Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

HANES BYWYD

Gwnaethon Ni Ddarganfod “Perl Arbennig o Werthfawr”

Gwnaethon Ni Ddarganfod “Perl Arbennig o Werthfawr”

MAE Winston a Pamela (Pam) Payne yn gwasanaethu yn swyddfa gangen Awstralasia. Maen nhw wedi cael bywyd hapus ond hefyd wedi wynebu treialon, fel addasu i wahanol ddiwylliannau a dioddef y brofedigaeth o golli baban yn y groth. Ond eto, drwy’r cwbl, maen nhw wedi parhau i garu Jehofa a’i bobl ac i fod yn llawen yn y weinidogaeth. Yn y cyfweliad hwn, rydyn ni’n eu gwahodd nhw i rannu rhai o’u profiadau.

Winston, dweud wrthyn ni am dy ymdrechion i geisio Duw.

Cefais fy magu mewn teulu digrefydd ar fferm yn Queensland, Awstralia. Oherwydd ein lleoliad anghysbell, yn anaml iawn roeddwn i’n gweld pobl heblaw am aelodau fy nheulu agos. Pan oeddwn tua 12 oed, dechreuais chwilio am Dduw. Gweddïais arno, a gofyn i wybod y gwir amdano. Yn y pen draw, gadewais y fferm a mynd i weithio yn Adelaide, De Awstralia. Yn 21 oed, mi wnes i gwrdd â Pam tra oedd hithau ar ei gwyliau yn Sydney, a soniodd wrthyf am Anglo-Israeliaeth, sef mudiad crefyddol a oedd yn credu bod pobloedd Brydeinig yn ddisgynyddion i lwythau coll Israel, fel yr oedden nhw’n cael eu galw. Yn ôl y mudiad hwnnw, y llwythau hynny oedd deg llwyth teyrnas y gogledd a gafodd eu halltudio yn yr wythfed ganrif COG. Felly, pan es i’n ôl i Adelaide, siaradais am y pwnc â chyd-weithiwr a oedd wedi dechrau astudio’r Beibl gyda Thystion Jehofa. Ar ôl siarad ag ef am ychydig o oriau yn unig—yn bennaf am ddaliadau’r Tystion—sylweddolais fod gweddi fy mhlentyndod yn cael ei hateb. Roeddwn yn dysgu’r gwirionedd am fy Nghreawdwr a’i Deyrnas! Roeddwn i wedi darganfod y “perl arbennig o werthfawr.”—Math. 13:45, 46.

Pam, wnest tithau hefyd ddechrau chwilio am y perl hwnnw pan oeddet ti’n ifanc. Sut gwnest ti ddod o hyd iddo?

Cefais fy magu mewn teulu crefyddol mewn tref o’r enw Coffs Harbour, De Cymru Newydd. Derbyniodd fy rhieni, fy nhaid a’m nain ddysgeidiaethau Ango-Israeliaeth. Cafodd fy mrawd iau, fy chwaer hŷn, a minnau, ynghyd â llawer o’m cefndryd, ein magu i gredu bod Duw yn ffafrio pobl o dras Brydeinig. Doeddwn i ddim yn credu yn y daliadau hynny a doeddwn i ddim yn teimlo’n agos at Dduw. Pan oeddwn yn 14 mlwydd oed, mi wnes i fynd i amryw o eglwysi lleol, yr Anglicaniaid, y Bedyddwyr, ac Adfentyddion y Seithfed Dydd. Ond roeddwn i’n dal i lwgu’n ysbrydol.

Symudodd fy nheulu yn ddiweddarach i Sydney, lle cwrddais â Winston, a oedd yno ar ei wyliau. Fel y soniodd yntau, gwnaeth ein trafodaethau crefyddol achosi, yn y pen draw, iddo ef astudio gyda’r Tystion. Wedi hynny, roedd ei lythyrau yn llawn adnodau! Mae’n rhaid imi ddweud, ar y cychwyn roeddwn i’n bryderus—os nad yn ddig. Ond, o dipyn i beth, sylweddolais fod tinc gwirionedd yn y pethau hyn.

Ym 1962, symudais i Adelaide i fod yn nes at Winston. Roedd wedi trefnu imi aros gyda Thystion—Thomas a Janice Sloman—cwpl a oedd wedi bod yn genhadon yn Papwa Gini Newydd. Roedden nhw mor garedig tuag ataf; dim ond 18 oed oeddwn i, ac roedden nhw’n help mawr i mi yn ysbrydol. Felly, dechreuais innau hefyd astudio Gair Duw, ac yn fuan iawn roeddwn i’n hollol sicr fy mod i wedi dod o hyd i’r gwirionedd. Ar ôl i Winston a minnau briodi, dechreuon ni’n syth ar fywyd o wasanaeth i Jehofa a oedd yn llawn boddhad—bywyd sydd, er gwaethaf problemau, wedi ein helpu i drysori’r perl gwerthfawr y daethon ni o hyd iddo yn fwy byth.

