Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

ERTHYGL ASTUDIO 18

Rhed y Ras i’r Pen

Rhed y Ras i’r Pen

“Dw i wedi rhedeg y ras i’r pen.”—2 TIM. 4:7.

CÂN 129 Dyfalbarhawn

CIPOLWG *

1. Beth y mae’n rhaid inni i gyd ei wneud?

A FYDDET ti eisiau rhedeg mewn ras yr wyt ti’n gwybod ei bod yn anodd, yn enwedig os wyt ti’n teimlo’n sâl neu wedi blino? Annhebyg iawn. Ond, dywedodd yr apostol Paul fod pob gwir Gristion mewn ras. (Heb. 12:1) Boed yn hen neu’n ifanc, yn fywiog neu’n flinedig, mae’n rhaid i bob un ohonon ni ddyfalbarhau hyd y diwedd os ydyn ni am dderbyn y wobr y mae Jehofa yn ei chynnig inni.—Math. 24:13.

2. Yn ôl 2 Timotheus 4:7, 8, pam roedd gan yr apostol Paul y rhyddid moesol i siarad?

2 Roedd gan Paul y rhyddid moesol i siarad am ei fod “wedi rhedeg y ras i’r pen.” (Darllen 2 Timotheus 4:7, 8.) Ond beth, yn benodol, oedd y ras y siaradodd Paul amdani?

BETH YW’R RAS?

3. Beth yw’r ras y siaradodd Paul amdani?

3 Weithiau byddai Paul yn defnyddio ymadroddion oedd yn perthyn i fyd y campau yng Ngroeg gynt er mwyn dysgu gwersi pwysig. (1 Cor. 9:25-27; 2 Tim. 2:5) Ar nifer o achlysuron, cymharodd fywyd y Cristion â rhedeg mewn ras. (1 Cor. 9:24; Gal. 2:2, BCND; Phil. 2:16) Bydd rhywun yn ymuno â’r “ras” hon pan fydd yn ei gysegru ei hun i Jehofa ac yn cael ei fedyddio. (1 Pedr 3:21) Fe fydd yn croesi’r llinell derfyn pan fydd Jehofa yn rhoi’r wobr o fywyd tragwyddol iddo.—Math. 25:31-34, 46; 2 Tim. 4:8.

4. Beth byddwn ni’n ei ystyried yn yr erthygl hon?

4 Beth yw’r tebygrwydd rhwng rhedeg ras hir a byw bywyd Cristnogol? Mae ’na sawl peth sy’n debyg. Gad inni ystyried tri ohonyn nhw. Yn gyntaf, mae’n rhaid inni ddilyn y cwrs iawn; yn ail, mae’n rhaid inni ganolbwyntio ar y llinell derfyn; ac yn drydydd, mae’n rhaid inni oresgyn heriau ar hyd y ffordd.

DILYN Y CWRS IAWN

Mae’n rhaid i bob un ohonon ni ddilyn y cwrs Cristnogol o fyw (Gweler paragraffau 5-7) *

5. Pa gwrs dylen ni ei ddilyn, a pham?

5 Er mwyn ennill ras lythrennol, mae’n rhaid i’r rhedwyr ddilyn y cwrs sydd wedi ei osod gan drefnwyr y ras. Mewn ffordd debyg, os ydyn ni eisiau ennill y ras am fywyd tragwyddol, mae’n rhaid inni ddilyn y cwrs, neu’r ffordd o fyw, Gristnogol. (Act. 20:24; 1 Pedr 2:21) Ond, mae Satan a’r rhai sy’n dilyn ei esiampl eisiau inni wneud penderfyniad gwahanol; maen nhw eisiau inni “ymuno gyda nhw” wrth redeg. (1 Pedr 4:4) Maen nhw’n gwneud hwyl am ben ein ffordd ni o fyw, gan honni bod eu ffordd nhw yn well ac yn arwain at ryddid. Ond dydy hynny ddim yn wir.—2 Pedr 2:19.

