Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

ERTHYGL ASTUDIO 6

“Pen y Wraig Yw’r Gŵr”

“Pen y Wraig Yw’r Gŵr”

“Pen y wraig yw’r gŵr.”—1 COR. 11:3, BCND.

CÂN 13 Crist, Ein Hesiampl

CIPOLWG *

1. Wrth benderfynu pwy i’w briodi, beth yw rhai cwestiynau dylai chwaer sengl eu gofyn?

MAE pob Cristion yn dod o dan benteuluaeth berffaith Iesu Grist. Ond, pan fydd merch Gristnogol yn priodi, bydd hi’n dod o dan benteuluaeth dyn amherffaith. Gall hynny fod yn her. Felly, wrth ystyried priodi brawd penodol, dylai hi ofyn iddi hi ei hun: ‘Beth sy’n dangos imi y bydd y brawd yma’n benteulu da? Ydy gweithgareddau ysbrydol yn chwarae rôl bwysig yn ei fywyd? Os ddim, beth sy’n gwneud imi feddwl y bydd yn ben ysbrydol da ar ôl inni briodi?’ Wrth gwrs, dylai chwaer hefyd ofyn iddi hi ei hun: ‘Pa rinweddau bydda i’n eu cyfrannu at y briodas? Ydw i’n amyneddgar ac yn hael? Oes gen i berthynas gryf â Jehofa?’ (Preg. 4:9, 12) Os bydd dynes yn gwneud penderfyniadau da cyn priodi, gall hyn helpu i’w phriodas fod yn un lwyddiannus a hapus.

2. Beth byddwn ni’n ei ystyried yn yr erthygl hon?

2 Mae miliynau o’n chwiorydd Cristnogol yn gosod esiampl wych o ymostwng i’w gwŷr. Maen nhw’n haeddu eu canmol! Rydyn ni wrth ein boddau i wasanaethu Jehofa ochr yn ochr â’r merched ffyddlon hyn! Yn yr erthygl hon, byddwn ni’n ystyried yr atebion i dri chwestiwn: (1) Beth yw rhai o’r heriau y mae gwragedd yn eu hwynebu? (2) Pam mae gwraig yn dewis ymostwng i’w gŵr? (3) Beth gall gwŷr a gwragedd Cristnogol ei ddysgu am barchu awdurdod o esiamplau Iesu, Abigail, a Mair; gwraig Joseff a mam Iesu?

PA HERIAU MAE GWRAGEDD CRISTNOGOL YN EU HWYNEBU?

3. Pam does ’na ddim ffasiwn beth â phriodas berffaith?

3 Mae priodas yn anrheg berffaith oddi wrth Dduw, ond mae pobl yn amherffaith. (1 Ioan 1:8) Dyna pam mae Gair Duw yn rhybuddio cyplau priod y byddan nhw’n wynebu heriau sy’n cael eu disgrifio fel “straen ofnadwy.” (1 Cor. 7:28) Byddwn ni’n trafod ychydig o bethau a all fod yn anodd i wraig.

4. Pam gallai gwraig deimlo bod ymostwng i’w gŵr yn ei gwneud hi’n is nag ef rywsut?

4 Efallai oherwydd ei chefndir, gallai gwraig deimlo bod ymostwng i’w gŵr yn ei gwneud hi’n is nag ef rywsut. “Yn fy ardal i,” meddai Marisol, sy’n byw yn yr Unol Daleithiau, “roedd merched yn clywed yn ddi-baid fod rhaid iddyn nhw fod yn gyfartal i ddynion ym mhob peth. Dw i’n gwybod bod Jehofa wedi sefydlu trefniant penteuluaeth a’i fod wedi rhoi rôl ostyngedig ond parchus i ferched. Ond mae’n her i gadw agwedd gytbwys tuag at benteuluaeth.”

