ERTHYGL ASTUDIO 16
“Bydd Dy Frawd yn Codi”!
‘Dywedodd Iesu wrth [Martha]: “Bydd dy frawd yn codi.”’—IOAN 11:23.
CÂN 151 Geilw Ef
CIPOLWG a
1. Sut gwnaeth un bachgen fynegi ei ffydd yn yr atgyfodiad?
MAE gan fachgen o’r enw Matthew salwch difrifol, ac roedd rhaid iddo gael sawl llawdriniaeth. Pan oedd Matthew yn 7 oed, roedd yn gwylio rhaglen ar JW Broadcasting® gyda’i deulu. Roedd y rhaglen yn cloi gyda fideo cerddoriaeth am yr atgyfodiad. b Ar ôl y rhaglen aeth Matthew at ei rieni, dal eu dwylo, a dweud: “Felly Mam a Dad, hyd yn oed os ydw i’n marw, bydda i’n deffro eto yn yr atgyfodiad. Gallwch chi ddisgwyl amdana i, bydd popeth yn iawn.” Elli di ddychmygu sut roedd ei rieni yn teimlo o weld pa mor gryf oedd ffydd eu mab yn yr atgyfodiad?
2-3. Pam mae’n beth da inni fyfyrio ar obaith yr atgyfodiad?
2 Pam mae’n syniad da inni i gyd fyfyrio ar obaith yr atgyfodiad o bryd i’w gilydd? (Ioan 5:28, 29) Oherwydd gall unrhyw un ohonon ni gael salwch difrifol neu golli anwylyn yn sydyn ac yn annisgwyl. (Preg. 9:11; Iago 4:13, 14) Bydd gobaith cryf yn yr atgyfodiad yn ein helpu i wynebu heriau fel hyn. (1 Thes. 4:13) Mae’r Beibl yn ei gwneud hi’n amlwg bod gan Jehofa gariad dwfn tuag aton ni a’i fod yn ein hadnabod ni i’r dim. (Luc 12:7) Meddylia pa mor dda mae’n rhaid iddo ein hadnabod ni er mwyn gallu ein hatgyfodi gyda’r un atgofion a phersonoliaeth. Mae’n amlwg bod Jehofa’n ein caru ni o’r ffaith ei fod wedi rhoi’r cyfle inni gael bywyd tragwyddol a hyd yn oed ein hatgyfodi os bydd angen.
3 Yn yr erthygl hon, byddwn ni’n trafod pam gallwn ni gael ffydd yn yr atgyfodiad. Yna byddwn ni’n trafod yr hanes calonogol yn y Beibl sy’n cynnwys y geiriau sy’n thema i’r erthygl hon: “Bydd dy frawd yn codi.” (Ioan 11:23) Ac yn olaf, byddwn ni’n dysgu sut i wneud gobaith yr atgyfodiad yn fwy real inni.
PAM GALLWN NI GREDU ADDEWID DUW I ATGYFODI’R MEIRW?
4. Beth sy’n rhaid inni fod yn sicr ohono er mwyn credu addewid? Eglura.
4 Mae angen dau beth er mwyn inni allu credu addewid rhywun. Yn gyntaf, mae’n rhaid inni fod yn hollol sicr bod ganddo’r awydd i gyflawni ei addewid. Yn ail, mae’n rhaid inni wybod bod ganddo’r gallu i wneud hynny. Dychmyga fod storm fawr wedi achosi difrod i dy dŷ. Mae ffrind yn addo iti, ‘Dw i’n mynd i dy helpu di i ailadeiladu dy dŷ.’ Rwyt ti’n gwybod bod ei gynnig yn ddiffuant a’i fod wir eisiau dy helpu di. Ac os ydy dy ffrind yn adeiladwr galluog ac mae ganddo’r tŵls, rwyt ti’n gwybod ei fod yn gallu cadw ei addewid ac felly rwyt ti’n ei gredu. Felly, beth am addewid Duw i atgyfodi’r meirw? Oes ganddo’r gallu a’r awydd i’w gyflawni?
5-6. Pam gallwn ni fod yn sicr bod gan Jehofa’r awydd i atgyfodi’r meirw?