Winston, dweud wrthyn ni am dy flynyddoedd cynnar yng ngwasanaeth Jehofa.

A Map o’n teithiau yn y gwaith cylch

B Stampiau o rai o’r ynysoedd. Ynysoedd Gilbert ac Ellice oedd yr hen enwau ar Ciribati a Twfalw

C Ynys gwrel hardd Ffwnaffwti sy’n rhan o’r genedl Twfalw. Un o’r ynysoedd lawer y gwnaethon ni ymweld â hi cyn i genhadon gael eu haseinio yno

Yn fuan iawn ar ôl i mi a Pam briodi, dechreuodd Jehofa roi llawer o gyfleoedd inni i fedru gwneud ei ewyllys. (1 Cor. 16:9) Y cyfle cyntaf oedd un a awgrymwyd gan y Brawd Jack Porter, a oedd yn arolygwr cylchdaith i’n cynulleidfa fechan. (Y mae bellach yn gyd-aelod o Bwyllgor Cangen Awstralasia.) Jack a’i wraig, Roslyn, oedd y rhai a wnaeth ein hannog ni i arloesi’n llawn amser—braint a gawson ni am bum mlynedd. Pan oeddwn yn 29, gofynnwyd i mi a Pam wasanaethu yn y gwaith cylch yn Ynysoedd Môr y De, a oedd bryd hynny’n dod o dan oruchwyliaeth cangen Ffiji. Yr ynysoedd oedd Samoa America, Samoa, Ciribati, Nawrw, Niwe, Tocelaw, Tonga, Twfalw, a Fanwatw.

Bryd hynny, roedd pobl ar rai o’r ynysoedd mwyaf anghysbell yn ddrwgdybus o Dystion Jehofa ac, felly, roedd yn rhaid bod yn ofalus ac yn barchus. (Math. 10:16) Cynulleidfaoedd bychain oedden nhw, a doedd rhai ddim yn gallu rhoi llety inni. Felly, roedden ni’n edrych am le i aros yn y pentrefi gyda’r bobl leol, ac roedden nhw bob amser yn garedig wrthyn ni.

Mae gen ti ddiddordeb mawr yn y gwaith cyfieithu, Winston. Beth wnaeth danio dy ddiddordeb?

Cynnal ysgol ar gyfer henuriaid yn Samoa

Yr adeg honno, dim ond ychydig o daflenni a llyfrynnau Tongeg oedd gan y brodyr ar yr ynys wladwriaeth Tonga, hynny yw, un o ynysoedd Polynesia. Yn y weinidogaeth, roedden nhw’n astudio gyda phobl drwy ddefnyddio’r llyfr Saesneg The Truth That Leads to Eternal Life. Felly, yn ystod ysgol bedair-wythnos ar gyfer yr henuriaid, cytunodd tri o’r henuriaid lleol i gyfieithu’r llyfr i’r iaith Dongeg er nad oedd ganddyn nhw afael da ar Saesneg. Pam a deipiodd y llawysgrif, ac fe wnaethon ni ei anfon i’r gangen yn yr Unol Daleithiau er mwyn cael ei argraffu. Cymerodd y prosiect cyfan tua wyth wythnos. Er nad oedd y cyfieithiad o’r safon uchaf, fe wnaeth y cyhoeddiad helpu llawer o bobl a oedd yn siarad Tongeg i ddysgu am y gwirionedd. Dydy Pam na minnau ddim yn gyfieithwyr, ond gwnaeth y profiad hwnnw ennyn ein diddordeb yn y gwaith hwn.

Pam, sut roedd bywyd yn yr ynysoedd yn cymharu â bywyd yn Awstralia?

Un o’r llefydd roedden ni’n aros ynddo wrth wneud y gwaith cylch

Roedd yn wahanol iawn! Yn dibynnu ar le roedden ni’n byw, roedd rhaid delio gyda mosgitos ym mhobman, gwres tanbaid a lleithder ofnadwy, llygod mawr, salwch, a diffyg bwyd. Ar y llaw arall, ar ddiwedd pob dydd, profiad braf iawn oedd edrych ar y cefnfor o’n fale—enw Samöeg ar dŷ Polynesaidd traddodiadol â tho gwellt a heb waliau. Rai nosweithiau, roedd y lleuad mor llachar fel yr oedden ni’n gallu gweld silwét y palmwydd, a hefyd adlewyrchiad y lleuad yn disgleirio ar wyneb y môr. Roedd profiadau o’r fath yn ein hannog ni i fyfyrio ac i weddïo, ac yn troi ein meddyliau negyddol yn rhai positif.