5. Pa agweddau anysgrythurol sydd gan rai tuag at rôl merched?

5 Ar y llaw arall, efallai bod dynes yn briod i ddyn sy’n meddwl bod merched yn israddol i ddynion. “Yn ein hardal ni,” meddai chwaer o’r enw Ivon, sy’n byw yn Ne America, “mae dynion yn bwyta’n gyntaf a merched yn ail. Mae disgwyl i enethod ifanc goginio a glanhau, ond mae bechgyn ifanc yn cael popeth wedi ei wneud drostyn nhw gan eu mam a’u chwiorydd, ac yn cael eu galw yn ‘frenin y tŷ.’” Mae Yingling, chwaer sy’n byw yn Asia, yn dweud: “Yn fy iaith i mae ’na ddywediad sy’n awgrymu nad oes angen i ferched fod yn glyfar na chael sgiliau. Eu rôl nhw yw gwneud y gwaith tŷ i gyd, a dydyn nhw ddim yn cael mynegi eu barn i’w gwŷr.” Mae gŵr sydd wedi cael ei ddylanwadu gan y fath agweddau anghariadus ac anysgrythurol yn gwneud bywyd yn anodd i’w wraig, yn mynd yn groes i esiampl Iesu, ac yn digio Jehofa.—Eff. 5:28, 29; 1 Pedr 3:7.

6. Beth sy’n rhaid i wragedd ei wneud i gryfhau eu perthynas bersonol â Jehofa?

6 Fel y soniwyd amdano yn yr erthygl flaenorol, mae Jehofa’n disgwyl i wŷr Cristnogol ofalu am anghenion ysbrydol, emosiynol, a materol eu teulu. (1 Tim. 5:8) Ond mae’n rhaid i chwiorydd priod neilltuo amser bob dydd i ddarllen a myfyrio ar Air Duw, ac i weddïo’n daer ar Jehofa. Gall hyn fod yn her. Mae gwragedd yn brysur, felly efallai byddan nhw’n teimlo nad oes ganddyn nhw’r amser na’r egni i wneud y pethau hyn, ond mae’n hanfodol eu bod nhw. Pam? Am fod Jehofa eisiau i bob un ohonon ni feithrin perthynas bersonol ag ef.—Act. 17:27.

7. Beth bydd yn ei gwneud hi’n haws i wraig gyflawni ei haseiniad?

7 Mae’n hawdd deall sut gall ymostwng i ŵr amherffaith fod yn anodd i wraig. Ond, bydd yn haws iddi hi gyflawni ei haseiniad gan Jehofa os bydd hi’n deall ac yn derbyn y rhesymau Ysgrythurol dros barchu ei gŵr ac ufuddhau iddo.

PAM MAE GWRAIG YN DEWIS YMOSTWNG I’W GŴR?

8. Yn ôl Effesiaid 5:22-24, pam mae gwraig Gristnogol yn dewis ymostwng i’w gŵr?

8 Mae gwraig Gristnogol yn dewis ymostwng i’w gŵr oherwydd dyna beth mae Jehofa yn ei ofyn ganddi. (Darllen Effesiaid 5:22-24.) Mae hi’n trystio ei Thad nefol gan wybod ei fod yn ei charu hi ac y bydd ond yn gofyn iddi wneud rhywbeth os ydy hynny o les iddi.—Deut. 6:24; 1 Ioan 5:3.

9. Beth sy’n digwydd pan fydd chwaer Gristnogol yn parchu awdurdod ei gŵr?

9 Mae’r byd yn annog merched i anwybyddu safonau Jehofa ac i ystyried ymostwng fel rhywbeth sy’n eu bychanu. Wrth gwrs, dydy’r rhai sy’n hyrwyddo’r fath syniadau ddim yn adnabod ein Duw cariadus. Fyddai Jehofa byth yn rhoi gorchymyn i’w ferched annwyl a fyddai’n eu bychanu. Mae chwaer sy’n gweithio’n galed i gyflawni’r rôl mae Jehofa wedi ei haseinio iddi yn hyrwyddo heddwch yn ei theulu. (Salm 119:165) Mae ei gŵr yn elwa, mae hi’n elwa, ac mae’r plant yn elwa.

10. Pa wersi gallwn ni eu dysgu o sylwadau Carol?

10 Mae gwraig sy’n ymostwng i’w gŵr amherffaith yn profi ei bod yn caru ac yn parchu Jehofa, yr un a sefydlodd benteuluaeth. “Dw i’n gwybod bydd fy ngŵr yn gwneud camgymeriadau,” meddai Carol, sy’n byw yn Ne America. “Dw i hefyd yn gwybod bod y ffordd dw i’n ymateb i’r camgymeriadau hynny yn dangos faint dw i’n gwerthfawrogi fy mherthynas â Jehofa. Felly dw i’n trio parchu awdurdod fy ngŵr oherwydd fy mod i eisiau plesio fy Nhad nefol.”

