Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

ERTHYGL ASTUDIO 14

Wyt Ti’n Cyflawni Dy Wasanaeth i Dduw?

Wyt Ti’n Cyflawni Dy Wasanaeth i Dduw?

“Dal ati i rannu’r newyddion da gyda phobl, a gwneud y gwaith mae Duw wedi’i roi i ti.”—2 TIM. 4:5.

CÂN 57 Pregethu i Bob Math o Bobl

CIPOLWG *

Ar ôl ei atgyfodiad, gwnaeth Iesu gwrdd â’i ddisgyblion a’u gorchymyn nhw i “wneud pobl o bob gwlad yn ddisgyblion” (Gweler paragraff 1)

1. Beth mae pob un o weision Duw eisiau ei wneud, a pham? (Gweler y llun ar y clawr.)

RHODDODD Iesu’r gorchymyn canlynol i’w ddisgyblion: “Ewch i wneud pobl o bob gwlad yn ddisgyblion i mi.” (Math. 28:19) Mae pob un o weision ffyddlon Duw eisiau dysgu sut i wneud “y gwaith mae Duw wedi ei roi.” (2 Tim. 4:5) Wedi’r cwbl, mae’r gwaith hwn yn fwy pwysig a buddiol nag unrhyw waith arall mewn bywyd. Fodd bynnag, gall fod yn anodd gwneud cymaint ag yr hoffen ni yn y weinidogaeth.

2. Pa broblemau rydyn ni’n eu hwynebu wrth gyflawni ein gwasanaeth i Dduw?

2 Mae ’na weithgareddau pwysig eraill sy’n gofyn am ein sylw a’n hegni. Efallai ein bod ni’n gorfod gweithio oriau hir er mwyn gofalu’n faterol amdanon ni’n hunain a’n teulu. Efallai ein bod ni’n stryffaglu oherwydd cyfrifoldebau teuluol eraill, salwch, iselder, neu’r problemau sy’n dod wrth inni heneiddio. Sut gallwn ni gyflawni’n llawn ein gwasanaeth i Dduw o dan y fath amgylchiadau?

3. Beth rydyn ni’n ei ddeall o edrych ar eiriau Iesu Grist ym Mathew 13:23?

3 Os yw ein hamgylchiadau yn cyfyngu ar yr amser rydyn ni’n gallu ei dreulio yng ngwasanaeth Jehofa, ni ddylen ni ddigalonni. Roedd Iesu yn gwybod na fydd pob un ohonon ni’n gallu dwyn ffrwyth y Deyrnas i’r un graddau. (Darllen Mathew 13:23.) Mae Jehofa yn gwerthfawrogi popeth rydyn ni’n ei wneud yn ei wasanaeth cyn belled ag yr ydyn ni’n gwneud ein gorau. (Heb. 6:10-12) Ar y llaw arall, efallai rydyn ni’n teimlo bod ein hamgylchiadau’n caniatáu inni wneud mwy. Yn yr erthygl hon, byddwn yn trafod sut gallwn ni roi’r weinidogaeth yn gyntaf, cadw ein bywyd yn syml, a gwella yn ein sgiliau pregethu a dysgu. Yn gyntaf, beth mae’n ei olygu i gyflawni holl ofynion ein gwasanaeth i Dduw?

4. Beth mae’n ei olygu i gyflawni dy wasanaeth i Dduw yn llawn?

4 Yn syml, i gyflawni ein gwasanaeth i Dduw yn llawn, mae’n rhaid inni gael rhan mor llawn â phosib yn y gwaith o ddysgu a phregethu. Ond ein cymhelliad sy’n bwysig i Jehofa, nid faint o oriau. Oherwydd ein bod ni’n caru Jehofa a’n cymydog, rydyn ni’n ymroi i’n gwasanaeth Cristnogol â’n holl galon. * (Marc 12:30, 31; Col. 3:23) Mae gwasanaethu Duw â’n holl galon yn golygu rhoi ohonon ni’n hunain, defnyddio ein nerth a’n hegni orau y gallwn ni yn ei wasanaeth. Pan fyddwn ni’n gwerthfawrogi’r fraint o wneud y gwaith pregethu, rydyn ni’n ceisio rhannu’r newyddion da â chymaint o bobl ag y gallwn.

