Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

ERTHYGL ASTUDIO 15

Beth Gallwn Ni ei Ddysgu o Wyrthiau Iesu?

Beth Gallwn Ni ei Ddysgu o Wyrthiau Iesu?

“Aeth ef drwy’r wlad yn gwneud daioni ac yn iacháu.”—ACT. 10:38.

CÂN 13 Crist, Ein Hesiampl

CIPOLWG a

1. Disgrifia wyrth gyntaf Iesu.

 DYCHMYGA’R sefyllfa yn hwyr yn y flwyddyn 29 OG ar ddechrau gweinidogaeth Iesu. Roedd Iesu a’i fam, Mair, ynghyd â rhai o’i ddisgyblion wedi cael eu gwahodd i wledd briodas yng Nghana, pentref i’r gogledd o gartref Iesu yn Nasareth. Roedd Mair yn ffrind i’r teulu ac mae’n ymddangos ei bod yn helpu i ofalu am y gwesteion. Ond roedd ’na broblem. Roedd y gwin yn rhedeg allan. Gallai hynny fod wedi codi cywilydd mawr ar y teulu a’r cwpl ifanc. b Efallai bod mwy wedi dod i’r wledd nag oedden nhw’n ei ddisgwyl. Aeth Mair at Iesu a dweud: “Does ganddyn nhw ddim gwin.” (Ioan 2:1-3) Yna gwnaeth Iesu rywbeth rhyfeddol, gan droi dŵr yn ‘win da.’—Ioan 2:9, 10.

2-3. (a) Pa fath o wyrthiau a wnaeth Iesu? (b) Sut gallwn ni elwa o drafod gwyrthiau Iesu?

2 Aeth Iesu ymlaen i wneud llawer mwy o wyrthiau yn ystod ei weinidogaeth. c Defnyddiodd ei allu gwyrthiol i helpu miloedd o bobl. Er enghraifft, meddylia am ddwy o’i wyrthiau, pan fwydodd 5,000 o ddynion ac yn nes ymlaen, 4,000 o ddynion. Os ydyn ni’n cyfri’r merched a’r plant a oedd yno hefyd, gallai hynny fod yn gyfanswm o fwy na 27,000 o bobl! (Math. 14:15-21; 15:32-38) Ar y ddau achlysur hynny, gwnaeth Iesu hefyd iacháu llawer o bobl sâl. (Math. 14:14; 15:30, 31) Meddylia sut roedd y dorf yn teimlo ar ôl cael eu hiacháu a’u bwydo’n wyrthiol gan Iesu!

3 Mae ’na lawer y gallwn ni ei ddysgu o wyrthiau Iesu. Bydd yr erthygl hon yn cryfhau ein ffydd drwy drafod rhai o’r gwersi hynny. Byddwn ni hefyd yn trafod sut gallwn ni efelychu’r gostyngeiddrwydd a thosturi a ddangosodd Iesu wrth iddo wneud gwyrthiau.

GWERSI AM JEHOFA AC IESU

4. Pwy rydyn ni’n dysgu amdano wrth ystyried gwyrthiau Iesu?

4 Mae gwyrthiau Iesu yn dysgu gwersi inni sy’n cryfhau ein ffydd. Ond maen nhw hefyd yn ein dysgu ni am Jehofa, oherwydd ef oedd yn rhoi’r grym i wneud y gwyrthiau’n bosib. Fel mae Actau 10:38 yn dweud: “Gwnaeth Duw ei eneinio â’r ysbryd glân ac â nerth, ac aeth ef drwy’r wlad yn gwneud daioni ac yn iacháu’r holl rai oedd yn cael eu herlid gan y Diafol, oherwydd roedd Duw gydag ef.” Hefyd, cofia fod Iesu yn efelychu teimladau a ffordd o feddwl ei Dad yn berffaith ym mhob peth roedd yn ei ddweud a’i wneud, gan gynnwys ei wyrthiau. (Ioan 14:9) Ystyria dair gwers gallwn ni ei dysgu o wyrthiau Iesu.

