Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Cwestiynau Ein Darllenwyr

Cwestiynau Ein Darllenwyr

Os ydy Cristion yn ysgaru ei wraig heb sail Ysgrythurol, ac yna’n priodi rhywun arall, sut mae’r gynulleidfa yn ystyried y briodas cynt a’r briodas newydd?

Yn syml, byddai’r briodas cynt wedi dod i ben yng ngolwg y gynulleidfa pan wnaeth y dyn ailbriodi. Ar yr un pryd, byddai’r gynulleidfa yn ystyried y briodas newydd yn un ddilys. Mae’r hyn ddywedodd Iesu am ysgaru ac ailbriodi yn ein helpu ni i ddeall y rhesymau dros ddod i’r casgliad hwnnw.

Dywedodd Iesu yn Mathew 19:9: “Mae unrhyw un sy’n ysgaru ei wraig er mwyn priodi gwraig arall yn godinebu, oni bai fod ei wraig wedi bod yn anffyddlon iddo.” Rydyn ni’n dysgu dau beth o eiriau Iesu. Yn gyntaf, anfoesoldeb rhywiol ydy’r unig sail Ysgrythurol dros gael ysgariad. Ac yn ail, mae dyn sy’n ysgaru ei wraig heb y sail Ysgrythurol honno, ac yna’n priodi rhywun arall, yn godinebu. a

Ydy hynny’n golygu bod dyn sy’n cyflawni anfoesoldeb rhywiol, ac yn ysgaru ei wraig, yn rhydd i ailbriodi yn ôl yr Ysgrythurau? Nid o reidrwydd. Yn yr achos hwnnw, mae’r wraig ddi-euog yn cael penderfynu a fydd hi’n maddau iddo, neu ddim. Os nad ydy hi’n maddau iddo, ac maen nhw’n ysgaru yn ôl y gyfraith, yna mae’r ddau yn rhydd i ailbriodi unwaith i’r broses ysgaru ddod i ben.

Ond beth os ydy’r wraig ddi-euog eisiau maddau i’w gŵr, ond mae ei gŵr yn gwrthod ei chynnig o faddeuant, ac yn cael ysgariad cyfreithlon unochrog beth bynnag? Am ei bod hi’n fodlon parhau â’r briodas, fydd ganddo ddim hawl Ysgrythurol i ailbriodi. Os ydy ef yn parhau i ymddwyn mewn ffordd anysgrythurol, ac yn priodi rhywun arall pan nad ydy ef yn rhydd yn Ysgrythurol i wneud hynny, mae’n godinebu eto. Yn yr achos hwnnw, bydd rhaid i henuriaid ei gynulleidfa ffurfio pwyllgor barnwrol unwaith eto er mwyn delio â’r sefyllfa.—1 Cor. 5:1, 2; 6:9, 10.

Os ydy dyn yn ailbriodi heb hawl Ysgrythurol, sut mae’r gynulleidfa yn ystyried y briodas cynt a’r un newydd? Ydy’r briodas cynt yn dal yn ddilys yn ôl y Beibl? Ydy’r dewis o hyd gan y wraig ddi-euog i faddau i’w gŵr neu beidio? A fydd y briodas newydd yn cael ei hystyried yn un odinebus?

Yn y gorffennol, roedd y gynulleidfa yn ystyried y briodas newydd yn odinebus, oni bai bod y wraig ddi-euog yn marw, yn ailbriodi, neu ei bod hithau’n godinebu. Ond, doedd Iesu ddim yn sôn am y cymar di-euog wrth sôn am ysgaru ac ailbriodi. Yn hytrach, roedd yn esbonio fod dyn sy’n ysgaru ac yn ailbriodi, yn godinebu. Felly, mae ysgaru ac ailbriodi, yn dod â’r briodas cynt i ben.

