Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Beth Fydd yn Mynd Pan Fydd y Deyrnas yn Dod?

Beth Fydd yn Mynd Pan Fydd y Deyrnas yn Dod?

“Mae’r byd hwn a’i chwantau yn dod i ben, ond mae’r sawl sy’n gwneud beth mae Duw eisiau yn byw am byth.”—1 IOAN 2:17.

CANEUON: 134, 24

1, 2. (a) Ym mha ffordd gall y system bresennol hon gael ei chymharu â throseddwr condemniedig? (Gweler y llun agoriadol.) (b) Beth fydd yr ymateb i ddedfryd y byd drwg hwn?

“DYN MARW’N CERDDED!” Dyna sy’n cael ei weiddi wrth i droseddwr gael ei arwain o’i gell, a sŵn y drysau metel yn atseinio wrth iddyn nhw gau’n glep y tu ôl iddo. Pam mae’r gardiau yn dweud y ffasiwn beth? Mae’r dyn yn ymddangos yn weddol iach, does ganddo ddim problem gorfforol sy’n bygwth ei fywyd. Fodd bynnag, mae’r gardiau yn mynd â’r dyn i gael ei ddienyddio. Mae’r dyn condemniedig gystal â bod wedi marw. *

2 Mewn un ystyr, mae’r oes hon yn debyg i’r dyn condemniedig hwnnw. Mae’r byd drwg hwn eisoes wedi ei ddedfrydu, ac ar fin cael ei ddienyddio. Dywed y Beibl: “Mae’r byd hwn a’i chwantau yn dod i ben.” (1 Ioan 2:17) Mae diwedd y system hon yn sicr o ddigwydd. Ond eto, mae gwahaniaeth pwysig rhwng y ffordd y bydd y byd hwn yn dod i ben a’r ffordd y bydd bywyd y troseddwr yn dod i ben. Cyn y dienyddio, efallai bydd rhai’n protestio yn erbyn y ddedfryd, ac yn gobeithio y bydd bywyd y dyn yn cael ei arbed funud olaf. Fodd bynnag, Penarglwydd y bydysawd a’i gyfiawnder perffaith sydd wedi dedfrydu’r byd hwn. (Deut. 32:4) Fydd y dienyddio ddim yn cael ei atal, ac ni fydd neb yn amau cyfiawnder y ddedfryd. Yn dilyn y ddedfryd, bydd pob creadur byw yn y bydysawd yn cytuno bod cyfiawnder wedi ei wneud. Bydd y rhyddhad yn aruthrol!

3. Pa bedwar categori y byddwn yn eu trafod?

3 Ond beth sy’n cael ei gynnwys yn y “byd” hwn sy’n “dod i ben”? Bydd llawer o’r sefydliadau sy’n gymaint yn rhan o fywyd yn y byd hwn wedi mynd. Ydy hynny’n newyddion trist? Ddim o gwbl! Yn wir, mae’n rhan bwysig o’r “newyddion da am deyrnasiad Duw.” (Math. 24:14) Gad inni ganolbwyntio ar beth fydd yn diflannu wrth i Deyrnas Dduw ddod. Byddwn yn ystyried pedwar categori: pobl ddrwg, cyfundrefnau llwgr, drwgweithredu, ac amodau byw truenus. Ym mhob achos, byddwn yn gofyn y cwestiynau canlynol: (1) Sut mae’r pethau hyn yn effeithio arnon ni heddiw? (2) Beth bydd Jehofa yn ei wneud ynghylch y pethau hyn? (3) Sut bydd ef yn rhoi pethau da yn eu lle?

