Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Bobl Ifanc, Ydych Chi’n Canolbwyntio ar Amcanion Ysbrydol?

Bobl Ifanc, Ydych Chi’n Canolbwyntio ar Amcanion Ysbrydol?

“Rho bopeth wnei di yn nwylo’r ARGLWYDD, a bydd dy gynlluniau’n llwyddo.”—DIARHEBION 16:3.

CANEUON: 135, 144

1-3. (a) Pa sefyllfa sy’n wynebu pob person ifanc? Eglura. (Gweler y llun agoriadol.) (b) Beth fydd yn helpu Cristnogion ifanc yn y sefyllfa hon?

DYCHMYGA dy fod ti am fynd i ddigwyddiad arbennig mewn tref bell. Er mwyn gwneud y daith, mae’n rhaid iti fynd ar y bws. Yn yr orsaf fysus, rwyt ti’n teimlo’n ansicr oherwydd bod cymaint o bobl o gwmpas a chymaint o fysus. Ond, rwyt ti’n gwybod yn union i le rwyt ti eisiau mynd a pha fws rwyt ti angen bod arno. Fyddi di ddim yn mynd ar unrhyw fws arall, oherwydd dy fod ti’n gwybod y bydd yn mynd i’r cyfeiriad anghywir.

2 Taith ydy bywyd, ac rydych chithau bobl ifanc yn debyg i’r bobl yn yr orsaf fysus honno. Weithiau mae ’na gymaint o ddewisiadau ac opsiynau mewn bywyd fel ei bod hi’n hawdd iti deimlo’n ansicr. Ond, os wyt ti’n gwybod i le rwyt ti eisiau mynd, fe fydd yn haws iti wneud y dewisiadau cywir. I ba gyfeiriad dylet ti fynd?

3 Bydd yr erthygl hon yn ateb y cwestiwn hwnnw ac yn dy annog i ganolbwyntio ar blesio Jehofa. Mae hyn yn golygu dilyn cyngor Jehofa ym mhob penderfyniad rwyt ti’n gorfod ei wneud mewn bywyd, gan gynnwys dewisiadau o ran addysg a swyddi, a’r penderfyniad i briodi a chael plant neu beidio. Ac mae’n golygu gweithio’n galed i gyrraedd amcanion ysbrydol sy’n dod â thi’n agosach at Jehofa. Os wyt ti’n canolbwyntio ar wasanaethu Jehofa, gelli di fod yn sicr bydd Duw yn dy fendithio ac yn dy helpu i lwyddo.—Darllen Diarhebion 16:3.

PAM GOSOD AMCANION YSBRYDOL?

4. Beth fyddwn ni’n ei drafod yn yr erthygl hon?

4 Peth da ydy gosod amcanion ysbrydol. Pam? Byddwn ni’n ystyried tri rheswm. Bydd y rheswm cyntaf a’r ail yn dy helpu i weld sut bydd anelu at amcanion ysbrydol yn dy wneud di’n well ffrind i Jehofa. Bydd y trydydd yn dangos pam mae gosod yr amcanion hynny tra wyt ti’n ifanc yn dda iti.

5. Beth ydy’r rheswm pwysicaf dros osod amcanion ysbrydol?

5 Y rheswm pwysicaf dros osod amcanion ysbrydol ydy diolch i Jehofa am ei gariad ac am yr holl bethau y mae wedi eu gwneud inni. Ysgrifennodd un o’r salmwyr: “Mae’n beth da diolch i’r ARGLWYDD . . . Ti’n fy ngwneud i mor hapus, O ARGLWYDD; a dw i’n canu’n uchel o achos y cwbl rwyt ti’n wneud.” (Salm 92:1, 4) Meddylia am bopeth mae Jehofa wedi ei roi iti: dy fywyd, dy ffydd, y Beibl, y gynulleidfa, a’r gobaith o fyw am byth yn y Baradwys. Pan wyt ti’n gosod amcanion ysbrydol, rwyt ti’n dangos i Jehofa dy fod ti’n ddiolchgar am y pethau hyn ac mae hynny’n dod â thi’n agosach ato.

