ERTHYGL ASTUDIO 8
CÂN 123 Ymostwng yn Ffyddlon i’r Drefn Theocrataidd
Parha i Ddilyn Arweiniad Jehofa
“Fi ydy’r ARGLWYDD dy Dduw, sy’n . . . dy arwain di ar hyd y ffordd.”—ESEI. 48:17.
PWRPAS
Bydd yr erthygl hon yn ein helpu ni i weld sut mae Jehofa yn arwain ei bobl heddiw, ac i weld y bendithion rydyn ni’n eu mwynhau o ddilyn ei arweiniad.
1. Defnyddia eglureb i esbonio pam dylen ni ddilyn arweiniad Jehofa.
DYCHMYGA dy fod ti ar goll mewn coedwig. Mae ’na beryg ym mhob man: anifeiliaid gwyllt, pryfed a phlanhigion gwenwynig, a thir peryglus. Byddet ti’n ddiolchgar iawn i gael rhywun profiadol sy’n adnabod yr ardal yn dda i dy arwain di er mwyn osgoi’r peryglon! Mae’r byd hwn yn debyg i’r goedwig honno. Mae’n llawn pethau sy’n peryglu ein hiechyd ysbrydol. Ond mae Jehofa yn ein harwain ni’n berffaith, i ffwrdd o’r peryglon, tuag at ben ein taith—bywyd tragwyddol yn y byd newydd.
2. Sut mae Jehofa’n ein harwain ni?
2 Sut mae Jehofa yn ein harwain ni? Yn bennaf, drwy ei Air ysgrifenedig, y Beibl. Ond mae hefyd yn defnyddio pobl i’n harwain ni. Er enghraifft, mae’n defnyddio’r “gwas ffyddlon a chall” i’n bwydo ni’n ysbrydol er mwyn inni wneud penderfyniadau doeth. (Math. 24:45) Mae Jehofa hefyd yn defnyddio dynion cyfrifol eraill i’n harwain ni, fel arolygwyr cylchdaith a henuriaid. Maen nhw’n rhoi anogaeth ac arweiniad sydd yn ein helpu ni i ymdopi ag amseroedd anodd. Rydyn ni mor ddiolchgar am arweiniad dibynadwy yn ystod y dyddiau olaf anodd hyn! Mae’n ein helpu ni i gael cymeradwyaeth Jehofa ac yn ein cadw ni ar y ffordd i fywyd.
3. Beth byddwn ni’n ei drafod yn yr erthygl hon?
3 Er hynny, gall fod yn her weithiau inni ddilyn arweiniad Jehofa, yn enwedig pan mae’n dod drwy ddynion amherffaith. Pam? Efallai fydden ni ddim yn hoffi’r cyngor, neu gallen ni feddwl bod y cyfarwyddyd yn wirion a theimlo dydy hi ddim wedi dod oddi wrth Jehofa. Ar adegau felly, mae’n bwysig inni fod yn hyderus mai Jehofa ydy’r un sy’n arwain ei bobl, a bod dilyn ei arweiniad yn arwain at fendithion. Er mwyn cryfhau ein hyder, bydd yr erthygl hon yn trafod (1) sut arweiniodd Jehofa ei bobl yn adeg y Beibl, (2) sut mae’n ein harwain ni heddiw, a (3) sut rydyn ni’n elwa ar ddilyn ei arweiniad.
Y FFORDD ARWEINIODD JEHOFA GENEDL ISRAEL
4-5. Sut gwnaeth Jehofa ddangos ei fod yn defnyddio Moses i arwain cenedl Israel? (Gweler y llun.)
4 Rhoddodd Jehofa dystiolaeth glir ei fod wedi penodi Moses a’i fod yn ei ddefnyddio i arwain yr Israeliaid allan o’r Aifft. Er enghraifft, gwnaeth Ef roi colofn o niwl yn ystod y dydd a cholofn o dân yn ystod y nos. (Ex. 13:21) Dilynodd Moses y golofn a wnaeth ei arwain ef a’r Israeliaid at y Môr Coch. Dyma’r bobl yn panicio pan oedden nhw rhwng y môr a byddin yr Eifftiaid, gan feddwl nad oedd ’na ffordd allan. Daethon nhw i’r casgliad fod Moses yn anghywir yn dod â nhw at y Môr Coch. Ond nid camgymeriad oedd hyn, roedd Jehofa wedi defnyddio Moses i anfon ei bobl yno yn fwriadol. (Ex. 14:2) Gwnaeth Duw eu gwaredu nhw mewn ffordd ryfeddol iawn. —Ex. 14:26-28.
