Awgrymiad Ar Gyfer Astudio
Wyt ti’n elwa o’r rhan “Adnodau Wedi eu Hesbonio” yn Llawlyfr Cyhoeddiadau Tystion Jehofa?
Gall yr esboniadau hyn dy helpu di i gloddio’n ddyfnach yng Ngair Duw. Gallen nhw gynnwys manylion am gyd-destun adnod, pam cafodd ei hysgrifennu, i bwy mae’n berthnasol, neu ystyr geiriau neu ymadroddion penodol.
Ar LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio ac yn JW Library®, gelli di gael hyd i gyfeiriadau o’r Llawlyfr Cyhoeddiadau yn uniongyrchol o adnod. Mae’r cyfeiriadau hyn yn ffenest astudio unrhyw fersiwn o’r Beibl sydd ar gael yno.
Wrth ddefnyddio’r cyfeiriadau hyn, tala sylw i’r drefn maen nhw’n ymddangos. Bydd yr erthyglau diweddaraf ar y top. Efallai bydd erthyglau hŷn sydd ymhellach i lawr y rhestr yn cynnwys hen ddealltwriaeth.
Bydd cyfeiriadau o’r Llawlyfr Cyhoeddiadau yn ymddangos yn awtomatig ar adnodau yn LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio.
I gael y cyfeiriadau hyn yn JW Library, lawrlwytha’r Llawlyfr Cyhoeddiadau ac unrhyw ddiweddariadau sydd ar gael. Gelli di wneud hyn drwy bwyso’r botwm ar dop y ffenest astudio yn unrhyw bennod o’r Beibl.