Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

ERTHYGL ASTUDIO 8

Sut i Gadw Llawenydd yn Wyneb Treialon

Sut i Gadw Llawenydd yn Wyneb Treialon

“Frodyr a chwiorydd, pan fyddwch chi’n wynebu pob math o dreialon, ystyriwch hynny’n rheswm i fod yn llawen.”—IAGO 1:2.

CÂN 111 Rhesymau Dros Ein Llawenydd

CIPOLWG *

1-2. Yn ôl Mathew 5:11, sut dylen ni ystyried treialon?

ADDAWODD Iesu i’w ddilynwyr y bydden nhw’n wirioneddol hapus. Hefyd, fe rybuddiodd y rhai oedd yn ei garu y bydden nhw’n wynebu treialon. (Math. 10:22, 23; Luc 6:20-23) Cawn lawenydd o fod yn ddisgyblion i Grist. Ond sut rydyn ni’n teimlo am y posibilrwydd o gael ein gwrthwynebu gan ein teulu, ein herlid gan y llywodraeth, neu fod cyd-weithwyr neu ffrindiau ysgol yn ein rhoi dan bwysau i wneud rhywbeth anghywir? Gall meddwl am y pethau hyn wneud inni bryderu.

2 Fel arfer dydy pobl ddim yn ystyried erledigaeth yn rhywbeth i lawenhau drosti. Eto, dyna’n union mae Gair Duw yn dweud wrthon ni i’w wneud. Er enghraifft, dywedodd Iago, yn hytrach nag anobeithio, y dylen ni lawenhau yn wyneb treialon. (Iago 1:2, 12) A dywedodd Iesu y dylen ni fod yn hapus hyd yn oed pan gawn ni ein herlid. (Darllen Mathew 5:11.) Sut gallwn ni gadw ein llawenydd er gwaethaf treialon? Gallwn ddysgu llawer o ystyried ambell sylw gan Iago yn ei lythyr at y Cristnogion cynnar. Yn gyntaf, gad inni ystyried yr heriau a wynebodd y Cristnogion hynny.

PA DREIALON A WYNEBODD Y CRISTNOGION CYNNAR?

3. Beth ddigwyddodd yn fuan ar ôl i Iago ddod yn ddisgybl i Iesu?

3 Yn fuan ar ôl i Iago, hanner brawd Iesu, ddod yn ddisgybl cafodd y Cristnogion yn Jerwsalem eu herlid. (Act. 1:14; 5:17, 18) A phan gafodd y disgybl Steffan ei lofruddio, gwnaeth llawer o Gristnogion ffoi o’r ddinas a “gwasgaru drwy Jwdea a Samaria,” ac yn y pen draw, mor bell â Cyprus ac Antiochia. (Act. 7:58–8:1; 11:19) Ni allwn ni ond dychmygu’r caledi roedd rhaid i’r disgyblion ei wynebu. Ond eto, roedden nhw’n pregethu’r newyddion da yn frwd lle bynnag oedden nhw’n mynd, a chafodd cynulleidfaoedd eu sefydlu ar draws yr Ymerodraeth Rufeinig. (1 Pedr 1:1) Ond roedd cyfnodau anoddach o lawer o’u blaenau.

4. Pa dreialon eraill roedd rhaid i’r Cristnogion cynnar eu hwynebu?

4 Roedd rhaid i’r Cristnogion cynnar wynebu amryw dreialon. Er enghraifft, tua’r flwyddyn 50 OG, gorchmynnodd yr Ymerawdwr Rhufeinig Clawdiws i bob Iddew adael Rhufain. Felly, roedd Iddewon oedd wedi dod yn Gristnogion yn gorfod gadael eu cartrefi a symud i rywle arall. (Act. 18:1-3) Tua 61 OG, ysgrifennodd yr apostol Paul fod pobl wedi sarhau llawer o’i frodyr yn gyhoeddus, eu carcharu, a dwyn eu heiddo. (Heb. 10:32-34) Ac yn debyg i bobl eraill, roedd rhaid i Gristnogion oddef tlodi a salwch.—Rhuf. 15:26; Phil. 2:25-27.

