Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

ERTHYGL ASTUDIO 17

Gad i Jehofa Dy Helpu i Wrthsefyll Ysbrydion Drwg

Gad i Jehofa Dy Helpu i Wrthsefyll Ysbrydion Drwg

“Mae’n brwydr ni yn erbyn . . . y fyddin ysbrydol ddrwg.”—EFF. 6:12.

CÂN 55 Paid â’u Hofni!

CIPOLWG *

1. Yn ôl Effesiaid 6:10-13, beth yw un o’r ffyrdd mwyaf calonogol y mae Jehofa yn gofalu amdanon ni? Esbonia.

UN O’R ffyrdd mwyaf calonogol y mae Jehofa’n gofalu am ei weision yw ein helpu i wrthsefyll ein gelynion. Ein prif elynion yw Satan a’r cythreuliaid. Mae Jehofa yn ein rhybuddio am y gelynion hyn, ac mae’n rhoi inni beth sydd ei angen er mwyn eu gwrthsefyll. (Darllen Effesiaid 6:10-13.) Pan fyddwn ni’n derbyn help Jehofa ac yn dibynnu arno’n llwyr, gallwn ni wrthwynebu’r Diafol yn llwyddiannus. Gallwn gael yr un fath o hyder ag yr oedd gan yr apostol Paul. Ysgrifennodd: “Os ydy Duw ar ein hochr ni, sdim ots pwy sy’n ein herbyn ni!”—Rhuf. 8:31.

2. Beth fyddwn ni’n ei drafod yn yr erthygl hon?

2 Fel gwir Gristnogion, dydyn ni ddim yn canolbwyntio’n ormodol ar Satan a’r cythreuliaid. Rydyn ni’n canolbwyntio mwy ar ddysgu am Jehofa a’i wasanaethu ef. (Salm 25:5) Fodd bynnag, mae’n bwysig inni wybod y prif ffyrdd y mae Satan yn gweithredu. Pam? Er mwyn inni allu osgoi cael ein twyllo ganddo. (2 Cor. 2:11) Yn yr erthygl hon, byddwn yn ystyried un o’r prif ffyrdd y mae Satan a’i gythreuliaid yn ceisio camarwain pobl. Byddwn ni hefyd yn ystyried sut gallwn ni eu gwrthsefyll yn llwyddiannus.

SUT MAE YSBRYDION DRWG YN CAMARWAIN POBL?

3-4. (a) Beth yw ysbrydegaeth? (b) Pa mor gyffredin yw’r gred yn ysbrydegaeth?

3 Ysbrydegaeth yw un o’r prif ffyrdd y mae Satan a’r cythreuliaid yn ceisio camarwain pobl. Mae’r rhai sy’n ymarfer ysbrydegaeth yn honni eu bod yn gwybod pethau neu’n gallu rheoli pethau nad yw bodau dynol fel arfer yn gallu eu gwybod na’u rheoli. Er enghraifft, mae rhai yn honni eu bod nhw’n gwybod beth fydd yn digwydd yn y dyfodol, trwy ddweud ffortiwn neu drwy ddefnyddio astroleg. Mae eraill yn gweithredu fel petasen nhw’n siarad â’r rhai sydd wedi marw. Mae rhai yn ymarfer hudoliaeth, ac efallai byddan nhw’n ceisio bwrw hud ar rywun arall. *

4 Pa mor gyffredin yw’r gred ym mhŵer ysbrydegaeth? Gwnaeth arolwg a gafodd ei gynnal mewn 18 gwlad yn America Ladin a’r Caribî ddarganfod fod tua thraean o’r bobl yn credu mewn hudoliaeth neu ddewiniaeth, ac roedd bron yr un nifer o bobl yn credu ei bod hi’n bosib cyfathrebu ag ysbrydion. Cafodd arolwg arall ei gynnal mewn 18 gwlad yn Affrica. Ar gyfartaledd, roedd mwy na hanner y bobl yn dweud eu bod nhw’n credu mewn hudoliaeth. Wrth gwrs, ble bynnag rydyn ni’n byw, mae’n rhaid inni ein hamddiffyn ein hunain rhag ysbrydegaeth. Wedi’r cwbl, mae Satan yn ceisio camarwain y “byd i gyd.”—Dat. 12:9.