Daethon ni i garu’r plant, a oedd yn llawn hwyl a chwilfrydedd ar ôl ein gweld ni, bobl wynion ddiarth. Tra oedden ni’n ymweld â Niwe, gwnaeth un bachgen bach rwbio un o freichiau blewog Winston a dweud: “Dw i’n hoffi dy blu.” Yn amlwg, doedd byth wedi gweld breichiau mor flewog o’r blaen a doedd ddim yn gwybod sut i’w disgrifio nhw!

Torcalonnus iawn oedd gweld pobl yn byw o dan amgylchiadau mor druenus. Roedden nhw’n byw mewn ardal hardd ond doedd ganddyn nhw ddim gofal iechyd addas na digon o ddŵr i’w yfed. Ond eto, doedd ein brodyr ddim yn gorbryderu. Bywyd bob dydd oedd hynny iddyn nhw. Roedden nhw’n hapus o gael eu teulu gyda nhw, cael lle ar gyfer addoli, a chael y fraint o foli Jehofa. Gwnaeth eu hesiampl ein helpu ni i flaenoriaethu’r pethau cywir ac i gadw ein bywyd yn syml.

Ar adegau, Pam, roedd yn rhaid iti fynd i nôl dŵr a pharatoi bwyd o dan amgylchiadau hollol newydd. Sut gwnest ti ymdopi?

Pam yn golchi dillad yn Tonga

Fy nhad biau’r diolch am hynny. Gwnaeth ddysgu llawer o bethau defnyddiol, er enghraifft, sut i gynnau tân a choginio arno, a sut i fyw ar y nesaf peth i ddim. Un tro, yn Ciribati, arhoson ni mewn tŷ bychan â tho gwellt, llawr cwrel, a waliau bambŵ. Er mwyn coginio pryd o fwyd syml, fe wnes i dorri twll yn y llawr ar gyfer y tân a gollwng tanwydd ynddo, sef plisgyn cnau coco. I gael dŵr, roedd rhaid aros mewn ciw wrth y ffynnon gyda’r merched lleol. Er mwyn codi’r dŵr, roedden nhw’n defnyddio ffon tua chwe throedfedd o hyd a rhaff denau yn sownd yn un pen ohoni, rhywbeth tebyg i wialen bysgota. Ond yn hytrach na chlymu bachyn i’r pen arall o’r rhaff, roedden nhw wedi clymu tun. Un ar ôl y llall, roedd y merched yn taflu’r lein ac yna, gyda thro sydyn ar yr arddwrn, roedd y tun yn troi ar ei ochr ac yn llenwi â dŵr. Roeddwn i’n meddwl ei fod yn syml—nes imi gael tro arni. Mi wnes i daflu’r lein sawl gwaith ond, bob tro, byddai’r tun yn taro’r dŵr ac yn nofio ar y wyneb yn unig! Ar ôl i bawb orffen chwerthin, roedd un o’r merched yn cynnig help imi. Roedden nhw’n wastad yn barod eu cymwynas.

Daeth y ddau ohonoch chi i fwynhau eich aseiniad yn yr ynysoedd. Wnewch chi sôn am rai o’ch profiadau arbennig?

Winston: Cymerodd hi dipyn bach o amser i ddod i ddeall rhai arferion. Er enghraifft, pan oedd y brodyr yn paratoi pryd o fwyd ar ein cyfer, roedden nhw fel arfer yn rhoi’r holl fwyd oedd ganddyn nhw inni. Ar y cychwyn, doedden ni ddim yn sylweddoli bod rhaid gadael peth ar ôl iddyn nhw. Felly, roedden ni’n bwyta’r cyfan a roddwyd o’n blaenau ni! Wrth gwrs, pan sylweddolon ni beth oedd beth, roedden ni’n gadael bwyd ar eu cyfer. Er gwaethaf camgymeriadau fel hyn, roedd y brodyr yn deall. Ac roedden nhw wrth eu boddau yn ein gweld ni bob chwe mis pan oedden ni’n galw ar ein gwaith cylch. Heblaw am y brodyr lleol, y ni oedd yr unig Dystion eraill a welson nhw yn y dyddiau hynny.

Arwain grŵp yn y weinidogaeth ar Ynys Niwe

Hefyd, roedd ein hymweliadau yn rhoi tystiolaeth dda yn y gymuned. Roedd llawer o’r pentrefwyr yn meddwl bod crefydd y Tystion yn rhywbeth roedd y brodyr wedi ei dyfeisio. Felly, pan oedd gweinidog a’i wraig yn dod o bell i ymweld â nhw, roedd y bobl leol yn llawn edmygedd.

