Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Gad Inni Annog Ein Gilydd yn Enwedig Nawr

Gad Inni Annog Ein Gilydd yn Enwedig Nawr

“A gadewch i ni feddwl am ffyrdd i annog ein gilydd . . . yn arbennig am fod Iesu’n dod yn ôl i farnu yn fuan.”—HEBREAID 10:24, 25.

CANEUON: 90, 87

1. Pam gwnaeth yr apostol Paul gymell y Cristnogion Hebreig cynnar i annog ei gilydd yn fwy nag erioed?

YN Y ganrif gyntaf, rhoddodd yr apostol Paul y cyngor hwn i’r Cristnogion Hebreig: “A gadewch i ni feddwl am ffyrdd i annog ein gilydd i ddangos cariad a gwneud daioni. Mae’n bwysig ein bod yn dal ati i gyfarfod â’n gilydd. Mae rhai pobl wedi stopio gwneud hynny. Dylen ni annog a rhybuddio’n gilydd drwy’r adeg; yn arbennig am fod Iesu’n dod yn ôl i farnu yn fuan.” (Hebreaid 10:24, 25) Pam roedd Paul wedi gofyn i’r brodyr annog ei gilydd yn fwy byth? Yn llai na phum mlynedd yn ddiweddarach, daeth un rheswm yn eglur. Yr adeg honno, fe welon nhw fod dydd barn Jehofa ynglŷn â Jerwsalem yn agos. Roedden nhw’n cydnabod bod rhaid iddyn nhw ffoi o’r ddinas fel roedd Iesu wedi gofyn iddyn nhw ei wneud. (Luc 21:20-22; Actau 2:19, 20) Daeth y dydd hwnnw yn y flwyddyn 70, pan gafodd Jerwsalem ei dinistrio gan y Rhufeiniaid.

2. Pam dylen ni feddwl o ddifri am annog ein gilydd heddiw?

2 Heddiw, rydyn ninnau mewn sefyllfa debyg. Mae “dydd yr ARGLWYDD yn ddiwrnod mawr; mae’n ddychrynllyd,” ac mae’n agos. (Joel 2:11) Hefyd, mae geiriau’r proffwyd Seffaneia yn berthnasol i’n dyddiau ni: “Mae dydd barn yr ARGLWYDD yn agos; y dydd mawr—bydd yma’n fuan!” (Seffaneia 1:14) Am y rheswm hwn, dylen ni “feddwl am ffyrdd i annog ein gilydd i ddangos cariad a gwneud daioni.” (Hebreaid 10:24) Dylen ni ddangos mwy o ddiddordeb hyd yn oed yn ein brodyr, fel y gallwn ni eu hannog pan fo rhaid.

PWY SYDD ANGEN ANOGAETH?

3. Beth ddywedodd yr apostol Paul am anogaeth? (Gweler y llun agoriadol.)

3 “Mae pryder yn gallu llethu rhywun, ond mae gair caredig yn codi calon.” (Diarhebion 12:25) Ar adegau, mae angen anogaeth arnon ni i gyd. Eglurodd Paul fod hyd yn oed y rhai sy’n gyfrifol am annog eraill yn gorfod cael eu hannog. Ysgrifennodd Paul at ei frodyr yn Rhufain: “Dw i wir yn hiraethu am gael dod i’ch gweld chi, i mi gael rhannu rhyw fendith ysbrydol gyda chi fydd yn eich gwneud chi’n gryf. Byddwn i a chithau’n cael ein calonogi wrth i ni rannu’n profiadau.” (Rhufeiniaid 1:11, 12) Felly, roedd angen anogaeth hyd yn oed ar yr apostol Paul o bryd i’w gilydd.—Darllen Rhufeiniaid 15:30-32.

4, 5. Pwy allwn ni eu hannog heddiw, a pham?

4 Heddiw, gallwn annog y rhai sy’n gwasanaethu Jehofa yn llawn amser, fel arloeswyr ffyddlon. Mae llawer ohonyn nhw wedi aberthu pethau y maen nhw’n eu mwynhau mewn bywyd er mwyn iddyn nhw allu arloesi. Mae hyn hefyd yn wir am genhadon, aelodau Bethel, arolygwyr cylchdaith a’u gwragedd, a’r rheini sy’n gwasanaethu mewn swyddfeydd cyfieithu. Maen nhw i gyd yn aberthu er mwyn treulio mwy o amser yn gwasanaethu Jehofa. Felly mae’n rhaid inni eu hannog. Hefyd, mae ’na lawer a fyddai’n hoffi gwasanaethu’n llawn amser o hyd ond dydyn nhw ddim yn gallu mwyach. Maen nhw hefyd yn ddiolchgar pan fyddan nhw’n derbyn anogaeth.

