Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Cwestiynau Ein Darllenwyr

Cwestiynau Ein Darllenwyr

Beth mae’r Beibl yn ei ddweud am dyngu llw?

Addewid ffurfiol ydy llw, un sydd wedi ei dyngu o flaen Duw fel arfer, boed hynny ar lafar neu’n ysgrifenedig.

Mae rhai yn meddwl ddylen ni ddim tyngu llw, am fod Iesu wedi dweud: “Peidiwch tyngu llw o gwbl . . . dylai dweud ‘Ie’ olygu ‘Ie’, a dweud ‘Na’ olygu ‘Na’. Y diafol sy’n gwneud i chi fod eisiau dweud mwy na hynny.” (Math. 5:33-37) Ond roedd Iesu’n gwybod bod rhaid tyngu llw weithiau yn ôl Cyfraith Moses, a gwyddai hefyd fod rhai o weision ffyddlon Duw wedi gwneud hynny. (Gen. 14:22, 23; Ex. 22:10, 11) Roedd ef hefyd yn ymwybodol bod Jehofa ei hun wedi tyngu llwon. (Heb. 6:13-17) Felly, mae’n rhaid doedd Iesu ddim yn golygu na ddylen ni byth dyngu llw. Yn hytrach, roedd yn ein rhybuddio ni yn erbyn tyngu llw dros bethau bach dibwys. Mae cadw at ein gair yn ddyletswydd, a dylen ni ei chymryd o ddifri. Dyna mae Jehofa eisiau i ni ei wneud.

Felly beth dylet ti ei wneud os oes gofyn iti dyngu llw? Yn gyntaf, gwna’n sicr y byddi di’n gallu gwneud yr hyn byddi di’n addo ei wneud. Ac os nad wyt ti’n sicr, byddai’n well iti beidio â thyngu llw o gwbl. Wedi’r cwbl, mae Gair Duw yn dweud: “Mae’n well peidio gwneud adduned yn y lle cyntaf na gwneud un ac wedyn peidio’i chyflawni!” (Preg. 5:5) Nesaf, ystyria egwyddorion o’r Beibl sy’n berthnasol i’r llw, a gwna benderfyniad yn ôl dy gydwybod fel un o Dystion Jehofa. Pa egwyddorion elli di eu hystyried?

Mae rhai llwon yn unol ag ewyllys Duw. Er enghraifft, mae Tystion Jehofa yn gwneud adduned pan maen nhw’n priodi. Mae’r adduned honno yn fath o lw. Mae’r briodferch a’r priodfab yn addo o flaen Duw a llygad-dystion y byddan nhw’n caru ac yn parchu ei gilydd “cyhyd ag y [byddan nhw’n] fyw.” (Dydy pob cwpl ddim yn dweud yr union eiriau hynny wrth briodi, ond maen nhw’n dal yn tyngu llw o flaen Duw.) O hynny ymlaen, maen nhw’n ŵr a gwraig, a dylai’r briodas bara am weddill eu bywydau. (Gen. 2:24; 1 Cor. 7:39) Dyna enghraifft o lw sy’n addas yng ngolwg Duw, ac sy’n unol â’i ewyllys.

Mae rhai llwon yn mynd yn erbyn ewyllys Duw. Byddai tyngu llw i ymladd dros y wlad, neu i gyfaddawdu dy ffydd, er enghraifft, yn mynd yn gwbl groes i orchmynion Duw. Felly, fyddai gwir Gristion ddim eisiau tyngu’r fath lw oherwydd dydyn ni “ddim yn perthyn i’r byd.” Felly, dylen ni gadw draw rhag ei ddadleuon a’i ryfeloedd.—Ioan 15:19; Esei. 2:4; Iago 1:27.

Weithiau mae’n rhaid gwneud penderfyniad ar sail ein cydwybod. Gallwn ni bwyso a mesur p’un a ydyn ni am dyngu llw neu beidio drwy ystyried cyngor Iesu: “Rhowch beth sydd biau Cesar i Cesar, a’r hyn biau Duw i Dduw.”—Luc 20:25.

Dyweda, er enghraifft, fod Cristion yn gwneud cais am ddinasyddiaeth, neu basbort, ond mae angen tyngu llw teyrngarwch er mwyn ei chael. Os ydy llw teyrngarwch y wlad honno yn golygu ei fod yn addo ymddwyn mewn ffordd sy’n mynd yn erbyn ewyllys Duw, ni fyddai’n tyngu’r llw hwnnw ar sail ei gydwybod. Ond mae rhai gwledydd yn caniatáu i’r unigolyn addasu geirfa’r llw hwnnw er mwyn iddo gadw cydwybod lân.

Gall cymryd llw teyrngarwch sydd wedi ei addasu gyd-fynd â’r egwyddor yn Rhufeiniaid 13:1, sy’n dweud: “Dylai pawb fod yn atebol i awdurdod y llywodraeth.” Felly, gall rhywun ddod i’r casgliad fod hynny’n addas i Gristion, am ei fod yn addo gwneud rhywbeth mae Duw eisoes wedi gofyn iddo ei wneud.

Beth os ydy rhywun yn gofyn iti dyngu llw ar rywbeth, neu wneud arwyddion gyda dy ddwylo wrth dyngu llw? Mae’n dibynnu ar dy gydwybod. I’r Rhufeiniaid a’r Scythiad, roedd eu cleddyfau yn symbol o dduw rhyfel. Felly, pan oedd un ohonyn nhw yn tyngu llw ar ei gleddyf, roedd yn dangos i’r person arall ei fod yn hollol ddibynadwy, ac yn werth ei drystio. Roedd y Groegiaid yn gwneud rhywbeth tebyg drwy godi llaw tua’r nef wrth dyngu llw. Drwy wneud hynny, roedden nhw’n cydnabod bod ’na rym uwch yn gwylio beth roedden nhw’n ei ddweud ac yn ei wneud, a’u bod nhw’n hystyried eu hunain yn atebol i hynny.

Wrth gwrs, fyddai un o Dystion Jehofa ddim yn tyngu llw ar unrhyw beth sy’n gysylltiedig â gau grefydd, neu symbol cenedlaethol. Ond beth os oes gofyn iti roi dy law ar Feibl, er mwyn addo y byddi di’n dweud y gwir yn y llys? Gall hynny fod yn dderbyniol. Wedi’r cwbl, mae’r Beibl yn sôn am rai a wnaeth rywbeth penodol i ddangos eu bod nhw’n mynd ar eu llw. (Gen. 24:2, 3, 9, BCND; 47:29-31, BCND) Yn yr achos hwnnw, cofia dy fod ti’n tyngu llw o flaen Duw y byddi di’n dweud y gwir, felly bydd rhaid iti fod yn barod i fod yn gwbl onest wrth ateb unrhyw gwestiwn mae’r llys yn ei ofyn iti.

Mae ein perthynas â Jehofa yn werthfawr iawn inni. Felly, dylen ni weddïo, a phwyso a mesur a ydy’r llw yn mynd yn erbyn egwyddorion y Beibl, ac a fydd ein cydwybod yn lân ar ôl ei dyngu. Felly, os wyt ti’n penderfynu mynd ar dy lw, bydda’n sicr o’i gadw.—1 Pedr 2:12.