5. Beth oedd yn ysgogi Iesu i wneud gwyrthiau? (Mathew 20:30-34)

5 Yn gyntaf, mae Iesu a’i Dad yn ein caru ni’n fawr iawn. Yn ystod ei fywyd ar y ddaear, dangosodd Iesu gymaint roedd yn caru pobl drwy ddefnyddio ei nerth gwyrthiol i helpu’r rhai oedd yn dioddef. Meddylia am yr adeg pan wnaeth dau ddyn dall erfyn arno am help. (Darllen Mathew 20:30-34.) Sylwa fod Iesu “yn teimlo trueni” cyn iddo eu hiacháu. Mae’r gair Groeg sydd wedi ei gyfieithu’n “teimlo trueni” yn cyfeirio at gydymdeimlad dwys sy’n cael ei deimlo’n ddwfn y tu mewn i rywun. Roedd y fath gydymdeimlad yn dangos cariad Iesu a hefyd yn ei gymell i fwydo’r rhai llwglyd ac i iacháu dyn gwahanglwyfus. (Math. 15:32; Marc 1:41) Felly, gallwn ni fod yn sicr bod Jehofa, y Duw sy’n dangos “tosturi tyner,” a’i Fab yn ein caru ni’n fawr a bod gweld ein dioddefaint yn eu brifo nhw. (Luc 1:78; 1 Pedr 5:7) Meddylia gymaint maen nhw’n dyheu am gael gwared ar holl broblemau’r ddynolryw!

6. Pa rym mae Duw wedi ei roi i Iesu?

6 Yn ail, mae Duw wedi rhoi’r gallu i Iesu i ddatrys holl broblemau’r ddynolryw. Drwy gyfrwng ei wyrthiau, dangosodd Iesu fod ganddo’r grym i ddatrys problemau na allen ni byth eu datrys ar ein pennau’n hunain. Er enghraifft, mae ganddo’r grym i gael gwared ar yr hyn sydd wrth wraidd holl broblemau’r ddynolryw, sef y pechod rydyn ni wedi ei etifeddu a’r pethau mae’n eu hachosi, salwch a marwolaeth. (Math. 9:1-6; Rhuf. 5:12, 18, 19) Mae ei wyrthiau’n profi bod ganddo’r gallu i iacháu ‘pob math o salwch’ a hyd yn oed i atgyfodi’r meirw. (Math. 4:23; Ioan 11:43, 44) Hefyd mae ganddo’r nerth i reoli stormydd gwyllt ac i drechu ysbrydion drwg. (Marc 4:37-39; Luc 8:2) Onid yw’n galonogol i wybod bod Jehofa wedi rhoi’r fath rym i’w Fab?

7-8. (a) Pa sicrwydd mae gwyrthiau Iesu yn ei roi inni? (b) Pa wyrth rwyt ti’n edrych ymlaen ati yn y byd newydd?

7 Yn drydydd, gallwn ni fod yn hollol sicr y bydd holl addewidion Duw yn dod yn wir o dan ei Deyrnas. Mae’r gwyrthiau a wnaeth Iesu tra oedd ar y ddaear yn rhoi blas inni o’r pethau y bydd yn eu gwneud yn fyd-eang fel Brenin Teyrnas Dduw. Meddylia am rai o’r pethau hynny. Bydd gynnon ni iechyd perffaith oherwydd fe fydd yn cael gwared ar bob salwch ac anabledd sydd wedi plagio pobl. (Esei. 33:24; 35:5, 6; Dat. 21:3, 4) Fydd neb byth eto’n llwgu nac yn dioddef oherwydd trychinebau naturiol. (Esei. 25:6; Marc 4:41) A meddylia pa mor hapus byddwn ni wrth groesawu ein hanwyliaid yn ôl o’u beddau. (Ioan 5:28, 29) Pa wyrth rwyt ti’n edrych ymlaen ati fwyaf yn y byd newydd?

8 Wrth wneud gwyrthiau, roedd Iesu’n ostyngedig ac yn llawn tosturi—rhinweddau y byddai’n dda inni eu hefelychu. Dewch inni edrych ar ddwy esiampl, gan ddechrau gyda hanes y wledd briodas yng Nghana.