5 Pwy arall sy’n haeddu anogaeth? Gallwn annog y llawer o frodyr a chwiorydd sydd wedi penderfynu aros yn sengl oherwydd eu bod nhw eisiau aros yn ffyddlon i Jehofa a phriodi dim ond rhywun sy’n Gristion. (1 Corinthiaid 7:39) Mae gwŷr yn annog eu gwragedd drwy ddweud eu bod nhw’n eu caru nhw a thrwy fod yn ddiolchgar am bopeth maen nhw’n ei wneud. (Diarhebion 31:28, 31) Pwysig hefyd ydy annog Cristnogion sy’n cael eu herlid neu’n sâl. (2 Thesaloniaid 1:3-5) Mae Jehofa ac Iesu yn cysuro’r rhai ffyddlon hyn i gyd.—Darllen 2 Thesaloniaid 2:16, 17.

ANOGAETH YR HENURIAID

6. Beth rydyn ni’n ei ddysgu am rôl yr henuriaid yn Eseia 32:1, 2?

6 Darllen Eseia 32:1, 2. Rydyn ni’n byw mewn amseroedd anodd a hawdd fyddai inni ddigalonni. Mae Iesu Grist yn defnyddio ei frodyr eneiniog a’i “dywysogion” o’r defaid eraill i’n hannog ni. Dydy henuriaid y gynulleidfa ddim yn arglwyddiaethu ar ein ffydd ond yn “gweithio gyda” ni er mwyn inni brofi llawenydd go iawn. Maen nhw eisiau inni fod yn hapus ac aros yn ffyddlon.—2 Corinthiaid 1:24.

7, 8. Sut gall henuriaid annog eraill drwy’r hyn maen nhw’n ei ddweud a’i wneud?

7 Gall henuriaid efelychu’r apostol Paul, a oedd bob amser yn ceisio annog ei frodyr. Ysgrifennodd at ei frodyr yn Thesalonica a oedd yn cael eu herlid: “Gan ein bod ni’n eich caru chi gymaint, roedden ni’n barod i roi’n bywydau drosoch chi yn ogystal â rhannu newyddion da Duw gyda chi. Roeddech chi mor annwyl â hynny yn ein golwg ni.”—1 Thesaloniaid 2:8.

8 Mae henuriaid yn gallu bod yn galonogol drwy’r hyn maen nhw’n ei ddweud. Ond ydy hynny bob amser yn ddigon? Dywedodd Paul wrth henuriaid Effesus: “Drwy’r cwbl roeddwn i’n dangos sut bydden ni’n gallu helpu’r tlodion drwy weithio’n galed. Dych chi’n cofio fod yr Arglwydd Iesu ei hun wedi dweud: ‘Mae rhoi yn llawer gwell na derbyn.’” (Actau 20:35) Dywedodd Paul: “Dw i’n fwy na pharod i wario’r cwbl sydd gen i arnoch chi—a rhoi fy hun yn llwyr i chi.” Profodd drwy ei weithredoedd ei fod yn barod i wneud ei orau drostyn nhw. (2 Corinthiaid 12:15) Yn yr un modd, dylai henuriaid annog a chysuro eraill nid yn unig drwy’r hyn maen nhw’n ei ddweud ond drwy’r hyn maen nhw’n ei wneud. Mae hyn yn dangos eu bod nhw’n gofalu amdanon ni.—1 Corinthiaid 14:3.