5. Pa gwestiynau byddwn ni’n eu hateb?

5 Pan ysgrifennodd Iago ei lythyr cyn y flwyddyn 62 OG, roedd yn gwybod yn iawn pa dreialon roedd ei frodyr a chwiorydd yn eu hwynebu. Ysbrydolodd Jehofa Iago i ysgrifennu at y Cristnogion hynny er mwyn rhoi cyngor ymarferol iddyn nhw a fyddai’n eu helpu i aros yn llawen yn wyneb treialon. Gad inni ystyried llythyr Iago ac ateb y cwestiynau hyn: Beth yw’r llawenydd a ysgrifennodd Iago amdano? Beth all achosi Cristion i golli ei lawenydd? A sut gall doethineb, ffydd, a dewrder ein helpu i gadw ein llawenydd, ni waeth pa dreialon a wynebwn?

BETH SY’N GWNEUD I GRISTION LAWENHAU?

Fel fflam sy’n llosgi’n gyson mewn lantern, mae’r llawenydd dwfn a gawn gan Jehofa yn llosgi’n gyson yn ein calonnau (Gweler paragraff 6)

6. Yn ôl Luc 6:22, 23, pam gall Cristion lawenhau yn wyneb treialon?

6 Gall pobl feddwl y byddan nhw’n hapus dim ond iddyn nhw gael iechyd da, digon o arian, a theulu hapus. Ond mae’r math o lawenydd ysgrifennodd Iago amdano yn rhan o ffrwyth ysbryd Duw ac nid yw’n dibynnu ar amgylchiadau rhywun. (Gal. 5:22) Gall Cristion gael llawenydd, neu fod yn wirioneddol hapus, o wybod ei fod yn plesio Jehofa ac yn dilyn esiampl Iesu. (Darllen Luc 6:22, 23; Col. 1:10, 11) Fel fflam sy’n llosgi yn niogelwch lantern, mae’r math yma o lawenydd yn llosgi yng nghalon Cristion. Dydy ef ddim yn dechrau mygu pan fydd ein hiechyd yn dirywio neu pan fydd arian yn brin. Dydy ef ddim chwaith yn cael ei ddiffodd yn llwyr pan fydd teulu neu eraill yn ein gwawdio neu yn ein gwrthwynebu. Yn hytrach na diflannu, mae’r fflam yn llosgi’n fwy llachar bob tro mae gwrthwynebwyr yn ceisio ei diffodd. Mae’r treialon a wynebwn oherwydd ein ffydd yn cadarnhau ein bod ni’n wir ddisgyblion i Grist. (Math. 10:22; 24:9; Ioan 15:20) Am reswm da felly, gallai Iago ysgrifennu: “Frodyr a chwiorydd, pan fyddwch chi’n wynebu pob math o dreialon, ystyriwch hynny’n rheswm i fod yn llawen.”—Iago 1:2.

Pam gall treialon fod yn debyg i dân a ddefnyddir i ffurfio llafn o ddur? (Gweler paragraff 7) *

7-8. Sut mae treialon yn cryfhau ein ffydd?

7 Mae Iago yn sôn am reswm arall pam mae Cristnogion yn barod i wynebu hyd yn oed y treialon mwyaf dwys. Mae’n dweud: “Pan mae’ch ffydd chi’n cael ei brofi mae hynny’n meithrin y gallu i ddal ati a pheidio rhoi’r gorau iddi.” (Iago 1:3) Gallwn gymharu treialon â thân sy’n cael ei ddefnyddio i ffurfio llafn o ddur. Pan fydd y llafn yn cael ei gynhesu a’i oeri, bydd y dur yn cryfhau. Mewn ffordd debyg, pan wynebwn dreialon mae ein ffydd yn cryfhau. Dyna pam ysgrifennodd Iago: “Mae dal ati drwy’r cwbl yn eich gwneud chi’n gryf ac aeddfed.” (Iago 1:4) Pan welwn fod ein treialon yn cryfhau ein ffydd, gallwn eu goddef â llawenydd.