5. Sut mae Jehofa’n teimlo am ysbrydegaeth?

5 Jehofa yw “ARGLWYDD DDUW y gwirionedd.” (Salm 31:5, BC) Felly sut mae ef yn teimlo am ysbrydegaeth? Mae’n ei chasáu! Dywedodd Jehofa wrth yr Israeliaid: “Ddylai neb ohonoch chi aberthu ei fab neu ei ferch drwy dân. Ddylai neb ddewino, dweud ffortiwn, darogan, consurio, swyno, mynd ar ôl ysbrydion, chwarae gyda’r ocwlt na cheisio siarad â’r meirw. Mae gwneud pethau fel yna yn ffiaidd gan yr ARGLWYDD.” (Deut. 18:10-12) Dydy Cristnogion ddim yn cadw’r Gyfraith a roddodd Jehofa i’r Israeliaid. Sut bynnag, rydyn ni’n gwybod nad yw ei deimladau ynglŷn ag ysbrydegaeth wedi newid.—Mal. 3:6.

6. (a) Sut mae Satan yn defnyddio ysbrydegaeth i niweidio pobl? (b) Yn ôl Pregethwr 9:5, beth yw’r gwirionedd ynglŷn â chyflwr y meirw?

6 Mae Jehofa yn ein rhybuddio am ysbrydegaeth oherwydd y mae’n gwybod bod Satan yn ei defnyddio i niweidio pobl. Mae Satan yn defnyddio ysbrydegaeth i hyrwyddo celwyddau—gan gynnwys y celwydd fod y rhai sydd wedi marw yn byw mewn byd arall. (Darllen Pregethwr 9:5.) Mae Satan hefyd yn defnyddio ysbrydegaeth i godi ofn ar bobl a gwneud iddyn nhw droi eu cefnau ar Jehofa. Mae’n gobeithio y bydd y rhai sy’n ymarfer ysbrydegaeth yn ymddiried yn ysbrydion drwg yn lle ymddiried yn Jehofa.

SUT I WRTHSEFYLL YSBRYDION DRWG

7. Sut mae Jehofa’n ein helpu ni i wrthsefyll ysbrydion drwg?

7 Fel y soniwyd amdani yn gynharach, mae Jehofa yn rhoi gwybodaeth inni er mwyn osgoi cael ein camarwain gan Satan a’r cythreuliaid. Gad inni drafod rhai o’r pethau y gallwn ni eu gwneud er mwyn brwydro yn erbyn Satan a’r cythreuliaid.

8. (a) Beth yw’r brif ffordd o wrthsefyll ysbrydion drwg? (b) Sut mae Salm 146:4 yn datgelu celwydd Satan am y meirw?

8 Darllena Air Duw a myfyria arno. Dyma’r brif ffordd rydyn ni’n gwrthod y celwyddau mae ysbrydion drwg yn eu hyrwyddo. Mae Gair Duw yn gleddyf miniog sy’n gallu trywanu trwy’r celwyddau mae Satan yn eu hyrwyddo. (Eff. 6:17) Er enghraifft, mae Gair Duw yn dinoethi’r celwydd fod y meirw yn gallu cyfathrebu â’r rhai sy’n fyw. (Darllen Salm 146:4, BCND.) Mae hefyd yn ein hatgoffa mai Jehofa yw’r unig un sy’n gallu darogan y dyfodol yn gywir. (Esei. 45:21; 46:10) Os ydyn ni’n darllen Gair Duw ac yn myfyrio arno’n rheolaidd, byddwn ni’n barod i wrthod a chasáu’r celwyddau mae’r ysbrydion drwg eisiau inni eu credu.

9. Pa fath o ymarferion sy’n gysylltiedig ag ysbrydegaeth y dylen ni eu hosgoi?

9 Gwrthoda wneud unrhyw beth sy’n gysylltiedig ag ysbrydegaeth. Fel gwir Gristnogion, dydyn ni ddim yn ymarfer ysbrydegaeth mewn unrhyw ffordd. Er enghraifft, dydyn ni ddim yn mynd at gyfryngwyr ysbrydion nac yn ceisio cyfathrebu â’r meirw mewn unrhyw ffordd arall. Fel y trafodwyd yn yr erthygl flaenorol, rydyn ni’n osgoi arferion angladdau sy’n seiliedig ar y gred fod y meirw yn dal i fyw yn rhywle. A dydyn ni ddim yn defnyddio astroleg nac yn cael rhywun i ddweud ffortiwn er mwyn dysgu am y dyfodol. (Esei. 8:19) Rydyn ni’n gwybod bod arferion o’r fath yn beryglus iawn oherwydd y gallen nhw ein cysylltu ni’n uniongyrchol â Satan a’r cythreuliaid.