“Mae unrhyw un sy’n ysgaru ei wraig er mwyn priodi gwraig arall yn godinebu, oni bai fod ei wraig wedi bod yn anffyddlon iddo.”—Math. 19:9

Os ydy’r gŵr yn gwneud penderfyniad unochrog i ysgaru ac ailbriodi, dydy hi ddim bellach yn bosib i’r wraig ddi-euog ddewis p’un a ydy hi am faddau iddo neu beidio. Mae hi’n rhydd o’r cyfrifoldeb o wneud y penderfyniad hwnnw, oherwydd doedd ganddi ddim dewis yn y mater. Hefyd, p’un a ydy’r wraig ddi-euog wedyn yn marw, yn ailbriodi, neu’n euog o anfoesoldeb rhywiol, does gan hynny ddim byd i wneud â sut mae’r gynulleidfa yn ystyried priodas newydd y gŵr. b

Hyd yn hyn, rydyn ni wedi trafod enghreifftiau lle mae cwpl wedi ysgaru am fod y gŵr wedi godinebu. Ond beth fyddai’n digwydd petai’r gŵr ddim wedi godinebu, ond yn ysgaru ac yn ailbriodi? Neu, beth os mai dim ond ar ôl ysgaru mae’r gŵr wedi bod yn anfoesol yn rhywiol, ac mae ef wedi ailbriodi er bod ei wraig yn fodlon maddau iddo? Yn yr enghreifftiau hyn i gyd mae’r ysgariad a’r ail briodas—sydd yr un fath â godinebu—yn dod â’r briodas cynt i ben, ac mae’r briodas newydd yn ddilys yn ôl cyfraith y wlad. Gwnaeth rhifyn Tachwedd 15, 1979, y Tŵr Gwylio Saesneg, ei grynhoi fel hyn ar dudalen 32: “Am ei fod bellach mewn priodas newydd, dydy ef ddim yn gallu dod â honno i ben er mwyn mynd yn ôl at ei gyn-wraig. Drwy gael ysgariad, godinebu, ac ailbriodi, daeth y briodas cynt i ben.”

Dydy’r ddealltwriaeth newydd hon ddim yn tanseilio sancteiddrwydd priodas o gwbl, nac yn tynnu i ffwrdd o ba mor ddifrifol ydy godinebu. Os ydy dyn yn ysgaru ei wraig heb sail Ysgrythurol, ac yna’n priodi rhywun arall heb fod yn rhydd i wneud hynny, mae’n godinebu. Felly, byddai’n rhaid ffurfio pwyllgor barnwrol ar sail godineb. (Os ydy ei wraig newydd yn Gristion, byddai’n rhaid ffurfio pwyllgor barnwrol ar sail godineb ar ei chyfer hithau hefyd.) Er na fydd y briodas newydd yn cael ei hystyried yn un odinebus, fyddai’r dyn ddim yn gymwys ar gyfer breintiau yn y gynulleidfa am lawer o flynyddoedd. A chyn rhoi breintiau iddo, bydd rhaid ystyried gwahanol bethau fel, a oes ganddo enw drwg o hyd am beth wnaeth ef? Ac oes ’na dal warth ynghlwm wrth ei ddrwgweithredu? Hefyd bydd rhaid ystyried amgylchiadau presennol ei gyn-wraig. A oedd hi wedi cael ei thrin mewn ffordd fradwrus? Os oes ’na blant, a wnaeth ef gefnu arnyn nhw pan oedden nhw’n ifanc?—Mal. 2:14-16.

O ystyried pa mor ddifrifol ydy’r canlyniadau sy’n dilyn ysgariad ac ail briodas anysgrythurol, byddai’n beth doeth i Gristnogion feddwl am briodas fel mae Jehofa—yn sanctaidd.—Preg. 5:4, 5; Heb. 13:4.

a I gadw pethau’n syml yn yr erthygl hon, byddwn ni’n dweud mai’r gŵr wnaeth odinebu, a’r wraig ydy’r un ddi-euog. Ond, dywedodd Iesu’n glir yn Marc 10:11, 12, fod ei gyngor yr un mor berthnasol i ferched ag y mae i ddynion.

b Mae hyn yn newid y ddealltwriaeth cynt, fod priodas o’r fath yn cael ei hystyried yn odinebus nes bydd y cymar di-euog un ai’n marw, yn ailbriodi, neu’n euog o anfoesoldeb rhywiol.