Pam: Mae un o fy hoff atgofion yn mynd â fi’n ôl i Ciribati, lle’r oedd ’na gynulleidfa fechan iawn. Yr unig henuriad oedd Itinikai Matera a gwnaeth ei orau i ofalu amdanon ni. Tarodd heibio un bore â basged yn cynnwys dim ond un wy. “I chi,” meddai. Roedd cael bwyta wy iâr yn beth prin iawn yr adeg honno. Gwnaeth y weithred fach ond hael hon gyffwrdd â’n calonnau.

Rai blynyddoedd wedyn, Pam, fe wnest ti golli plentyn heb ei eni. Beth wnaeth dy helpu di i ymdopi?

Ym 1973, roeddwn i’n feichiog tra oedden ni yn Ynysoedd Môr y De. Penderfynon ni ddychwelyd i Awstralia, ond bedwar mis yn ddiweddarach, collon ni ein babi. Roedd Winston wedi torri ei galon; roedd yn fabi iddo yntau hefyd. Gwnaeth y poen yn fy nghalon leihau dros amser, ond nid yn gyfan gwbl nes inni dderbyn rhifyn 15 Ebrill 2009 o’r Tŵr Gwylio. Gwnaeth yr erthygl “Cwestiynau Ein Darllenwyr” ofyn y cwestiwn: “A oes unrhyw obaith o atgyfodiad i faban sy’n marw yng nghroth y fam?” O ddarllen yr erthygl, gwelon ni mai Jehofa fydd yn penderfynu ar faterion fel hyn ac mae ef bob amser yn gwneud y peth iawn. Bydd Duw yn cael gwared ar yr holl boen rydyn ni wedi ei ddioddef oherwydd y byd creulon hwn drwy orchymyn ei Fab “i ddinistrio gwaith y diafol.” (1 Ioan 3:8) Helpodd yr erthygl hon inni werthfawrogi yn fwy byth y “perl” gwerthfawr sydd gennyn ni fel pobl Jehofa! Lle bydden ni heb obaith y Deyrnas?

Ar ôl colli ein babi, dechreuon ni wasanaethu’n llawn amser unwaith eto. Gwasanaethon ni am rai misoedd ym Methel Awstralia ac yn y pen draw aethon ni’n ôl i’r gwaith cylch. Ym 1981, ar ôl gwasanaethu am bedair blynedd yn ardaloedd gwledig De Cymru Newydd a Sydney, fe’n gwahoddwyd ni i gangen Awstralia, fel yr oedd yn cael ei galw yn y cyfnod hwnnw, ac rydyn ni wedi bod yno ers hynny.

Winston, a wnaeth dy brofiad yn Ynysoedd Môr y De dy helpu yn dy waith fel aelod o Bwyllgor Cangen Awstralasia?

Do, mewn sawl ffordd. Yn gyntaf, gofynnwyd i Awstralia ofalu am Samoa America a Samoa. Yna, cyfunwyd cangen Seland Newydd â changen Awstralia. Nawr, mae tiriogaeth cangen Awstralasia yn cynnwys Awstralia, Samoa America, Samoa, Ynysoedd Cook, Seland Newydd, Niwe, Dwyrain Timor, Tocelaw, a Tonga—a minnau wedi cael y fraint o ymweld â llawer o’r llefydd hyn fel cynrychiolwr y gangen. Mae fy mhrofiad o gydweithio gyda’r brodyr a’r chwiorydd ffyddlon hynny yn yr ynysoedd wedi fy helpu’n fawr wrth imi eu gwasanaethu yn swyddfa’r gangen.

Winston a Pam yng nghangen Awstralasia

Gallaf ddweud i gloi fod Pam a minnau wedi sylweddoli ers tro byd, fel yn ein hachos ni, nad oedolion yn unig sy’n chwilio am Dduw. Mae pobl ifanc hefyd eisiau darganfod y “perl arbennig o werthfawr” hwnnw—hyd yn oed os nad oes neb arall yn y teulu yn dangos diddordeb. (2 Bren. 5:2, 3; 2 Cron. 34:1-3) Yn wir, mae Jehofa yn Dduw cariadus sydd eisiau i bawb, yr hen a’r ifanc, gael bywyd!

Pan ddechreuodd Pam a minnau chwilio am Dduw fwy na 50 mlynedd yn ôl, doedden ni ddim yn gallu dychmygu’r cyfeiriad y byddai ein bywyd yn ei gymryd. Heb os, “perl arbennig o werthfawr” yw gwirionedd y Deyrnas! Rydyn ni’n benderfynol o beidio â llacio ein gafael yn y perl gwerthfawr hwnnw!