9. Sut gall henuriaid roi cyngor mewn ffordd galonogol?

9 Er mwyn cryfhau’r brodyr, weithiau mae angen i’r henuriaid roi cyngor. Gall henuriaid ddysgu o’r Beibl sut i wneud hyn mewn ffordd galonogol. Gosododd Iesu esiampl wych o ran rhoi cyngor pan anfonodd negeseuon i’r cynulleidfaoedd yn Asia Leiaf ar ôl ei farwolaeth a’i atgyfodiad. Roedd yn rhaid iddo roi cyngor cryf i’r cynulleidfaoedd yn Effesus, Pergamus, a Thyatira. Ond cyn rhoi’r cyngor, gwnaeth Iesu eu canmol nhw am y pethau da roedden nhw’n eu gwneud. (Datguddiad 2:1-5, 12, 13, 18, 19) Dywedodd Iesu wrth y gynulleidfa yn Laodicea: “Dw i’n ceryddu a disgyblu pawb dw i’n eu caru. Felly bwrw iddi o ddifri, a thro dy gefn ar bechod.” (Datguddiad 3:19) Mae ein henuriaid yn ceisio efelychu Crist yn y ffordd y maen nhw’n rhoi cyngor.

DYLAI PAWB ANNOG ERAILL

Rieni, ydych chi’n hyfforddi eich plant i annog eraill? (Gweler paragraff 10)

10. Sut gall pob un ohonon ni gryfhau ein gilydd?

10 Nid henuriaid ydy’r unig rai a ddylai annog eraill. Gwnaeth Paul annog pob Cristion i “ddweud pethau sy’n helpu pobl eraill—pethau sy’n bendithio’r rhai sy’n eich clywed chi.” (Effesiaid 4:29) Dylai pob un ohonon ni fod yn ymwybodol o anghenion pobl eraill er mwyn inni allu eu helpu. Ysgrifennodd Paul at y Cristnogion Hebreig: “Felly peidiwch gollwng gafael! Safwch ar eich traed yn gadarn! Cerddwch yn syth yn eich blaenau. Wedyn bydd y rhai sy’n gloff yn cryfhau ac yn eich dilyn yn lle syrthio ar fin y ffordd.” (Hebreaid 12:12, 13) Felly, gallwn helpu ein brodyr i sefyll yn gadarn ar eu traed. Gall pob un ohonon ni gryfhau ac annog ein gilydd drwy ein geiriau, hyd yn oed os ydyn ni’n ifanc iawn.

11. Beth helpodd Marthe pan oedd hi’n isel ei hysbryd?

11 Roedd chwaer o’r enw Marthe yn dioddef o iselder ysbryd am gyfnod. * (Gweler y troednodyn.) Ysgrifennodd: “Un diwrnod pan oeddwn i’n gweddïo am anogaeth, dyma fi’n cwrdd â chwaer hŷn a ddangosodd garedigrwydd a thrugaredd tuag ata i, rhywbeth roeddwn i yn ei wirioneddol angen ar y pryd. Soniodd hefyd am ei phrofiad ei hun yn wynebu’r un fath o brawf, a dechreuais deimlo’n llai unig.” Yn ôl pob tebyg, doedd y chwaer honno ddim hyd yn oed yn sylweddoli cymaint roedd ei geiriau wedi codi calon Marthe!

12, 13. Sut gallwn ni gymhwyso’r cyngor yn Philipiaid 2:1-4?

12 Ysgrifennodd Paul at y Cristnogion yn Philipi: “Os ydy perthyn i’r Meseia yn anogaeth o unrhyw fath i chi; os ydy ei gariad o unrhyw gysur i chi; os ydy’r Ysbryd yn eich clymu chi’n un, ac yn eich gwneud yn llawn tosturi ac yn garedig—yna gwnewch fi’n wirioneddol hapus drwy rannu’r un agwedd meddwl, dangos cariad at eich gilydd, a bod yn un o ran ysbryd a phwrpas. Peidiwch bod am y gorau i fod yn bwysig, nac yn llawn ohonoch chi’ch hunain. Byddwch yn ostyngedig, a pheidio meddwl eich bod chi’n well na phobl eraill. Meddyliwch am bobl eraill gyntaf, yn lle dim ond meddwl amdanoch chi’ch hunain.”—Philipiaid 2:1-4.

13 Dylai pawb edrych am ffyrdd i helpu’r naill a’r llall. Er mwyn annog ein brodyr a’n chwiorydd, pwysig yw cysuro yn gariadus, cael ein clymu yn un teulu ysbrydol, a dangos tosturi a charedigrwydd tuag at ein gilydd.