11. Beth sy’n helpu chwaer o’r enw Aneese i fod yn faddeugar, a beth gallwn ni ddysgu o’i sylwadau?

11 Gall fod yn her i wraig barchu ei gŵr ac ymostwng iddo os ydy hi’n teimlo nad yw ei gŵr yn ystyried ei theimladau a’i phryderon. Ond sylwa sut mae chwaer briod o’r enw Aneese yn ymateb pan fydd hynny’n digwydd. “Dw i’n trio peidio ag ypsetio,” meddai. “Dw i’n cofio ein bod ni i gyd yn gwneud camgymeriadau. Fy nod yw maddau’n hael, fel mae Jehofa’n ei wneud. Pan fydda i’n maddau, bydda i’n adennill fy heddwch meddwl.” (Salm 86:5) Mae gwraig faddeugar yn debygol o’i chael hi’n haws ymostwng.

BETH GALLWN DDYSGU ODDI WRTH ESIAMPLAU YN Y BEIBL?

12. Pa esiamplau sydd yn y Beibl?

12 Gall rhai feddwl mai pobl wan sy’n ymostwng. Ond, mae hynny’n bell o fod yn wir. Mae’r Beibl yn cynnwys llawer o esiamplau o bobl gryf a oedd yn barod i ymostwng. Ystyria beth gallwn ni ddysgu oddi wrth Iesu, Abigail, a Mair.

13. Pam mae Iesu yn derbyn awdurdod Jehofa? Esbonia.

13 Mae Iesu o dan awdurdod Jehofa, ond nid oherwydd unrhyw ddiffyg o ran deallusrwydd neu sgil. Dim ond person deallus iawn allai ddysgu mewn ffordd mor syml a chlir â Iesu. (Ioan 7:45, 46) Parchodd Jehofa allu Iesu gymaint fel y caniataodd iddo weithio wrth Ei ochr pan greodd y bydysawd. (Diar. 8:30; Heb. 1:2-4) Ac ers i Iesu gael ei atgyfodi mae Jehofa wedi rhoi iddo “awdurdod llwyr i reoli popeth yn y nefoedd ac ar y ddaear.” (Math. 28:18) Er bod Iesu yn hynod o dalentog, mae ef yn dal i ddibynnu ar Jehofa am arweiniad. Pam? Am ei fod yn caru ei Dad.—Ioan 14:31.

14. Beth gall gwŷr ei ddysgu (a) o’r ffordd mae Jehofa yn ystyried merched? (b) o’r hyn sydd yn Diarhebion 31?

14 Beth gall gwŷr ei ddysgu. Wnaeth Jehofa ddim rhoi gwragedd o dan awdurdod eu gwŷr am ei fod yn ystyried merched yn is na dynion. Mae Jehofa ei hun wedi gwneud hynny’n amlwg drwy ddewis merched yn ogystal â dynion i gyd-reoli â Iesu. (Gal. 3:26-29) Mae Jehofa wedi dangos hyder yn ei Fab drwy roi awdurdod iddo. Mewn ffordd debyg, bydd gŵr doeth yn rhoi rhywfaint o awdurdod i’w wraig. Wrth ddisgrifio rôl gwraig fedrus, mae Gair Duw yn dweud y gall edrych ar ôl y cartref, prynu a gwerthu eiddo, a thrafod cytundebau ariannol. (Darllen Diarhebion 31:15, 16, 18.) Dydy hi ddim yn gaethferch heb unrhyw hawl i leisio ei barn. Yn hytrach, mae ei gŵr yn ymddiried ynddi ac yn gwrando ar ei syniadau. (Darllen Diarhebion 31:11, 26, 27.) Pan fydd dyn yn trin ei wraig gyda’r fath barch, bydd hi’n hapus i ymostwng iddo.

Beth gall gwragedd medrus ei ddysgu o’r ffordd mae Iesu’n ymostwng i Jehofa? (Gweler paragraff 15)

15. Beth gall gwragedd ei ddysgu o esiampl Iesu?

15 Beth gall gwragedd ei ddysgu. Er bod Iesu wedi cyflawni llawer o bethau, dydy ef ddim yn teimlo ei fod yn cael ei fychanu drwy ymostwng i arweiniad Jehofa. (1 Cor. 15:28; Phil. 2:5, 6) Yn yr un modd, fydd gwraig fedrus sy’n dilyn esiampl Iesu ddim yn teimlo’n israddol drwy ymostwng i’w gŵr. Bydd hi’n cefnogi ei gŵr nid yn unig am ei bod yn ei garu, ond yn bennaf am ei bod hi’n caru ac yn parchu Jehofa.