8 Yn ei lythyr, gwnaeth Iago hefyd sôn am bethau a allai achosi inni golli ein llawenydd. Beth yw’r heriau hynny, a sut gallwn ni eu trechu?

TRECHU HERIAU A ALLAI DDWYN EIN LLAWENYDD

9. Pam mae angen doethineb arnon ni?

9 Yr her: Ddim yn gwybod beth i’w wneud. Pan fydd gynnon ni broblemau, rydyn ni eisiau troi at Jehofa am help i wneud penderfyniadau sy’n ei blesio, sydd er lles ein brodyr a chwiorydd, ac sy’n ein helpu i aros yn ffyddlon i Jehofa. (Jer. 10:23) Rydyn ni angen doethineb i wybod beth i’w wneud a beth dylen ni ei ddweud wrth y rhai sy’n ein gwrthwynebu. Os nad ydyn ni’n gwybod beth i’w wneud, gallwn ddigalonni oherwydd ein hamgylchiadau, ac yn fuan iawn colli ein llawenydd.

10. Yn ôl Iago 1:5 sut gallwn ni gael doethineb?

10 Yr ateb: Gofynna i Jehofa am ddoethineb. Os ydyn ni am ddal ati’n llawen dan dreialon, mae rhaid inni’n gyntaf ofyn i Jehofa am y doethineb i wneud penderfyniadau da. (Darllen Iago 1:5.) Sut dylen ni ymateb os teimlwn nad ydy Jehofa wedi ateb ein gweddi yn syth? Mae Iago’n dweud y dylen ni “ofyn i Dduw,” a dylen ni barhau i ofyn. Fydd Jehofa ddim yn syrffedu arnon ni’n gofyn am ddoethineb. Fydd ef ddim yn flin gyda ni. Mae ein Tad nefol yn “rhoi yn hael” pan fyddwn yn gweddïo arno am y doethineb i ddal ati dan dreialon. (Salm 25:12, 13) Mae’n gweld ein treialon, ac yn llawn empathi, mae’n awyddus i’n helpu. Mae hynny’n bendant yn rheswm dros lawenhau! Ond, sut mae Jehofa yn rhoi doethineb inni?

11. Beth arall dylen ni ei wneud i gael doethineb?

11 Mae Jehofa yn rhoi doethineb inni drwy ei Air. (Diar. 2:6) Er mwyn cael y doethineb hwnnw, mae’n rhaid inni astudio Gair Duw a’n cyhoeddiadau. Ond mae’n rhaid inni wneud mwy na chasglu gwybodaeth yn unig. Mae’n rhaid inni wneud yr hyn mae Duw’n ei ofyn. Ysgrifennodd Iago: “Gwnewch beth mae Duw’n ei ddweud, yn lle dim ond clywed y neges a gwneud dim wedyn.” (Iago 1:22) O roi cyngor Duw ar waith, byddwn ni’n fwy heddychlon, rhesymol, a thrugarog. (Iago 3:17) Mae’r rhinweddau hynny yn ein helpu i ddelio ag unrhyw dreial heb golli ein llawenydd.

12. Pam mae hi’n bwysig ein bod ni’n adnabod y Beibl yn dda?

12 Mae Gair Duw fel drych, sy’n ein helpu ni i weld beth sydd rhaid inni weithio arno a sut i fynd o’i chwmpas hi. (Iago 1:23-25) Er enghraifft, ar ôl astudio Gair Duw, efallai byddwn ni’n sylweddoli ein bod ni angen rheoli ein tymer. Gyda help Jehofa, dysgwn sut i fod yn addfwyn wrth ddelio â phobl neu broblemau a allai ein cynhyrfu. Bydd yr addfwynder hwnnw yn ein helpu i ymateb yn well pan fyddwn o dan bwysau. Byddwn ni’n gallu meddwl yn gliriach a gwneud penderfyniadau gwell. (Iago 3:13) Mae’n hynod o bwysig ein bod ni’n adnabod y Beibl yn dda!

