Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

ERTHYGL ASTUDIO 8

Ydy Dy Gyngor yn Galonogol?

Ydy Dy Gyngor yn Galonogol?

“Fel mae olew a phersawr yn gwneud rhywun yn hapus, mae cyngor ffrind yn gwneud bywyd yn felys.”—DIAR. 27:9.

CÂN 102 “Helpu’r Rhai Gwan”

CIPOLWG *

1-2. Beth gwnaeth un brawd ei ddysgu am roi cyngor?

 FLYNYDDOEDD yn ôl, roedd ’na chwaer oedd wedi bod yn colli cyfarfodydd. Felly, aeth dau henuriad ati i wneud galwad fugeiliol. Gwnaeth yr henuriad oedd yn cymryd y blaen rannu adnodau oedd yn pwysleisio pa mor bwysig oedd hi iddi fynd i’r cyfarfodydd. Roedden nhw’n meddwl eu bod nhw wedi llwyddo i annog y chwaer, ond wrth iddyn nhw adael, dyma hi’n dweud, “Does gynnoch chi ddim clem beth ydw i’n mynd trwyddo.” Roedd y brodyr wedi rhoi cyngor heb roi eu hunain yn ei hesgidiau hi, na gofyn am beth oedd yn ei phoeni hi, neu sut roedd hi’n teimlo. O ganlyniad, doedd hi ddim yn teimlo bod eu cyngor yn ddefnyddiol iawn.

2 Wrth edrych yn ôl, dywedodd yr henuriad hwnnw: “O’n i’n meddwl ei bod hi braidd yn amharchus ar y pryd. Ond wrth feddwl am y peth, des i i sylweddoli fy mod i wedi mynd yno â’r adnodau cywir yn hytrach na’r cwestiynau cywir, fel ‘Beth sy’n mynd ymlaen yn dy fywyd?’ neu ‘Sut alla i helpu?’” Roedd hynny’n wers bwerus i’r henuriad hwnnw, a bellach mae’n fugail caredig ac effeithiol.

3. Pwy yn y gynulleidfa all roi cyngor?

 3 Fel bugeiliaid, yr henuriaid sy’n gyfrifol am roi cyngor yn ôl yr angen. Ond er bod yr erthygl hon yn canolbwyntio ar yr henuriaid, weithiau bydd rhaid i eraill yn y gynulleidfa roi cyngor. Er enghraifft, pan fydd brawd neu chwaer yn rhoi cyngor i ffrind. (Salm 141:5; Diar. 25:12) Neu pan fydd chwaer hŷn yn helpu’r chwiorydd iau yn y gynulleidfa i roi’r cyngor yn Titus 2:3-5 ar waith. Ac wrth gwrs, mae rhieni’n aml angen rhoi cyngor i’w plant. Felly, gallwn ni i gyd elwa o adolygu sut gallwn ni roi cyngor ymarferol a chalonogol a fydd yn “gwneud rhywun yn hapus.”—Diar. 27:9.

4. Beth byddwn ni’n ei drafod yn yr erthygl hon?

4 Yn yr erthygl hon, byddwn ni’n trafod pedwar cwestiwn ynglŷn â rhoi cyngor: (1) Beth ydy’r cymhelliad cywir? (2) Oes ’na wir angen rhoi cyngor? (3) Pwy ddylai roi’r cyngor? (4) Sut gelli di roi cyngor effeithiol?

BETH YDY’R CYMHELLIAD CYWIR?

5. Sut gall y cymhelliad cywir helpu henuriaid i roi cyngor mewn ffordd sy’n hawdd i’w dderbyn? (1 Corinthiaid 13:4, 7)

5 Mae’r henuriaid yn caru eu brodyr a chwiorydd. Weithiau, mae’r cariad hwnnw yn eu cymell nhw i gywiro rhywun sydd ar fin gwneud camgymeriad. (Gal. 6:1) Os ydy’r un sy’n cael ei gywiro yn teimlo bod yr henuriaid yn ei garu, bydd yn fwy tebygol o dderbyn y cyngor. Felly, cyn rhoi cyngor, byddai’n syniad i’r henuriad sy’n ei roi ystyried geiriau Paul ynglŷn â beth ydy cariad. “Mae cariad yn amyneddgar. Mae cariad yn garedig. . . . Mae cariad bob amser yn amddiffyn; mae bob amser yn credu; bob amser yn gobeithio; bob amser yn dal ati.” (Darllen 1 Corinthiaid 13:4, 7.) Bydd myfyrio ar yr adnodau hynny yn helpu’r henuriad i feddwl am beth sy’n ei gymell i roi’r cyngor ac i fynd at ei frawd â’r agwedd gywir.—Rhuf. 12:10.