5 Am y 40 mlynedd nesaf, gwnaeth Moses barhau i ddibynnu ar y golofn o niwl i arwain pobl Dduw drwy’r anialwch. a Am gyfnod, gosododd Jehofa y golofn uwchben pabell Moses, fel bod Israel i gyd yn gallu ei gweld. (Ex. 33:7, 9-10) Siaradodd Jehofa â Moses o’r golofn. Wedyn, ailadroddodd Moses y cyfarwyddiadau i’r bobl. (Salm 99:7) Roedd gan yr Israeliaid ddigon o dystiolaeth bod Jehofa’n defnyddio Moses i’w harwain nhw.
6. Sut ymatebodd yr Israeliaid i arweiniad Jehofa? (Numeri 14:2, 10, 11)
6 Ond yn drist, dyma’r rhan fwyaf o’r Israeliaid yn gwrthod y dystiolaeth glir bod Jehofa’n defnyddio Moses fel Ei gynrychiolwr. (Darllen Numeri 14:2, 10, 11.) Dro ar ôl tro, gwnaethon nhw wrthod cydnabod rôl Moses. O ganlyniad i hyn, gwnaeth Ef ddim caniatáu iddyn nhw fynd i mewn i Wlad yr Addewid.—Num. 14:29, 30.
7. Rho enghreifftiau o rai a wnaeth ddilyn arweiniad Jehofa. (Numeri 14:24) (Gweler hefyd y llun.)
7 Er hynny, dilynodd rhai o’r Israeliaid arweiniad Jehofa. Er enghraifft, dywedodd Jehofa fod “Caleb . . . yn ffyddlon.” (Darllen Numeri 14:24.) Dyma Dduw yn gwobrwyo Caleb, a hyd yn oed gadael iddo ddewis lle i fyw yng ngwlad Canaan. (Jos. 14:12-14) Gwnaeth y genhedlaeth nesaf o Israeliaid osod esiampl dda o ddilyn arweiniad Jehofa. Ar ôl i Moses farw, cafodd Josua ei benodi i arwain yr Israeliaid, ac “roedden nhw’n ei barchu e tra buodd e byw.” (Jos. 4:14) O ganlyniad, bendithiodd Jehofa nhw drwy ddod â nhw i mewn i’r wlad roedd wedi ei addo.—Jos. 21:43, 44.
8. Esbonia sut arweiniodd Jehofa ei bobl yn ystod adeg y brenhinoedd. (Gweler hefyd y llun.)
8 Flynyddoedd wedyn, cododd Jehofa farnwyr i arwain ei bobl. Wedyn, yn amser y brenhinoedd, dyma Jehofa yn penodi proffwydi i arwain ei bobl. Roedd y brenhinoedd ffyddlon yn gwrando ar gyngor y proffwydi. Er enghraifft, gwnaeth y Brenin Dafydd wrando yn ostyngedig ar gyngor y proffwyd Nathan. (2 Sam. 12:7, 13; 1 Cron. 17:3, 4) Roedd y Brenin Jehosaffat yn dibynnu ar Iachsiel i’w helpu, a rhoddodd anogaeth i bobl Jwda ‘gredu beth ddywedodd proffwydi’ Duw. (2 Cron. 20:14, 15, 20) Pan oedd y Brenin Heseceia mewn trafferth, gwnaeth ef droi at y proffwyd Eseia. (Esei. 37:1-6) Bob tro gwnaeth y brenhinoedd ddilyn arweiniad Jehofa, cawson nhw eu bendithio a chafodd y genedl ei hamddiffyn. (2 Cron. 20:29, 30; 32:22) Dylai pawb fod wedi gallu gweld llaw Jehofa yn arwain ei bobl. Er hynny, gwnaeth y rhan fwyaf o’r brenhinoedd a’r mwyafrif o’r bobl wrthod proffwydi Jehofa.—Jer. 35:12-15.
