Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

ERTHYGL ASTUDIO 14

Dilyna ei Gamau yn Agos

Dilyna ei Gamau yn Agos

“Dioddefodd Crist yntau er eich mwyn chwi, gan adael ichwi esiampl, ichwi ganlyn yn ôl ei draed ef.”—1 PEDR 2:21, BCND.

CÂN 13 Crist, Ein Hesiampl

CIPOLWG *

Mae Iesu wedi gadael olion traed inni eu dilyn yn agos (Gweler paragraffau 1-2)

1-2. Sut mae’n bosib inni ddilyn camau Iesu? Eglura.

DYCHMYGA dy fod ti’n rhan o grŵp sy’n cerdded dros fynydd peryglus wedi’i orchuddio ag eira. Mae tywysydd profiadol yn eich arwain. Wrth iddo gerdded, mae’n gadael olion traed yn yr eira. Y peth nesaf, rwyt ti’n colli golwg ohono! Ond dwyt ti ddim yn mynd i banics. Yn hytrach, rwyt ti a gweddill y grŵp yn dilyn olion ei draed mor agos ag y gallwch chi!

2 A ninnau’n wir Gristnogion, rydyn ni mewn ffordd yn cerdded trwy dir peryglus—y byd drygionus hwn. Yn ffodus, mae Jehofa wedi rhoi’r Tywysydd perffaith inni—ei Fab, Iesu Grist, inni allu dilyn ei gamau yn agos. (1 Pedr 2:21, BCND) Yn ôl un cyfeirlyfr Beiblaidd, mae Pedr yma yn cymharu Iesu â thywysydd. Fel tywysydd yn gadael olion traed, mae Iesu wedi troedio’r ffordd o’n blaenau er mwyn inni allu dilyn ei gamau. Gad inni ystyried tri chwestiwn ynglŷn â dilyn ei gamau—beth? pam? a sut?

BETH MAE’N EI OLYGU I DDILYN CAMAU IESU?

3. Beth mae’n ei olygu i ddilyn camau rhywun?

3 Beth mae’n ei olygu i ddilyn camau rhywun? Yn y Beibl, mae’r geiriau ‘rhodio’ a ‘thraed’ weithiau yn cyfeirio at ffordd rhywun o fyw. (Gen. 6:9, BCND; Diar. 4:26, BCND) Gellir cymharu’r esiampl mae rhywun yn ei gosod â’r olion traed mae’n eu gadael wrth gerdded. Felly, mae dilyn olion traed rhywun yn golygu dilyn ei esiampl, neu ei efelychu.

4. Beth mae’n ei olygu i ddilyn camau Iesu?

4 Felly beth mae’n ei olygu i ddilyn camau Iesu? Yn syml, mae’n golygu efelychu ei esiampl. Yn yr adnod sy’n thema, mae’r apostol Paul yn sôn yn benodol am esiampl wych Iesu o ran dal ati er gwaethaf dioddefaint; ond, mae ’na lawer o ffyrdd eraill gallwn ni efelychu Iesu. (1 Pedr 2:18-25) Mewn gwirionedd, mae bywyd cyfan Iesu, hynny yw, popeth a ddywedodd a phopeth a wnaeth, yn esiampl inni ei dilyn.

5. Ydy hi wir yn bosib i bobl amherffaith ddilyn esiampl berffaith Iesu? Esbonia.

5 A ninnau’n bobl amherffaith, ydy hi wir yn bosib inni ddilyn esiampl Iesu? Ydy, mae hi. Yn yr iaith wreiddiol, roedd Pedr yn ein hannog i ddilyn camau Iesu yn agos—nid yn berffaith. Os dilynwn ei gamau yn ofalus a gwneud ein gorau fel pobl amherffaith, byddwn ni’n rhoi geiriau’r apostol Ioan ar waith gan “fyw fel oedd Iesu’n byw.”—1 Ioan 2:6, BCND.

