ERTHYGL ASTUDIO 8
“Cadwch Eich Pennau, Byddwch yn Wyliadwrus!”
“Cadwch eich pennau, byddwch yn wyliadwrus!”—1 PEDR 5:8.
CÂN 144 Canolbwyntiwch ar y Wobr!
CIPOLWG a
1. Beth ddywedodd Iesu wrth ei ddisgyblion am y diwedd, a pha rybudd a roddodd iddyn nhw?
YCHYDIG o ddyddiau cyn i Iesu farw, gofynnodd pedwar o’i ddisgyblion iddo: “Beth fydd yr arwydd . . . o gyfnod olaf y system hon?” (Math. 24:3) Yn fwy na thebyg, roedd y disgyblion eisiau gwybod pryd byddai Jerwsalem a’r deml yn cael eu dinistrio. Ond yn ei ateb, soniodd Iesu hefyd am “gyfnod olaf y system hon,” sef yr un rydyn ni’n byw ynddi heddiw. Wrth gyfeirio at pryd byddai’r diwedd yn dod, dywedodd Iesu: “Ynglŷn â’r dydd hwnnw neu’r awr honno does neb yn gwybod, nid yr angylion yn y nef na’r Mab, dim ond y Tad.” Yna rhybuddiodd ei ddisgyblion i gyd gan ddweud: “Arhoswch yn effro, . . . arhoswch yn wyliadwrus.”—Marc 13:32-37.
2. Pam roedd hi’n bwysig i Gristnogion y ganrif gyntaf aros yn wyliadwrus?
2 Er mwyn goroesi diwedd y system Iddewig, roedd rhaid i’r Cristnogion yn y ganrif gyntaf aros yn wyliadwrus a dilyn rhybudd Iesu. Roedd Iesu wedi dweud: “Pan fyddwch chi’n gweld byddinoedd yn amgylchynu Jerwsalem, byddwch chi’n gwybod bod ei dinistr wedi dod yn agos.” Yna roedd rhaid iddyn nhw “ddechrau ffoi i’r mynyddoedd” ar unwaith. (Luc 21:20, 21) Fe wnaeth y rhai a wrandawodd ar y rhybudd oroesi pan gafodd Jerwsalem ei dinistrio gan y Rhufeiniaid.
3. Beth byddwn ni’n ei drafod yn yr erthygl hon?
3 Am ein bod ni’n byw yng nghyfnod olaf y system hon, mae’n rhaid i ninnau hefyd gadw ein pennau ac aros yn wyliadwrus. Yn yr erthygl hon, byddwn ni’n trafod sut gallwn ni aros yn gytbwys wrth gadw llygad barcud ar beth sy’n mynd ymlaen yn y byd, sut gallwn ni dalu sylw i ni’n hunain, a sut gallwn ni wneud y gorau o’r amser sydd ar ôl.
CADW CYDBWYSEDD WRTH WYLIO’R HYN SY’N MYND YMLAEN YN Y BYD
4. Pam dylen ni gael diddordeb yn y ffordd mae digwyddiadau’r byd yn cyflawni proffwydoliaethau’r Beibl?
4 Mae gynnon ni i gyd ddiddordeb yn y ffordd mae’r hyn sy’n digwydd yn y byd yn cyflawni proffwydoliaethau’r Beibl, ac mae gynnon ni resymau da dros wneud hynny. Rhoddodd Iesu restr o arwyddion i’n helpu ni i wybod pryd byddai diwedd system Satan yn agos. (Math. 24:3-14) Gwnaeth yr apostol Pedr ein hannog ni i dalu sylw i sut mae proffwydoliaethau’n cael eu cyflawni er mwyn cadw ein ffydd yn gryf. (2 Pedr 1:19-21) Ac mae llyfr olaf y Beibl yn dechrau drwy ddweud: “Datguddiad gan Iesu Grist, a roddodd Duw iddo, i ddangos i’w gaethweision y pethau sy’n rhaid digwydd yn fuan.” (Dat. 1:1) Gan fod gynnon ni ddiddordeb yn y ffordd mae digwyddiadau’r byd yn cyflawni proffwydoliaethau’r Beibl, mae’n ddigon naturiol inni fod eisiau siarad am y peth gyda’n gilydd.
