Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

ERTHYGL ASTUDIO 16

Amddiffyn y Gwirionedd am Farwolaeth

Amddiffyn y Gwirionedd am Farwolaeth

“Dyma sut yr ydym yn adnabod ysbryd y gwirionedd ac ysbryd cyfeiliornad.”—1 IOAN 4:6, BCND.

CÂN 73 Dyro Inni Hyder

CIPOLWG *

Yn hytrach na chymryd rhan mewn arferion sydd ddim yn plesio Duw, cysura dy berthnasau sydd wedi colli rhywun annwyl mewn marwolaeth (Gweler paragraffau 1-2) *

1-2. (a) Sut mae Satan wedi twyllo pobl? (b) Beth fyddwn ni’n ei drafod yn yr erthygl hon?

SATAN yw “tad pob celwydd” sydd wedi bod yn twyllo pobl ers cychwyn hanes dyn. (Ioan 8:44) Ymhlith ei gelwyddau y mae gau ddysgeidiaethau am farwolaeth a bywyd ar ôl marwolaeth. Seiliwyd nifer o arferion poblogaidd ar y dysgeidiaethau anghywir hynny. O ganlyniad, mae nifer o’n brodyr a’n chwiorydd wedi gorfod gwneud “safiad dros y ffydd” ar ôl i aelod o’r teulu neu’r gymuned farw.—Jwd.3.

2 Yn wyneb prawf o’r fath, beth all dy helpu i wneud safiad dros yr hyn mae’r Beibl yn ei ddysgu am farwolaeth? (Eff. 6:11) Sut gelli di gysuro a chryfhau dy gyd-Gristnogion pan fyddan nhw o dan bwysau i gymryd rhan mewn arferion sy’n digio Duw? Bydd yr erthygl hon yn trafod yr arweiniad mae Jehofa wedi ei roi inni. Yn gyntaf, gad inni drafod yr hyn mae’r Beibl yn ei ddweud am farwolaeth.

GWIR GYFLWR Y MEIRW

3. Beth oedd canlyniadau’r celwydd cyntaf?

3 Nid bwriad Duw oedd i fodau dynol farw. Ond, er mwyn iddyn nhw fyw am byth, roedd rhaid i Adda ac Efa ufuddhau i Jehofa, yr un a roddodd y gorchymyn syml hwn: “Paid bwyta ffrwyth y goeden sy’n rhoi gwybodaeth am bopeth—da a drwg. Pan wnei di hynny byddi’n siŵr o farw.” (Gen. 2:16, 17) Yna, dechreuodd Satan greu problemau. Yn siarad drwy gyfrwng sarff, dywedodd Satan wrth Efa: “Na! Fyddwch chi ddim yn marw.” Trist iawn yw bod Efa wedi credu’r celwydd hwnnw a bwyta’r ffrwyth. Yn nes ymlaen, bwytaodd ei gŵr y ffrwyth hefyd. (Gen. 3:4, 6) Dyna sut dechreuodd pechod a marwolaeth effeithio ar y teulu dynol.—Rhuf. 5:12.

4-5. Sut mae Satan wedi parhau i dwyllo pobl?

4 Bu farw Adda ac Efa, yn union fel roedd Duw wedi dweud y bydden nhw. Ond, ni wnaeth Satan stopio dweud celwyddau am farwolaeth. Yn nes ymlaen, dechreuodd ledaenu celwyddau eraill. Un o’r celwyddau hynny ydy bod y corff dynol yn marw tra bo rhan arall o’r person yn parhau i fyw, efallai fel ysbryd greadur. Mae ffurfiau gwahanol o’r celwydd hwn wedi twyllo pobl hyd heddiw.—Dat. 12:9.

5 Pam mae cymaint o bobl yn cael eu twyllo? Mae celwyddau Satan yn ecsbloetio ein teimladau naturiol am farwolaeth. Oherwydd y cawson ni’n creu i fyw am byth, dydyn ni ddim eisiau marw. (Preg. 3:11, BCND) Gelyn ydy marwolaeth.—1 Cor. 15:26.

6-7. (a) Ydy Satan wedi llwyddo i guddio’r gwirionedd am farwolaeth? Esbonia. (b) Sut mae gwirionedd y Beibl yn ein hamddiffyn rhag teimlo ofn diangen?