PAM DILYN CAMAU IESU?

6-7. Pam gallwn ni ddweud y bydd dilyn camau Iesu yn ein helpu ni i glosio at Jehofa?

6 Bydd dilyn camau Iesu yn ein helpu ni i glosio at Jehofa. Pam gallwn ni ddweud hyn? Yn gyntaf, gosododd Iesu esiampl wych o sut i fyw mewn ffordd sy’n plesio Duw. (Ioan 8:29) Felly drwy ddilyn camau Iesu, byddwn ni’n plesio Jehofa. A gallwn fod yn sicr y bydd ein Tad nefol yn closio at y rhai sy’n ymdrechu i fod yn ffrind iddo.—Iago 4:8.

7 Yn ail, efelychodd Iesu ei Dad yn berffaith. Dyna pam roedd Iesu’n gallu dweud: “Mae pwy bynnag sydd wedi fy ngweld i wedi gweld y Tad.” (Ioan 14:9) Pan fyddwn ni’n efelychu Iesu a’i ffordd o ddelio ag eraill—er enghraifft, ei dosturi tuag at ddyn gwahanglwyfus, ei empathi tuag at ddynes â salwch difrifol, ei gydymdeimlad tuag at rai oedd yn galaru—byddwn ninnau hefyd yn efelychu Jehofa. (Marc 1:40, 41; 5:25-34; Ioan 11:33-35) Y mwyaf y byddwn ni’n efelychu rhinweddau Jehofa, y cryfaf y bydd ein cyfeillgarwch ag ef.

8. Esbonia pam bydd dilyn camau Iesu yn ein helpu i allu “concro’r” byd.

8 Drwy ddilyn camau Iesu, fyddwn ni ddim yn gadael i’r byd drygionus hwn dynnu ein sylw. Ar ei noson olaf ar y ddaear, roedd Iesu’n gallu dweud: “Dw i wedi concro’r byd.” (Ioan 16:33) Roedd yn golygu ei fod wedi gwrthod cael ei ddylanwadu gan feddylfryd, blaenoriaethau, a gweithredoedd y byd. Wnaeth Iesu erioed golli golwg ar y rheswm cafodd ei anfon i’r ddaear—i sancteiddio enw Jehofa. Beth amdanon ni? Yn y byd hwn, mae ’na lawer o bethau a allai dynnu ein sylw. Ond, os ydyn ni, fel Iesu, yn canolbwyntio ar wneud ewyllys Jehofa, byddwn ninnau hefyd yn “ennill y frwydr yn erbyn y byd.”—1 Ioan 5:5.

9. Beth sydd rhaid inni ei wneud i aros ar y ffordd i fywyd tragwyddol?

9 Mae dilyn camau Iesu yn arwain at fywyd tragwyddol. Pan ofynnodd dyn ifanc cyfoethog beth roedd rhaid iddo ei wneud er mwyn cael bywyd tragwyddol, atebodd Iesu: “Tyrd, dilyn fi.” (Math. 19:16-21) Dywedodd Iesu wrth rai Iddewon oedd ddim yn credu mai ef oedd y Crist: “Mae fy nefaid i yn fy nilyn . . . Dw i’n rhoi bywyd tragwyddol iddyn nhw.” (Ioan 10:24-29) A thra oedd Iesu’n siarad â Nicodemus, aelod o’r Sanhedrin a ddangosodd ddiddordeb yn nysgeidiaethau Iesu, dywedodd y byddai “bywyd tragwyddol” ar gael i “bwy bynnag sy’n credu ynddo.” (Ioan 3:16) Dangoswn ein ffydd yn Iesu drwy roi’r hyn a ddysgodd ar waith a thrwy efelychu ei esiampl. Os gwnawn ni hynny, byddwn yn aros ar y ffordd i fywyd tragwyddol.—Math. 7:14.