5. Beth dylen ni ei osgoi, a beth dylen ni ei wneud? (Gweler hefyd y lluniau.)
5 Er ein bod ni eisiau trafod proffwydoliaethau’r Beibl, ddylen ni ddim ceisio dyfalu sut byddan nhw’n cael eu cyflawni. Pam ddim? Oherwydd fydden ni ddim eisiau bod yn gyfrifol am achosi rhaniadau yn y gynulleidfa. Er enghraifft, efallai byddwn ni’n clywed gwleidyddion yn sôn am sut gallan nhw ddatrys rhyw ryfel penodol a dod â heddwch a diogelwch. Yn lle dyfalu bod eu datganiad yn cyflawni’r broffwydoliaeth yn 1 Thesaloniaid 5:3, mae’n rhaid inni wybod beth yw’r wybodaeth ddiweddaraf sydd wedi ei chyhoeddi am hyn. Os ydy’r pethau rydyn ni’n eu trafod yn seiliedig ar gyhoeddiadau cyfundrefn Jehofa, byddwn ni’n helpu’r gynulleidfa i aros yn unedig ac “o’r un farn.”—1 Cor. 1:10; 4:6.
6. Pa wersi gallwn ni eu dysgu o 2 Pedr 3:11-13?
6 Darllen 2 Pedr 3:11-13. Mae geiriau’r apostol Pedr yn ein helpu ni i feddwl am pam rydyn ni’n edrych i mewn i broffwydoliaethau’r Beibl. Mae’n ein hannog ni i ‘gofio bob amser am bresenoldeb dydd Jehofa.’ Ond dydy hynny ddim yn golygu ein bod ni’n ceisio gweithio allan y “dydd hwnnw a’r awr honno” pan fydd Armagedon yn cychwyn. Yn hytrach, rydyn ni eisiau bod yn gytbwys a defnyddio’r amser sydd ar ôl i ddangos “ymddygiad sanctaidd a gweithredoedd o ddefosiwn duwiol.” (Math. 24:36; Luc 12:40) Mae hynny’n golygu ein bod ni eisiau ymddwyn yn y ffordd iawn, a sicrhau ein bod ni’n gwasanaethu Jehofa allan o gariad. Ond er mwyn gwneud hynny, mae’n rhaid inni wylio ein hunain.
BETH MAE’N EI OLYGU I WYLIO EIN HUNAIN?
7. Sut rydyn ni’n dangos ein bod ni’n gwylio ein hunain? (Luc 21:34)
7 Dywedodd Iesu wrth ei ddisgyblion am dalu sylw nid yn unig i’r pethau sy’n digwydd yn y byd, ond hefyd iddyn nhw eu hunain. Mae hynny yn glir o rybudd Iesu yn Luc 21:34. (Darllen.) Yno mae’n dweud: “Gwyliwch eich hunain.” Beth mae hynny yn ei olygu? Mae’n golygu bod yn effro i unrhyw beth all beryglu ein perthynas â Jehofa a gwneud ein gorau i’w osgoi. Os gwnawn ni hynny, byddwn ni’n cadw ein hunain yng nghariad Duw.—Diar. 22:3; Jwd. 20, 21.
8. Pa gyngor roddodd yr apostol Paul i Gristnogion?
8 Rhoddodd yr apostol Paul gyngor tebyg i’r Cristnogion yn Effesus, drwy ddweud: “Gwyliwch yn ofalus iawn eich bod chi’n cerdded, nid fel pobl annoeth, ond fel pobl ddoeth.” (Eff. 5:15, 16) Mae Satan o hyd yn ceisio dinistrio ein perthynas â Jehofa, felly er mwyn amddiffyn ein hunain, mae’n rhaid inni ddilyn cyngor y Beibl: “Parhewch i ddeall beth ydy ewyllys Jehofa.”—Eff. 5:17.