13. Pam dylen ni astudio esiamplau gwahanol gymeriadau yn y Beibl?

13 Weithiau rydyn ni’n dysgu beth i’w osgoi dim ond ar ôl gwneud camgymeriad. Ond mae hynny’n ffordd anodd o ddysgu. Ffordd well o gael doethineb yw dysgu oddi wrth ein llwyddiannau, a chamgymeriadau pobl eraill. Dyna pam mae Iago yn ein hannog i edrych ar esiamplau yn y Beibl fel Abraham, Rahab, Job, ac Elias. (Iago 2:21-26; 5:10, 11, 17, 18) Roedd y gweision ffyddlon hynny yn gallu dal ati dan dreialon a allai fod wedi dwyn eu llawenydd. Mae eu dyfalbarhad yn dangos y gallwn ninnau hefyd ddal ati gyda help Jehofa.

14-15. Pam dylen ni ddatrys ein hamheuon?

14 Yr her: Amheuon heb eu datrys. O bryd i’w gilydd, efallai cawn ni drafferth deall rhywbeth yng Ngair Duw. Neu efallai na fydd Jehofa yn ateb ein gweddïau yn y ffordd roedden ni wedi gobeithio amdani. Gall hyn godi amheuon. Os byddwn ni’n anwybyddu ein hamheuon, byddan nhw’n gwanhau ein ffydd ac yn niweidio ein perthynas â Jehofa. (Iago 1:7, 8) A gallen nhw hyd yn oed wneud inni golli ein gobaith am y dyfodol.

15 Cymharodd yr apostol Paul ein gobaith am y dyfodol ag angor. (Heb. 6:19) Mae angor yn sefydlogi llong yn ystod storm ac yn ei stopio rhag cael ei gyrru ar y creigiau. Ond, bydd angor ond yn ddefnyddiol cyn belled â bod cadwyn yr angor, sy’n ei glymu wrth y llong, ddim yn torri. Fel y mae rhwd yn gwanhau cadwyn angor, mae amheuon heb eu datrys yn gwanhau ein ffydd. Yn wyneb gwrthwynebiad, gall rhywun sydd ag amheuon golli ffydd y bydd Jehofa yn cyflawni ei addewidion. Os ydyn ni’n colli ein ffydd, rydyn ni’n colli ein gobaith. Fel dywedodd Iago, mae rhywun sy’n amau “yn debyg i donnau’r môr yn cael eu taflu a’u chwipio i bobman gan y gwynt.” (Iago 1:6) Mae rhywun mewn sefyllfa felly yn annhebyg o lawenhau o gwbl!

16. Beth dylen ni ei wneud os oes gynnon ni amheuon?

16 Yr ateb: Datrysa dy amheuon; cryfha dy ffydd. Paid â chloffi rhwng dau feddwl. Yn nyddiau’r proffwyd Elias, roedd pobl Jehofa wedi dechrau amau’r hyn roedden nhw’n ei gredu. Dywedodd Elias wrthyn nhw: “Am faint mwy dych chi’n mynd i eistedd ar y ffens? Os mai’r ARGLWYDD ydy’r Duw go iawn, dilynwch e, ond os Baal ydy e, dilynwch hwnnw!” (1 Bren. 18:21) Mae’r un peth yn wir heddiw. Mae eisiau inni wneud ymchwil i brofi i’n hunain mai Jehofa ydy Duw, mai’r Beibl yw ei Air, ac mai Tystion Jehofa yw ei bobl. (1 Thes. 5:21) Bydd gwneud hynny yn chwalu ein hamheuon ac yn cryfhau ein ffydd. Os ydyn ni angen help i ddatrys ein hamheuon, gallwn ofyn i’r henuriaid. Mae’n rhaid inni wneud rhywbeth amdano os ydyn ni am gadw ein llawenydd wrth wasanaethu Jehofa!