Efelycha’r Cristnogion cynnar trwy gael gwared ar unrhyw beth sy’n gysylltiedig â’r ocwlt a thrwy wrthod adloniant sy’n ymwneud ag ysbrydegaeth (Gweler paragraffau 10-12)

10-11. (a) Beth wnaeth rhai yn y ganrif gyntaf pan ddysgon nhw’r gwirionedd? (b) Yn ôl 1 Corinthiaid 10:21, pam dylen ni efelychu esiampl y Cristnogion cynnar, a sut gallwn ni wneud hynny?

10 Cael gwared ar unrhyw beth sy’n ymwneud â’r ocwlt. Roedd rhai o’r bobl oedd yn byw yn Effesus yn y ganrif gyntaf yn ymhél ag ysbrydegaeth. Pan ddysgon nhw’r gwirionedd, gweithredon nhw’n gyflym. “Roedd nifer ohonyn nhw wedi bod yn medlan gyda dewiniaeth, a dyma nhw’n dod â’r llyfrau oedd ganddyn nhw ar y pwnc ac yn eu llosgi’n gyhoeddus.” (Act. 19:19) Roedd y bobl hyn yn benderfynol o wrthsefyll ysbrydion drwg. Roedd eu llyfrau am ddewiniaeth yn gostus iawn. Ond, yn hytrach na rhoi’r llyfrau hyn i bobl eraill neu eu gwerthu, gwnaethon nhw eu dinistrio. Roedd plesio Jehofa yn fwy pwysig iddyn nhw na chael arian am eu llyfrau.

11 Sut gallwn ni efelychu esiampl y Cristnogion hynny? Peth doeth fyddai cael gwared ar unrhyw beth sydd gennyn ni sy’n gysylltiedig â’r ocwlt. Mae hyn yn cynnwys swynbethau, neu bethau eraill mae pobl yn eu gwisgo neu’n eu cadw er mwyn ceisio eu hamddiffyn eu hunain rhag ysbrydion drwg.—Darllen 1 Corinthiaid 10:21.

12. Pa gwestiynau y dylen ni eu gofyn am ein hadloniant?

12 Dewisa dy adloniant yn ofalus. Gofynna i ti dy hun: ‘Ydw i’n darllen llyfrau, cylchgronau, neu erthyglau ar y we am yr ocwlt? Beth am y gerddoriaeth rydw i’n gwrando arni, y ffilmiau a’r rhaglenni teledu rydw i’n eu gwylio, neu’r gemau fideo rydw i’n eu chwarae? Ydy fy adloniant yn cynnwys ysbrydegaeth o unrhyw fath? Er enghraifft, pethau fel fampirod, sombis, neu’r paranormal? A yw bwrw hud, swyno, neu felltithio person yn cael eu portreadu fel dim byd ond hwyl diniwed?’ Wrth gwrs, nid yw pob math o adloniant sy’n cynnwys ffantasïau neu chwedlau yn gysylltiedig ag ysbrydegaeth. Wrth iti feddwl am dy adloniant, bydda’n benderfynol o wneud dewisiadau a fydd yn dy helpu i gadw draw oddi wrth unrhyw beth mae Jehofa’n ei gasáu. Rydyn ni eisiau gwneud ein gorau glas i “gadw cydwybod glir” o flaen ein Duw.—Act. 24:16. *

13. Beth ddylen ni ei osgoi?

13 Osgoi adrodd hanesion am y cythreuliaid. Yn hyn o beth, dylen ni efelychu’r esiampl a osododd Iesu. (1 Pedr 2:21) Cyn iddo ddod i’r ddaear, roedd Iesu’n byw yn y nefoedd, ac roedd yn gwybod llawer am Satan a’r cythreuliaid. Ond nid oedd yn adrodd storïau am beth roedd yr ysbrydion drwg hynny wedi ei wneud. Roedd Iesu eisiau bod yn dyst i Jehofa, nid yn asiant cyhoeddusrwydd ar gyfer Satan. Gallwn ni efelychu Iesu drwy beidio â lledaenu storïau am y cythreuliaid. Yn hytrach, dangoswn trwy ein geiriau fod ein calon yn cael ei hysgogi “gan neges dda,” sef y gwirionedd.—Salm 45:1, BCND.