Y FFORDD ARWEINIODD JEHOFA Y CRISTNOGION CYNNAR
9. Pwy gwnaeth Jehofa ei ddefnyddio i arwain Cristnogion y ganrif gyntaf? (Gweler hefyd y llun.)
9 Yn y ganrif gyntaf OG, gwnaeth Jehofa ffurfio’r gynulleidfa Gristnogol. Sut gwnaeth Ef arwain y Cristnogion cynnar? Apwyntiodd Ef Iesu yn ben ar y gynulleidfa. (Eff. 5:23) Ond doedd Iesu ddim yn arwain pob disgybl yn unigol. Gwnaeth ef ddefnyddio’r apostolion a’r henuriaid yn Jerwsalem i gymryd y blaen. (Act. 15:1, 2) Yn ogystal â hynny, cafodd henuriaid eu penodi i arwain y cynulleidfaoedd.—1 Thes. 5:12; Titus 1:5.
10. (a) Beth oedd ymateb y rhan fwyaf o Gristnogion y ganrif gyntaf i arweiniad? (Actau 15:30, 31) (b) Pam gwnaeth rhai yn adeg y Beibl wrthod cynrychiolwyr Jehofa? (Gweler y blwch “ Pam Mae Rhai Wedi Gwrthod Tystiolaeth Glir.”)
10 Sut gwnaeth Cristnogion y ganrif gyntaf ymateb? Roedd y mwyafrif yn hapus i ddilyn y cyfarwyddiadau. “Roedden nhw’n llawenhau o achos yr anogaeth” roedden nhw’n ei chael. (Darllen Actau 15:30, 31.) Sut mae Jehofa wedi bod yn arwain ei bobl yn yr oes fodern?
Y FFORDD MAE JEHOFA YN EIN HARWAIN NI HEDDIW
11. Rho enghraifft sy’n dangos bod Jehofa wedi arwain y rhai a oedd yn cymryd y blaen yn yr oes fodern.
11 Mae Jehofa yn parhau i arwain ei bobl heddiw. Mae wedi bod yn gwneud hynny drwy ei Air a’i Fab, pen y gynulleidfa. A allwn ni weld tystiolaeth bod Duw yn defnyddio pobl i’w gynrychioli yn ein hamser ni? Gallwn. Er enghraifft, ystyria rai datblygiadau a ddigwyddodd tua diwedd y 19eg ganrif. Dyma Charles Taze Russell a’i ffrindiau yn dechrau deall y byddai 1914 yn flwyddyn bwysig ar gyfer sefydlu Teyrnas Dduw. (Dan. 4:25, 26, BCND) Gwnaethon nhw ddod i’r casgliad hwn drwy ddibynnu ar broffwydoliaethau’r Beibl. Mae’n amlwg bod Jehofa wedi arwain eu hymchwil. Roedd y digwyddiadau ar draws y byd yn ystod 1914 yn dangos bod Teyrnas Dduw wedi dechrau rheoli. Cychwynnodd y Rhyfel Byd Cyntaf, wedyn daeth heintiau, daeargrynfeydd, a newyn. (Luc 21:10, 11) Roedd Jehofa yn bendant yn defnyddio’r dynion hyn i helpu ei bobl.
12-13. Beth gafodd ei drefnu er mewn ehangu’r gwaith pregethu a dysgu yn ystod yr Ail Ryfel Byd?