SUT GALLWN NI DDILYN CAMAU IESU YN AGOS?

10. Beth sydd rhaid inni ei wneud i ddod i “nabod” Iesu yn well? (Ioan 17:3)

10 Cyn inni allu dilyn camau Iesu yn agos, mae’n rhaid inni ddod i’w adnabod. (Darllen Ioan 17:3.) Mae dod i “nabod” Iesu yn broses barhaol. Mae’n rhaid inni ddal ati i ddysgu mwy a mwy amdano—ei rinweddau, ei feddylfryd, a’i safonau. Ni waeth pa mor hir rydyn ni wedi bod yn y gwir, mae’n rhaid inni barhau i ddod i “nabod” Jehofa a’i Fab yn well.

11. Beth mae’r pedair Efengyl yn ei gynnwys?

11 Er mwyn ein helpu i ddod i adnabod ei Fab, mae Jehofa, yn ei gariad, wedi cynnwys y pedair Efengyl yn ei Air. Mae’r Efengylau yn cynnwys hanes bywyd a gweinidogaeth Iesu. Mae’r hanes hwnnw yn dweud wrthon ni beth ddywedodd Iesu, yn dangos inni beth a wnaeth, ac yn datgelu inni sut roedd yn teimlo. Mae’r pedwar llyfr hynny yn ein helpu i ystyried esiampl Iesu yn fanwl. (Heb. 12:3) I bob pwrpas, maen nhw’n cynnwys olion traed Iesu. Felly drwy astudio’r Efengylau, gallwn ddod i adnabod Iesu yn well ac yn well. O ganlyniad, gallwn ddilyn ei gamau yn agos.

12. Sut gallwn ni elwa’n llawn o’r Efengylau?

12 Er mwyn elwa’n llawn o’r Efengylau, mae’n rhaid inni wneud mwy na’u darllen yn unig. Mae’n rhaid inni gymryd amser i’w hastudio nhw’n ofalus a myfyrio’n ddwfn arnyn nhw. (Cymhara Josua 1:8.) Gad inni drafod dau awgrymiad a all ein helpu i fyfyrio ar yr Efengylau a rhoi ar waith yr hyn rydyn ni’n ei ddarllen ynddyn nhw.

13. Sut gelli di ddod â’r Efengylau’n fyw?

13 Yn gyntaf, gwna i’r Efengylau fyw. Defnyddia dy ddychymyg i weld, clywed, a theimlo beth oedd yn mynd ymlaen. I dy helpu di i wneud hynny, gwna ymchwil yng nghyhoeddiadau cyfundrefn Jehofa. Ystyria’r cyd-destun—yr hyn sy’n digwydd cyn ac ar ôl y rhan rwyt ti’n ei hastudio. Edrycha am wybodaeth sy’n rhoi mwy o gefndir ac sy’n esbonio’r amgylchiadau. Cymhara’r hanes rwyt ti’n ei astudio â’r un hanes mewn Efengyl arall. Weithiau bydd ysgrifennwr un Efengyl yn cynnwys manylyn diddorol mae un arall wedi ei hepgor.

14-15. Sut gallwn ni fynd ati i roi hanesion o’r Efengylau ar waith yn ein bywydau?

14 Yn ail, rho’r Efengylau ar waith yn dy fywyd. (Ioan 13:17) Unwaith rwyt ti wedi astudio hanesyn o’r Efengylau yn ofalus, gofynna iti dy hun: ‘Oes ’na wers yn yr hanes hwn y galla i roi ar waith yn fy mywyd? Sut galla i ddefnyddio’r hanesyn hwn i helpu rhywun arall?’ Ceisia feddwl am rywun penodol, a phan fydd yr amser yn iawn, gelli di rannu’r wers rwyt ti wedi ei dysgu mewn ffordd gariadus a llawn tact.