5 Yn bendant, mae gan Jehofa’r awydd i atgyfodi’r meirw. Mae hynny’n gwbl glir o’r ffaith ei fod wedi ysbrydoli nifer o ysgrifenwyr y Beibl i gofnodi ei addewid am atgyfodiad. (Esei. 26:19; Hos. 13:14; Dat. 20:11-13) Ac mae Jehofa’n cyflawni pob un o’i addewidion. (Jos. 23:14) Gad inni weld yn union pa mor awyddus ydy Jehofa i atgyfodi’r meirw.
6 Ystyria eiriau Job. Roedd yn hollol siŵr, petasai’n marw, y byddai Jehofa’n dyheu am ei godi’n fyw eto. (Job 14:14, 15) Mae Jehofa’n teimlo’r un fath am ei holl weision sydd wedi marw, ac mae’n awyddus i ddod â nhw’n ôl yn fyw yn hapus ac yn iach. Beth am y biliynau o bobl sydd wedi marw heb gael cyfle i ddysgu’r gwir am Jehofa? Mae ein Duw cariadus eisiau eu hatgyfodi nhwthau hefyd. (Act. 24:15) Mae eisiau iddyn nhw gael y cyfle i fod yn ffrindiau iddo ac i fyw am byth ar y ddaear. (Ioan 3:16) Does dim dwywaith amdani, mae gan Jehofa’r awydd i atgyfodi’r meirw.
7-8. Pam gallwn ni fod yn sicr bod gan Jehofa’r gallu i atgyfodi’r meirw?
7 Oes gan Jehofa hefyd y gallu i atgyfodi’r meirw? Wrth gwrs! Ef ydy “yr Hollalluog,” felly mae’n ddigon cryf i drechu unrhyw elyn, hyd yn oed marwolaeth. (Dat. 1:8; 1 Cor. 15:26) Mae’r ffaith honno yn rhoi nerth a chysur inni. Roedd hynny’n wir yn achos y Chwaer Emma Arnold. Cafodd ei ffydd hi a ffydd ei theulu ei phrofi yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Roedd rhai o’i hanwyliaid wedi marw yng ngwersylloedd crynhoi’r Natsïaid. Er mwyn cysuro ei merch, dywedodd Emma: “Petasai’r meirw ddim yn gallu byw eto, byddai hynny’n golygu bod ein gelyn, marwolaeth, yn gryfach na Duw. All hynny ddim bod yn wir.” Yn sicr, does dim byd yn gryfach na Jehofa, y Duw hollalluog! Ef yw’r un wnaeth greu bywyd yn y lle cyntaf, felly mae’n gallu atgyfodi y rhai sydd wedi marw.
8 Mae gan Jehofa gof perffaith. Dyna reswm arall pam mae gynnon ni hyder yn ei allu i atgyfodi’r meirw. Mae ganddo enw ar gyfer pob seren. (Esei. 40:26) Hefyd mae’n cofio’r rhai sydd eisoes wedi marw. (Job 14:13; Luc 20:37, 38) Mae’n hawdd iddo gofio pob manylyn am y rhai mae ef am eu hatgyfodi, gan gynnwys y ffordd maen nhw’n edrych, eu personoliaeth, eu profiadau bywyd, a’u hatgofion.
9. Pam rwyt ti’n credu addewid Jehofa i atgyfodi’r meirw yn y dyfodol?
9 Yn amlwg felly, gallwn ni gredu addewid Jehofa i atgyfodi’r meirw gan fod ganddo’r awydd a’r gallu i wneud hynny. Ond mae gynnon ni reswm arall hefyd: Mae Jehofa wedi gwneud hynny yn y gorffennol. Yn adeg y Beibl, rhoddodd y gallu i ychydig o ddynion ffyddlon, gan gynnwys Iesu, i atgyfodi’r meirw. Nesaf, byddwn ni’n edrych ar un atgyfodiad a wnaeth Iesu, sydd wedi ei gofnodi yn Ioan pennod 11.