6. Sut gwnaeth yr apostol Paul osod esiampl wych?

6 Gwnaeth yr apostol Paul osod esiampl wych fel henuriad, oherwydd wnaeth ef ddim dal yn ôl rhag rhoi cyngor pan oedd angen, ond ar yr un pryd roedd yn gwneud hynny mewn ffordd gariadus. Er enghraifft, yn ei lythyr at y Thesaloniaid, gwnaeth Paul wneud yn siŵr ei fod yn eu canmol nhw’n gyntaf am eu ffyddlondeb, eu gwaith caled, a’u dyfalbarhad. Gwnaeth ef hefyd gydnabod bod bywyd ddim yn hawdd iddyn nhw, a’u bod nhw wedi aros yn ffyddlon er gwaethaf erledigaeth. (1 Thes. 1:3; 2 Thes. 1:4) Aeth mor bell â dweud eu bod nhw’n esiampl dda i Gristnogion eraill. (1 Thes. 1:8, 9) Meddylia gymaint byddai hynny wedi eu calonogi nhw! Llwyddodd Paul i roi cyngor effeithiol yn ei ddau lythyr at y Thesaloniaid am ei fod yn caru’r brodyr yn fawr iawn.—1 Thes. 4:1, 3-5, 11; 2 Thes. 3:11, 12.

7. Beth all wneud i rywun wrthod cyngor?

7 Gwnaeth un henuriad sylwi beth sy’n digwydd pan nad ydy cyngor yn cael ei roi yn y ffordd iawn. Dywedodd, “Weithiau does dim byd o’i le â’r cyngor ei hun, ond os mae’n cael ei roi mewn ffordd angharedig, gall hynny wneud i rywun ei wrthod.” Y wers? Mae cyngor yn llawer haws i’w dderbyn pan ydyn ni’n ei roi allan o gariad yn hytrach nag am fod rhywbeth yn mynd ar ein nerfau.

OES ’NA WIR ANGEN RHOI CYNGOR?

8. Beth ddylai henuriad ofyn iddo’i hun wrth bwyso a mesur yr angen i roi cyngor?

8 Er na ddylai henuriad ddal yn ôl rhag rhoi cyngor, ddylai ddim bod yn “rhy barod ei dafod” chwaith. (Diar. 29:20) Er mwyn osgoi hynny, gall henuriad ofyn iddo’i hun: ‘Ydw i wir angen dweud rhywbeth? Ydw i’n hollol sicr ei fod yn gwneud rhywbeth anghywir? Ydy ef wedi mynd yn groes i un o orchmynion y Beibl? Neu ydy ef jest yn mynd yn groes i fy marn bersonol i?’ Ond beth os ar ôl gofyn y cwestiynau hyn dydy’r henuriad dal ddim yn siŵr os dylai ddweud rhywbeth? Gallai ofyn i un o’r henuriaid eraill a oes sail Ysgrythurol i roi cyngor.—2 Tim. 3:16, 17.

9. Beth rydyn ni’n ei ddysgu oddi wrth Paul am sut i roi cyngor am wisg a thrwsiad? (1 Timotheus 2:9, 10)

9 Dyweda, er enghraifft, bod henuriad yn poeni am y ffordd mae rhywun yn y gynulleidfa yn gwisgo. Gallai ofyn iddo’i hun, ‘Oes ’na sail Ysgrythurol dros ddweud rhywbeth?’ Wrth gwrs, dydy’r henuriad ddim eisiau gwthio ei farn ei hun ar y person hwnnw, felly efallai bydd yn gofyn i henuriad, neu gyhoeddwr aeddfed arall, am eu barn nhw. Gyda’i gilydd, efallai bydden nhw’n ystyried cyngor Paul yn 1 Timotheus 2:9, 10 am wisg a thrwsiad. (Darllen.) Sylwa, wnaeth Paul ddim rhoi rhestr o beth dylai rhywun ei wisgo neu ddim. Yn hytrach, rhoddodd egwyddorion, gan gydnabod bod gan bob Cristion yr hawl i wisgo beth maen nhw eisiau cyn belled â’u bod nhw’n dilyn safonau’r Beibl. Felly, dylai henuriaid ystyried geiriau Paul wrth benderfynu a ddylen nhw roi cyngor neu ddim.

10. Beth fydd yn ein helpu ni i barchu penderfyniadau pobl eraill?

10 Cofia, hyd yn oed os ydy dau Gristion yn gwneud penderfyniadau gwahanol, dydy hynny ddim yn golygu bod un yn anghywir. Gall y ddau benderfyniad fod yn dderbyniol. Felly, ddylen ni ddim gwthio ein barn bersonol ar rywun arall.—Rhuf. 14:10.