GWERS AM OSTYNGEIDDRWYDD

9. Beth wnaeth Iesu yn y wledd briodas? (Ioan 2:6-10)

9 Darllen Ioan 2:6-10. A oedd rhaid i Iesu wneud rhywbeth pan wnaeth y gwin redeg allan yn ystod y wledd briodas? Nac oedd. Doedd na’r un broffwydoliaeth yn rhagfynegi y byddai’r Meseia’n gwneud gwin da drwy wyrth. Ond dychmyga sut byddet ti’n teimlo petai’r diodydd yn rhedeg allan yn ystod dy wledd briodas dithau. Mae’n debyg bod Iesu wedi teimlo trueni dros y teulu, yn enwedig y cwpl oedd yn priodi, a doedd ef ddim eisiau iddyn nhw deimlo cywilydd. Felly, fel dywedon ni ar y dechrau, gwnaeth rywbeth gwyrthiol. Trodd tua 390 litr o ddŵr yn win da iawn. Efallai ei fod wedi rhoi gormod er mwyn i’r cwpl allu gwerthu’r gwin oedd ar ôl am arian, neu ei ddefnyddio’n ddiweddarach. Mae’n rhaid bod y cwpl priod yn ddiolchgar iawn iddo.

Efelycha Iesu drwy beidio â brolio am y pethau rwyt ti’n eu cyflawni (Gweler paragraffau 10-11) e

10. Pa fanylion pwysig sydd i’w gweld yn yr hanes yn Ioan pennod 2? (Gweler hefyd y llun.)

10 Meddylia am rai manylion pwysig yn yr hanes yn Ioan pennod 2. Wnest ti sylwi pwy wnaeth lenwi’r llestri carreg â dŵr? Yn hytrach na thynnu sylw ato ei hun drwy wneud hynny, gofynnodd Iesu i’r gweision eu llenwi. (Adnodau 6, 7) Ac ar ôl troi’r dŵr yn win, wnaeth Iesu ei hun ddim mynd â pheth o’r gwin at lywydd y wledd. Dywedodd wrth y gweision am wneud hynny. (Adnod 8) Ac yn sicr, wnaeth Iesu ddim cymryd cwpan o’r gwin, a’i ddal o flaen pawb, gan frolio, ‘Blaswch beth o’r gwin yma dw i newydd ei wneud!’

11. Beth gallwn ni ei ddysgu o wyrth Iesu?

11 Beth gallwn ni ei ddysgu o wyrth Iesu’n troi’r dŵr yn win? Mae’n esiampl wych inni o ran dangos gostyngeiddrwydd. Doedd Iesu ddim yn brolio am y wyrth; yn wir, doedd Iesu byth yn brolio am beth roedd yn ei gyflawni. Yn hytrach roedd yn ostyngedig, ac wastad yn rhoi’r clod i’w Dad. (Ioan 5:19, 30; 8:28) Os ydyn ni’n efelychu Iesu ac yn aros yn ostyngedig, fyddwn ni ddim yn brolio. Ni waeth beth rydyn ni’n ei gyflawni wrth wasanaethu Jehofa, dylen ni frolio am ein Duw rhyfeddol, nid amdanon ni ein hunain. (Jer. 9:23, 24) Dylen ni roi pob clod iddo ef. Wedi’r cwbl, a allwn ni wneud unrhyw beth da heb help Jehofa?—1 Cor. 1:26-31.

12. Ym mha ffordd arall gallwn ni efelychu gostyngeiddrwydd Iesu? Eglura.

12 Ystyria ffordd arall gallwn ni efelychu gostyngeiddrwydd Iesu. Dychmyga henuriad yn treulio llawer o amser yn helpu un o weision ifanc y gynulleidfa i baratoi ei anerchiad cyhoeddus cyntaf. Oherwydd hynny, mae’r gynulleidfa gyfan yn mwynhau’r anerchiad ac yn cael eu calonogi. Yna mae rhywun yn dweud wrth yr henuriad ar ôl y cyfarfod, bod y brawd ifanc wedi rhoi anerchiad gwych. Oes rhaid i’r henuriad ddweud: ‘Wel, do, ond gwnes i dreulio llawer o amser yn ei helpu’? Neu a ddylai ddweud yn ostyngedig, ‘Do wir, dw i mor prowd ohono’? Pan fyddwn ni’n ostyngedig, does dim rhaid inni gymryd y clod am bopeth da rydyn ni’n ei wneud i helpu eraill. Mae’n ddigon inni wybod bod Jehofa yn gweld ac yn gwerthfawrogi popeth rydyn ni’n ei wneud. (Cymhara Mathew 6:2-4; Heb. 13:16) Yn sicr, byddwn ni’n plesio Jehofa os ydyn ni’n efelychu Iesu drwy fod yn ostyngedig.—1 Pedr 5:6.