6 Er gwaethaf ymdrechion Satan, nid yw’r gwirionedd am farwolaeth wedi ei guddio. Yn wir, mae mwy nag erioed yn gwybod ac yn pregethu gwirionedd y Beibl am gyflwr y meirw ac am y gobaith ar eu cyfer. (Preg. 9:5, 10, BCND; Act. 24:15) Mae’r gwirioneddau hyn yn ein cysuro ni, ac yn ein hamddiffyn rhag teimlo ofn ac ansicrwydd diangen. Er enghraifft, dydyn ni ddim yn ofni’r meirw, nac yn poeni amdanyn nhw. Rydyn ni’n gwybod dydyn nhw ddim yn byw nac yn gallu niweidio neb. Mae fel petaen nhw’n cysgu’n drwm. (Ioan 11:11-14) Rydyn ni hefyd yn gwybod nad ydyn nhw’n ymwybodol o amser yn mynd heibio. Felly, yn yr atgyfodiad, bydd hyd yn oed pobl sydd wedi bod yn eu beddau am ganrifoedd yn teimlo bod yr amser sydd wedi mynd heibio fel chwinciad.

7 Wyt ti’n cytuno bod y gwirionedd am gyflwr y meirw yn eglur, yn syml, ac yn rhesymegol? Dyna wahaniaeth i gelwyddau dryslyd Satan! Yn ogystal â thwyllo pobl, mae’r celwyddau hynny yn pardduo enw ein Creawdwr. Er mwyn ein helpu i ddeall yn well y niwed mae Satan wedi ei achosi, byddwn ni’n ystyried y cwestiynau hyn: Sut mae celwyddau Satan wedi pardduo enw Jehofa? Sut maen nhw wedi tanseilio ffydd pobl yn aberth pridwerthol Crist? Sut maen nhw wedi achosi mwy o alar a dioddefaint i ddynolryw?

CELWYDDAU NIWEIDIOL SATAN

8. Fel y mae Jeremeia 19:5 yn ei ddangos, sut mae celwyddau Satan am y meirw yn pardduo enw Jehofa?

8 Mae celwyddau Satan am y meirw yn pardduo enw Jehofa. Mae’r celwyddau hyn yn cynnwys y ddysgeidiaeth fod y meirw yn cael eu poenydio mewn tân. Mae dysgeidiaethau o’r fath yn cablu Duw! Sut felly? Mewn ffordd, maen nhw’n gwneud i bobl feddwl bod gan y Duw cariadus yr un bersonoliaeth â’r Diafol. (1 Ioan 4:8) Sut mae hynny’n gwneud iti deimlo? Yn bwysicach byth, sut mae’n gwneud i Jehofa deimlo? Wedi’r cwbl, mae Duw yn casáu pob math o greulondeb.—Darllen Jeremeia 19:5.

9. Sut mae celwyddau Satan yn effeithio ar ffydd pobl yn aberth pridwerthol Crist a ddisgrifir yn Ioan 3:16 ac 15:13?

9 Mae celwyddau Satan am farwolaeth yn tanseilio ffydd pobl yn aberth pridwerthol Crist. (Math. 20:28) Celwydd satanaidd arall yw bod gan bobl enaid anfarwol. Petai hynny’n wir, byddai pawb yn byw am byth. Fyddai Crist ddim wedi gorfod aberthu ei fywyd yn bridwerth er mwyn inni gael bywyd tragwyddol. Cofia, aberth Crist ydy’r peth mwyaf cariadus mae rhywun erioed wedi ei wneud dros y teulu dynol. (Darllen Ioan 3:16; 15:13.) Dychmyga sut mae Jehofa a’i Fab yn teimlo am ddysgeidiaethau sy’n tanseilio’r anrheg arbennig honno!

