Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Gwasanaethu Jehofa, Duw Rhyddid

Gwasanaethu Jehofa, Duw Rhyddid

“A lle mae Ysbryd yr Arglwydd, yno y mae rhyddid.”—2 CORINTHIAID 3:17, Y Beibl Cysegr-lân.

CANEUON: 49, 73

1, 2. (a) Pam roedd caethwasiaeth a rhyddid yn bynciau pwysig yn nyddiau’r apostol Paul? (b) Yn ôl Paul, pwy oedd ffynhonnell gwir ryddid?

ROEDD y Cristnogion cynnar yn byw yn yr Ymerodraeth Rufeinig, ac i lawer o bobl roedd y cyfreithiau, y system gyfiawnder, a’r rhyddid oedd ganddyn nhw yn destun balchder. Ond eto, roedd yr ymerodraeth rymus honno yn gorfod dibynnu ar gaethweision i wneud y rhan fwyaf o’r gwaith caled. Ar un adeg, roedd un o bob tri unigolyn yn yr Ymerodraeth Rufeinig yn gaethwas. Yn wir, roedd caethwasiaeth a rhyddid yn bynciau pwysig i’r werin bobl, gan gynnwys Cristnogion.

2 Ysgrifennodd yr apostol Paul am ryddid yn aml. Ond doedd ddim yn ceisio datrys problemau’r byd hwn, rhywbeth roedd llawer o bobl bryd hynny eisiau ei wneud. Yn hytrach, roedd Paul a’i gyd-Gristnogion yn gweithio’n galed i ddysgu’r newyddion da am Deyrnas Dduw i bobl a’u helpu nhw i ddeall pa mor werthfawr oedd aberth pridwerthol Iesu Grist. Dywedodd Paul wrth ei gyd-Gristnogion pwy oedd ffynhonnell gwir ryddid. Ysgrifennodd: “Eithr yr Arglwydd yw’r Ysbryd: a lle mae Ysbryd yr Arglwydd, yno y mae rhyddid.”—2 Corinthiaid 3:17, BC.

3, 4. (a) Yn yr adnodau cyn 2 Corinthiaid 3:17, beth roedd Paul yn ei drafod? (b) Beth sy’n rhaid i ni ei wneud er mwyn cael y rhyddid hwnnw sy’n dod o Jehofa?

3 Yn ei ail lythyr at y Corinthiaid, mae Paul yn crybwyll beth ddigwyddodd i Moses pan ddaeth i lawr Mynydd Sinai ar ôl iddo fod ym mhresenoldeb un o angylion Jehofa. Roedd ei wyneb yn disgleirio! Pan wnaeth yr Israeliaid weld Moses, roedden nhw’n ofnus, ac felly dyma’n gorchuddio ei wyneb. (Exodus 34:29, 30, 33; 2 Corinthiaid 3:7, 13) Esboniodd Paul: “Pan mae’n troi at yr Arglwydd, mae’r gorchudd yn cael ei dynnu i ffwrdd.” Beth roedd Paul yn ei feddwl?

4 Fe ddysgon ni yn yr erthygl flaenorol mai Jehofa, Creawdwr pob peth, ydy’r unig Un sydd â rhyddid llwyr. Felly, mae synnwyr yn dweud bod ’na ryddid ym mhresenoldeb Jehofa ac yn “lle mae Ysbryd yr Arglwydd.” Ond dywedodd Paul fod angen inni droi at Jehofa er mwyn cael y rhyddid hwn. Mae hyn yn golygu bod rhaid inni gael perthynas agos ag ef. Roedd yr Israeliaid yn y diffeithwch yn gweld pethau dim ond o safbwynt dynol, nid o safbwynt Jehofa. Roedd fel petai gorchudd dros eu meddyliau a’u calonnau. Roedden nhw eisiau defnyddio eu rhyddid newydd i fodloni eu chwantau eu hunain.—Hebreaid 3:8-10.

