Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Y Cwbl o Achos Gwên!

Y Cwbl o Achos Gwên!

ROEDD dwy ferch ifanc yn cerdded gyda’i gilydd mewn ardal fusnes yn Ninas Baguio, Ynysoedd y Philipinau. Sylwon nhw ar droli tystiolaethu cyhoeddus, ond aethon nhw ddim ato. Rhoddodd Helen, y chwaer oedd yn sefyll wrth y troli, wên fawr iddyn nhw. Aeth y merched ifanc yn eu blaenau, ond roedd gwên gynnes Helen wedi creu argraff arnyn nhw.

Yn hwyrach ymlaen, pan oedd y merched yn teithio adref ar y bws, wnaethon nhw sylwi ar arwydd jw.org mawr ar wal Neuadd y Deyrnas. Gwnaethon nhw gofio mai dyna oedd yr un llythrennau a welson nhw ar y troli llenyddiaeth yn gynharach. Aethon nhw oddi ar y bws ac edrych ar yr amserlen cyfarfodydd ar gyfer y gwahanol gynulleidfaoedd a oedd ar giât y Neuadd.

Aeth y ddwy i un o’r cyfarfodydd nesaf. A phwy welson nhw wrth gerdded i mewn i’r Neuadd? Helen! Fe wnaethon nhw ei hadnabod hi ar unwaith fel y person gyda’r wên fawr. “Wrth iddyn nhw gerdded tuag ata i,” meddai Helen, “o’n i braidd yn bryderus. O’n i’n meddwl efallai ’mod i wedi gwneud rhywbeth o’i le.” Ond esboniodd y merched wrth Helen beth oedd wedi digwydd.

Roedd y merched ifanc wedi mwynhau’r cyfarfod a’r cymdeithasu; roedden nhw’n teimlo’n gyfforddus gyda’r brodyr a chwiorydd. Wrth iddyn nhw weld eraill yn glanhau’r neuadd ar ôl y cyfarfod, gofynnon nhw a allen nhw helpu. Mae un o’r merched bellach wedi gadael y wlad, ond dechreuodd y llall fynychu’r cyfarfodydd ac astudio’r Beibl—y cwbl o achos gwên!