15 Gad inni ystyried enghraifft o sut gallwn ni roi’r ddau awgrymiad hyn ar waith. Byddwn ni’n ystyried hanes y wraig weddw dlawd y gwnaeth Iesu ei gweld yn y deml.

Y WRAIG WEDDW DLAWD YN Y DEML

16. Disgrifia’r olygfa yn Marc 12:41.

16 Gwna i’r hanes fyw. (Darllen Marc 12:41.) Dychmyga’r olygfa. Mae hi’n Nisan 11, 33 OG—lai nag wythnos cyn i Iesu farw. Mae Iesu wedi treulio’r rhan fwyaf o’i ddiwrnod yn dysgu yn y deml. Mae’r arweinwyr crefyddol wedi bod yn ei wrthwynebu. Yn gynharach, roedd rhai ohonyn nhw wedi cwestiynu ei awdurdod. Ceisiodd eraill ei gornelu â chwestiynau heriol. (Marc 11:27-33; 12:13-34) Bellach mae Iesu wedi symud i ran arall o’r deml. Yma—mae’n debyg yn yr ardal o’r enw Cyntedd y Merched—mae’n bosib iddo weld y blychau casglu ar hyd y wal. Mae’n eistedd i lawr ac yn dechrau gwylio’r bobl yn dod i gyfrannu arian. Mae’n gweld llawer o bobl gyfoethog yn tywallt arian i mewn i’r blychau. Efallai ei fod yn ddigon agos i glywed tincian swnllyd y ceiniogau wrth iddyn nhw ddisgyn.

17. Beth wnaeth y wraig weddw dlawd yn Marc 12:42?

17 Darllen Marc 12:42. Ymhen amser, mae Iesu yn sylwi ar un ddynes, “gwraig weddw dlawd.” (Luc 21:2) Mae bywyd yn anodd iawn iddi; mae’n debyg does ganddi mo’r arian i brynu’r pethau sydd eu hangen arni i fyw. Ond eto, mae hi’n mynd at flwch yn ddistaw bach ac yn rhoi dau ddarn bach o arian ynddo sy’n gwneud fawr ddim o sŵn wrth ddisgyn. Gwyddai Iesu’n iawn beth mae hi wedi ei gyfrannu—dau lepton, sef y ceiniogau lleiaf oedd yn cael eu defnyddio ar y pryd. Dydy hynny ddim yn ddigon i brynu aderyn y to hyd yn oed, sef un o’r adar rhataf oedd yn cael eu gwerthu i’w bwyta.

18. Yn ôl Marc 12:43, 44, beth ddywedodd Iesu am gyfraniad y weddw?

18 Darllen Marc 12:43, 44. Creodd y weddw hon argraff fawr ar Iesu. Felly, mae’n galw ei ddisgyblion draw, ac yn tynnu eu sylw at y weddw, gan ddweud: “Mae’r wraig weddw dlawd yna wedi rhoi mwy nag unrhyw un arall.” Yna mae’n esbonio: “Newid mân oedd pawb arall [yn enwedig y cyfoethog] yn ei roi, gan fod ganddyn nhw hen ddigon dros ben. Ond rhoddodd hon y cwbl oedd ganddi i fyw arno.” Pan gyfrannodd y weddw ffyddlon y diwethaf o’i harian y diwrnod hwnnw, rhoddodd ei bywyd yn nwylo Jehofa gan wybod y byddai ef yn edrych ar ei hôl.—Salm 26:3.