9. Sut gallwn ni ddeall beth ydy ewyllys Jehofa ar ein cyfer?
9 Gan nad ydy’r Beibl yn rhestru popeth a all beryglu ein perthynas â Jehofa, weithiau mae’n rhaid inni wneud penderfyniadau droston ni’n hunain. Ond rydyn ni’n dal angen gwneud ein gorau i “ddeall beth ydy ewyllys Jehofa” er mwyn gwneud penderfyniadau doeth. Beth all ein helpu ni i wneud hyn? Astudio Gair Duw yn rheolaidd a myfyrio arno. Y mwyaf rydyn ni’n deall ewyllys Jehofa ac yn ceisio cael “meddwl Crist,” y mwyaf tebygol byddwn ni o gerdded “fel pobl ddoeth,” hyd yn oed heb reolau penodol. (1 Cor. 2:14-16) Gad inni drafod rhai peryglon sy’n amlwg, ac eraill sy’n llai amlwg.
10. Beth ydy rhai peryglon mae’n rhaid inni eu hosgoi?
10 Rhai peryglon y mae’n rhaid inni eu hosgoi ydy fflyrtio, goryfed, gorfwyta, defnyddio geiriau cas, yn ogystal ag adloniant treisgar, pornograffi, a phethau tebyg. (Salm 101:3; 119:37) Mae ein gelyn, y Diafol, yn ceisio niweidio ein perthynas â Jehofa ar bob cyfle. (1 Pedr 5:8) Os nad ydyn ni’n wyliadwrus, gall Satan blannu teimladau drwg yn ein meddyliau a’n calonnau. Mae’r rheini’n cynnwys bod yn eiddigeddus, yn anonest, yn farus, yn llawn casineb, yn falch, ac yn dueddol o ddal dig. (Gal. 5:19-21) Efallai na fydd y teimladau hyn yn gryf iawn i ddechrau. Ond os nad ydyn ni’n gweithredu ar unwaith i’w dadwreiddio, byddan nhw’n parhau i dyfu fel planhigyn gwenwynig, ac o ganlyniad, yn creu helynt.—Iago 1:14, 15.
11. Beth ydy un peryg llai amlwg y mae’n rhaid inni ei osgoi, a pham?
11 Un peryg llai amlwg mae’n rhaid inni ei osgoi ydy cwmni drwg. Meddylia am y sefyllfa hon. Rwyt ti’n gweithio gyda rhywun sydd ddim yn un o Dystion Jehofa. Rwyt ti’n mynd allan o dy ffordd i’w helpu ac i fod yn garedig oherwydd rwyt ti eisiau creu argraff dda o Dystion Jehofa. O bryd i’w gilydd rwyt ti’n cytuno i gael cinio gydag ef, a chyn bo hir, rwyt ti’n gwneud hynny yn rheolaidd. Weithiau mae’r person yn siarad am bethau anfoesol ac rwyt ti’n ceisio eu hanwybyddu i gychwyn. Ond ymhen amser, rwyt ti’n dod i arfer â chlywed y fath iaith, nes i hynny stopio poeni dy gydwybod. Un diwrnod, rwyt ti’n cytuno i fynd gyda dy gyd-weithiwr am ddiod ar ôl gwaith, ac yn y pen draw rwyt ti’n dechrau meddwl yr un ffordd ag ef. Fydd hi ddim yn hir nes byddi di’n dechrau ymddwyn yr un ffordd ag ef hefyd. Wrth gwrs, rydyn ni’n barchus ac yn garedig wrth bawb, ond mae’n rhaid cofio bydd y rhai rydyn ni’n treulio llawer o amser gyda nhw yn cael dylanwad mawr arnon ni. (1 Cor. 15:33) Os ydyn ni’n dilyn cyngor Iesu ac yn gwylio ein hunain, fyddwn ni ddim yn treulio amser gyda’r rhai sydd ddim yn dilyn safonau Jehofa, oni bai bod rhaid inni. (2 Cor. 6:15) Byddwn ni’n gweld y peryg ac yn ei osgoi.
