anoddaf mae’n rhaid iddo’i wneud yw gwneud penderfyniadau doeth dros ei deulu, ac mae’n cymryd y cyfrifoldeb hwnnw o ddifri. Mae’n ceisio osgoi gwneud penderfyniadau mympwyol neu ar sail ei deimladau yn unig. Yn hytrach, mae’n caniatáu i Jehofa ei hyfforddi. * (Diar. 2:6, 7) Drwy wneud hynny, bydd yn meddwl am les eraill, nid ei les ei hun.—Phil. 2:4.
21. Beth bydd yn cael ei drafod yn yr erthygl nesaf?
21 Mae Jehofa wedi rhoi aseiniad heriol i bennau teuluoedd, ac maen nhw’n atebol iddo am y ffordd maen nhw’n mynd o’i gwmpas. Ond os bydd gŵr yn ceisio dilyn esiampl Jehofa ac Iesu, fe fydd yn benteulu da. Ac os bydd ei wraig yn cyflawni ei rôl hithau, bydd y briodas yn un hapus. Sut dylai gwraig ystyried penteuluaeth, a pha heriau mae hi’n eu hwynebu? Bydd yr erthygl nesaf yn ateb y cwestiynau hynny.
CÂN 16 Moliannwch Jehofa am ei Fab Eneiniog
^ Par. 5 Pan fydd dyn yn priodi, mae’n dod yn ben ar deulu newydd. Yn yr erthygl hon, byddwn ni’n trafod beth yw penteuluaeth, pam gwnaeth Jehofa ei sefydlu, a beth gall dynion ei ddysgu o esiampl Jehofa ac Iesu. Yn ail erthygl y gyfres hon, byddwn ni’n ystyried beth gall gŵr a gwraig ei ddysgu oddi wrth Iesu ac esiamplau Beiblaidd eraill. Ac yn yr erthygl olaf, byddwn ni’n trafod penteuluaeth yn y gynulleidfa.
^ Par. 7 Mae’r syniad ei bod hi’n dderbyniol i ddyn gam-drin ei wraig, hyd yn oed yn gorfforol, weithiau wedi cael ei bortreadu mewn ffilmiau, dramâu, a hyd yn oed mewn comics. Felly gall pobl feddwl nad ydy hi’n beth drwg i ddyn arglwyddiaethu dros ei wraig.
^ Par. 20 Am fwy o wybodaeth ar wneud penderfyniadau da, gweler yr erthygl “Make Decisions That Honor God,” a gyhoeddwyd yn rhifyn Ebrill 15, 2011, y Tŵr Gwylio Saesneg, tt. 13-17.