PWY DDYLAI ROI’R CYNGOR?

11-12. Os oes angen rhoi cyngor, pa gwestiynau ddylai henuriad ofyn iddo’i hun, a pham?

11 Os ydy henuriad yn dod i’r casgliad bod angen rhoi cyngor, mae cwestiwn arall yn codi—pwy ddylai ei roi? Yn gyntaf, bydd rhaid i’r henuriad ystyried sefyllfa’r un sydd angen cyngor. Os mai chwaer briod neu blentyn sydd o dan sylw, byddai’n well i’r henuriad drafod y peth â’r penteulu, oherwydd efallai bydd y penteulu eisiau delio â’r mater ei hun, neu eistedd i mewn pan mae’r cyngor yn cael ei roi. * Os mai un o chwiorydd ifanc y gynulleidfa, neu chwaer sengl sydd o dan sylw, efallai byddai’n fwy priodol i chwaer hŷn roi’r cyngor, fel dywedon ni ym  mharagraff 3.

12 Bydd ystyried amgylchiadau’r unigolyn hefyd yn helpu’r henuriad i benderfynu a fyddai’n well i’r cyngor ddod o un o’r henuriaid eraill, oherwydd gall hynny wneud byd o wahaniaeth i sut mae’r cyngor yn cael ei dderbyn. Er enghraifft, efallai bydd rhywun sy’n teimlo’n ddiwerth yn ymateb yn well i henuriad sydd wedi wynebu teimladau tebyg o’r blaen. Bydd yr henuriad hwnnw yn gallu geirio pethau mewn ffordd sy’n haws i’w derbyn. Er hynny i gyd, y peth pwysicaf ydy bod y cyngor yn cael ei roi. Wedi’r cwbl, mae gan bob henuriad y cyfrifoldeb o annog ei frodyr a chwiorydd i roi cyngor ar waith.

SUT GELLI DI ROI CYNGOR EFFEITHIOL?

Pam dylai henuriaid fod yn “awyddus i wrando”? (Gweler paragraffau 13-14)

13-14. Pam mae’n bwysig bod henuriaid yn gwrando?

13 Bydda’n barod i wrando. Pan mae henuriad yn paratoi i roi cyngor, dylai ofyn iddo’i hun: ‘Beth ydw i’n ei wybod am sefyllfa fy mrawd? Beth sy’n digwydd yn ei fywyd? Ydy ef yn wynebu her dw i ddim yn gwybod amdani? Beth mae ef ei angen fwyaf ar hyn o bryd?’

14 Mae wastad yn beth da i gael y ffeithiau gan y person ei hun cyn cychwyn rhoi cyngor, oherwydd “mae ateb rhywun yn ôl cyn gwrando arno yn beth dwl i’w wneud, ac yn dangos diffyg parch.” (Diar. 18:13) Felly, yn hytrach na neidio i’r casgliad ei fod yn gwybod popeth am y mater, dylai henuriad fod yn awyddus i roi’r cyngor yn Iago 1:19 ar waith—i “wrando a pheidio siarad yn fyrbwyll, a gwybod sut i reoli ei dymer.” Mae hynny’n golygu bod rhaid inni wrando cyn siarad. Dyna’r wers bwysig gwnaeth yr henuriad ar ddechrau’r erthygl hon ei dysgu. Sylweddolodd y dylai fod wedi cychwyn yr ymweliad drwy ofyn cwestiynau i’r chwaer fel, “Beth sy’n mynd ymlaen yn dy fywyd?” neu “Sut alla i helpu?” yn hytrach na neidio’n syth i mewn i’r deunydd roedd ef wedi ei baratoi. Os ydy henuriad yn gwneud yr ymdrech i ddysgu’r ffeithiau i gyd, bydd yn fwy tebygol o helpu a chalonogi ei frodyr a chwiorydd.

15. Sut gall henuriaid roi’r egwyddor yn Diarhebion 27:23 ar waith?

15 Dod i adnabod y praidd. Fel dywedon ni ar y cychwyn, mae ’na fwy i roi cyngor effeithiol na jest darllen adnod, neu roi awgrymiad neu ddau. Mae’n rhaid i’n brodyr a chwiorydd deimlo ein bod ni’n eu caru nhw, yn eu deall nhw, ac ein bod ni eisiau eu helpu nhw. Felly, dylai henuriaid wneud eu gorau i fod yn ffrindiau da i’w brodyr a chwiorydd.—Darllen Diarhebion 27:23 o’r troednodyn. *

Beth bydd yn ei gwneud hi’n haws i henuriaid roi cyngor? (Gweler paragraff 16)

16. Beth fydd yn helpu henuriaid i roi cyngor effeithiol?

16 Pan fydd henuriaid yn treulio amser gyda’u brodyr a chwiorydd ac yn dod i’w hadnabod nhw’n dda, fydd neb wedyn yn teimlo bod yr henuriaid ond yn siarad â nhw er mwyn rhoi cyngor. Dywedodd un henuriad profiadol: “Mae’n llawer haws rhoi cyngor i rywun sy’n ffrind yn barod.” Ar ben hynny, bydd hi hefyd yn llawer haws i’r un sy’n cael y cyngor i’w dderbyn.

