ERTHYGL ASTUDIO 17
Bydd Jehofa yn Dy Helpu Di i Ddelio â Phroblemau Annisgwyl
“Mae’r rhai sy’n byw yn iawn yn wynebu pob math o helyntion, ond bydd yr ARGLWYDD yn eu hachub nhw drwy’r cwbl.”—SALM 34:19.
CÂN 44 Gweddi’r Un Mewn Angen
CIPOLWG a
1. Beth rydyn ni’n hollol sicr ohono?
FEL pobl Jehofa, rydyn ni’n gwybod ei fod yn ein caru ni, a’i fod eisiau inni fwynhau’r bywyd gorau posib. (Rhuf. 8:35-39) Rydyn ni hefyd yn hollol sicr bod egwyddorion y Beibl bob tro er ein lles ni pan fyddwn ni’n eu rhoi ar waith. (Esei. 48:17, 18) Ond os ydyn ni’n wynebu problemau annisgwyl, sut dylen ni ymateb?
2. Pa broblemau all godi, a sut gallan nhw wneud inni deimlo?
2 Mae pob un o weision Jehofa yn wynebu problemau. Er enghraifft, efallai bydd aelod o’n teulu yn ein siomi mewn rhyw ffordd. Efallai bod gynnon ni broblem iechyd ddifrifol sy’n effeithio ar faint gallwn ni ei wneud yng ngwasanaeth Jehofa. Gallen ni wynebu trychineb naturiol, neu gael ein herlid oherwydd ein ffydd. Wrth wynebu treialon o’r fath, efallai byddwn ni’n gofyn: ‘Pam mae hyn yn digwydd i mi? Ydw i wedi gwneud rhywbeth yn anghywir? Ydy hyn yn golygu nad ydy Jehofa yn fy mendithio?’ Os wyt ti erioed wedi teimlo fel hyn, paid â digalonni. Mae llawer o weision ffyddlon Jehofa wedi teimlo’r un fath.—Salm 22:1, 2; Hab. 1:2, 3.
3. Beth gallwn ni ei ddysgu o Salm 34:19?
3 Darllen Salm 34:19. Mae ’na ddwy wers bwysig yn y salm hon: (1) Mae pobl gyfiawn yn wynebu problemau. (2) Mae Jehofa yn ein hachub ni o’n treialon. Sut mae Jehofa yn ein hachub? Un ffordd yw drwy ein helpu ni i gael agwedd realistig tuag at fywyd yn y system hon. Er bod Jehofa yn addo y cawn ni lawenydd yn ei wasanaeth, nid yw’n addo y bydd ein bywydau heb broblemau nawr. (Esei. 66:14) Mae’n ein hannog ni i ffocysu ar y dyfodol—yr amser pan fyddwn ni’n mwynhau’r bywyd tragwyddol mae Duw eisiau inni ei gael. (2 Cor. 4:16-18) Yn y cyfamser mae’n ein helpu ni i ddal ati bob dydd.—Galar. 3:22-24.
4. Beth byddwn ni’n ei drafod yn yr erthygl hon?
4 Rydyn ni am drafod beth gallwn ni ei ddysgu o esiamplau gweision ffyddlon Jehofa, yn adeg y Beibl ac yn ein hamser ni. Fel byddwn ni’n gweld, mae’n bosib gwnawn ni wynebu problemau annisgwyl. Ond os ydyn ni’n dibynnu ar Jehofa, bydd ef wastad yn ein cynnal ni. (Salm 55:22) Wrth inni edrych ar yr esiamplau hyn, gofynna i ti dy hun: ‘Sut byddwn i wedi ymateb mewn sefyllfa debyg? Sut mae’r esiamplau hyn yn fy helpu i drystio Jehofa yn fwy? Pa wersi galla i eu rhoi ar waith yn fy mywyd innau?’