6. (a) Sut mae amcanion ysbrydol yn effeithio ar dy berthynas â Jehofa? (b) Pa amcanion gelli di eu gosod pan wyt ti’n ifanc?

6 Yr ail reswm dros osod amcanion ysbrydol ydy dy fod ti’n gwneud gwaith da ar gyfer Jehofa. Bydd hynny’n dod â thi’n agosach ato. Addawodd yr apostol Paul: “Dydy Duw ddim yn annheg; wnaiff e ddim anghofio beth dych chi wedi ei wneud.” (Hebreaid 6:10) Dwyt ti byth yn rhy ifanc i osod amcanion ysbrydol. Er enghraifft, roedd Christine yn 10 mlwydd oed pan benderfynodd hi ddarllen yn rheolaidd hanesion bywyd Tystion ffyddlon. Roedd Toby yn 12 pan osododd y nod o ddarllen y Beibl cyfan cyn cael ei fedyddio. Roedd Maxim yn 11 a’i chwaer Noemi yn 10 pan gawson nhw eu bedyddio. Roedd y ddau ohonyn nhw wedi gosod y nod o wasanaethu yn y Bethel. Er mwyn canolbwyntio ar y nod hwnnw, dyma nhw’n rhoi’r ffurflen gais ar gyfer Bethel ar y wal yn y cartref. Beth amdanat tithau? A elli di feddwl am amcanion y gelli dithau eu gosod a dechrau anelu atyn nhw?—Darllen Philipiaid 1:10, 11.

7, 8. (a) Sut mae gosod amcanion yn ein helpu i wneud penderfyniadau? (b) Pam gwnaeth un chwaer yn ei harddegau ddewis peidio â mynd i’r brifysgol?

7 Beth ydy’r trydydd rheswm da dros osod amcanion tra wyt ti’n ifanc? Pan wyt ti’n ifanc, mae gen ti lawer o benderfyniadau i’w gwneud. Mae’n rhaid iti ddewis faint o addysg i’w chael a pha swydd rwyt ti eisiau a llawer o bethau eraill. Mae’r penderfyniadau hyn mewn bywyd yn debyg i gyrraedd croesffordd ar dy daith. Os wyt ti’n gwybod i le rwyt ti’n mynd, hawdd ydy dewis pa ffordd i’w dilyn. Yn yr un ffordd, os wyt ti’n gwybod beth ydy dy amcanion, mae gwneud penderfyniadau doeth yn haws. Mae Diarhebion 21:5 yn dweud: “Mae llwyddiant yn dod o gynllunio gofalus a gwaith caled.” Y cynharaf yn y byd rwyt ti’n gosod amcanion da, y cynharaf yn y byd byddi di’n llwyddo. Dyna oedd profiad Damaris pan oedd rhaid iddi hi wneud penderfyniad pwysig yn ei harddegau.

8 Roedd Damaris wedi cael marciau da iawn cyn iddi adael yr ysgol, a byddai hi wedi gallu mynd i’r brifysgol i astudio’r gyfraith heb orfod talu am ei haddysg. Yn hytrach, dewisodd hi weithio mewn banc. Pam? Oherwydd ei bod hi, pan oedd hi’n ifanc iawn, wedi penderfynu y byddai hi’n arloesi. Mae hi’n dweud: “Roedd hynny’n golygu gweithio’n rhan-amser. Gyda gradd yn y gyfraith, byddwn i wedi gallu ennill lot o arian, ond go brin y byddwn i wedi gallu ffeindio gwaith rhan-amser.” Mae Damaris wedi bod yn arloesi am 20 mlynedd. Ydy hi’n teimlo ei bod hi wedi gosod y nod cywir ac wedi gwneud y penderfyniad cywir pan oedd hi yn ei harddegau? Ydy. Yn y banc lle mae hi’n gweithio, mae hi’n cwrdd â llawer o gyfreithwyr sy’n gwneud y gwaith y byddai hi wedi bod yn ei wneud petasai hi wedi mynd i’r brifysgol. Mae hi’n dweud bod llawer ohonyn nhw’n anhapus iawn yn eu swyddi. Mae Damaris yn teimlo bod yr holl flynyddoedd o arloesi wedi rhoi llawenydd mawr iddi ac wedi ei helpu i osgoi teimlo’n drist.