12 Ystyria hefyd yr hyn a ddigwyddodd yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Ar ôl astudio Datguddiad 17:8, gwnaeth brodyr cyfrifol yn y Pencadlys ddeall y byddai’r rhyfel yn arwain, nid at Armagedon, ond at gyfnod o heddwch a fyddai’n caniatáu iddyn nhw bregethu mwy. Er nad oedd y datblygiad yn ymweld yn ymarferol ar y pryd, cafodd Ysgol Gilead ei sefydlu gan gyfundrefn Jehofa er mwyn hyfforddi cenhadon i bregethu a dysgu mewn gwledydd ledled y byd. Cafodd cenhadon eu hanfon allan hyd yn oed yn ystod y rhyfel. Yn ogystal â hynny, gwnaeth y gwas ffyddlon drefnu’r Course in Theocratic Ministry b er mwyn hyfforddi pawb yn y gynulleidfa i wella’r ffordd roedden nhw’n pregethu ac yn dysgu eraill. Drwy wneud hyn, roedd pobl Dduw yn cael eu paratoi ar gyfer y gwaith oedd o’u blaenau.
13 Wrth edrych yn ôl, gallwn ni weld yn glir fod Jehofa wedi arwain ei bobl yn ystod yr amser anodd hwnnw. Ers yr Ail Ryfel Byd, mae pobl Jehofa mewn nifer mawr o wledydd wedi mwynhau rhywfaint o heddwch a rhyddid i bregethu. A dweud y gwir, mae’r gwaith wedi ffynnu.
14. Pam gallwn ni drystio arweiniad sy’n dod oddi wrth gyfundrefn Jehofa a henuriaid apwyntiedig? (Datguddiad 2:1) (Gweler hefyd y llun.)
14 Heddiw, mae aelodau’r Corff Llywodraethol yn parhau i edrych i’r Crist am arweiniad. Maen nhw eisiau i’r arweiniad maen nhw’n ei roi i’r brodyr adlewyrchu’r ffordd mae Jehofa ac Iesu yn gweld pethau. Mae’r Corff Llywodraethol yn defnyddio arolygwyr cylchdaith a henuriaid i roi arweiniad i’r cynulleidfaoedd. c Mae henuriaid eneiniog, ac o ganlyniad, pob henuriad yn y gynulleidfa, yn ‘llaw dde’ Iesu. (Darllen Datguddiad 2:1.) Wrth gwrs, mae’r henuriaid hyn yn amherffaith ac yn gwneud camgymeriadau. Gwnaeth Moses a Josua gamgymeriadau weithiau, a’r apostolion hefyd. (Num. 20:12; Jos. 9:14, 15; Rhuf. 3:23) Ond mae Crist yn dal i arwain y gwas ffyddlon a’r henuriad yn ofalus, a bydd yn parhau i wneud hynny “hyd gyfnod olaf y system hon.” (Math. 28:20) Felly, mae gynnon ni bob rheswm i drystio’r arweiniad mae’n ei roi drwy’r rhai mae ef wedi eu penodi i gymryd y blaen.
RYDYN NI’N ELWA AR DDILYN ARWEINIAD JEHOFA
15-16. Beth gwnest ti ei ddysgu o brofiadau’r rhai sydd wedi dilyn arweiniad Jehofa?
15 Pan ydyn ni’n parhau i ddilyn arweiniad Jehofa, rydyn ni’n mwynhau bendithion hyd yn oed nawr. Er enghraifft, gwnaeth Andy a Robyn wrando ar yr anogaeth i gadw eu bywydau yn syml. (Gweler y nodyn astudio ar Mathew 6:22.) O ganlyniad, roedden nhw’n gallu gwirfoddoli i helpu ar brosiectau adeiladu theocrataidd. Dywedodd Robyn: “Rydyn ni wedi byw mewn llefydd bach iawn, yn aml heb gegin. Roedd rhaid imi werthu lot o’r offer o’n i’n eu defnyddio ar gyfer ffotograffiaeth, hobi roeddwn i’n ei garu. Gwnaeth hynny wneud imi grio. Ond fel Sara, gwraig Abraham, o’n i’n benderfynol o edrych ymlaen, nid yn ôl.” (Heb. 11:15) Beth gwnaeth y cwpl ei ennill o’u profiad? Dywedodd Robyn: “Rydyn ni’n teimlo’n fodlon iawn o wybod ein bod ni’n rhoi popeth sydd gynnon ni i Jehofa. Pan ydyn ni’n gweithio ar aseiniadau adeiladu, rydyn ni’n cael cipolwg ar sut bydd bywyd yn y byd newydd.” Mae Andy yn cytuno, dywedodd: “Rydyn ni’n teimlo’n hapus iawn i wario ein hunain yn llwyr i gefnogi’r Deyrnas.”