Gall hyd yn oed rhywun sy’n garcharor gael rhyddid

5. (a) Pa fath o ryddid y mae ysbryd Jehofa yn ei roi? (b) Sut rydyn ni’n gwybod bod rhywun sy’n gaethwas neu’n garcharor yn dal yn gallu cael y rhyddid y mae Jehofa yn ei roi? (c) Pa gwestiynau sy’n rhaid inni eu hateb?

5 Mae’r rhyddid y mae ysbryd Jehofa yn ei roi yn golygu mwy na rhyddhau rhywun o fod yn gaethwas. Mae’r ysbryd hwnnw yn dod â llawer mwy o ryddid na allai bodau dynol byth mo’i roi. Gall ein rhyddhau ni rhag bod yn gaeth i bechod a marwolaeth a rhag gau grefydd a’i harferion. (Rhufeiniaid 6:23; 8:2) Dyna ydy gwir ryddid! Gall hyd yn oed rhywun sy’n gaethwas neu’n garcharor gael y rhyddid hwn. (Genesis 39:20-23) Cafodd y chwaer Nancy Yuen a’r brawd Harold King eu carcharu am lawer o flynyddoedd oherwydd eu ffydd, ond eto roedd y math hwn o ryddid ganddyn nhw. Gelli di wylio’r ddau ohonyn nhw’n adrodd eu hanes ar JW Broadcasting. (Edrychwch o dan INTERVIEWS AND EXPERIENCES > ENDURING TRIALS.) Beth am inni nawr ateb dau gwestiwn? Sut gallwn ni brofi bod ein rhyddid yn werthfawr iawn inni? A sut gallwn ni ddefnyddio ein rhyddid mewn ffordd ddoeth?

MAE RHYDDID DUW MOR WERTHFAWR

6. Sut dangosodd yr Israeliaid nad oedden nhw’n ddiolchgar am y rhyddid roedd Jehofa wedi ei roi iddyn nhw?

6 Pan fyddwn ni’n derbyn anrheg werthfawr, rydyn ni’n ddiolchgar i’r person sydd wedi ei rhoi inni. Ond doedd yr Israeliaid ddim yn ddiolchgar am y rhyddid roedd Jehofa wedi ei roi iddyn nhw. Ychydig o wythnosau yn unig ar ôl i Jehofa eu rhyddhau o’r Aifft, dechreuon nhw hiraethu am fwyd a diod y wlad honno. Roedden nhw’n cwyno am orfod bwyta’r manna, y bwyd roedd Jehofa yn ei roi iddyn nhw. Roedden nhw eisiau mynd yn ôl i’r Aifft! Iddyn nhw, roedd y digonedd o “bysgod . . . , a phethau fel ciwcymbyrs, melons, cennin, nionod a garlleg” oedd ganddyn nhw yn yr Aifft yn bwysicach na’r rhyddid roedd Jehofa wedi ei roi er mwyn iddyn nhw allu ei addoli. Does dim rhyfedd fod Jehofa wedi gwylltio â nhw. (Numeri 11:5, 6, 10; 14:3, 4) Mae hyn yn dysgu gwers bwysig inni.

7. Sut gwnaeth Paul roi ar waith ei gyngor ei hun, sydd i’w gael yn 2 Corinthiaid 6:1, a sut gallwn ninnau wneud yr un peth?

7 Gwnaeth Paul rybuddio pob Cristion i beidio â bod yn anniolchgar am y rhyddid mae Jehofa wedi ei roi inni drwy ei Fab, Iesu Grist. (Darllen 2 Corinthiaid 6:1.) Roedd Paul yn amherffaith, yn gaeth i bechod a marwolaeth, ac roedd hyn yn ei ddigalonni. Ond eto, dyma’n dweud: “Duw, diolch iddo!—o achos beth wnaeth ein Harglwydd ni, Iesu y Meseia.” Pam dywedodd hynny? Esboniodd Paul i’w gyd-Gristnogion: “O achos beth wnaeth y Meseia Iesu mae’r Ysbryd Glân, sy’n rhoi bywyd, wedi fy ngollwng i’n rhydd o afael y pechod sy’n arwain i farwolaeth.” (Rhufeiniaid 7:24, 25; 8:2) Fel Paul, ddylen ni byth anghofio bod Jehofa wedi ein rhyddhau ni o afael pechod a marwolaeth. Mae’r pridwerth yn ei gwneud hi’n bosib inni wasanaethu Duw â chydwybod lân, ac mae hyn yn rhoi llawenydd inni.—Salm 40:8, Beibl Cymraeg Diwygiedig.