Does dim angen inni ofni ysbrydion drwg. Mae Jehofa, Iesu, a’r angylion yn llawer mwy pwerus (Gweler paragraffau 14-15) *

14-15. (a) Pam na ddylen ni ofni ysbrydion drwg? (b) Pa dystiolaeth sydd gennyn ni i ddangos bod Jehofa yn amddiffyn ei bobl heddiw?

14 Paid ag ofni ysbrydion drwg. Yn y byd amherffaith hwn, gall pethau drwg ddigwydd inni. Mae damweiniau, salwch, neu hyd yn oed marwolaeth yn gallu digwydd inni heb rybudd. Ond ni ddylen ni feddwl mai ysbrydion anweladwy sy’n gyfrifol. Mae’r Beibl yn esbonio bod “damweiniau’n gallu digwydd i bawb.” (Preg. 9:11) Hefyd, mae Jehofa wedi dangos ei fod yn llawer mwy pwerus na’r cythreuliaid. Er enghraifft, ni wnaeth Duw adael i Satan ladd Job. (Job 2:6) Yn nyddiau Moses, dangosodd Jehofa ei fod yn fwy pwerus na dewiniaid yr Aifft. (Ex. 8:18; 9:11) Drwy gyfrwng nerth oddi wrth Jehofa, dangosodd Iesu ei bŵer dros Satan a’r cythreuliaid pan gawson nhw eu hyrddio i lawr o’r nefoedd i’r ddaear. Ac yn y dyfodol agos, byddan nhw’n cael eu taflu i bydew diwaelod, ac ni fyddan nhw’n gallu niweidio unrhyw un.—Dat. 12:9; 20:2, 3.

15 Mae gennyn ni dystiolaeth amlwg fod Jehofa yn amddiffyn ei bobl heddiw. Meddylia am hyn: Rydyn ni’n pregethu ac yn dysgu i eraill am y gwir ym mhedwar ban y byd. (Math. 28:19, 20) O ganlyniad, rydyn ni’n dinoethi drwgweithredoedd y Diafol. Petai Satan yn gallu, byddai’n rhoi stop ar ein holl weithgareddau, ond nid yw’n gallu gwneud hynny. Felly, ni ddylai ysbrydion drwg godi ofn arnon ni. Rydyn ni’n gwybod bod Jehofa “yn gwylio popeth sy’n digwydd ar y ddaear, ac yn barod i helpu’r rhai sy’n ei drystio fe’n llwyr.” (2 Cron. 16:9) Os ydyn ni’n ffyddlon i Jehofa, ni all y cythreuliaid achosi niwed parhaol inni.

BENDITHION O DDERBYN HELP JEHOFA

16-17. Rho esiampl o’r dewrder sy’n hanfodol ar gyfer gwrthod ysbrydion drwg.

16 Mae angen dewrder i wrthsefyll ysbrydion drwg, yn enwedig pan fydd ffrindiau neu berthnasau, sydd â bwriadau da, yn ein gwrthwynebu. Ond mae Jehofa yn bendithio’r rhai sy’n dangos dewrder o’r fath. Ystyria esiampl chwaer o’r enw Erica, sy’n byw yn Ghana. Roedd Erica yn 21 oed pan ddechreuodd hi astudio’r Beibl. Gan fod ei thad yn offeiriad a oedd yn ymarfer hudoliaeth, roedd disgwyl iddi gymryd rhan mewn defod ysbrydegol a oedd yn cynnwys bwyta cig a offrymwyd mewn aberthau seremonïol i dduwiau ei thad. Pan wrthododd Erica, roedd ei theulu yn meddwl ei bod hi’n pechu’r duwiau. Roedd y teulu yn credu y byddai’r duwiau yn eu cosbi â salwch meddwl neu gorfforol.