10. Sut mae celwyddau Satan am farwolaeth wedi achosi mwy o alar a dioddefaint i ddynolryw?

10 Mae celwyddau Satan yn achosi mwy o alar a dioddefaint i ddynolryw. Mae rhai wedi dweud wrth rieni sy’n galaru ar ôl colli eu plentyn fod Duw wedi cymryd y plentyn, efallai i fod yn angel yn y nefoedd. Ydy’r celwydd hwn yn lleddfu ar eu poen, neu’n ychwanegu ato? Mae’r gau ddysgeidiaeth am uffern danllyd wedi cael ei defnyddio i gyfiawnhau arteithio pobl, gan gynnwys llosgi wrth y stanc wrthwynebwyr dysgeidiaethau’r eglwys. Yn ôl un llyfr am Chwilys Sbaen, gallai rhai o’r bobl a oedd yn gyfrifol am y creulondeb hwnnw fod wedi credu eu bod nhw ond yn rhoi “rhagflas o fywyd tragwyddol mewn uffern” i’r hereticiaid er mwyn iddyn nhw edifarhau cyn iddyn nhw farw a chael eu hachub rhag tân uffern. Mewn nifer o wledydd, mae pobl yn teimlo bod rhaid iddyn nhw dalu teyrnged i’w hynafiaid, i’w hanrhydeddu, neu i geisio bendith ganddyn nhw. Mae eraill eisiau plesio eu hynafiaid er mwyn osgoi cosb ganddyn nhw. Yn anffodus, dydy daliadau sy’n seiliedig ar gelwyddau satanaidd ddim yn dod â gwir gysur. Yn hytrach, maen nhw’n achosi pryder neu ofn diangen.

AMDDIFFYN GWIRIONEDD Y BEIBL

11. Sut gall aelodau teulu neu ffrindiau, sydd â bwriadau da, geisio rhoi pwysau arnon ni i fynd yn groes i Air Duw?

11 Mae cariad tuag at Dduw a’i Air yn ein cryfhau ni i fod yn ufudd i Jehofa hyd yn oed pan fydd aelodau teulu neu ffrindiau, sydd â bwriadau da, yn rhoi pwysau arnon ni i gymryd rhan mewn arferion anysgrythurol ynglŷn â’r meirw. Efallai bydden nhw’n ceisio codi cywilydd arnon ni, gan ddweud doedden ni ddim yn caru nac yn parchu’r sawl sydd wedi marw. Neu, gallan nhw ddweud bydd ein hymddygiad yn achosi i’r person sydd wedi marw niweidio pobl mewn rhyw ffordd. Sut gallwn ni amddiffyn gwirionedd y Beibl? Ystyria sut gelli di roi ar waith yr egwyddorion Beiblaidd canlynol.

12. Pa arferion ynglŷn â’r meirw sy’n amlwg yn anysgrythurol?

12 Bydda’n benderfynol o ymwahanu oddi wrth ddaliadau ac arferion anysgrythurol. (2 Cor. 6:17) Mewn un wlad yn y Caribî, mae llawer yn credu bod “ysbryd” rhywun sydd wedi marw yn aros er mwyn cosbi’r rhai a oedd wedi ei gam-drin. Gall yr “ysbryd” hwnnw “achosi difrod o fewn y gymuned,” meddai un ffynhonnell. Mewn rhannau o Affrica, yr arfer ydy gorchuddio drychau yn nhŷ’r sawl sydd wedi marw a throi lluniau i wynebu’r wal. Y rheswm? Mae rhai yn honni na ddylai’r meirw eu gweld eu hunain! Fel gweision Jehofa, dydyn ni ddim yn credu mewn unrhyw chwedlau nac yn cymryd rhan mewn arferion sy’n hyrwyddo celwyddau Satan!—1 Cor. 10:21, 22.

Gall ymchwil ofalus yn y Beibl a chyfathrebu da â’n perthnasau sydd ddim yn Dystion ein helpu i osgoi problemau (Gweler paragraffau 13-14) *

13. Os dwyt ti ddim yn sicr am arfer penodol, beth ddylet ti ei wneud, fel y dywed Iago 1:5?

13 Os dwyt ti ddim yn sicr am arfer penodol, tro at Jehofa mewn gweddi, a gofynna am ddoethineb dwyfol. (Darllen Iago 1:5.) Yna, gwna ymchwil yn ein cyhoeddiadau. Os oes angen, siarada â’r henuriaid yn dy gynulleidfa. Fyddan nhw ddim yn dweud wrthyt ti beth i’w wneud, ond maen nhw’n gallu dy gyfeirio di at egwyddorion y Beibl, fel y rhai sy’n cael eu trafod yn yr erthygl hon. Wrth iti gymryd y camau hyn, hyffordda dy hun fel dy fod ti’n gallu “gwahaniaethu rhwng y drwg a’r da.”—Heb. 5:14.