GWERS AM GYDYMDEIMLAD

13. Beth welodd Iesu y tu allan i ddinas Nain, a beth wnaeth ef am y peth? (Luc 7:11-15)

13 Darllen Luc 7:11-15. Meddylia am rywbeth ddigwyddodd tua hanner ffordd drwy weinidogaeth Iesu. Roedd Iesu wedi teithio i ddinas Nain yng Ngalilea, ddim yn bell o Shwnem, lle roedd y proffwyd Eliseus wedi atgyfodi bachgen tua 900 mlynedd ynghynt. (2 Bren. 4:32-37) Wrth i Iesu agosáu at borth y ddinas, fe welodd ddyn oedd wedi marw yn cael ei gario allan o’r ddinas. Roedd yr olygfa yn enwedig o drist gan fod y dyn yn unig blentyn, ac roedd ei fam eisoes yn wraig weddw. Roedd tyrfa fawr o’r ddinas yn cadw cwmni i’r fam yn ei galar. Yna fe wnaeth Iesu rywbeth rhyfeddol i helpu’r fam—fe atgyfododd ei mab! Hwn oedd y cyntaf o dri atgyfodiad gan Iesu sydd wedi eu cofnodi yn yr Efengylau.

Efelycha Iesu drwy ddangos tosturi at y rhai sy’n galaru (Gweler paragraffau 14-16)

14. Pa fanylion pwysig sydd i’w gweld yn yr hanes yn Luc pennod 7? (Gweler hefyd y llun.)

14 Ystyria rai manylion pwysig yn yr hanes yn Luc pennod 7. Wnest ti sylwi bod Iesu wedi gweld y fam yn galaru yn gyntaf, ac yna “roedd yn teimlo trueni tuag ati”? (Adnod 13) Felly, yn amlwg roedd yr hyn a welodd Iesu yn gwneud iddo gydymdeimlo â’r wraig. Efallai fe welodd hi’n wylo wrth iddi gerdded o flaen corff ei mab. Ond nid yn unig roedd Iesu yn teimlo trueni tuag at y fam; gwnaeth ef hefyd ddangos ei gydymdeimlad tuag ati. Ym mha ffordd? Dywedodd wrthi: “Stopia wylo.” Ac mae’n siŵr roedd ei lais yn llawn cariad wrth ddweud hynny. Yna gwnaeth ef rywbeth i’w helpu. Fe atgyfododd ei mab, a “rhoddodd Iesu ef i’w fam.”—Adnodau 14, 15.

15. Beth gallwn ni ei ddysgu o wyrth Iesu?

15 Beth gallwn ni ei ddysgu o’r wyrth hon? Er nad ydyn ni’n gallu atgyfodi’r meirw fel y gwnaeth Iesu, gallwn ni ddysgu sut i ddangos cydymdeimlad at rai sy’n galaru. Bydd bod yn effro i’w teimladau yn ein hysgogi ni i deimlo tosturi. Gallwn ni ddangos tosturi drwy ddweud a gwneud beth allwn ni i’w helpu ac i’w cysuro. d (Diar. 17:17; 2 Cor. 1:3, 4; 1 Pedr 3:8) Does dim angen dweud na gwneud llawer i gael effaith fawr.

16. Fel sy’n cael ei bortreadu yn y llun, beth rwyt ti’n ei ddysgu o brofiad mam oedd newydd golli plentyn mewn marwolaeth?

16 Ystyria brofiad mam oedd wedi colli ei merch ifanc mewn marwolaeth. Rai blynyddoedd yn ôl, wrth ganu yn un o’r cyfarfodydd, fe wnaeth chwaer sylwi bod y fam yn llefain. Roedd y gân yn sôn am obaith yr atgyfodiad. Roedd y chwaer yn gwybod am sefyllfa’r fam, felly aeth ati’n syth, rhoi ei braich o’i chwmpas, a chanu gweddill y gân gyda hi. Yn nes ymlaen, dywedodd y fam ei bod hi mor falch ei bod hi wedi mynd i’r cyfarfod: “O’n i’n teimlo cymaint o gariad tuag at y brodyr a’r chwiorydd. Dyna ble rydyn ni’n cael help gan Jehofa, yno yn Neuadd y Deyrnas.” Gallwn ni fod yn sicr bod Jehofa yn gweld ac yn gwerthfawrogi hyd yn oed y pethau syml rydyn ni’n eu gwneud i ddangos tosturi tuag at y rhai sy’n galaru ac “sydd wedi anobeithio.”—Salm 34:18.