Fel Iesu, rho ganmoliaeth i eraill sy’n rhoi eu gorau i Jehofa (Gweler paragraffau 19-20) *

19. Pa wers bwysig gallwn ni ei dysgu o eiriau Iesu am y wraig weddw dlawd?

19 Rho’r hanes ar waith yn dy fywyd. Gofynna i ti dy hun: ‘Pa wersi alla i ddysgu oddi wrth eiriau Iesu am y weddw dlawd?’ Meddylia am y weddw honno. Mae’n debyg iawn yr oedd hi eisiau rhoi mwy i Jehofa. Eto, fe wnaeth hi beth roedd hi’n gallu; rhoddodd ei gorau i Jehofa. A gwyddai Iesu fod ei chyfraniad yn werthfawr yng ngolwg ei Dad. Mae hyn yn wers bwysig i ni: Mae Jehofa yn hapus pan fyddwn ni’n rhoi ein gorau iddo, hynny ydy, ei wasanaethu â’n holl galon a’n holl enaid. (Math. 22:37; Col. 3:23) Mae Jehofa wrth ei fodd yn ein gweld ni’n gwneud popeth allwn ni! Mae’r egwyddor honno yn berthnasol i faint o amser ac egni gallwn ni eu neilltuo ar gyfer ein haddoliad, gan gynnwys y weinidogaeth a’r cyfarfodydd.

20. Sut gelli di roi’r wers o hanes y weddw ar waith? Rho enghraifft.

20 Sut gelli di roi’r wers o hanes y weddw ar waith? Ceisia feddwl am unigolion penodol a fyddai’n cael eu calonogi o gael eu hatgoffa bod yr hyn maen nhw’n gallu ei wneud yn plesio Jehofa. Er enghraifft, wyt ti’n adnabod chwaer hŷn sydd efallai’n teimlo’n euog neu’n ddiwerth am nad oes ganddi’r nerth na’r egni bellach i wneud cymaint ag yr oedd hi yn y weinidogaeth? Neu elli di feddwl am frawd â salwch parhaol, poenus, sy’n digalonni am nad ydy ef yn gallu mynd i bob cyfarfod yn y Neuadd? Helpa rai felly gyda geiriau adeiladol llawn cysur. (Eff. 4:29) Rhanna’r wers galonogol a ddysgon ni o hanes y weddw dlawd. Gall dy eiriau caredig eu hatgoffa nhw fod Jehofa’n falch o’n gweld ni yn rhoi ein gorau iddo. (Diar. 15:23; 1 Thes. 5:11) Pan fyddi di’n canmol eraill am roi eu gorau i Jehofa—ni waeth pa mor fach mae’n ymddangos—byddi di’n dilyn camau Iesu yn agos.

21. Beth rwyt ti’n benderfynol o’i wneud?

21 Rydyn ni’n hynod o ddiolchgar fod yr Efengylau yn rhoi cymaint o fanylion am fywyd Iesu am eu bod nhw’n ein galluogi i’w efelychu, ac i ddilyn ei gamau’n agos! Beth am wneud prosiect yn dy astudiaeth bersonol neu dy Addoliad Teuluol sy’n canolbwyntio ar yr Efengylau? Gad inni gofio fod rhaid inni ddod â’r hanesion yn fyw a’u rhoi nhw ar waith yn ein bywydau er mwyn elwa’n llawn o astudiaeth o’r fath. Yn ogystal ag efelychu yr hyn a wnaeth Iesu, mae’n rhaid inni wrando ar yr hyn a ddywedodd. Yn yr erthygl nesaf, byddwn ni’n ystyried beth gallwn ni ei ddysgu o eiriau olaf Iesu fel dyn.

CÂN 15 Molwch Gyntaf-anedig Jehofa!

^ Par. 5 Fel gwir Gristnogion, mae’n rhaid inni ddilyn camau Iesu yn agos. Pa gamau osododd Iesu i ni eu dilyn? Bydd yr erthygl hon yn ateb y cwestiwn hwnnw. Bydd hefyd yn trafod pam dylen ni ddilyn ei gamau yn agos, a sut gallwn ni wneud hynny.

^ Par. 60 DISGRIFIAD O’R LLUN: Ar ôl myfyrio ar beth ddywedodd Iesu am y weddw dlawd, mae chwaer yn canmol chwaer hŷn am ei gwasanaeth ffyddlon.