DEFNYDDIA DY AMSER YN Y FFORDD ORAU
12. Beth roedd Iesu eisiau i’w ddisgyblion ei wneud wrth iddyn nhw ddisgwyl am gyfnod olaf y system?
12 Roedd Iesu eisiau i’w ddisgyblion gadw’n brysur wrth ddisgwyl i’r diwedd ddod. Felly rhoddodd waith iddyn nhw. Gorchmynnodd iddyn nhw bregethu’r newyddion da “yn Jerwsalem, yn holl Jwdea a Samaria, ac i ben draw’r byd.” (Act. 1:6-8) Yn sicr, roedd ganddyn nhw lawer o waith i’w wneud! Ond drwy wneud eu gorau yn eu haseiniad roedden nhw’n defnyddio eu hamser yn ddoeth.
13. Pam mae’n rhaid inni ddefnyddio ein hamser yn y ffordd orau? (Colosiaid 4:5)
13 Darllen Colosiaid 4:5. Rhan bwysig o wylio ein hunain ydy meddwl yn ofalus am sut rydyn ni’n defnyddio ein hamser. Gall pethau annisgwyl ddigwydd i unrhyw un ohonon ni, gan gynnwys colli ein bywydau.—Preg. 9:11.
14-15. Sut gallwn ni ddefnyddio ein hamser yn y ffordd orau? (Hebreaid 6:11, 12) (Gweler hefyd y llun.)
14 Os ydyn ni’n gwneud ewyllys Jehofa ac yn closio ato, byddwn ni’n defnyddio ein hamser yn y ffordd orau. (Ioan 14:21) Felly mae’n rhaid inni fod “yn gadarn, yn sefydlog,” a sicrhau bod gynnon ni “bob amser ddigon i’w wneud yng ngwaith yr Arglwydd.” (1 Cor. 15:58) Yna, pan ddaw’r diwedd—naill ai diwedd ein bywyd, neu ddiwedd y system hon—fyddwn ni’n difaru dim.—Math. 24:13; Rhuf. 14:8.
15 Mae Iesu’n parhau i’n harwain wrth inni bregethu am Deyrnas Dduw drwy’r ddaear. Drwy gyfundrefn Jehofa, mae’n rhoi’r hyfforddiant a’r tŵls rydyn ni eu hangen i bregethu. (Math. 28:18-20) Ond mae’n rhaid i ni wneud ein rhan hefyd. Rydyn ni angen cadw’n brysur yn pregethu ac yn dysgu eraill, ac aros yn wyliadwrus nes bydd Jehofa yn dod â’r system hon i ben. Drwy ddilyn y cyngor yn Hebreaid 6:11, 12, byddwn ni’n glynu’n dynn wrth ein gobaith “hyd at y diwedd.”—Darllen.
16. Beth rydyn ni’n benderfynol o’i wneud?
16 Pan ddaw dydd Jehofa, bydd ef yn sicr o gyflawni’r holl broffwydoliaethau sydd wedi eu cofnodi yn ei Air. Mae wedi dewis y dydd a’r awr pan fydd yn dod â system Satan i ben. Er bod hi weithiau’n gallu ymddangos inni fel bod y diwrnod hwnnw yn hwyr, “mae’n siŵr o ddod ar yr amser iawn.” (Hab. 2:3) Felly gad inni fod yn benderfynol o aros yn wyliadwrus a “disgwyl yn hyderus am y Duw sy’n achub.”—Mich. 7:7.
CÂN 139 Dy Weld Dy Hun yn y Byd Newydd
a Yn yr erthygl hon, byddwn ni’n trafod sut gallwn ni aros yn gytbwys wrth gadw llygad ar beth sy’n mynd ymlaen yn y byd. Hefyd byddwn ni’n gweld sut gallwn ni dalu sylw i ni’n hunain a gwneud y gorau o’n hamser.
b DISGRIFIAD O’R LLUN: (Top) Cwpl yn gwylio’r newyddion. Yn nes ymlaen maen nhw’n rhannu eu barn gref am ystyr digwyddiadau’r byd wrth siarad ag eraill ar ôl y cyfarfod. (Gwaelod) Cwpl yn gwylio diweddariad gan y Corff Llywodraethol er mwyn cael y ddealltwriaeth ddiweddaraf o broffwydoliaethau’r Beibl. Maen nhw’n cynnig cyhoeddiadau Beiblaidd gan y gwas ffyddlon i eraill.