Ar ôl anfon bwyd at Dafydd a’i ddynion, mae Abigail yn mynd i fyny at Dafydd. Mae hi’n ymgrymu hyd y llawr ac yn ei annog i beidio â gwneud ei hun yn waed-euog drwy ddial (Gweler paragraff 16)

16. Yn ôl 1 Samuel 25:3, 23-28, pa heriau a wynebodd Abigail? (Gweler y llun ar y clawr.)

16 Roedd gan Abigail ŵr o’r enw Nabal. Roedd yn ddyn balch, hunanol, ac anniolchgar. Er hynny, wnaeth Abigail ddim cymryd y ffordd hawdd allan o’i phriodas. Gallai fod wedi cadw’n ddistaw a chaniatáu i Dafydd a’i ddynion ladd ei gŵr. Yn hytrach, cymerodd gamau ymarferol i amddiffyn Nabal ynghyd â’u teulu mawr. Dychmyga ddewrder Abigail i fynd o flaen 400 o ddynion arfog a rhesymu’n barchus â Dafydd. Roedd hi hyd yn oed yn barod i gymryd y bai am weithredoedd ei gŵr. (Darllen 1 Samuel 25:3, 23-28.) Sylweddolodd Dafydd fod Jehofa wedi defnyddio’r ddynes ddewr yma i roi cyngor iddo wnaeth ei rwystro rhag gwneud camgymeriad difrifol.

17. Beth gall gwŷr ei ddysgu o hanes Dafydd ac Abigail?

17 Beth gall gwŷr ei ddysgu. Roedd Abigail yn ddynes gall. Ac roedd Dafydd yn ddoeth i wrando ar ei chyngor. O ganlyniad, gwnaeth ef osgoi gwneud rhywbeth a fyddai wedi ei wneud yn waed-euog. Mewn ffordd debyg, bydd gŵr doeth yn ystyried barn ei wraig cyn gwneud penderfyniad pwysig. Efallai bydd ei barn hi yn ei helpu i osgoi gwneud penderfyniad annoeth.

18. Beth gall gwragedd ei ddysgu o esiampl Abigail?

18 Beth gall gwragedd ei ddysgu. Gall gwraig sy’n caru ac yn parchu Jehofa gael dylanwad da ar ei theulu, hyd yn oed os nad yw ei gŵr yn gwasanaethu Jehofa nac yn byw yn ôl Ei safonau. Fydd hi ddim yn chwilio am ffordd anysgrythurol allan o’i phriodas. Yn hytrach, drwy ymostwng a dangos parch, bydd hi’n ceisio cymell ei gŵr i ddysgu am Jehofa. (1 Pedr 3:1, 2) Ond hyd yn oed os nad yw ei gŵr yn ymateb i’w hesiampl dda, bydd Jehofa yn hapus i weld ei bod hi’n ufudd i’w gŵr ac yn ffyddlon iddo Ef.

19. O dan ba amgylchiadau fydd gwraig ddim yn ufuddhau i’w gŵr?

19 Ond, fydd gwraig Gristnogol ymostyngar ddim yn cefnogi ei gŵr os bydd yn gofyn iddi fynd yn erbyn deddfau neu egwyddorion y Beibl. Dywed er enghraifft, fod gan chwaer gymar sydd ddim yn Dyst, a bod yntau yn gofyn iddi ddweud celwydd, dwyn, neu wneud rhywbeth arall anysgrythurol. Mae pob Cristion, gan gynnwys chwiorydd priod, yn rhoi ufudd-dod i Jehofa Dduw yn gyntaf. Os bydd rhywun yn gofyn i chwaer fynd yn erbyn egwyddorion y Beibl, dylai hi wrthod, gan esbonio mewn ffordd garedig ond cadarn pam na allai wneud hynny.—Act. 5:29.