SUT I ANNOG

14. Beth ydy un ffordd o roi anogaeth?

14 Mae clywed bod y rhai rydyn ni wedi eu helpu yn y gorffennol yn dal i aros yn ffyddlon yn gwneud inni deimlo’n hapus. Ysgrifennodd yr apostol Ioan: “Does dim byd yn fy ngwneud i’n fwy llawen na chael clywed fod fy mhlant yn byw’n ffyddlon i’r gwir.” (3 Ioan 4) Mae llawer o arloeswyr wrth eu boddau ar ôl clywed bod rhywun y maen nhw wedi ei helpu i ddysgu’r gwirionedd ers talwm iawn yn dal i wasanaethu Jehofa yn ffyddlon, ac efallai’n arloesi hyd yn oed. Felly, os ydy arloeswyr yn teimlo’n ddigalon, gallwn eu hatgoffa o’r holl ddaioni y maen nhw wedi ei wneud yn helpu pobl eraill.

15. Beth fedrwn ni ei wneud i annog y rhai sy’n gwasanaethu’n ffyddlon?

15 Mae llawer o arolygwyr cylchdaith wedi dweud eu bod nhw a’u gwragedd wedi cael eu calonogi ar ôl derbyn nodyn bach i ddiolch iddyn nhw am ymweld â’r gynulleidfa. Hefyd, mae hyn yn wir yn achos henuriaid, cenhadon, arloeswyr, ac aelodau Bethel, sydd i gyd yn gwasanaethu Jehofa yn ffyddlon. Trwy ddweud diolch wrthyn nhw, rydyn ni’n eu hannog yn fwy nag yr ydyn ni’n ei sylweddoli.

SUT GALL PAWB ANNOG?

16. Pa bethau bach sy’n gallu annog rhywun?

16 Ond beth os ydyn ni’n ei chael hi’n anodd dweud wrth bobl sut rydyn ni’n teimlo amdanyn nhw? Mewn gwirionedd, dydy annog pobl eraill ddim yn anodd. Beth am iti gyfarch rhywun â gwên? Os nad yw’n gwenu’n ôl, efallai fod rhywbeth ar ei feddwl. Gelli di ei gysuro drwy wrando’n astud arno.—Iago 1:19.

17. Beth wnaeth annog un brawd ifanc?

17 Roedd un brawd ifanc o’r enw Henri yn drist iawn pan wnaeth sawl un o’i berthnasau agos stopio gwasanaethu Jehofa. Un o’r rhain oedd ei dad, a oedd ar un adeg yn henuriad. Sylwodd arolygwr y gylchdaith fod Henri yn drist ac aeth ag ef am baned o goffi. Gwrandawodd yn astud wrth i Henri fynegi ei deimladau. Sylweddolodd Henri mai’r unig ffordd i helpu ei deulu i ddod yn ôl i’r gwirionedd oedd iddo ef ei hun aros yn ffyddlon. Cafodd ei gysuro hefyd drwy ddarllen Salm 46, Seffaneia 3:17, a Marc 10:29, 30.

Gall pob un ohonon ni gryfhau ac annog ein gilydd (Gweler paragraff 18)

18. (a) Beth ysgrifennodd y Brenin Solomon am anogaeth? (b) Beth awgrymodd yr apostol Paul?

18 Beth allwn ni ei ddysgu o brofiadau Marthe a Henri? Gall unrhyw un ohonon ni gysuro ac annog brawd neu chwaer. Ysgrifennodd y Brenin Solomon: “Mor dda ydy gair yn ei bryd! Mae gwên yn llonni’r galon; a newyddion da yn rhoi cryfder i’r corff.” (Diarhebion 15:23, 30) Elli di feddwl am rywun sy’n teimlo’n ddigalon? Pam na wnei di rywbeth mor syml â darllen pwt o’r Tŵr Gwylio neu o’n gwefan? Hefyd, dysgodd Paul fod canu caneuon y Deyrnas gyda’n gilydd yn gallu gwneud inni deimlo’n well. Ysgrifennodd: “Canwch salmau, emynau a chaneuon ysbrydol i fynegi eich diolch i Dduw.”—Colosiaid 3:16; Actau 16:25.

19. Pam bydd anogaeth yn dod yn fwy ac yn fwy pwysig, a beth ddylen ni ei wneud?

19 Wrth inni agosáu at ddydd mawr Jehofa, bydd annog ein gilydd yn dod yn fwy pwysig inni. (Hebreaid 10:25) Bydd gwrando ar gyngor Paul yn ein gwneud ni’n hapus: “Calonogwch eich gilydd, a daliwch ati i helpu’ch gilydd.”—1 Thesaloniaid 5:11.

^ Par. 11 Newidiwyd yr enwau.