6. Beth rwyt ti’n ei ddysgu oddi wrth esiampl Brian?

6 Yn fuan iawn bydd y rhai sy’n cydredeg â byd Satan yn darganfod nad yw’r ffordd y maen nhw wedi ei dewis yn arwain at ryddid; mae’n arwain at gaethiwed. (Rhuf. 6:16) Ystyria esiampl Brian. Anogodd ei rieni iddo ddilyn cwrs y bywyd Cristnogol. Ond pan oedd yn ei arddegau, roedd yn amau a fyddai’r llwybr hwnnw yn ei wneud yn hapus. Dewisodd Brian redeg gyda’r rhai oedd yn byw yn ôl safonau Satan. “Heb yn wybod imi ar y pryd, byddai’r rhyddid honedig hwnnw yr oeddwn i’n ei ddymuno yn fy arwain i grafangau cyffuriau ac alcohol,” meddai. “Ymhen dim roeddwn i’n gaeth i’r ddau ac yn byw yn anfoesol. Dros y blynyddoedd wnes i arbrofi fesul tipyn â chyffuriau cryfach, a des i’n gaeth i lawer ohonyn nhw. . . . Dechreuais werthu cyffuriau er mwyn cynnal fy ffordd o fyw.” Yn y diwedd, penderfynodd Brian fyw yn ôl safonau Jehofa. Newidiodd ei gwrs a chafodd ei fedyddio yn 2001. Nawr, mae’n wirioneddol hapus ei fod yn dilyn y cwrs Cristnogol. *

7. Yn ôl Mathew 7:13, 14, pa ddwy ffordd sydd o’n blaenau ni?

7 Mae hi’n hynod o bwysig inni ddewis y ffordd iawn i’w dilyn! Mae Satan eisiau i bob un ohonon ni stopio rhedeg ar y ffordd gul “sy’n arwain i fywyd” a chroesi drosodd i’r ffordd lydan y mae’r rhan fwyaf o bobl y byd arni. Mae’r ffordd honno’n boblogaidd ac yn haws teithio ar ei hyd. Ond mae’n “arwain i ddinistr.” (Darllen Mathew 7:13, 14.) Er mwyn aros ar y ffordd iawn heb fynd ar gyfeiliorn, mae’n rhaid inni ymddiried yn Jehofa a gwrando arno.

CANOLBWYNTIO AC OSGOI BAGLU

Mae’n rhaid inni ganolbwyntio ac osgoi baglu eraill (Gweler paragraffau 8-12) *

8. Beth bydd rhedwr sy’n baglu yn ei wneud?

8 Mae’r cystadleuwyr mewn ras hir yn cadw llygad ar y ffordd o’u blaenau fel nad ydyn nhw’n baglu. Sut bynnag, gallai un o’u cyd-redwyr eu baglu yn ddamweiniol neu gallen nhw fachu eu troed mewn twll a chael codwm. Os digwydd iddyn nhw ddisgyn, byddan nhw’n codi’n ôl ar eu traed ac yn ailafael yn y ras. Byddan nhw’n canolbwyntio, nid ar yr hyn a wnaeth iddyn nhw faglu, ond ar y llinell derfyn a’r wobr maen nhw’n gobeithio ei hennill.

9. Os baglwn, beth dylen ni ei wneud?

9 Yn ein ras bersonol gallwn ni faglu lawer o weithiau, gan fynd ar gyfeiliorn mewn gair neu weithred. Neu gall ein cyd-redwyr ein brifo’n ddamweiniol. Ni ddylai hyn ein synnu. Rydyn ni i gyd yn amherffaith, ac rydyn ni i gyd yn rhedeg ar yr un ffordd gul i fywyd. Felly dydy “taro” yn erbyn ein gilydd weithiau ddim yn hollol annisgwyl. Fe wnaeth Paul gydnabod y byddai “gan rywun gŵyn yn erbyn rhywun arall” o bryd i’w gilydd. (Col. 3:13) Ond yn lle canolbwyntio ar yr hyn a wnaeth inni gwympo, gad inni gadw ein golwg ar y wobr o’n blaenau. Os baglwn, gad inni fod yn benderfynol o godi ar ein traed ac ailymuno yn y ras. Os gwnawn ni chwerwi a dal dig gan wrthod codi ar ein traed, fyddwn ni ddim yn croesi’r llinell derfyn nac yn derbyn y wobr. Fe fyddwn ni’n fwy tebygol o fod yn rhwystr i eraill sy’n ceisio rhedeg y ffordd gul i fywyd.