Wyt ti’n defnyddio dy ryddid i wneud beth mae Jehofa eisiau neu i wneud beth rwyt ti eisiau ei wneud? (Gweler paragraffau 8-10)

8, 9. (a) Pa rybudd a roddodd yr apostol Pedr ynglŷn â sut y dylen ni ddefnyddio ein rhyddid? (b) Sut gall rhywun ddefnyddio ei ryddid yn y ffordd anghywir?

8 Yn ogystal â dweud wrth Jehofa ein bod ni’n ddiolchgar, dylen ni hefyd fod yn ofalus i beidio â defnyddio ein rhyddid yn y ffordd anghywir. Er enghraifft, rhybuddiodd yr apostol Pedr na ddylen ni ddefnyddio ein rhyddid fel esgus i wneud pethau drwg. (Darllen 1 Pedr 2:16, 17.) Mae’r rhybudd hwn yn ein hatgoffa o’r hyn a ddigwyddodd i’r Israeliaid yn y diffeithwch. Heddiw, mae angen y rhybudd hwn arnon ni’n fwy byth. Mae Satan a’i fyd yn cynnig pethau neis i’w gwisgo, i’w bwyta, ac i’w hyfed heb sôn am adloniant. Mae hysbysebwyr clyfar yn defnyddio pobl olygus i wneud inni feddwl ein bod ni’n gorfod prynu pethau nad ydyn ni mo’u hangen. Hawdd iawn ydy cael ein twyllo gan y byd i ddefnyddio ein rhyddid mewn ffordd anghywir.

9 Mae cyngor Pedr hefyd yn berthnasol i benderfyniadau pwysig bywyd, pethau fel addysg, gwaith, a gyrfa. Er enghraifft, mae pobl ifanc heddiw yn teimlo o dan bwysau i weithio’n galed iawn er mwyn iddyn nhw gael eu derbyn gan y prifysgolion gorau. Mae llawer yn dweud wrthyn nhw y bydd addysg uwch yn eu helpu i gael swydd dda, lot o bres, ac i ennill parch. Mae’r bobl hynny yn dangos gwybodaeth iddyn nhw sydd, ar y wyneb, yn profi bod y rhai sy’n graddio o brifysgol yn mynd yn eu blaenau i ennill mwy o gyflog na’r rhai sydd ag addysg sylfaenol yn unig. Mae addysg uwch yn ymddangos fel petai’n syniad da pan fydd pobl ifanc yn gorfod gwneud penderfyniadau sy’n mynd i effeithio ar weddill eu hoes. Ond, beth ddylen nhw a’u rhieni ei gofio?

10. Beth sy’n rhaid inni ei gofio wrth benderfynu ar faterion personol?

10 Gall rhai feddwl mai materion personol ydy’r rhain ac oherwydd hynny y dylen nhw fod yn rhydd i ddewis beth bynnag maen nhw eisiau cyn belled nad ydy’r penderfyniad yn poeni eu cydwybod. Efallai maen nhw’n dwyn i gof eiriau Paul: “Ond pam dylai fy rhyddid i gael ei glymu gan gydwybod rhywun arall?” (1 Corinthiaid 10:29) Er ein bod ni’n rhydd i wneud dewisiadau o ran addysg a gwaith, mae’n rhaid inni gofio bod ’na gyfyngiadau ar ein rhyddid a chanlyniadau i bob un o’n penderfyniadau. Dyna pam dywedodd Paul: “‘Rhyddid i wneud beth dw i eisiau,’ meddech chi. A dw i’n ateb, ‘Dydy popeth ddim yn dda i chi.’ Er bod rhyddid i mi wneud beth dw i eisiau, dydy popeth ddim yn adeiladol.” (1 Corinthiaid 10:23) Felly, er bod gennyn ni’r rhyddid i benderfynu droson ni’n hunain ynglŷn â materion personol, nid yr hyn rydyn ni eisiau ydy’r peth pwysicaf.