14. Ym mha ffyrdd y gallwn ni osgoi baglu pobl?

14 “Dylech chi anrhydeddu Duw. Ac mae hynny’n golygu osgoi gwneud niwed i bobl eraill.” (1 Cor. 10:31, 32) Wrth benderfynu a ddylen ni gymryd rhan mewn arferion neu draddodiadau, dylen ni hefyd feddwl am sut gall ein penderfyniad effeithio ar gydwybod pobl eraill, yn enwedig ein cyd-Gristnogion. Fydden ni byth eisiau baglu rhywun! (Marc 9:42) Hefyd, rydyn ni eisiau osgoi pechu pobl sydd ddim yn Dystion yn ddiangen. Bydd cariad yn ein hysgogi i siarad â nhw mewn ffordd barchus, sy’n anrhydeddu Jehofa. Yn sicr, fydden ni byth yn ffraeo ag eraill na gwneud hwyl am ben eu traddodiadau. Cofia, mae cariad yn bwerus! Pan fyddwn ni’n ei ddangos mewn ffordd ystyriol a pharchus, efallai byddwn ni’n meddalu agweddau’r bobl sy’n ein gwrthwynebu.

15-16. (a) Pam mae’n ddoeth i adael i eraill wybod am dy ddaliadau? Rho esiampl. (b) Sut mae geiriau Paul yn Rhufeiniaid 1:16 yn berthnasol i ni?

15 Gad i’r rhai sydd yn dy gymuned wybod dy fod ti’n un o Dystion Jehofa. (Esei. 43:10) Mae’n debyg y bydd hi’n haws iti ddelio â sefyllfaoedd emosiynol iawn os ydy dy berthnasau yn gwybod dy fod ti’n addoli Jehofa Dduw. Ysgrifennodd Francisco, sy’n byw ym Mosambîc: “Pan ddysgodd fy ngwraig, Carolina, a minnau’r gwirionedd, gwnaethon ni ddweud wrth ein perthnasau na fydden ni’n addoli’r meirw o hyn ymlaen. Cafodd ein penderfyniad ei brofi pan fu farw chwaer Carolina. Yr arfer lleol ydy golchi’r corff yn seremonïol. Wedyn, mae’n rhaid i’r berthynas agosaf gysgu am dair noson yn y fan y cafodd y dŵr ar gyfer golchi’r corff ei dywallt. Mae’r defodau hyn i fod i dawelu ysbryd yr un sydd wedi marw. Roedd teulu Carolina yn disgwyl iddi hi gysgu lle roedd y dŵr wedi cael ei dywallt.”

16 Sut gwnaeth Francisco a’i wraig ymateb? Mae Francisco yn esbonio: “Oherwydd ein bod ni’n caru Jehofa ac eisiau ei blesio, gwrthodon ni gymryd rhan yn y ddefod honno. Gwylltiodd teulu Carolina. Gwnaethon nhw ein cyhuddo o amharchu’r meirw a dywedon nhw na fyddai’r teulu yn ymweld â ni na’n helpu ni byth eto. Gan ein bod ni wedi esbonio ein daliadau iddyn nhw yn barod, wnaethon ni ddim trafod y pwnc gyda nhw tra oedden nhw’n flin. Gwnaeth rhai o’n perthnasau ein cefnogi ni hyd yn oed, gan ddweud ein bod ni eisoes wedi egluro ein safbwynt. Mewn amser, tawelodd teulu Carolina, ac roedd yn bosib inni adfer heddwch. Yn wir, mae rhai wedi dod i’n tŷ i ofyn am lenyddiaeth Feiblaidd.” Gad inni byth deimlo cywilydd dros y safiad rydyn ni’n ei wneud er mwyn amddiffyn y gwir am farwolaeth.—Darllen Rhufeiniaid 1:16.

CEFNOGA’R RHAI SY’N GALARU

Mae ffrindiau ffyddlon yn cysuro ac yn cefnogi’r rhai sydd wedi colli rhywun annwyl mewn marwolaeth (Gweler paragraffau 17-19) *

17. Beth all ein helpu i fod yn ffrind ffyddlon i gyd-Gristion sy’n galaru?

17 Pan fydd un o’n cyd-Gristnogion yn colli rhywun annwyl, dylen ni geisio bod yn ffrind sy’n “ffyddlon bob amser; a brawd wedi ei eni i helpu mewn helbul.” (Diar. 17:17) Sut gallwn ni fod yn ffrind ffyddlon, yn enwedig os ydy brawd neu chwaer o dan bwysau i gymryd rhan mewn arferion anysgrythurol? Ystyria ddwy egwyddor Feiblaidd sy’n gallu ein helpu i gysuro’r rhai sy’n galaru.