PROSIECT ASTUDIO CALONOGOL

17. Beth rydyn ni wedi ei ddysgu yn yr erthygl hon?

17 Mae’r hanesion am wyrthiau Iesu yn yr Efengylau yn werth eu hystyried fel prosiect astudio. Maen nhw’n ein dysgu ni bod Jehofa ac Iesu’n ein caru ni’n fawr iawn, a bod gan Iesu’r grym i ddatrys holl broblemau’r ddynolryw. Mae’r hanesion hefyd yn rhoi hyder inni y bydd holl addewidion Duw yn dod yn wir yn fuan o dan ei Deyrnas. Wrth inni astudio’r gwyrthiau hyn, gallwn ni feddwl am ffyrdd i efelychu rhinweddau Iesu. Beth am drefnu i edrych ar fwy o wyrthiau Iesu fel prosiect astudio personol, neu fel rhan o dy addoliad teuluol? Meddylia am y sgyrsiau calonogol gelli di eu cael drwy rannu’r gwersi rwyt ti wedi eu dysgu ag eraill.—Rhuf. 1:11, 12.

18. Beth byddwn ni’n ei drafod yn yr erthygl nesaf?

18 Mae’r Beibl yn sôn am dri o bobl gwnaeth Iesu eu hatgyfodi. Digwyddodd y trydydd atgyfodiad tua diwedd ei weinidogaeth. Y tro hwn, atgyfododd Iesu ffrind annwyl iddo, a hynny o dan amgylchiadau anghyffredin. Pa wersi gallwn ni eu dysgu o’r wyrth honno? A sut gallwn ni gryfhau ein ffydd yn yr atgyfodiad? Bydd yr erthygl nesaf yn ateb y cwestiynau hynny.

CÂN 20 Rhoist Dy Ffyddlon Fab

a Mae darllen am wyrthiau Iesu yn hynod o gyffrous. Er enghraifft, fe wnaeth dawelu storm ddychrynllyd, iacháu’r rhai sâl, ac atgyfodi’r meirw. Ond dydy’r hanesion hynny ddim yn y Beibl er mwyn ein diddanu ni. Maen nhw yno i’n dysgu. Felly dewch inni drafod rhai ohonyn nhw er mwyn dysgu gwersi am Jehofa ac am Iesu a fydd yn cryfhau ein ffydd. Bydd trafod hyn hefyd yn ein helpu ni i weld rhinweddau duwiol y dylen ni eu meithrin.

b Mae un ysgolhaig yn esbonio: “Yn y Dwyrain, roedd pobl yn ystyried lletygarwch yn ddyletswydd sanctaidd, a byddai rhywun lletygar yn sicrhau bod gan ei westeion lawer mwy nag oedden nhw ei angen, yn enwedig mewn gwledd briodas.”

c Mae mwy na 30 o wyrthiau penodol Iesu wedi eu cofnodi yn yr Efengylau. Ac fe wnaeth Iesu lawer mwy o wyrthiau, er nad ydy’r Beibl yn sôn am bob un ar wahân. Er enghraifft, ar un achlysur daeth “pobl yr holl ddinas” at Iesu ac “fe wnaeth iacháu llawer o bobl a oedd yn sâl.”—Marc 1:32-34.

d Am awgrymiadau am beth gelli di ei ddweud neu ei wneud i gysuro’r rhai sy’n galaru, gweler yr erthygl Comfort the Bereaved, as Jesus Did yn rhifyn Tachwedd 1, 2010, y Tŵr Gwylio Saesneg.

e DISGRIFIAD O’R LLUN: Wrth i Iesu sefyll yn y cefndir, mae’r priodfab a’r briodferch a’u gwesteion yn mwynhau’r gwin da.