IESU’N COLLI FFRIND ANNWYL
10. Beth ddigwyddodd tra oedd Iesu’n pregethu dros yr Iorddonen o Fethania, a beth oedd ei ymateb? (Ioan 11:1-3)
10 Darllen Ioan 11:1-3. Dychmyga’r sefyllfa tua diwedd y flwyddyn 32 OG ym Methania, lle roedd Lasarus a’i ddwy chwaer, Mair a Martha yn byw. Roedden nhw’n ffrindiau agos i Iesu. (Luc 10:38-42) Ond aeth Lasarus yn sâl. Dechreuodd ei chwiorydd boeni ac anfon neges at Iesu oedd ar ochr arall yr Iorddonen, taith tua deuddydd o Fethania. (Ioan 10:40) Ond tua’r un adeg gwnaeth y negesydd gyrraedd Iesu, bu farw Lasarus. Er bod Iesu’n gwybod yn iawn fod ei ffrind newydd farw, dewisodd aros am ddeuddydd arall cyn cychwyn am Fethania. Felly roedd Lasarus wedi marw ers pedwar diwrnod erbyn i Iesu gyrraedd. Bwriad Iesu oedd gwneud rhywbeth a fyddai’n helpu ei ffrindiau, ac yn dod â chlod i Dduw.—Ioan 11:4, 6, 11, 17.
11. Beth rydyn ni’n ei ddysgu am ffrindiau da o’r hanes hwn?
11 Yn yr hanes hwn, rydyn ni’n dysgu gwers am ffrindiau da. Wnaeth Mair a Martha ddim gofyn i Iesu ddod i Fethania, dim ond dweud bod ei ffrind annwyl yn sâl. (Ioan 11:3) Pan fu farw Lasarus, byddai Iesu wedi gallu ei atgyfodi o bell. Ond dewisodd Iesu fynd i Fethania i fod gyda’i ffrindiau Mair a Martha. Oes gen ti ffrind sydd wastad yn dy helpu heb iti orfod gofyn? Yna rwyt ti’n gwybod gelli di ddibynnu arno “mewn helbul.” (Diar. 17:17) Drwy efelychu Iesu, gallwn ni fod yn ffrind da i eraill. Nawr gad inni weld beth sy’n digwydd nesaf yn yr hanes.
12. Beth gwnaeth Iesu ei addo i Martha, a pham roedd hi’n gallu ei gredu? (Ioan 11:23-26)
12 Darllen Ioan 11:23-26. Pan glywodd Martha fod Iesu’n agos i Fethania, aeth hi allan ar unwaith i’w gyfarfod. Dywedodd wrtho: “Arglwydd, petaset ti wedi bod yma, fyddai fy mrawd ddim wedi marw.” (Ioan 11:21) Er byddai Iesu wedi gallu iacháu Lasarus, roedd ganddo rywbeth hyd yn oed mwy rhyfeddol dan sylw. Gwnaeth ef addo i Martha: “Bydd dy frawd yn codi,” a rhoi rheswm arall i Martha gredu ei addewid drwy ddweud: “Fi yw’r atgyfodiad a’r bywyd.” Roedd Iesu wedi dangos yn barod fod Duw wedi rhoi’r grym iddo allu atgyfodi’r meirw. Roedd ef eisoes wedi atgyfodi merch ifanc yn fuan ar ôl iddi farw, yn ogystal â dyn ifanc, ar y diwrnod fuodd farw mae’n debyg. (Luc 7:11-15; 8:49-55) Ond a oedd ganddo’r gallu i atgyfodi rhywun oedd wedi marw ers pedwar diwrnod, a’i gorff wedi dechrau pydru?
“LASARUS, TYRD ALLAN!”
13. Fel sydd wedi ei gofnodi yn Ioan 11:32-35, sut gwnaeth Iesu ymateb wrth weld Mair ac eraill yn wylo? (Gweler hefyd y llun.)
13 Darllen Ioan 11:32-35. Dychmyga’r olygfa wrth i Mair, chwaer arall i Lasarus, fynd allan i gyfarfod Iesu. Fe wnaeth hi ailadrodd beth ddywedodd ei chwaer: “Arglwydd, petaset ti wedi bod yma, fyddai fy mrawd ddim wedi marw.” Roedd hi ac eraill gyda hi wedi torri eu calonnau, ac roedd eu gweld nhw’n wylo yn gwneud Iesu’n hynod o drist. Am ei fod yn teimlo i’r byw dros ei ffrindiau, dyma yntau’n dechrau wylo hefyd. Roedd Iesu’n gwybod yn iawn pa mor boenus ydy colli anwylyn. Felly mae’n rhaid ei fod yn awyddus i gael gwared ar y boen oedd yn achosi eu dagrau.