DEFNYDDIO EIN RHYDDID YN DDOETH I WASANAETHU JEHOFA

11. Pam mae Jehofa wedi ein rhyddhau ni?

11 Pan wnaeth Pedr ein rhybuddio ni i beidio â defnyddio ein rhyddid yn y ffordd anghywir, dywedodd mai “gwasanaethu Duw” ydy’r ffordd orau o’i ddefnyddio. Y rheswm y mae Jehofa wedi defnyddio Iesu i’n rhyddhau ni o afael pechod a marwolaeth ydy inni ddefnyddio ein bywydau i’w wasanaethu Ef.

Y ffordd orau o ddefnyddio ein rhyddid yw defnyddio ein hamser a’n hegni i wasanaethu Jehofa yn llawn

12. Pa esiampl osododd Noa a’i deulu i ni heddiw?

12 Y ffordd orau o ddefnyddio ein rhyddid yw defnyddio ein hamser a’n hegni i wasanaethu Jehofa yn llawn. Bydd gwneud hyn yn ein hamddiffyn ni rhag gadael i amcanion bydol a chwantau personol gael y lle cyntaf yn ein bywydau. (Galatiaid 5:16) Meddylia am beth wnaeth Noa a’i deulu. Roedden nhw’n byw mewn byd treisgar ac anfoesol. Ond wnaethon nhw ddim ymddwyn yr un ffordd â’r bobl o’u cwmpas. Dewison nhw gadw’n brysur yn gwneud y gwaith roedd Jehofa wedi ei roi iddyn nhw. Aethon nhw ati i adeiladu’r arch, i gasglu bwyd at ei gilydd ar gyfer nhw eu hunain a’r anifeiliaid, ac i rybuddio eraill am y Dilyw. “A dyma Noa yn gwneud yn union fel roedd Duw wedi dweud wrtho.” (Genesis 6:22) O ganlyniad, gwnaeth Noa a’i deulu oroesi diwedd y byd hwnnw.—Hebreaid 11:7.

13. Beth mae Jehofa wedi ein gorchymyn i’w wneud?

13 Beth mae Jehofa wedi ei orchymyn i ni heddiw? Fel disgyblion Iesu, rydyn ni’n gwybod bod Duw wedi ein gorchymyn i bregethu. (Darllen Luc 4:18, 19.) Heddiw, mae Satan wedi dallu’r rhan fwyaf o bobl a dydyn nhw ddim yn sylweddoli eu bod nhw’n gaeth i gau grefydd, pethau materol, a’r system wleidyddol. (2 Corinthiaid 4:4) Fel Iesu, ein braint ni yw helpu pobl i ddod i adnabod ac i addoli Jehofa, Duw rhyddid. (Mathew 28:19, 20) Dydy pregethu i eraill ddim yn hawdd. Mewn rhai llefydd, does gan bobl ddim diddordeb yn Nuw, ac mae rhai yn gwylltio pan ydyn ni’n pregethu iddyn nhw. Ond oherwydd bod Jehofa wedi ein gorchymyn i bregethu, dylen ni ofyn i ni’n hunain: ‘Ydw i’n gallu defnyddio fy rhyddid i wneud mwy yng ngwasanaeth Jehofa?’

14, 15. Beth mae llawer o bobl Jehofa wedi penderfynu ei wneud? (Gweler y llun agoriadol.)