Pam dylai henuriaid fod yn amyneddgar a charedig wrth roi cyngor? (Gweler paragraff 17)

17. Pryd mae ’na angen arbennig i henuriaid fod yn amyneddgar ac yn garedig?

17 Bydda’n amyneddgar ac yn garedig. Mae’r Beibl yn dweud am Iesu: “Fydd e ddim yn torri brwynen wan, nac yn diffodd cannwyll sy’n mygu.” (Math. 12:20) Felly, mae’n hynod o bwysig bod henuriaid yn efelychu Iesu ac yn dangos amynedd a charedigrwydd, yn enwedig pan fydd yr un sy’n cael y cyngor ddim yn ei dderbyn, neu ddim yn ei roi ar waith yn syth. Efallai bydd angen amser arno i feddwl am y cyngor. Ond yn y cyfamser, gall yr henuriad weddïo’n bersonol ar Jehofa am iddo helpu’r un gafodd y cyngor i ddeall y rhesymau y tu ôl iddo ac i’w roi ar waith. Os ydy’r henuriad yn gwneud hynny ag amynedd a charedigrwydd, ac yn seilio ei gyngor ar Air Duw, bydd y brawd sy’n cael y cyngor yn gallu canolbwyntio’n well ar y neges.

18. (a) Beth dylen ni ei gofio am roi cyngor? (b) Yn y llun yn y blwch, beth mae’r rhieni yn ei drafod?

18 Dysga o dy gamgymeriadau. Mae’n naturiol y byddwn ni eisiau rhoi’r pwyntiau yn yr erthygl hon ar waith yn berffaith. Ond rhaid inni gofio ein bod ni’n amherffaith, a byddwn ni’n gwneud camgymeriadau ar hyd y ffordd. (Iago 3:2) Ond paid â digalonni, y peth pwysig ydy ein bod ni’n dysgu ohonyn nhw. Mae hefyd yn werth inni gofio, os ydy ein brodyr a’n chwiorydd yn teimlo ein bod ni’n eu caru nhw, mae’n debyg y bydd hi’n haws iddyn nhw faddau inni os ydyn ni’n eu hypsetio nhw.—Gweler hefyd y blwch “ Nodyn i Rieni.”

BETH RYDYN NI WEDI EI DDYSGU?

19. Sut gallwn ni galonogi ein brodyr a chwiorydd?

19 Fel rydyn ni wedi gweld, dydy hi ddim yn hawdd rhoi cyngor effeithiol am fod y rhai sy’n rhoi cyngor, yn ogystal â’r rhai sy’n ei dderbyn, yn amherffaith. Beth rydyn ni angen ei gofio? Sicrha fod y cyngor yn cael ei roi â’r cymhelliad cywir. Hefyd, bydda’n hollol siŵr fod angen rhoi’r cyngor, ac mai ti yw’r person gorau i’w roi. Cyn rhoi cyngor, gofynna gwestiynau a gwranda’n astud fel dy fod ti’n deall beth mae’r person hwnnw yn mynd drwyddo. Tria roi dy hun yn ei esgidiau ef. Bydda’n garedig ac yn ffrind da i dy frodyr a chwiorydd. Cofia’r nod: Rydyn ni eisiau rhoi cyngor sydd, nid yn unig yn effeithiol, ond sydd hefyd yn “gwneud rhywun yn hapus.”—Diar. 27:9.

CÂN 103 Bugeiliaid—Dynion yn Rhoddion

^ Par. 5 Mae’n gallu bod yn anodd rhoi cyngor, ond weithiau mae’n angenrheidiol. Felly sut gallwn ni wneud hynny mewn ffordd garedig? Bydd yr erthygl hon yn canolbwyntio ar sut gall henuriaid yn enwedig roi cyngor sy’n hawdd i’w dderbyn.

^ Par. 11 Gweler yr erthygl “Deall Penteuluaeth yn y Gynulleidfa” yn rhifyn Chwefror 2021 y Tŵr Gwylio.

^ Par. 15 Diarhebion 27:23, NWT: “Dylet ti nabod dy ddefaid yn dda a gofalu am dy braidd.”