14. Beth gallwn ni ei ddysgu am Jehofa o’r ffordd gwnaeth Iesu ymateb i ddagrau Mair?
14 Mae ymateb Iesu i weld Mair yn wylo yn ein dysgu ni bod Jehofa’n Dduw sy’n dangos tosturi tyner. Sut rydyn ni’n gwybod hynny? Gwnaeth Iesu lefain oherwydd roedd yn teimlo tosturi mawr dros ei ffrindiau oedd yn galaru. Ac fel gwelon ni yn yr erthygl flaenorol, mae Iesu’n adlewyrchu teimladau a meddyliau ei Dad yn berffaith. (Ioan 12:45) Felly rydyn ni’n gwybod bod Jehofa hefyd yn teimlo tosturi droston ni pan fydd yn ein gweld ni mewn dagrau. (Salm 56:8) Onid ydy hynny’n dy ysgogi di i agosáu at ein Duw tyner?
15. Fel sydd wedi ei gofnodi yn Ioan 11:41-44, beth ddigwyddodd wrth feddrod Lasarus? (Gweler hefyd y llun.)
15 Darllen Ioan 11:41-44. Ar ôl i Iesu gyrraedd beddrod Lasarus, gofynnodd am i’r garreg gael ei symud. Ond roedd Martha’n pryderu, gan ddisgwyl y byddai’r corff yn drewi erbyn hynny. Atebodd Iesu: “Oni wnes i ddweud wrthot ti y byddet ti’n gweld gogoniant Duw os byddet ti’n credu?” (Ioan 11:39, 40) Edrychodd Iesu tua’r nef a gweddïo’n gyhoeddus oherwydd roedd eisiau rhoi’r clod i Jehofa am beth fyddai’n digwydd nesaf. Yna, gwaeddodd: “Lasarus, tyrd allan!” A dyma Lasarus yn cerdded allan o’r beddrod! Roedd Iesu newydd wneud rhywbeth roedd rhai’n meddwl oedd yn amhosib.—Gweler y nodyn astudio ar Ioan 11:17.
16. Sut mae’r hanes yn Ioan pennod 11 yn cryfhau ein ffydd yn yr atgyfodiad?
16 Cofia addewid Iesu i Martha: “Bydd dy frawd yn codi.” (Ioan 11:23) Mae’r hanes yn Ioan 11 yn cryfhau ein ffydd am ei fod yn dangos bod gan Iesu, fel ei Dad, yr awydd a’r gallu i gyflawni’r addewid hwnnw. Sut mae’n dangos hynny? Roedd ei ddagrau’n profi bod ganddo awydd cryf i gael gwared ar farwolaeth ac ar y boen mae’n ei hachosi. Ac mae’r ffaith bod Lasarus wedi cerdded allan o’r beddrod yn profi bod gan Iesu’r gallu i atgyfodi’r meirw. Gwnaeth Iesu hefyd atgoffa Martha: “Oni wnes i ddweud wrthot ti y byddet ti’n gweld gogoniant Duw os byddet ti’n credu?” (Ioan 11:40) Mae gynnon ni resymau da dros gredu y bydd addewid Duw am atgyfodiad yn dod yn wir. Ond sut gallwn ni wneud y gobaith hwn yn fwy real byth inni?
SUT GALLWN NI WNEUD GOBAITH YR ATGYFODIAD YN FWY REAL INNI?
17. Beth dylen ni ei gofio wrth ddarllen hanesion am atgyfodiadau yn y Beibl?
17 Darllena am atgyfodiadau’r gorffennol a myfyrio arnyn nhw. Mae’r Beibl yn sôn am wyth person a gafodd ei atgyfodi i’r ddaear. c Beth am astudio’r hanesion hyn yn ofalus? Wrth iti wneud hynny, cofia mai pobl go iawn oedden nhw—dynion, merched, a phlant. Edrycha am y gwersi y gelli di eu dysgu. Meddylia am sut mae pob un yn dangos bod gan Dduw yr awydd a’r gallu i atgyfodi’r meirw. Yn fwy na hynny, myfyria ar atgyfodiad Iesu, yr un pwysicaf oll. Roedd cannoedd o lygad-dystion i’w atgyfodiad ef. Onid ydy hynny’n sail gadarn i’n ffydd?—1 Cor. 15:3-6, 20-22.