POBL DDRWG

4. Ym mha ffordd mae pobl ddrwg yn effeithio arnon ni?

4 Sut mae pobl ddrwg yn effeithio arnon ni heddiw? Ar ôl proffwydo bydd “adegau ofnadwy o anodd” yn digwydd yn ein dyddiau ni, dywedodd yr apostol Paul y “bydd pobl ddrwg a thwyllwyr yn mynd o ddrwg i waeth.” (2 Tim. 3:1-5, 13) Wyt ti wedi gweld hyn yn cael ei wireddu? Mae llawer ohonon ni wedi dioddef oherwydd bwlis cas, pobl ragfarnllyd, a throseddwyr creulon. Mae llawer ohonyn nhw’n gwneud drygioni yn hollol agored; mae eraill yn twyllo drwy guddio eu gwir gymeriad. Hyd yn oed os nad ydyn ni’n hunain wedi dioddef, mae pobl ddrwg fel hyn yn dal yn effeithio arnon ni. Mae dysgu am y drwgweithredu hyn yn torri ein calonnau. Mae’r ffordd mae pobl ddrwg yn cam-drin plant, yr henoed, a’r diniwed yn codi arswyd arnon ni. Mae pobl ddrwg yn meithrin ysbryd sy’n ymddangos yn anifeilaidd ac yn gythreulig. (Iago 3:15) Peth da yw gwybod bod Gair Jehofa yn taro’n ôl yn erbyn newyddion drwg o’r fath.

5. (a) Pa gyfle sy’n dal yn agored i bobl ddrwg? (b) Beth fydd y canlyniad terfynol i’r bobl ddrwg sy’n gwrthod newid?

5 Beth bydd Jehofa yn ei wneud? Ar hyn o bryd, mae Jehofa yn rhoi cyfle i’r rhai drwg newid eu ffyrdd. (Esei. 55:7) Nid ydyn nhw eto wedi cael eu barnu’n derfynol fel unigolion. Y system sydd wedi cael ei chondemnio. Ond beth am yr unigolion sy’n gwrthod newid? Mae Jehofa wedi addo i gael gwared ar bobl ddrwg am byth. (Darllen Salm 37:10.) Efallai bydd y rhai drwg yn meddwl eu bod yn saff rhag cael eu barnu. Mae llawer wedi dysgu i guddio’r hyn maen nhw’n ei wneud, ac yn y byd hwn mae’n ymddangos fel eu bod nhw’n aml yn osgoi cael eu cosbi. (Job 21:7, 9) Ond eto, mae’r Beibl yn ein hatgoffa: “Mae e’n cadw golwg ar beth maen nhw’n ei wneud; mae’n gwybod am bob symudiad. Does dim tywyllwch na chwmwl lle gall pobl ddrwg guddio.” (Job 34:21, 22) Does dim modd cuddio rhag Jehofa Dduw. Ni all neb dwyllo Duw; mae ei lygaid yn gallu gweld ym mhob twll a chornel, trwy bob cysgod tywyll, ac yn gweld yn union beth sy’n digwydd. Ar ôl Armagedon, efallai byddwn yn edrych am y rhai drwg, ond ni fyddwn ni’n eu gweld. Byddan nhw wedi mynd—am byth!—Salm 37:12-15.

6. Pwy fydd yn aros ar y ddaear wrth i’r rhai drwg ddiflannu, a pham mae hyn yn newyddion da?

6 Pwy fydd yn aros ar y ddaear yn lle’r bobl ddrwg? Addewid Jehofa yw: “Bydd y rhai sy’n cael eu cam-drin yn meddiannu’r tir, ac yn cael mwynhau heddwch a llwyddiant.” Yn yr un Salm, darllenwn: “Bydd y rhai sy’n byw yn iawn yn meddiannu’r tir, ac yn aros yno am byth.” (Salm 37:11, 29) Pwy ydy’r “rhai sy’n cael eu cam-drin” a’r “rhai sy’n byw yn iawn”? Y rhai sy’n cael eu cam-drin yw’r gostyngedig sy’n derbyn dysgeidiaethau ac arweiniad Jehofa; y rhai sy’n byw yn iawn yw unigolion sydd eisiau gwneud ewyllys Jehofa. Heddiw, mae mwy o bobl ddrwg nag o bobl dda. Ond yn y byd newydd, ni fydd y gostyngedig a’r cyfiawn yn y lleiafrif nac yn y mwyafrif, nhw fydd yr unig bobl ar y ddaear. Yn wir, bydd pobl o’r fath yn gwneud y byd yn baradwys.