17 Ceisiodd teulu Erica wneud iddi gymryd rhan yn y ddefod, ond ni wnaeth hi ildio, er bod hynny’n golygu bod rhaid iddi adael ei chartref. Gwnaeth rhai Tystion adael iddi aros â nhw. Mewn ffordd, gwnaeth Jehofa fendithio Erica â theulu newydd—cyd-addolwyr a ddaeth yn frodyr a chwiorydd iddi hi. (Marc 10:29, 30) Er i’w pherthnasau ei gwadu a hyd yn oed llosgi ei heiddo, gwnaeth Erica aros yn ffyddlon i Jehofa, cael ei bedyddio, a heddiw mae hi’n arloesi’n llawn-amser. Dydy hi ddim yn ofni’r cythreuliaid. Ac wrth sôn am ei theulu, mae Erica yn dweud, “rydw i’n gweddïo bob dydd i fy nheulu gael y fendith o adnabod Jehofa a chael y rhyddhad sy’n dod pan fyddwn ni’n gwasanaethu ein Duw cariadus.”

18. Pa fendithion sy’n dod pan fyddwn ni’n ymddiried yn Jehofa?

18 Ni fydd pob un ohonon ni yn gorfod wynebu’r fath brawf ar ein ffydd. Fodd bynnag, mae’n rhaid i bob un ohonon ni wrthsefyll ysbrydion drwg ac ymddiried yn Jehofa. Os ydyn ni’n gwneud hynny, byddwn ni’n cael llawer o fendithion, a byddwn ni’n osgoi cael ein camarwain gan gelwyddau Satan. Hefyd, ni fydd ofn y cythreuliaid yn ein parlysu. Yn bwysicach byth, byddwn ni’n cryfhau ein perthynas â Jehofa. Ysgrifennodd y disgybl Iago: “Gwnewch beth mae Duw eisiau. Gwrthwynebwch y diafol, a bydd yn ffoi oddi wrthoch chi. Closiwch at Dduw a bydd e’n closio atoch chi.”—Iago 4:7, 8.

CÂN 150 Trowch at Dduw am Waredigaeth

^ Par. 5 Drwy ei garedigrwydd, mae Jehofa wedi ein rhybuddio am ysbrydion drwg a’r niwed y maen nhw’n gallu ei achosi. Sut mae ysbrydion drwg yn ceisio camarwain pobl? Beth gallwn ni ei wneud i wrthsefyll ysbrydion drwg? Bydd yr erthygl hon yn trafod sut mae Jehofa yn ein helpu i osgoi eu dylanwad.

^ Par. 3 ESBONIADAU: Mae ysbrydegaeth yn cyfeirio at gredoau ac ymarferion sy’n gysylltiedig â’r cythreuliaid. Mae’n cynnwys y gred fod ysbrydion pobl sydd wedi marw yn goroesi marwolaeth y corff dynol ac yn cysylltu â’r rhai sy’n fyw, yn enwedig trwy berson (cyfryngwr). Mae ysbrydegaeth hefyd yn cynnwys ymarferion fel dewiniaeth. Yn yr erthygl hon, mae hudoliaeth yn cyfeirio at ymarferion sy’n gysylltiedig â’r ocwlt, neu’r goruwchnaturiol. Gall hyn gynnwys melltithion a bwrw hud neu dorri hud. Nid yw’n cyfeirio at driciau mae rhywun yn eu gwneud drwy symud ei ddwylo yn gyflym, fel y mae rhai yn eu gwneud ar gyfer hwyl.

^ Par. 12 Nid oes gan yr henuriaid yr hawl i greu rheolau ynglŷn ag adloniant. Yn hytrach, dylai pob Cristion ddefnyddio ei gydwybod sydd wedi ei hyfforddi gan y Beibl i ddewis beth i’w ddarllen, ei wylio, neu ei chwarae. Mae penteuluoedd doeth yn defnyddio egwyddorion Beiblaidd wrth ddewis adloniant ar gyfer eu teulu.—Gweler yr erthygl ar jw.org® Ydy Tystion Jehofa yn Gwahardd Ffilmiau, Llyfrau, neu Ganeuon Penodol?” o dan AMDANON NI > CWESTIYNAU CYFFREDIN.

^ Par. 54 DISGRIFIAD O’R LLUN: Ein Brenin pwerus Iesu yn y nefoedd yn arwain byddin o angylion. Mae gorsedd Jehofa uwch eu pennau.