18. Sut gelli di wneud defnydd da o’n caneuon am yr atgyfodiad? (Gweler hefyd y troednodyn.)
18 Gwna ddefnydd da o ‘ganeuon ysbrydol’ sy’n sôn am yr atgyfodiad. d (Eff. 5:19) Sut gelli di wneud hynny? Gwranda ar y caneuon hyn a’u hymarfer. Trafoda ystyr y geiriau yn ystod addoliad teuluol. Ceisia ddysgu’r geiriau ar dy gof a gadael iddyn nhw gyffwrdd â dy galon. Bydd hyn i gyd yn gwneud gobaith yr atgyfodiad yn fwy real iti ac yn cryfhau dy ffydd ynddo. Yna os wyt ti’n wynebu treial sydd yn peryglu dy fywyd, neu’n colli anwylyn mewn marwolaeth, bydd ysbryd glân Jehofa yn dy helpu di i gofio’r caneuon hyn fel eu bod nhw’n gallu rhoi cysur a nerth iti.
19. Pa fanylion gallwn ni eu dychmygu am yr atgyfodiad? (Gweler y blwch “ Beth Byddet Ti’n ei Ofyn Iddyn Nhw?”)
19 Defnyddia dy ddychymyg. Mae Jehofa wedi rhoi’r gallu inni ddychmygu ein hunain yn y byd newydd. Dywedodd un chwaer: “Dw i wedi treulio cymaint o amser yn dychmygu fy hun yn y byd newydd, mae fel petaswn i’n gallu arogli’r rhosod yn blodeuo yn y Baradwys.” Elli di weld dy hun yn cwrdd â dynion a merched ffyddlon o adeg y Beibl? Pwy wyt ti’n edrych ymlaen at ei weld? Pa gwestiynau byddi di’n eu gofyn? Dychmyga’r foment byddi di’n gweld dy anwyliaid eto—y geiriau cyntaf, yr hygs mawr, a pha mor hapus byddi di.
20. Beth dylen ni fod yn benderfynol o’i wneud?
20 Rydyn ni mor ddiolchgar i Jehofa am addo atgyfodiad! Ac am fod ganddo’r awydd a’r gallu i wneud hyn, gallwn ni fod yn sicr y caiff ei gyflawni. Felly bydda’n benderfynol o ddal ati i gryfhau dy ffydd yn y gobaith arbennig hwn. Drwy wneud hynny, byddi di’n dod yn agosach at y Duw sy’n addo i bob un ohonon ni: ‘Bydd dy anwyliaid yn codi!’
CÂN 147 Yr Addewid o Fywyd Tragwyddol
a Os ydy rhywun rwyt ti’n ei garu wedi marw, yna heb os, mae gobaith yr atgyfodiad yn gysur mawr iti. Ond sut byddet ti’n esbonio dy ffydd yn yr atgyfodiad i eraill? A sut gelli di gryfhau dy ffydd yng ngobaith yr atgyfodiad? Pwrpas yr erthygl hon yw helpu pob un ohonon ni i wneud hynny.
b Roedd y fideo cerddoriaeth yn rhaglen Tachwedd 2016 a’i deitl yw Ar y Gorwel.
c Mae’r hanesion hyn i’w gweld yn 1 Brenhinoedd 17:17-24; 2 Brenhinoedd 4:32-37; 13:20,21; Luc 7:11-15; 8:41-56; Ioan 11:38-44; Actau 9:36-42; a 20:7-12.
d Chwilia am y caneuon canlynol yn Canwn yn Llawen i Jehofa: “Dy Weld Dy Hun yn y Byd Newydd” (Cân 139), “Canolbwyntiwch ar y Wobr!” (Cân 144), a “Geilw Ef” (Cân 151). Gweler hefyd y caneuon gwreiddiol “Ar y Gorwel,” “The New World to Come,” ac “You Will See” ar jw.org.