14 Calonogol iawn yw bod llawer o bobl Jehofa wedi sylweddoli bod diwedd y system hon yn agos a’u bod nhw wedi penderfynu symleiddio eu bywyd a dechrau arloesi. (1 Corinthiaid 9:19, 23) Mae rhai’n arloesi yn eu hardal leol, ac mae eraill wedi symud i gynulleidfaoedd sydd angen help. Yn y pum mlynedd ddiwethaf, mae dros 250,000 wedi dechrau arloesi, ac erbyn hyn mae dros 1,100,000 o arloeswyr llawn amser. Hyfryd iawn yw gweld cymaint yn defnyddio eu rhyddid i wasanaethu Jehofa fel hyn!—Salm 110:3.

15 Beth wnaeth eu helpu i ddefnyddio eu rhyddid yn ddoeth? Ystyria sefyllfa John a Judith, sydd wedi gwasanaethu mewn sawl gwlad dros y 30 mlynedd ddiwethaf. Pan sefydlwyd yr Ysgol Arloesi ym 1977, cafodd y myfyrwyr eu hannog i symud a gwasanaethu lle’r oedd ’na fwy o angen. Er mwyn cyrraedd y nod hwnnw, roedd rhaid i John a Judith gadw eu bywyd yn syml. Felly newidiodd John ei swydd. Ymhen amser, aethon nhw i bregethu mewn gwlad dramor. Beth wnaeth eu helpu i ddysgu iaith newydd ac i addasu i ddiwylliant a hinsawdd newydd? Gweddïon nhw ar Jehofa a dibynnu arno am help. Sut maen nhw’n teimlo am y ffordd maen nhw wedi bod yn gwasanaethu Jehofa dros y blynyddoedd? Mae John yn dweud: “Roeddwn i’n teimlo fel fy mod i wedi ymdrochi’n llwyr yn y gwaith gorau erioed. Daeth Jehofa yn fwy real imi, fel tad cariadus. Nawr rwy’n deall yn well beth mae Iago 4:8 yn ei feddwl: ‘Closiwch at Dduw a bydd e’n closio atoch chi.’ Roeddwn i’n gwybod fy mod i wedi darganfod yr hyn roeddwn i’n chwilio amdano, pwrpas mewn bywyd.”

16. Sut mae llawer wedi defnyddio eu rhyddid yn ddoeth?

16 Gall rhai, fel John a Judith, arloesi am gyfnod hir. Oherwydd amgylchiadau, gall eraill arloesi dim ond am ychydig. Hefyd, mae llawer o wirfoddolwyr yn gweithio ar brosiectau adeiladu o gwmpas y byd. Er enghraifft, daeth tua 27,000 o frodyr a chwiorydd i helpu adeiladu pencadlys Tystion Jehofa yn Warwick, Efrog Newydd. Daeth rhai am bythefnos, rhai am ychydig o fisoedd, ac eraill am flwyddyn a mwy. Roedd llawer o’r brodyr a’r chwiorydd hyn wedi aberthu’n fawr er mwyn gwasanaethu yn Warwick. Maen nhw’n esiamplau da o bobl sydd wedi defnyddio eu rhyddid i foli ac anrhydeddu Jehofa!

17. Beth gallwn ni edrych ymlaen ato os byddwn ni’n defnyddio ein rhyddid mewn ffordd ddoeth heddiw?

17 Rydyn ni’n ddiolchgar am gael dod i adnabod Jehofa ac am y rhyddid sy’n dod inni wrth ei addoli. Gad inni brofi drwy ein penderfyniadau fod y rhyddid hwn yn werthfawr iawn inni. Yn hytrach na’i ddefnyddio yn y ffordd anghywir, gad inni ei ddefnyddio i wasanaethu Jehofa gymaint ag y gallwn ni. Yna, cawn fwynhau’r bendithion y mae Jehofa wedi eu haddo pan fydd y broffwydoliaeth hon yn dod yn wir: “Mae’r greadigaeth hefyd yn mynd i gael ei gollwng yn rhydd! Fydd hi ddim yn gaeth i lygredd ddim mwy. Bydd yn rhannu’r rhyddid bendigedig fydd Duw’n ei roi i’w blant.”—Rhufeiniaid 8:21.