5-6. Esbonia sut gall person sydd heb lawer o amser roi blaenoriaeth i’r weinidogaeth.

5 Dychmyga ddyn ifanc sy’n hoff o chwarae’r gitâr. Mae’n dal ar bob cyfle i chwarae cerddoriaeth. Yn y pen draw, mae’n cael gwaith yn chwarae’r gitâr mewn caffi lleol ar y penwythnos. Fodd bynnag, nid yw’n ennill digon o gyflog i dalu am ei gostau. Felly, mae’n gweithio mewn siop groser o ddydd Llun hyd ddydd Gwener. Er ei fod yn treulio’r rhan fwyaf o’i amser yn y siop groser, cerddoriaeth sy’n mynd â’i fryd. Mae’n awchu am gael gwella ei sgiliau a bod yn gerddor llawn-amser. Er hynny, mae’n bachu ar bob cyfle i chwarae cerddoriaeth, hyd yn oed os ydy’r cyfleoedd hynny’n rhai byr.

6 Mewn modd tebyg, efallai dwyt ti ddim yn gallu treulio cymaint yn y weinidogaeth ag yr hoffet ti ei wneud. Ond eto, dyna beth rwyt ti’n hoff iawn o’i wneud. Rwyt ti’n ymdrechu i wella’r ffordd rwyt ti’n defnyddio’r newyddion da i gyffwrdd â chalonnau pobl. Oherwydd y mae gen ti lawer o alwadau ar dy amser, efallai dy fod ti’n meddwl sut y gelli di roi blaenoriaeth i’r gwaith pregethu.

BLAENORIAETHU’R WEINIDOGAETH

7-8. Sut gallwn ni efelychu agwedd Iesu tuag at y weinidogaeth?

7 Gosododd Iesu esiampl eithriadol o dda o ran ei agwedd tuag at y weinidogaeth. Siarad am Deyrnas Dduw oedd y peth pwysicaf yn ei fywyd. (Ioan 4:34, 35) Cerddodd gannoedd o filltiroedd yn pregethu i gymaint o bobl â phosib. Daliodd ar bob cyfle i siarad â phobl mewn mannau cyhoeddus ac yn eu cartrefi. Canolbwynt bywyd cyfan Iesu oedd y weinidogaeth.

8 Gallwn efelychu Crist drwy edrych am ffyrdd i siarad â phobl am y newyddion da bryd bynnag a le bynnag y mae’n bosib. Rydyn ni’n fodlon aberthu dymuniadau personol er mwyn pregethu. (Marc 6:31-34; 1 Pedr 2:21) Mae rhai yn y gynulleidfa yn gallu gwasanaethu fel arloeswyr cynorthwyol, llawn amser, ac arbennig. Mae eraill wedi dysgu iaith arall neu wedi symud i ardal lle mae ’na angen am fwy o bregethwyr. Fodd bynnag, mae’r rhan fwyaf o’r gwaith efengylu yn cael ei wneud gan gyhoeddwyr cyffredin sy’n gwneud eu gorau. Beth bynnag yw ein sefyllfa, dydy Jehofa ddim yn gofyn inni wneud mwy nag y gallwn ni ei wneud. Mae eisiau inni fwynhau ein gwasanaeth cysegredig wrth inni gyhoeddi newyddion da’r “Duw hapus.”—1 Tim. 1:11, NW; Deut. 30:11.

9. (a) Sut gwnaeth Paul flaenoriaethu’r gwaith pregethu ac yntau hefyd yn gorfod gweithio’n seciwlar? (b) Beth mae Actau 28:16, 30, 31 yn ei ddangos am agwedd Paul tuag at ei weinidogaeth?