9. Pam rydyn ni’n falch o’n rhai ifanc?

9 Mae miloedd o’n rhai ifanc ar draws y byd yn gwneud yn dda iawn ac yn haeddu canmoliaeth. Canolbwynt eu bywydau ydy eu perthynas â Jehofa a’u hamcanion ysbrydol. Mae’r bobl ifanc hyn yn mwynhau bywyd ac, ar yr un pryd, maen nhw’n dysgu sut i ddilyn arweiniad Jehofa ym mhob dim, gan gynnwys addysg, gwaith, a bywyd teuluol. Dywedodd Solomon: “Trystia’r ARGLWYDD yn llwyr.” Ychwanegodd: “Gwrando arno fe bob amser, a bydd e’n dangos y ffordd iawn i ti.” (Diarhebion 3:5, 6) Bobl ifanc, mae Jehofa yn eich caru chi’n fawr iawn! Rydych chi’n werthfawr iawn iddo, a bydd ef yn eich gwarchod, yn eich arwain, ac yn eich bendithio chi.

PARATOI’N DDA I SIARAD AM JEHOFA

10. (a) Pam y dylai’r gwaith pregethu fod yn un o’r pethau mwyaf pwysig inni? (b) Sut gelli di wella yn y ffordd rwyt ti’n esbonio dy ddaliadau?

10 Pan wyt ti’n canolbwyntio ar blesio Jehofa, byddi di eisiau sôn wrth eraill amdano. Dywedodd Iesu Grist fod “rhaid i’r newyddion da gael ei gyhoeddi ym mhob gwlad gyntaf.” (Marc 13:10) Felly mae’r gwaith pregethu yn fater o frys a dylai fod yn un o’r pethau mwyaf pwysig inni. A elli di osod y nod o bregethu’n fwy aml? A elli di arloesi? Ond, beth os nad wyt ti’n mwynhau pregethu? A sut gelli di wella yn y ffordd rwyt ti’n esbonio dy ddaliadau? Bydd dau beth yn dy helpu: Paratoi’n dda, a dal ati i rannu’r hyn rwyt ti’n ei wybod am Jehofa. Wedyn, efallai byddi di’n synnu at gymaint rwyt ti’n mwynhau pregethu.

Sut rwyt ti’n paratoi ar gyfer siarad ag eraill am Jehofa? (Gweler paragraffau 11, 12)

11, 12. (a) Sut gelli di baratoi ar gyfer siarad ag eraill am Jehofa? (b) Sut gwnaeth un brawd ddal ar y cyfle i siarad am Jehofa yn yr ysgol?

11 Gelli di gychwyn drwy baratoi atebion i gwestiynau mae dy ffrindiau yn yr ysgol yn debygol o’u gofyn, er enghraifft, “Wyt ti’n teimlo bod ein dioddefaint o bwys i Dduw?” Mae ’na erthyglau ar ein gwefan jw.org sy’n gallu dy helpu i ateb y cwestiwn hwnnw. Os wyt ti’n edrych o dan DYSGEIDIAETHAU’R BEIBL > ARDDEGAU, byddi di’n gweld taflen astudio gyda’r teitl “Ydy Ein Dioddefaint o Bwys i Dduw?” Bydd y daflen astudio hon yn dy helpu i baratoi dy ateb dy hun. Mae’n cynnwys adnodau sy’n gallu dy helpu i esbonio dy ddaliadau: Iago 1:13, Genesis 6:5, 6, a 1 Ioan 4:8. Mae ’na hefyd daflenni astudio eraill y gelli di eu defnyddio i baratoi atebion ar gyfer llawer o gwestiynau eraill.—Darllen 1 Pedr 3:15.