10. Sut gallwn ni osgoi “achosi i Gristion arall faglu”?

10 Ffordd arall gallwn ni osgoi “achosi i Gristion arall faglu” yn y ras ydy ceisio ildio i’w ffordd nhw o wneud pethau pan fydd hynny’n bosib, yn lle mynnu gwneud pethau ein ffordd ni’n hunain bob amser. (Rhuf. 14:13, 19-21; 1 Cor. 8:9, 13) Yn hyn o beth rydyn ni’n wahanol i redwyr mewn ras go iawn. Byddan nhw’n cystadlu yn erbyn rhedwyr eraill, a bydd pob rhedwr yn ymdrechu i ennill y wobr iddo’i hun. Meddwl am eu buddiannau eu hunain y mae’r rhedwyr hynny. Felly fe allan nhw wthio rhedwyr eraill o’r neilltu iddyn nhw eu hunain gael bod ar y blaen. Yn groes i hyn, dydyn ni ddim yn cystadlu yn erbyn ein gilydd. (Gal. 5:26; 6:4) Ein nod ni yw helpu cynifer â phosib i groesi’r llinell derfyn gyda ni ac ennill y wobr o fywyd. Felly ceisiwn roi cyngor Paul ar waith, sef “meddyliwch am bobl eraill gyntaf, yn lle dim ond meddwl amdanoch chi’ch hunain.”—Phil. 2:4.

11. Beth y mae rhedwr yn canolbwyntio arno, a pham?

11 Yn ychwanegol i edrych ar y ffordd sydd o’u blaenau nhw, bydd rhedwyr mewn ras go iawn yn canolbwyntio ar y llinell derfyn. Hyd yn oed os na fyddan nhw’n gallu gweld y llinell honno â’u llygaid, fe fyddan nhw’n dychmygu eu hunain yn ei chroesi ac yn derbyn y wobr. Mae’r wobr yn glir yn llygaid eu meddwl a dyna sy’n eu cymell i ddal ati.

12. Beth y mae Jehofa o’i garedigrwydd wedi ei gynnig inni?

12 Yn ein ras ni, mae Jehofa o’i garedigrwydd wedi addo gwobr i bob un o’i bobl sy’n gorffen y ras—bywyd tragwyddol un ai yn y nef neu ar baradwys ddaear. Mae’r Beibl yn disgrifio’r wobr honno er mwyn inni gael dychmygu pa mor fendigedig bydd y bywyd hwnnw. Y mwyaf y cadwn y gobaith hwnnw yn ein meddyliau a’n calonnau, y lleiaf tebygol y byddwn ni o adael i unrhyw beth ein baglu yn barhaol.

DAL ATI I REDEG ER GWAETHAF HERIAU

Dylen ni ddal ati i redeg y ras am fywyd er gwaethaf ein heriau personol (Gweler paragraffau 13-20) *

13. Pa fantais sydd gennyn ni dros redwyr llythrennol?

13 Roedd yn rhaid i’r rhedwyr yn y campau Groeg oresgyn heriau, fel blinder a phoen. Ond y cyfan roedd ganddyn nhw i ddibynnu arno oedd eu hyfforddiant a’u nerth eu hunain. Rydyn ni’n debyg i’r rhedwyr hynny yn y ffaith ein bod ni’n cael ein hyfforddi sut i redeg y ras. Ond mae gennyn ni fantais dros redwyr llythrennol. Gallwn ni gael nerth gan Jehofa a does dim diwedd i’w nerth ef. Os dibynnwn ar Jehofa, mae ef yn addo nid yn unig i’n hyfforddi ond i’n gwneud ni’n gryf!—1 Pedr 5:10.

14. Sut mae 2 Corinthiaid 12:9, 10 yn ein helpu i wynebu heriau?

14 Roedd rhaid i Paul ddelio â llawer o heriau. Ar ben cael ei wawdio a’i erlid gan eraill, roedd ar brydiau yn teimlo’n wan ac yn gorfod goddef “poenau corfforol.” (2 Cor. 12:7) Ond yn hytrach na gweld yr heriau hynny fel rheswm i roi’r gorau i wasanaethu Jehofa, fe welodd Paul fod hyn yn gyfle i ddibynnu arno. (Darllen 2 Corinthiaid 12:9, 10.) Oherwydd roedd gan Paul yr agwedd hon, fe helpodd Jehofa ef drwy ei dreialon i gyd.

15. Os efelychwn Paul, beth byddwn ni’n ei brofi?

15 Gallwn ninnau gael ein gwawdio neu ein herlid dros ein ffydd. Gallwn hefyd orfod delio â iechyd gwael neu orflinder. Ond os efelychwn Paul, gall pob un o’r heriau hynny ddod yn gyfle i brofi cefnogaeth gariadus Jehofa.