17. Beth fydd yn digwydd os byddwn ni’n digalonni?

17 Yr her: Digalondid. Mae Gair Duw yn dweud: “Os wyt ti’n un i golli hyder dan bwysau, mae gen ti angen mwy o nerth.” (Diar. 24:10) Gall y gair Hebraeg a gyfieithir “colli hyder” olygu “digalonni.” Os byddi di’n digalonni, yn fuan iawn byddi di’n colli dy lawenydd.

18. Beth mae’n ei olygu i ddal ati?

18 Yr ateb: Dibynna ar Jehofa am y dewrder i ddal ati. Mae angen dewrder i ddal ati dan dreialon. (Iago 5:11) Mae’r ymadrodd “dal ati” a ddefnyddiodd Iago yn cyfleu’r syniad o rywun yn sefyll yn gadarn. Gallwn feddwl am filwr yn dal ei dir yn ddewr yn erbyn y gelyn, gan wrthod ildio modfedd ni waeth pa mor ffyrnig yw’r ymosodiad.

19. Beth gallwn ni ei ddysgu o esiampl yr apostol Paul?

19 Gosododd yr apostol Paul esiampl wych o ddewrder a dyfalbarhad. Ar adegau, roedd yn teimlo’n wan. Ond roedd yn gallu dal ati am ei fod yn dibynnu ar Jehofa am y nerth roedd ei angen arno. (2 Cor. 12:8-10; Phil. 4:13, BCND) Gallwn ninnau gael yr un nerth a dewrder os ydyn ni’n cydnabod yn ostyngedig ein bod ni angen help Jehofa.—Iago 4:10.

CLOSIA AT DDUW A CHADW DY LAWENYDD

20-21. O beth gallwn ni fod yn sicr?

20 Gallwn fod yn sicr nad ydy’r treialon rydyn ni’n eu hwynebu yn gosb oddi wrth Jehofa. Mae Iago yn ein sicrhau ni: “Ddylai neb ddweud pan mae’n cael ei brofi, ‘Duw sy’n fy nhemtio i.’ Dydy Duw ddim yn cael ei demtio gan ddrygioni, a dydy e ddim yn temtio neb arall chwaith.” (Iago 1:13) Pan ydyn ni’n gwbl sicr o hynny, rydyn ni’n closio yn fwy byth at ein Tad nefol cariadus.—Iago 4:8.

21 Dydy Jehofa “ddim yn amrywio,” nac yn newid. (Iago 1:17) Cefnogodd y Cristnogion cynnar drwy eu treialon, ac fe fydd yn helpu pob un ohonon ni heddiw hefyd. Gweddïa’n daer ar Jehofa am ddoethineb, ffydd, a dewrder. Fe fydd yn ateb dy weddïau. Yna gelli di fod yn sicr y bydd yn dy helpu i gadw dy lawenydd yn wyneb treialon!

CÂN 128 Dyfalbarhau i’r Diwedd

^ Par. 5 Mae llyfr Iago yn llawn cyngor ymarferol ynglŷn â delio â threialon. Mae’r erthygl hon yn trafod rhywfaint o’r cyngor hwnnw. Gall y cyngor ein helpu i ddal ati yn wyneb caledi heb golli ein llawenydd yng ngwasanaeth Jehofa.

^ Par. 59 DISGRIFIAD O’R LLUN: Mae brawd yn cael ei arestio yn ei gartref. Mae ei wraig a’i ferch yn gwylio’r heddlu yn ei gymryd i ffwrdd. Tra bod y gŵr yn y carchar, mae brodyr a chwiorydd y gynulleidfa yn ymuno â’r chwaer a’i merch ar gyfer addoliad teuluol. Mae’r ddwy yn gofyn i Jehofa yn aml am y nerth i ymdopi â’u treial. Mae Jehofa yn rhoi heddwch mewnol a dewrder iddyn nhw. O ganlyniad, mae eu ffydd yn cryfhau, sy’n eu galluogi i ddal ati â llawenydd.