12 Dyweda wrth dy ffrindiau yn yr ysgol eu bod nhw hefyd yn gallu chwilio am bethau ar jw.org. Dyna beth wnaeth Luca. Roedd ei ddosbarth yn trafod gwahanol grefyddau. Sylweddolodd Luca fod y gwerslyfr yn dweud pethau anghywir am Dystion Jehofa. Er bod Luca’n teimlo’n nerfus, gofynnodd i’r athro am gyfle i esbonio wrth y dosbarth pam roedd y pethau hynny’n anghywir. Gwnaeth yr athro adael iddo esbonio ei ddaliadau, ac roedd yn gallu dangos y wefan i’r dosbarth cyfan. Gofynnodd yr athro i bawb wylio’r fideo Curo Bwli Heb Ddefnyddio Dy Ddyrnau fel gwaith cartref. A elli di ddychmygu pa mor hapus oedd Luca oherwydd ei fod wedi siarad am Jehofa yn yr ysgol?

13. Pam na ddylen ni roi’r gorau iddi pan fyddwn ni’n wynebu sefyllfaoedd anodd?

13 Pan wyt ti’n wynebu sefyllfaoedd anodd, paid â digalonni, ond dal ati er mwyn cyrraedd dy nod. (2 Timotheus 4:2) Dyna beth wnaeth Katharina. Roedd hi’n 17 pan wnaeth hi osod y nod o bregethu i bob un o’i chyd-weithwyr. Roedd un ohonyn nhw’n gas wrthi sawl gwaith. Ond, ni wnaeth hi anghofio ei nod. Roedd ei hymddygiad da wedi gwneud argraff dda ar gyd-weithiwr arall, Hans. Dechreuodd ddarllen ein cyhoeddiadau, astudio’r Beibl, a chafodd ei fedyddio. Doedd Katharina ddim yn gwybod am hyn oherwydd yn y cyfamser roedd hi wedi symud i ffwrdd. Felly, tra oedd hi yn y cyfarfod gyda’i theulu 13 o flynyddoedd yn ddiweddarach, roedd hi wedi ei syfrdanu pan welodd hi Hans yn rhoi’r anerchiad cyhoeddus! Roedd hi’n hapus iawn nad oedd hi wedi rhoi’r gorau i’w nod o bregethu i’w chyd-weithwyr.

PAID AG ANGHOFIO AM DY AMCANION

14, 15. (a) Beth ddylet ti ei gofio pan fydd eraill yn pwyso arnat ti i wneud beth maen nhw’n ei wneud? (b) Beth gelli di ei wneud i aros yn gadarn pan fydd eraill yn rhoi pwysau arnat ti?

14 Hyd yma, mae’r erthygl hon wedi dy annog i ganolbwyntio ar blesio Jehofa ac i osod amcanion ysbrydol. Ond, yr unig beth mae llawer o bobl dy oedran di eisiau ei wneud ydy cael hwyl. Ac mae’n debyg y byddan nhw’n gofyn iti ymuno â nhw. Yn hwyr neu’n hwyrach, bydd rhaid iti adael i bobl eraill weld ba mor bwysig ydy cyrraedd dy amcanion. Paid â gadael i bobl eraill wneud iti anghofio am dy amcanion. Os oeddet ti yn yr orsaf fysus y soniwyd amdani ar gychwyn yr erthygl, a fyddet ti’n mynd ar un o’r bysus, dim ond oherwydd bod y bobl arno yn cael hwyl? Na fyddet ti, wrth gwrs!

15 Felly, beth gelli di ei wneud i aros yn gadarn pan fydd eraill yn pwyso arnat ti i wneud beth maen nhw’n ei wneud? Ceisia osgoi sefyllfaoedd lle bydd hi’n anodd iti wrthod y pwysau hynny. (Diarhebion 22:3) Meddylia am y canlyniadau poenus sy’n dod o wneud pethau drwg. (Galatiaid 6:7) A bydda’n ddigon gostyngedig i gyfaddef bod angen cyngor da arnat ti. Gwranda ar dy rieni ac ar frodyr a chwiorydd profiadol yn y gynulleidfa.—Darllen 1 Pedr 5:5, 6.