CYFUNDREFNAU LLWGR

7. Sut mae cyfundrefnau llwgr yn effeithio arnon ni heddiw?

7 Sut mae cyfundrefnau llwgr yn effeithio arnon ni heddiw? Mae’r rhan fwyaf o’r drygioni yn y byd hwn yn digwydd o ganlyniad i gyfundrefnau yn hytrach nag unigolion. Meddylia, er enghraifft, am gyfundrefnau crefyddol sy’n twyllo miliynau o bobl am natur Duw, cywirdeb y Beibl, dyfodol y ddaear a’r ddynoliaeth—a llawer o bynciau eraill. Neu beth am y llywodraethau sy’n hyrwyddo rhyfeloedd a thrais ethnig, sy’n gormesu’r bobl dlawd a bregus, ac sy’n ffynnu ar lwgrwobrwyo a ffafriaeth? Beth am y cwmnïau trachwantus sy’n llygru’r ddaear, yn gwastraffu adnoddau naturiol, ac sy’n ecsbloetio cwsmeriaid diniwed er mwyn i ychydig o bobl freintiedig wneud elw mawr tra bydd miliynau yn dioddef mewn tlodi? Heb os, cyfundrefnau llwgr sy’n gyfrifol am lawer o’r tristwch yn y byd hwn.

8. Yn ôl y Beibl, beth fydd yn digwydd i’r cyfundrefnau sy’n ymddangos yn gadarn i bobl heddiw?

8 Beth bydd Jehofa yn ei wneud? Bydd y gorthrymder mawr yn cychwyn pan fydd y sefydliadau gwleidyddol yn troi yn erbyn cyfundrefnau gau grefydd a gynrychiolwyd gan y butain Babilon Fawr. (Dat. 17:1, 2, 16; 18:1-4) Bydd y cyfundrefnau crefyddol hyn yn cael eu dinistrio’n llwyr. Ond, beth am y cyfundrefnau llwgr eraill? Mae’r Beibl yn defnyddio mynyddoedd ac ynysoedd i symboleiddio pa mor gadarn yw cyfundrefnau a sefydliadau’r byd hwn i bobl heddiw. (Darllen Datguddiad 6:14.) Mae Gair Duw yn rhagweld y bydd sylfeini’r llywodraethau a’u holl gyfundrefnau yn cael eu hysgwyd. Bydd y gorthrymder mawr yn cyrraedd ei anterth pan fydd holl lywodraethau’r byd hwn a’r rhai sy’n ochri gyda nhw yn erbyn Teyrnas Dduw yn cael eu dinistrio. (Jer. 25:31-33) Ar ôl hynny, ni fydd cyfundrefnau llwgr yn bodoli mwyach!

9. Pam rydyn ni’n gallu bod yn siŵr bydd y ddaear newydd yn un drefnus?

9 Beth fydd yn disodli cyfundrefnau llwgr? Ar ôl Armagedon, a fydd yna gyfundrefnau ar y ddaear? Mae’r Beibl yn sôn am “y nefoedd newydd a’r ddaear newydd mae Duw wedi ei haddo, lle bydd popeth mewn perthynas iawn gydag e.” (2 Pedr 3:13) Bydd yr hen nefoedd a daear, y cyfundrefnau llwgr a’r gymdeithas ddaearol o dan eu rheolaeth, yn mynd. Beth fydd yn eu disodli? Mae’r ymadrodd “y nefoedd newydd a’r ddaear newydd” yn golygu y bydd llywodraeth a chymdeithas ddaearol newydd o dan reolaeth y llywodraeth honno. Bydd y Deyrnas o dan Iesu Grist yn adlewyrchu personoliaeth y Duw trefnus Jehofa yn berffaith. (1 Cor. 14:33) Felly bydd y “ddaear newydd” yn drefnus. Dynion da fydd yn gofalu am bethau. (Salm 45:16) Byddan nhw o dan gyfarwyddyd Crist a’r 144,000 o gyd-lywodraethwyr. Dychmyga’r amser pan fydd yr holl gyfundrefnau llygredig yn cael eu disodli gan un gyfundrefn yn unig a hynny’n gyfundrefn ddilwgr ac unedig!