Gweler paragraff 20 *

20. Sut rydyn ni’n gwybod bod gan Mair berthynas agos a phersonol â Jehofa?

20 Roedd gan Mair berthynas agos a phersonol â Jehofa. Yn amlwg roedd hi’n adnabod yr Ysgrythurau’n dda. Mewn sgwrs gydag Elisabeth, mam Ioan Fedyddiwr, cyfeiriodd Mair fwy nag 20 o weithiau at yr Ysgrythurau Hebraeg. (Luc 1:46-55) Ac ystyria hyn: Er bod Mair wedi dyweddïo â Joseff, wnaeth angel Jehofa ddim ymddangos iddo ef ar y cychwyn. Siaradodd yr angel â Mair yn gyntaf a dweud y byddai hi’n rhoi genedigaeth i Fab Duw. (Luc 1:26-33) Roedd Jehofa’n adnabod Mair yn dda ac roedd yn sicr y byddai hi’n caru ac yn gofalu am ei Fab. A heb unrhyw amheuaeth parhaodd Mair i gael perthynas dda â Jehofa hyd yn oed ar ôl i Iesu farw a chael ei atgyfodi i’r nef.—Act. 1:14.

21. Beth gall gwŷr ei ddysgu o’r hyn mae’r Beibl yn ei ddweud am Mair?

21 Beth gall gwŷr ei ddysgu. Mae gŵr doeth yn hapus pan fydd ei wraig yn adnabod yr Ysgrythurau yn dda. Dydy ef ddim yn teimlo o dan unrhyw fygythiad gan ei wraig. Mae’n sylweddoli bod chwaer sy’n adnabod y Beibl a’i egwyddorion yn dda yn gallu bod o gymorth mawr i’w theulu. Wrth gwrs, hyd yn oed os oes gan y wraig well addysg na’i gŵr, ei gyfrifoldeb ef yw cymryd y blaen yn addoliad y teulu a gweithgareddau theocrataidd eraill.—Eff. 6:4.

Pa wersi ynglŷn ag astudio a myfyrio gall gwragedd eu dysgu oddi wrth Mair, mam Iesu? (Gweler paragraffau 22) *

22. Beth gall gwragedd ei ddysgu oddi wrth Mair?

22 Beth gall gwragedd ei ddysgu. Mae’n rhaid i ddynes ymostwng i’w gŵr, ond mae hi’n dal yn gyfrifol am ei hiechyd ysbrydol ei hun. (Gal. 6:5) Felly, mae rhaid iddi neilltuo amser ar gyfer myfyrio a’i hastudiaeth bersonol ei hun. Bydd hynny’n ei helpu i feithrin ei chariad a pharch tuag at Jehofa a chael llawenydd wrth ymostwng i’w gŵr.

23. Sut mae gwragedd ymostyngar yn helpu eu hunain, eu teulu, a’r gynulleidfa?

23 Bydd gwragedd sy’n ymostwng i’w gwŷr allan o gariad tuag at Jehofa yn fwy llawen ac yn fwy bodlon na’r rhai sy’n gwrthod trefniant penteuluaeth Jehofa. Maen nhw’n esiampl dda i ddynion a merched ifanc. Ac maen nhw’n cyfrannu at awyrgylch cynnes nid yn unig yn y teulu ond hefyd yn y gynulleidfa. (Titus 2:3-5) Heddiw, mae’r rhan fwyaf o weision ffyddlon Jehofa yn ferched. (Salm 68:11) Mae gan bob un ohonon ni, boed yn wryw neu’n fenyw, rôl bwysig yn y gynulleidfa. Bydd yr erthygl nesaf yn trafod sut gall pob un ohonon ni gyflawni’r rôl honno.

CÂN 131 ‘Yr Hyn Mae Duw Wedi’i Uno’

^ Par. 5 Mae Jehofa wedi trefnu i wraig briod ymostwng i’w gŵr. Beth mae hyn yn ei olygu? Gall gwŷr a gwragedd Cristnogol ddysgu llawer am barchu awdurdod o esiampl Iesu yn ogystal â merched yn y Beibl.

^ Par. 68 DISGRIFIAD O’R LLUN: Wrth sgwrsio ag Elisabeth, mam Ioan Fedyddiwr, roedd Mair yn gallu adrodd rhannau o’r Ysgrythurau Hebraeg o’i chof.

^ Par. 70 DISGRIFIAD O’R LLUN: Mae gwraig Gristnogol yn neilltuo amser i astudio’r Beibl er mwyn cadw ei ffydd yn gryf.