16. Sut mae profiad Christoph yn dangos pwysigrwydd bod yn ostyngedig?

16 Roedd gostyngeiddrwydd wedi helpu Christoph i dderbyn cyngor da. Yn fuan ar ôl iddo gael ei fedyddio, dechreuodd fynd i’r ganolfan ffitrwydd yn rheolaidd. Yno, roedd pobl ifanc eraill yn gofyn iddo ymuno â’u clwb chwaraeon. Siaradodd ag un o’r henuriaid am y peth, a dywedodd yr henuriad wrtho y dylai feddwl am rai o’r peryglon, er enghraifft, troi’n gystadleuol iawn. Penderfynodd Christoph ymuno â’r clwb beth bynnag. Ond, ar ôl dipyn, sylweddolodd fod y gêm yn dreisgar a hyd yn oed yn beryglus. Siaradodd â’r henuriaid unwaith eto, a rhoddon nhw gyngor o’r Beibl iddo. Mae Christoph yn dweud: “Anfonodd Jehofa arweinwyr da ataf fi, ac mi wnes i wrando ar Dduw, er bod hynny wedi cymryd dipyn o amser imi.” Wyt ti’n ddigon gostyngedig i dderbyn cyngor da?

17, 18. (a) Beth mae Jehofa eisiau ar gyfer pobl ifanc heddiw? (b) Sut gelli di osgoi difaru dy benderfyniadau pan fyddi di’n oedolyn? Rho esiampl.

17 Mae’r Beibl yn dweud: “Ti’n ifanc! Mwynha dy hun tra mae gen ti gyfle! Cei ddigon o hwyl a sbri pan wyt ti’n ifanc.” (Pregethwr 11:9) Mae Jehofa eisiau iti fod yn hapus pan wyt ti’n ifanc. Yn yr erthygl hon, rwyt ti wedi dysgu bod canolbwyntio ar dy amcanion ysbrydol a dilyn cyngor Jehofa ym mhob penderfyniad yn dod â hapusrwydd. Y cynharaf yn y byd rwyt ti’n gwneud hyn yn dy fywyd, y cynharaf yn y byd y byddi di’n profi sut mae Jehofa yn dy arwain, yn dy warchod, ac yn dy fendithio. Meddylia am yr holl gyngor da y mae’n ei roi yn ei Air, a rho’r cyngor canlynol ar waith: “Cofia dy Grëwr tra rwyt yn ifanc.”—Pregethwr 12:1.

18 Mae pobl ifanc yn tyfu i fyny’n gyflym ac yn dod yn oedolion. Yn anffodus, mae llawer ohonyn nhw yn difaru gosod yr amcanion anghywir, neu eu bod nhw wedi dal yn ôl rhag gosod unrhyw amcanion, pan oedden nhw’n ifanc. Ond, os wyt ti’n canolbwyntio ar dy amcanion ysbrydol, byddi di’n hapus â dy ddewisiadau pan fyddi di’n hŷn. Dyna sut mae Mirjana yn teimlo. Pan oedd hi yn ei harddegau, roedd hi’n dda iawn mewn chwaraeon. Cafodd hi hyd yn oed wahoddiad i gystadlu yng Ngemau Olympaidd y Gaeaf. Yn hytrach, dewisodd hi wasanaethu Jehofa’n llawn amser. Dros 30 o flynyddoedd yn ddiweddarach, mae hi’n dal i wasanaethu’n llawn amser gyda’i gŵr. Mae hi’n dweud nad ydy pobl sydd eisiau enwogrwydd, clod, pŵer, ac arian byth yn wirioneddol hapus. Mae hi hefyd yn dweud mai’r amcanion gorau ydy gwasanaethu Duw a helpu pobl i ddod i’w adnabod.

19. Pam mae canolbwyntio ar amcanion ysbrydol tra wyt ti’n ifanc yn beth da?

19 Rydych chi rai ifanc yn haeddu canmoliaeth oherwydd, er gwaethaf yr anawsterau rydych chi’n eu hwynebu, rydych chi’n canolbwyntio ar wasanaethu Jehofa. Rydych chi’n gosod amcanion ysbrydol, ac rydych chi’n ystyried y gwaith pregethu yn un o’r pethau pwysicaf yn eich bywyd. Hefyd, dydych chi ddim yn gadael i’r byd wneud ichi anghofio eich amcanion. Gallwch chi fod yn sicr nad ydy eich gwaith caled yn ofer. Mae gennych chi frodyr a chwiorydd sy’n eich caru ac yn eich cefnogi. Felly, “rho bopeth wnei di yn nwylo’r ARGLWYDD, a bydd dy gynlluniau’n llwyddo.”