9 Gosododd yr apostol Paul esiampl dda o ran rhoi blaenoriaeth i’r weinidogaeth yn ei fywyd. Pan oedd yng Nghorinth yn ystod ei ail daith genhadol, roedd yn brin o arian ac yn gorfod gweithio am gyfnod yn gwneud pebyll. Fodd bynnag, nid gwneud pebyll oedd ei flaenoriaeth. Roedd y gwaith hwn yn caniatáu iddo’i gynnal ei hun yn y weinidogaeth fel y gallai gyhoeddi’r newyddion da i’r Corinthiaid “yn rhad ac am ddim.” (2 Cor. 11:7) Er bod Paul yn gorfod gwneud ychydig o waith seciwlar, daliodd ati i flaenoriaethu’r weinidogaeth, ac roedd yn pregethu hefyd bob Saboth. Ar ôl i’w amgylchiadau newid am y gorau, roedd Paul yn gallu rhoi mwy o sylw i’r gwaith pregethu, a dyma’n “mynd ati i bregethu’n llawn amser, a dangos yn glir i’r Iddewon mai Iesu oedd y Meseia.” (Act. 18:3-5; 2 Cor. 11:9) Wedyn, pan gafodd ei garcharu yn ei dŷ ei hun yn Rhufain am ddwy flynedd, tystiolaethodd Paul i ymwelwyr ac ysgrifennodd lythyrau. (Darllen Actau 28:16, 30, 31.) Roedd Paul yn benderfynol o beidio â gadael i unrhyw beth amharu ar ei weinidogaeth. Ysgrifennodd: “Gan fod Duw wedi . . . rhoi’r gwaith yma’n ein gofal ni, dyn ni ddim yn digalonni.” (2 Cor. 4:1) Fel Paul, hyd yn oed os ydyn ni’n gorfod treulio amser yn gweithio’n seciwlar, gallwn ni barhau i roi’r lle cyntaf yn ein bywydau i waith y Deyrnas.

Gallwn gyflawni ein gwasanaeth i Dduw mewn amryw ffyrdd (Gweler paragraffau 10-11)

10-11. Sut gallwn ni gyflawni holl ofynion ein gwasanaeth i Dduw er gwaethaf problemau iechyd?

10 Os ydy henaint a phroblemau iechyd difrifol yn cyfyngu ar ein gwaith pregethu o ddrws i ddrws, gallwn bregethu mewn ffyrdd eraill. Roedd Cristnogion y ganrif gyntaf yn pregethu i bobl le bynnag yr oedden nhw. Gwnaethon nhw ddal ar bob cyfle i siarad am y gwirionedd “gyda pwy bynnag oedd yn digwydd bod yno.” (Act. 17:17; 20:20) Os nad ydyn ni’n gallu cerdded yn bell, efallai y gallen ni eistedd mewn lle cyhoeddus er mwyn pregethu i bobl sy’n cerdded heibio. Neu y gallen ni dystiolaethu’n anffurfiol, ysgrifennu llythyrau, neu dystiolaethu ar y ffôn. Mae llawer o gyhoeddwyr sy’n wynebu’r anawsterau hyn yn profi llawenydd mawr o gymryd rhan yn y ffyrdd eraill hyn o bregethu.

11 Er gwaethaf problemau iechyd, gelli di gyflawni dy wasanaeth i Dduw yn llawn. Ystyria unwaith eto esiampl yr apostol Paul. Dywedodd: “O Dduw mae’r grym anhygoel yma’n dod, dim ohonon ni.” (2 Cor. 4:7) Roedd angen y grym hwnnw ar Paul pan aeth yn sâl ar un o’i deithiau cenhadol. Esboniodd wrth y Galatiaid: “Gwyddoch mai salwch roddodd gyfle i mi gyhoeddi’r newyddion da i chi y tro cyntaf.” (Gal. 4:13) Mewn modd tebyg, gall dy broblemau iechyd roi’r cyfle iti fedru cyhoeddi’r newyddion da i eraill, rhai fel doctoriaid, nyrsys, a gweithwyr gofal iechyd. Mae llawer o’r bobl hyn yn gweithio pan fydd cyhoeddwyr yn ceisio galw arnyn nhw yn eu cartrefi.