18. Pam gwnaeth Iesu grio, a beth rydyn ni’n ei ddysgu o’i esiampl?

18 “A chrio gyda’r rhai sy’n crio.” (Rhuf. 12:15) Efallai y bydd hi’n anodd inni wybod beth i’w ddweud wrth rywun sy’n cael ei lethu gan alar. Weithiau bydd ein dagrau yn dweud mwy na’n geiriau. Pan fu farw ffrind Iesu, Lasarus, gwnaeth Mair, Martha, ac eraill wylo dros eu brawd a’u ffrind annwyl. Pedwar diwrnod yn ddiweddarach, pan gyrhaeddodd Iesu, roedd yntau hefyd “yn ei ddagrau,” er iddo wybod y byddai’n atgyfodi Lasarus yn fuan. (Ioan 11:17, 33-35) Roedd dagrau Iesu’n adlewyrchu teimladau ei Dad. Roedden nhw’n dangos bod Iesu’n wir yn caru’r teulu, ac roedd hynny’n sicr yn gysur i Mair a Martha. Mewn ffordd debyg, pan fydd ein brodyr yn gweld ein cariad a’n consýrn, maen nhw’n gwybod nad ydyn nhw ar eu pennau eu hunain ond, yn hytrach, fod ganddyn nhw lawer o ffrindiau sy’n gofalu amdanyn nhw ac yn eu cefnogi.

19. Wrth inni gysuro cyd-Gristion sy’n galaru, sut gallwn ni roi Pregethwr 3:7 ar waith?

19 “Amser i gadw’n dawel ac amser i siarad.” (Preg. 3:7) Ffordd arall o gysuro cyd-Gristion sy’n galaru ydy gwrando’n astud. Gad i dy frawd ei fynegi ei hun, a phaid â chael dy bechu os yw’n “siarad yn fyrbwyll.” (Job 6:2, 3) Efallai ei fod o dan fwy o straen emosiynol oherwydd pwysau gan berthnasau sydd ddim yn Dystion. Felly, gweddïa gydag ef. Gofynna i’r un “sy’n gwrando gweddïau” roi nerth iddo a’i helpu i feddwl yn glir. (Salm 65:2) Os ydy’r amgylchiadau’n caniatáu, darllena’r Beibl gydag ef. Neu, darllena erthygl berthnasol o’n cyhoeddiadau, fel hanes bywyd calonogol.

20. Beth fyddwn ni’n ei ystyried yn yr erthygl nesaf?

20 Braint fawr ydy gwybod y gwirionedd am y meirw ac am y dyfodol braf sy’n disgwyl y rhai sydd yn y bedd! (Ioan 5:28, 29) Felly, mewn gair a gweithred, gad inni fod yn ddewr wrth amddiffyn gwirionedd y Beibl a’i rannu ag eraill ar bob cyfle priodol. Bydd yr erthygl nesaf yn ystyried ffordd arall mae Satan yn ceisio cadw pobl mewn tywyllwch ysbrydol—ysbrydegaeth. Byddwn yn gweld pam mae’n rhaid inni osgoi arferion ac adloniant sy’n gysylltiedig â’r fagl gythreulig honno.

CÂN 24 Dewch i Fynydd Jehofa

^ Par. 5 Mae Satan a’i gythreuliaid wedi twyllo pobl â chelwyddau am gyflwr y meirw. Mae’r celwyddau hyn wedi arwain at lawer o ddefodau anysgrythurol. Bydd yr erthygl hon yn dy helpu i aros yn ffyddlon i Jehofa pan fydd eraill yn rhoi pwysau arnat ti i gymryd rhan mewn arferion o’r fath.

^ Par. 55 DISGRIFIAD O’R LLUN: Tra bo un o berthnasau rhywun sydd wedi marw yn galaru, mae aelodau ei theulu sy’n Dystion yn ei chysuro.

^ Par. 57 DISGRIFIAD O’R LLUN: Ar ôl ymchwilio arferion angladdau, mae aelod teulu sy’n Dyst yn esbonio’n garedig ei ddaliadau i’w berthnasau.

^ Par. 59 DISGRIFIAD O’R LLUN: Henuriaid yn y gynulleidfa Gristnogol yn cysuro ac yn cefnogi Tyst sydd wedi colli rhywun annwyl mewn marwolaeth.