DRWGWEITHREDU

10. Pa fath o ddrwgweithredu sy’n gyffredin lle rwyt ti’n byw, a sut mae hyn yn effeithio arnat ti a dy deulu?

10 Sut mae drwgweithredu yn effeithio arnon ni? Rydyn ni’n byw mewn byd llawn drygioni. Yn y system hon, mae drwgweithredu anfoesol, anonest, a threisgar ym mhobman. Y rhan fwyaf o’r amser, mae rhieni yn ei chael hi’n anodd amddiffyn eu plant rhag drwgweithredu o’r fath. Mae’r byd adloniant yn dod yn fwy ac yn fwy medrus yn gwneud i bethau drwg edrych yn ddeniadol gan wneud safonau Jehofa yn destun sbort. (Esei. 5:20) Mae gwir Gristnogion yn ceisio mynd yn erbyn beth sy’n ffasiynol. Maen nhw’n trio popeth i aros yn ffyddlon mewn byd sy’n erydu parch pobl tuag at safonau Jehofa.

11. Beth rydyn ni’n ei ddysgu o farnedigaeth Jehofa yn erbyn Sodom a Gomorra?

11 Beth bydd Jehofa yn ei wneud ynglŷn â drwgweithredu? Ystyria beth a wnaeth ynglŷn â’r drygioni a oedd yn gyffredin yn Sodom a Gomorra. (Darllen 2 Pedr 2:6-8.) Roedd y dyn cyfiawn Lot a’i deulu yn cael eu poenydio gan yr holl ddrygioni oedd o’u cwmpas. Pan ddinistriodd Jehofa yr ardal gyfan, roedd yn gwneud mwy na rhoi terfyn ar y drygioni yn unig. Roedd yn gosod “esiampl o beth sy’n mynd i ddigwydd i bobl annuwiol.” Yn debyg i sut gwnaeth Jehofa roi terfyn ar ddrwgweithredu anfoesol yn y cyfnod hwnnw, bydd yn rhoi terfyn ar yr holl ddrwgweithredu sy’n digwydd heddiw pan fydd yn barnu’r system bresennol.

12. Ar ôl i’r hen system hon fynd, pa weithgareddau rwyt ti’n edrych ymlaen atyn nhw?

12 Beth fydd yn disodli drwgweithredu? Bydd y baradwys ddaearol yn lle prysur a hapus. Meddylia am y gwaith cyffrous o droi’r blaned hon yn baradwys neu am adeiladu cartrefi i ni ein hunain ac i’n hanwyliaid. Ystyria’r gobaith o allu croesawu miliynau o bobl yn ôl o’r bedd er mwyn eu dysgu nhw am Jehofa a’r ffordd y mae wedi bod yn delio gyda’r ddynoliaeth. (Esei. 65:21, 22; Act. 24:15) Bydd ein bywydau yn llawn gweithgareddau a fydd yn cyfrannu at ein llawenydd ac at foli Jehofa.

AMODAU BYW TRUENUS

13. Pa broblemau sy’n bodoli heddiw oherwydd gwrthryfel Satan, Adda ac Efa?

13 Sut mae amodau byw truenus yn effeithio arnon ni? Mae pobl ddrwg, cyfundrefnau llwgr, a drwgweithredu yn gweithio gyda’i gilydd i greu amodau byw truenus. Pwy sydd ddim yn gallu dweud nad yw rhyfel, tlodi, a hiliaeth wedi effeithio arno? A beth am salwch a marwolaeth? Mae’r pethau hyn yn cyffwrdd â phob un ohonon ni. Dechreuodd yr holl broblemau hyn pan wrthryfelodd Satan, Adda, ac Efa yn erbyn Jehofa. Ni all yr un ohonon ni ddianc rhag y llanast a achoswyd gan eu gwrthryfel.

