Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Cwestiynau Ein Darllenwyr

Cwestiynau Ein Darllenwyr

Pam gwnaeth Iesu ddyfynnu geiriau Dafydd yn Salm 22:1 ychydig cyn iddo farw?

Ymhlith geiriau olaf Iesu cyn iddo farw oedd y rhai yn Mathew 27:46: “Fy Nuw! fy Nuw! Pam wyt ti wedi troi dy gefn arna i?” Drwy ddweud hyn, gwnaeth Iesu gyflawni geiriau’r salmydd Dafydd yn Salm 22:1. (Marc 15:34) Byddai’n anghywir i ddod i’r casgliad fod Iesu wedi dyfynnu’r geiriau hyn am ei fod wedi ei siomi neu am ei fod wedi colli ei ffydd yn Nuw am ychydig. Roedd Iesu’n deall yn iawn pam roedd rhaid iddo farw, ac roedd yn barod i wneud hynny. (Math. 16:21; 20:28) Gwyddai hefyd y byddai’n rhaid i Jehofa dynnu unrhyw “ffens o’i gwmpas i’w amddiffyn” ar adeg ei farwolaeth. (Job 1:10) Drwy wneud hynny, caniataodd Jehofa i Iesu brofi y tu hwnt i unrhyw amheuaeth y byddai’n aros yn ffyddlon ni waeth beth fyddai amgylchiadau ei farwolaeth.—Marc 14:35, 36.

Felly pam dywedodd Iesu eiriau’r salm hon? Er na allwn ni fod yn gwbl sicr, gad inni ystyried rhai posibiliadau. *

Drwy ddweud y geiriau hyn, a oedd Iesu’n pwysleisio na fyddai Jehofa yn ymyrryd yn ei farwolaeth? Roedd angen i Iesu dalu’r pridwerth heb help Jehofa. Roedd yn fod dynol o gig a gwaed ac roedd rhaid iddo farw er mwyn iddo “brofi marwolaeth dros bob dyn.”—Heb. 2:9, BCND.

Drwy ddyfynnu ychydig o eiriau o’r salm honno, a oedd Iesu’n tynnu sylw at y salm gyfan? Roedd hi’n gyffredin y dyddiau hynny i bobl Iddewig ddysgu llawer o’r salmau ar eu cof. Drwy gael eu hatgoffa o un adnod o ryw salm benodol, bydden nhw’n naturiol yn meddwl am y salm gyfan. Os mai dyma oedd gan Iesu mewn meddwl, yna byddai wedi helpu ei ddilynwyr Iddewig i gofio llawer o broffwydoliaethau yn y salm ynglŷn â’r digwyddiadau o amgylch adeg ei farwolaeth. (Salm 22:7, 8, 15, 16, 18, 24) Hefyd, tuag at ddiwedd y salm, mae’n disgrifio buddugoliaeth Teyrnasiad Jehofa yn ymestyn i ben draw’r byd.—Salm 22:27-31.

Drwy ddyfynnu geiriau Dafydd, a oedd Iesu’n dweud ei fod yn ddieuog? Cyn iddo farw, aeth Iesu drwy dreial anghyfreithlon lle cafodd ei farnu’n euog o gablu. (Math. 26:65, 66) Cafodd y treial hwnnw ei drefnu ar hast yn hwyr yn y nos, treial a oedd yn mynd yn gwbl groes i safonau’r gyfraith. (Math. 26:59; Marc 14:56-59) Drwy ddyfynnu’r geiriau hyn fel cwestiwn rhethregol, efallai roedd Iesu’n tynnu sylw at y ffaith nad oedd wedi gwneud unrhyw beth oedd yn haeddu’r fath gosb.

A oedd Iesu’n atgoffa eraill fod Jehofa wedi caniatáu i’r salmydd Dafydd ddioddef, a bod hynny ddim yn golygu bod Dafydd wedi colli cymeradwyaeth Jehofa? Doedd cwestiwn Dafydd ddim yn dangos diffyg ffydd. Ar ôl codi’r cwestiwn, aeth ymlaen i fynegi ei hyder yng ngallu Jehofa i achub, a gwnaeth Jehofa barhau i’w fendithio. (Salm 22:23, 24, 27) Mewn ffordd debyg, er roedd Iesu, “Fab Dafydd,” yn dioddef ar y stanc, doedd hynny ddim yn golygu ei fod wedi colli cymeradwyaeth Jehofa.—Math. 21:9.

A oedd Iesu’n mynegi ei alar dwys dros y ffaith fod Jehofa wedi gorfod stopio ei amddiffyn er mwyn iddo allu profi ei ffyddlondeb yn llawn? Nid bwriad gwreiddiol Jehofa oedd i’w Fab ddioddef a marw. Daeth hynny’n angenrheidiol dim ond ar ôl y gwrthryfel cyntaf. Roedd Iesu heb wneud unrhyw beth o’i le, ond roedd rhaid iddo ddioddef a marw er mwyn ateb y cwestiynau a gododd Satan, ac er mwyn talu’r pridwerth oedd ei angen er mwyn prynu’n ôl yr hyn roedd dyn wedi ei golli. (Marc 8:31; 1 Pedr 2:21-24) Roedd hyn ond yn bosib os byddai Jehofa yn stopio amddiffyn Iesu am gyfnod, a hynny am y tro cyntaf yn ei fywyd.

A oedd Iesu’n ceisio helpu ei ddilynwyr i ganolbwyntio ar y rheswm y caniataodd Jehofa iddo farw fel hyn? * Gwyddai Iesu y byddai marw fel troseddwr ar stanc yn baglu llawer. (1 Cor. 1:23) Petasai ei ddilynwyr yn canolbwyntio ar y gwir reswm dros ei farwolaeth, bydden nhw’n deall ei wir arwyddocâd. (Gal. 3:13, 14) Bydden nhw wedyn yn ei ystyried fel Achubwr, ac nid fel troseddwr.

Beth bynnag oedd rheswm Iesu dros ddyfynnu’r geiriau hyn, roedd yn sylweddoli bod yr hyn roedd yn ei brofi yn rhan o ewyllys Jehofa ar ei gyfer. Yn fuan ar ôl dyfynnu’r salm hon, dywedodd Iesu: “Mae’r cwbl wedi ei wneud.” (Ioan 19:30; Luc 22:37) Yn wir, roedd y ffaith fod Jehofa wedi stopio amddiffyn Iesu am gyfnod byr wedi helpu Iesu i gyflawni’n llwyr bopeth y cafodd ei anfon i’r ddaear i’w wneud. Gwnaeth hynny hefyd ganiatáu iddo gyflawni’r “cwbl ysgrifennodd Moses [amdano] yn y Gyfraith, a beth sydd yn llyfrau’r Proffwydi a’r Salmau.”—Luc 24:44.

^ Par. 2 Gweler hefyd baragraffau 9 a 10 yn yr erthygl “Dysgu o Eiriau Olaf Iesu” yn y rhifyn hwn.

^ Par. 4 Yn ystod ei weinidogaeth, gwnaeth Iesu ar adegau ddweud pethau neu godi cwestiynau nad oedd o reidrwydd yn adlewyrchu ei deimladau ei hun. Roedd yn gwneud hyn i sbarduno trafodaeth ymysg ei ddilynwyr.—Marc 7:24-27; Ioan 6:1-5; gweler rhifyn Hydref 15, 2010, y Tŵr Gwylio Saesneg, tt. 4-5.