CADW DY FYWYD YN SYML

12. Beth mae’n ei olygu i gadw ein llygad yn “syml”?

12 Dywedodd Iesu: “Cannwyll y corff yw’r llygad: am hynny o bydd dy lygad yn syml, dy holl gorff fydd yn olau.” (Math. 6:22, Beibl Cysegr-lân) Beth oedd yn ei olygu? Golygu yr oedd bod rhaid inni gadw ein bywyd yn syml neu wedi ei ffocysu ar un nod, neu bwrpas, rhag inni golli golwg ar y pethau pwysig. Iesu ei hun a osododd yr esiampl drwy ganolbwyntio ar ei weinidogaeth, a dysgodd ei ddisgyblion i ganolbwyntio ar wasanaethu Jehofa ac ar y Deyrnas. Rydyn ni’n efelychu Iesu drwy fyw bywyd sy’n troi o amgylch y weinidogaeth Gristnogol, a thrwy geisio “yn gyntaf deyrnas Dduw a’i gyfiawnder ef.”—Math. 6:33, Beibl Cymraeg Diwygiedig.

13. Beth sy’n gallu ein helpu ni i ganolbwyntio ar ein gweinidogaeth Gristnogol?

13 Un ffordd o ganolbwyntio ar ein gweinidogaeth yw symleiddio ein bywyd fel y gallwn ni dreulio mwy o amser yn helpu eraill i ddod i adnabod ac i garu Jehofa. * Er enghraifft, a allwn ni drefnu gweithio llai o oriau yn ein gwaith seciwlar fel y gallwn ni bregethu mwy yn ystod yr wythnos? Gallen ni leihau’r amser rydyn ni’n ei dreulio ar hamdden ac adloniant, pethau sy’n gallu llyncu ein hamser?

14. Pa newidiadau a wnaeth un cwpl er mwyn rhoi mwy o sylw ac amser i’r weinidogaeth?

14 Dyma beth wnaeth un henuriad o’r enw Elias, a’i wraig. Esboniodd: “Doedden ni ddim yn gallu arloesi ar y pryd, ond roedd yn rhaid inni ddechrau yn rhywle. Felly, cymeron ni gamau bach er mwyn cynyddu ein hamser yn y weinidogaeth. Er enghraifft, gwnaethon ni leihau ein costau, treulio llai o oriau mewn gweithgareddau hamdden, a gofyn i’n cyflogwyr am amserlen fwy hyblyg. O ganlyniad, roedden ni’n gallu pregethu gyda’r nos, cynnal mwy o astudiaethau Beiblaidd, a hyd yn oed pregethu yn ystod yr wythnos ddwywaith y mis. Roedden ni wrth ein boddau!”

DATBLYGU SGILIAU PREGETHU A DYSGU

Bydd rhoi ar waith yr hyn a ddysgwn yn y cyfarfod canol wythnos yn ein helpu i wneud cynnydd parhaol yn ein gweinidogaeth (Gweler paragraffau 15-16) *

15-16. Yn unol â 1 Timotheus 4:13, 15, sut gallwn ni ddatblygu ein sgiliau pregethu? (Gweler hefyd y blwch “ Camau Sy’n Fy Helpu i Gyflawni Fy Ngweinidogaeth.”)

15 Ffordd arall o gyflawni holl ofynion ein gwasanaeth i Dduw yw datblygu ein sgiliau yn y gwaith pregethu. Mae rhai pobl yn derbyn hyfforddiant parhaol fel rhan o’u swyddi er mwyn eu helpu nhw i gynyddu yn eu gwybodaeth a’u sgiliau. Mae hyn yn wir am bregethwyr y Deyrnas. Mae angen i ninnau ddysgu sut i ddod yn fwy medrus yn ein gweinidogaeth.—Diar. 1:5; darllen 1 Timotheus 4:13, 15.