14. Beth bydd Jehofa yn ei wneud ynghylch amodau byw truenus? Rho enghraifft.

14 Beth bydd Jehofa yn ei wneud ynghylch amodau byw truenus? Rho sylw i ryfel. Mae Jehofa yn addo rhoi terfyn ar ryfel am byth. (Darllen Salm 46:8, 9.) Beth am salwch? Bydd yn cael ei ddileu. (Esei. 33:24) A marwolaeth? Bydd yn cael ei lyncu gan Jehofa am byth! (Esei. 25:8) Bydd yn rhoi diwedd ar dlodi. (Salm 72:12-16) Bydd yn gwneud yr un peth i’r holl amodau byw ofnadwy sy’n gwneud bywyd yn druenus heddiw. Bydd hyd yn oed yn cael gwared ar “awyr” y system hon, oherwydd bydd ysbryd drwg Satan a’i gythreuliaid, o’r diwedd, wedi mynd.—Eff. 2:2.

Dychmyga fyd heb ryfel, salwch, neu farwolaeth! (Gweler paragraff 15)

15. Pa bethau fydd yn diflannu ar ôl Armagedon?

15 Wyt ti’n gallu dychmygu byd heb ryfel, salwch neu farwolaeth? Meddylia—dim byddinoedd, llyngesau, na lluoedd awyr! Dim arfau na chofebau rhyfel. Dim ysbytai, doctoriaid, nyrsys, yswiriant iechyd; dim corffdai, angladdau, trefnwyr angladdau, na mynwentydd! Ac wrth i droseddu ddiflannu, ni fydd angen diwydiant diogelwch, systemau larwm, heddlu, na goriadau a chloeau! Meddylia am y pryderon na fydd bellach yn amharu ar ein meddyliau a’n calonnau.

16, 17. (a) Pa ryddhad bydd y rhai sy’n goroesi Armagedon yn ei deimlo? Eglura. (b) Sut gallwn ni fod yn sicr y byddwn ni’n aros ar ôl i’r hen fyd hwn fynd?

16 Sut bydd bywyd ar ôl i amodau trallodus fynd? Nid yw’n hawdd dychmygu bywyd o’r fath. Rydyn ni wedi byw yn yr hen fyd hwn mor hir fel ein bod ni wedi stopio sylwi ar sut mae amodau byw anodd yn ein rhoi ni o dan straen. Yn yr un modd, dydy’r bobl sy’n byw wrth ymyl gorsaf drenau ddim yn clywed y twrw; a dydy’r bobl sy’n byw wrth ymyl tomen sbwriel ddim yn arogli’r drewdod. Ond petai’r ffactorau negyddol hynny’n diflannu—sôn am ryddhad!

17 Yn hytrach na straen beth byddwn ni’n ei deimlo? Yn ôl Salm 37:11, bydd pobl “yn cael mwynhau heddwch a llwyddiant.” Onid ydy’r geiriau hyn yn cyffwrdd â dy galon? Dyna beth mae Jehofa eisiau i ti. Da ti, gwna popeth a elli di i glosio at Jehofa a’i gyfundrefn yn y dyddiau diwethaf hyn! Trysora dy obaith, myfyria arno, a’i gadw’n real yn ein meddyliau a’n calonnau—a rhanna’r gobaith hwnnw yn hael ag eraill! (1 Tim. 4:15, 16; 1 Pedr 3:15) Felly, gelli di fod yn sicr na fyddi di’n diflannu gyda’r hen fyd condemniedig hwn. Yn hytrach, aros y byddi di—a hynny am byth!

^ Par. 1 Mae’r paragraff yn disgrifio hen arferiad mewn rhai carchardai yn yr Unol Daleithiau.