16. Os nad wyt ti mewn iechyd da, beth elli di ei wneud?

16 Wyt ti’n gorwedd mewn gwely neu’n eistedd mewn cadair olwyn? Oes gen ti bennau gliniau gwan neu ydy dy olwg yn ddrwg? Os felly, a elli di redeg wrth ochr y rhai sydd yn ifanc ac yn iach? Fe elli di, yn sicr! Mae ’na lawer sy’n hŷn neu’n fethedig yn rhedeg ar y ffordd i fywyd. Ni allan nhw wneud y gwaith hwn yn eu nerth eu hunain. Yn hytrach, byddan nhw’n tynnu ar nerth Jehofa drwy wrando ar gyfarfodydd Cristnogol dros y ffôn neu eu gwylio drwy eu ffrydio. Ac fe fyddan nhw’n gwneud disgyblion drwy dystiolaethu wrth feddygon, nyrsys, a pherthnasau.

17. Sut mae Jehofa’n teimlo am y rhai sydd â chyfyngiadau corfforol?

17 Paid byth ag anobeithio dros dy gyfyngiadau corfforol gan feddwl dy fod yn rhy wan i redeg ras bywyd. Mae Jehofa yn dy garu am dy ffydd ynddo ac am bopeth rwyt ti wedi ei wneud drosto yn y gorffennol. Mae angen ei help arnat ti nawr yn fwy nac erioed; ni fydd yn cefnu arnat ti. (Salm 9:10) Yn hytrach, bydd yn closio’n nes atat ti. Ystyria brofiad chwaer sy’n delio â phroblemau iechyd heriol: “Wrth i fy mhroblemau iechyd gynyddu, mae’r cyfleoedd i rannu’r gwirionedd ag eraill yn prinhau. Ond dw i’n gwybod bod hyd yn oed fy ymdrechion bach i yn gwneud calon Jehofa’n llon. Ac mae hynny’n fy ngwneud i’n hapus.” Pan fyddi di’n teimlo’n isel, cofia nad wyt ti ar dy ben dy hun. Meddylia am esiampl Paul, a chofia am ei eiriau calonogol: “Dw i’n falch fy mod i’n wan . . . achos pan dw i’n wan, mae gen i nerth go iawn.”—2 Cor. 12:10.

18. Pa her arbennig o anodd y mae rhai yn ei hwynebu?

18 Mae rhai sy’n rhedeg ar y ffordd i fywyd yn wynebu her arall. Maen nhw’n delio ag amgylchiadau personol na all eraill eu gweld nac efallai eu deall. Er enghraifft, mae’n rhaid iddyn nhw ddelio ag iselder neu bryder sy’n eu llethu. Pam mae’r her hon mor arbennig o anodd i’r gweision annwyl hyn ei hwynebu? Oherwydd pan fydd rhywun yn torri braich neu’n gaeth i gadair olwyn, mae pawb yn gweld y broblem mae ef neu hi yn ei hwynebu a byddan nhw eisiau helpu. Sut bynnag, efallai na fydd pobl sy’n dioddef anhwylder meddyliol neu emosiynol yn dangos unrhyw arwyddion allanol eu bod nhw’n dioddef. Ond y gwir yw, mae eu poen a’u pryder yr un mor real ag ydy hi i berson sydd wedi torri asgwrn, ond efallai na fyddan nhw’n cael yr un cariad a chydymdeimlad gan eraill.

19. Beth a ddysgwn oddi wrth esiampl Meffibosheth?

19 Os wyt ti’n byw gyda’r fath gyfyngiadau ac yn teimlo nad oes neb yn dy ddeall di, fe elli di gael dy annog gan esiampl Meffibosheth. (2 Sam. 4:4) Roedd rhaid iddo yntau ddelio ag anabledd, a chafodd ei gamfarnu gan y Brenin Dafydd. Er na ddaeth Meffibosheth â’r treialon hyn arno’i hun, wnaeth ef ddim caniatáu iddo’i hun fod yn negyddol; roedd yn gwerthfawrogi’r pethau positif yn ei fywyd. Roedd yn ddiolchgar am y caredigrwydd a gafodd gan Dafydd yn y gorffennol. (2 Sam. 9:6-10) Pan gafodd ei gamfarnu gan Dafydd, gwelodd Meffibosheth y darlun cyfan. Wnaeth ef ddim caniatáu i gamgymeriad Dafydd ei wneud yn chwerw, na rhoi’r bai ar Jehofa am yr hyn a wnaeth Dafydd. Canolbwyntiodd Meffibosheth ar yr hyn yr oedd yn gallu ei wneud i gefnogi brenin apwyntiedig Jehofa. (2 Sam. 16:1-4; 19:24-30) Trefnodd Jehofa i esiampl ragorol Meffibosheth gael ei chofnodi yn Ei Air er ein lles ni.—Rhuf. 15:4.