16 Sut gallwn ni ddal ati i wella yn ein gweinidogaeth? Trwy wrando’n astud ar yr hyfforddiant rydyn ni’n ei gael yng Nghyfarfod Ein Bywyd a’n Gweinidogaeth. Mae’r cyfarfod hwn yn rhoi hyfforddiant gwerthfawr sy’n ein helpu i ddod yn ein blaenau yn y weinidogaeth. Er enghraifft, pan fydd y cadeirydd yn rhoi cyngor i’r rhai sydd wedi cyflwyno aseiniad, gallwn ddysgu sgiliau a all ein helpu ni i ddatblygu ein gweinidogaeth. Gallwn roi’r awgrymiadau hynny ar waith y tro nesaf inni rannu’r newyddion da â rhywun. Gallen ni ofyn i arolygwr ein grŵp gweinidogaeth am help neu weithio gydag ef, gyda chyhoeddwr profiadol arall, gydag arloeswr, neu gydag arolygwr y gylchdaith. Wrth inni ddod yn fwy medrus yn defnyddio’r Bocs Tŵls Dysgu cyfan, byddwn yn mwynhau ein pregethu a’n dysgu yn fwy.

17. Beth fyddi di’n ei brofi pan fyddi di’n cyflawni dy wasanaeth i Dduw?

17 “Cydweithwyr Duw ydym ni,” ac onid yw hynny’n fraint aruthrol oddi wrth Jehofa! (1 Cor. 3:9, BC) Pan fyddi di’n dewis “y peth gorau i’w wneud bob amser” ac yn canolbwyntio ar y weinidogaeth, byddi di’n gwasanaethu Jehofa “yn llawen.” (Phil. 1:10; Salm 100:2) Fel un o weinidogion Duw, gelli di fod yn hyderus y bydd yn rhoi’r nerth sydd ei angen arnat ti er mwyn cyflawni dy wasanaeth iddo, ni waeth beth fydd yr anawsterau a all godi. (2 Cor. 4:1, 7; 6:4) P’un a ydy dy amgylchiadau yn caniatáu iti gael rhan fawr neu fach yn y gwaith pregethu, fe gei di’r “boddhad” sy’n dod o fod yn llawn brwdfrydedd yn dy weinidogaeth. (Gal. 6:4) Pan fyddi di’n cyflawni dy wasanaeth i Dduw, rwyt ti’n dangos dy gariad tuag ato a thuag at dy gyd-ddyn. “Byddi’n gwneud yn siŵr dy fod ti dy hun a’r rhai sy’n gwrando arnat ti yn cael eu hachub.”—1 Tim. 4:16.

CÂN 58 Chwilio am Bobl Sy’n Ceisio Heddwch

^ Par. 5 Rydyn ni wedi derbyn gorchymyn i bregethu’r newyddion da am y Deyrnas ac i wneud disgyblion. Bydd yr erthygl hon yn ystyried sut gallwn ni gyflawni holl ofynion ein gwasanaeth i Dduw, hyd yn oed o dan amgylchiadau anodd. Byddwn hefyd yn dysgu sut gallwn ni fod yn fwy effeithiol a llawen yn ein gwaith pregethu.

^ Par. 4 ESBONIAD: Mae ein gwasanaeth Cristnogol yn cynnwys pregethu a dysgu, codi adeiladau theocrataidd a gofalu amdanyn nhw, a rhoi cymorth ar ôl trychineb.—2 Cor. 5:18, 19; 8:4.

^ Par. 13 Gweler y saith cam a restrwyd yn y blwch “Sut Gelli Di Symleiddio Dy Fywyd?” yn rhifyn Gorffennaf 2016 o’r Tŵr Gwylio, t. 10.

^ Par. 62 DISGRIFIADAU O’R LLUN: Yn ystod y cyfarfod canol wythnos, mae chwaer yn dangos sut i wneud ail alwad. Wedyn, wrth i’r cadeirydd roi cyngor, mae hi’n gwneud nodiadau yn ei llyfryn Darllen a Dysgu. Yn nes ymlaen ar y penwythnos, mae hi’n rhoi ar waith yn y weinidogaeth yr hyn a ddysgodd hi yn y cyfarfod.