16 Ym mha ffyrdd eraill ydyn ni’n elwa ar ddilyn arweiniad Jehofa? Ar ôl gadael ysgol uwchradd, roedd Marcia wir eisiau dilyn y cyngor a gafodd hi i arloesi. (Math. 6:33; Rhuf. 12:11) Dywedodd: “Ges i’r cyfle i gael ysgoloriaeth pedair blynedd mewn prifysgol. Ond o’n i eisiau dilyn amcanion ysbrydol. Felly, gwnes i ddewis dysgu crefft a fyddai’n fy nghynnal i yn y weinidogaeth. Roedd hynny’n un o’r penderfyniadau gorau dw i wedi ei wneud erioed. Nawr dw i’n mwynhau arloesi yn llawn amser. Mae fy amserlen gwaith hyblyg wedi ei gwneud hi’n bosib imi wasanaethu’n rhan amser yn y Bethel ac i fwynhau breintiau arbennig eraill.”
17. Pa fendithion rydyn ni’n eu cael o ganlyniad i ddilyn arweiniad Jehofa? (Eseia 48:17, 18)
17 Weithiau, rydyn ni’n cael cyngor sy’n ein diogelu ni rhag pethau fel materoliaeth a gweithgareddau sy’n gallu gwneud inni dorri rheolau Duw. Yn hyn o beth hefyd, rydyn ni’n cael ein bendithio o ddilyn yr arweiniad mae Jehofa’n ei roi. Rydyn ni’n cadw ein cydwybod yn lân ac yn osgoi straen di-angen. (1 Tim. 6:9, 10) O ganlyniad i hynny, gallwn ni addoli Jehofa gyda’n holl galon. Does ’na ddim byd a all ddod â mwy o lawenydd, heddwch, a boddhad inni.—Darllen Eseia 48:17, 18.
18. Pam rwyt ti’n benderfynol o ddilyn arweiniad Jehofa?
18 Yn bendant, bydd Jehofa yn parhau i ddefnyddio pobl i roi arweiniad yn ystod y trychineb mawr ac ymlaen i’r Teyrnasiad Mil Blynyddoedd. (Salm. 45:16) A fyddwn ni’n parhau i wrando ar yr arweiniad hwnnw, hyd yn oed pan fyddai’n well gynnon ni wneud rhywbeth gwahanol? Bydd yn haws inni wneud hynny os ydyn ni’n dilyn yr arweiniad mae Jehofa’n ei roi nawr. Felly gad inni ddilyn arweiniad Jehofa bob tro, gan gynnwys yr arweiniad gan ddynion sydd wedi eu penodi i edrych ar ein holau. (Esei. 32:1, 2; Heb. 13:17) Wrth inni wneud hynny, mae gynnon ni bob rheswm i drystio arweiniad Jehofa, sy’n ein harwain ni i ffwrdd o beryg ysbrydol ac i ben ein taith—bywyd tragwyddol yn y byd newydd.
SUT BYDDET TI’N ATEB?
-
Sut gwnaeth Jehofa arwain Israel?
-
Sut gwnaeth Jehofa arwain y Cristnogion cynnar?
-
Sut rydyn ni’n elwa ar ddilyn arweiniad Jehofa heddiw?
CÂN 48 Cerdded Gyda Jehofa Bob Dydd
a Gwnaeth Jehofa hefyd ddefnyddio angel i “arwain pobl Israel” at wlad yr addewid. Yn amlwg Michael oedd yr angel hwn, sef Iesu cyn iddo ddod i’r ddaear.—Ex. 14:19; 32:34.
b Yn nes ymlaen, cafodd yr ysgol hon ei hailenwi “Ysgol y Weinidogaeth.” Erbyn hyn, mae’r hyfforddiant hwn yn rhan o’n cyfarfodydd canol wythnos.
c Gweler y blwch “Rôl y Corff Llywodraethol” yn rhifyn Chwefror 2021 o’r Tŵr Gwylio, t 18.