20. Sut gall pryder effeithio ar rai, ond beth gallan nhw fod yn sicr ohono?

20 Mae pryder difrifol yn gwneud i rai brodyr deimlo’n nerfus neu’n anghyfforddus mewn sefyllfaoedd pan fyddan nhw’n gorfod cymdeithasu ag eraill. Efallai y byddan nhw’n ei chael hi’n anodd bod mewn grwpiau mawr, ond maen nhw’n dal i fynychu’r cyfarfodydd, y cynulliadau, a’r cynadleddau. Mae’n her iddyn nhw siarad â phobl ddieithr, ond eto maen nhw’n siarad ag eraill yn y weinidogaeth. Os ydy hyn yn wir yn dy achos di, paid ag anghofio nad wyt ti ar dy ben dy hun. Mae llawer yn brwydro â’r un broblem. Cofia fod Jehofa yn hapus iawn â dy ymdrech lew. Mae’r ffaith nad wyt ti wedi rhoi’r ffidil yn y to yn profi ei fod yn dy fendithio ac yn rhoi iti’r nerth sydd ei angen arnat. * (Phil. 4:6, 7; 1 Pedr 5:7) Os wyt ti’n gwasanaethu Jehofa er gwaethaf dy gyfyngiadau corfforol ac emosiynol, fe elli di fod yn hyderus dy fod yn plesio Jehofa.

21. Gyda help Jehofa, beth byddwn ni i gyd yn gallu ei wneud?

21 Mae’n beth da fod ’na wahaniaethau rhwng ras go iawn a’r un y siaradodd Paul amdani. Mewn ras lythrennol adeg y Beibl, un yn unig fyddai’n ennill y wobr. Yn wahanol i hyn, mae pawb sy’n dyfalbarhau yn ffyddlon yng nghwrs y bywyd Cristnogol yn derbyn y wobr o fywyd tragwyddol. (Ioan 3:16) Ac yn y ras go iawn, roedd rhaid i bob un o’r rhedwyr fod yn gorfforol heini; fel arall, doedd ganddyn nhw ddim llawer o obaith ennill. Ar y llaw arall, mae gan lawer ohonon ni gyfyngiadau corfforol, ac eto rydyn ni’n dal ati. (2 Cor. 4:16) Gyda help Jehofa, byddwn ni i gyd yn rhedeg y ras ac yn croesi’r llinell derfyn!

CÂN 144 Canolbwyntiwch ar y Wobr!

^ Par. 5 Heddiw mae llawer o weision Jehofa yn dioddef effeithiau henaint neu salwch sy’n eu gwanhau, ac mae pob un ohonon ni’n blino weithiau. Felly gall y syniad o redeg ras ymddangos y tu hwnt i’n cyrraedd. Bydd yr erthygl hon yn trafod sut gall pob un ohonon ni redeg gyda dyfalbarhad ac ennill y ras am fywyd y soniodd yr apostol Paul amdani.

^ Par. 6 Gweler yr erthygl “Mae’r Beibl yn Newid Bywydau” yn rhifyn Ionawr 1, 2013 o’r Tŵr Gwylio Saesneg.

^ Par. 20 Am fwy o awgrymiadau ymarferol ynglŷn â delio â phryder, yn ogystal â phrofiadau’r rhai sy’n delio’n llwyddiannus â phryder, gweler rhaglen Mai 2019 ar jw.org®. Dos i LIBRARY > JW BROADCASTING® ar y wefan Saesneg.

^ Par. 63 DISGRIFIAD O’R LLUN: Mae aros yn brysur yn y weinidogaeth yn cadw’r brawd hŷn yma ar y cwrs Cristnogol.

^ Par. 65 DISGRIFIAD O’R LLUN: Gallen ni fod yn faen tramgwydd i eraill drwy fynnu eu bod yn yfed mwy o alcohol neu drwy beidio â chyfyngu ein defnydd ein hunain ohono.

^ Par. 67 DISGRIFIAD O’R LLUN: Ac yntau yn yr ysbyty yn gaeth i’w wely, mae brawd yn aros yn y ras Gristnogol drwy dystiolaethu i’w ofalwyr.