YN ADEG Y BEIBL
5. Pa heriau gwnaeth Laban eu hachosi i Jacob? (Gweler y llun ar y clawr.)
5 Roedd gweision Jehofa yn adeg y Beibl yn wynebu heriau doedden nhw ddim yn eu disgwyl. Un o’r bobl hynny oedd Jacob. Gorchmynnodd ei dad iddo briodi un o ferched Laban, un o’i berthnasau oedd yn addoli Jehofa. Addawodd y byddai Jehofa yn bendithio Jacob am wneud y peth iawn. (Gen. 28:1-4) Felly dyna a wnaeth Jacob. Gadawodd wlad Canaan a mynd i gartref Laban. Roedd gan Laban ddwy ferch—Lea a Rachel. Syrthiodd Jacob mewn cariad â Rachel, merch ieuengaf Laban, a chytunodd i weithio i’w thad am saith mlynedd cyn ei phriodi. (Gen. 29:18) Ond nid dyna a ddigwyddodd. Fe wnaeth Laban ei dwyllo fel ei fod yn priodi ei ferch hynaf, Lea. Gadawodd Laban i Jacob briodi Rachel yr wythnos wedyn, dim ond os oedd yn fodlon gweithio iddo am saith mlynedd arall. (Gen. 29:25-27) Roedd Laban hefyd yn annheg â Jacob mewn materion busnes. Rhwng popeth, cafodd Jacob ei drin yn annheg gan Laban am ugain mlynedd!—Gen. 31:41, 42.
6. Pa broblemau eraill wynebodd Jacob?
6 Dim dyna oedd diwedd problemau Jacob. Roedd ganddo deulu mawr, ond doedd ei feibion ddim wastad yn cyd-dynnu’n dda â’i gilydd. Fe wnaethon nhw hyd yn oed werthu eu brawd Joseff yn gaethwas. Gwnaeth dau o feibion Jacob, Simeon a Lefi, ddod â chywilydd ar y teulu ac ar enw Jehofa. Ar ben hynny, bu farw Rachel, gwraig annwyl Jacob, wrth roi genedigaeth i’w hail blentyn. A phan oedd Jacob mewn oed, roedd yn gorfod symud i wlad yr Aifft oherwydd newyn difrifol.—Gen. 34:30; 35:16-19; 37:28; 45:9-11, 28.
7. Sut dangosodd Jehofa ei fod yn bendithio Jacob?
7 Er gwaethaf y treialon hyn i gyd, ni wnaeth Jacob erioed golli ei ffydd yn Jehofa a’i addewidion. O ganlyniad, gwnaeth Jehofa fendithio Jacob. Er enghraifft, er bod Laban wedi trin Jacob mor annheg, gwnaeth Jehofa fendithio Jacob â llawer o eiddo. A dychmyga pa mor ddiolchgar i Jehofa oedd Jacob pan welodd ef Joseff unwaith eto—y mab roedd yn meddwl fuodd farw flynyddoedd yn ôl! Gan fod Jacob yn ffrind mor agos i Jehofa, roedd yn gallu wynebu ei dreialon yn llwyddiannus. (Gen. 30:43; 32:9, 10; 46:28-30) Gallwn ninnau hefyd ddelio â threialon annisgwyl drwy gadw perthynas agos â Jehofa.
8. Beth roedd y Brenin Dafydd eisiau ei wneud?
8 Doedd y Brenin Dafydd ddim yn gallu gwneud popeth roedd yn dymuno ei wneud yng ngwasanaeth Jehofa. Er enghraifft, dywedodd Dafydd wrth y proffwyd Nathan ei fod wir eisiau adeiladu teml i’w Dduw. Ymateb Nathan oedd: “Mae Duw gyda ti. Gwna beth bynnag wyt ti’n feddwl sy’n iawn.” (1 Cron. 17:1, 2) Dychmyga sut gwnaeth y geiriau hynny galonogi Dafydd. Efallai aeth ati’n syth i gynllunio ar gyfer y prosiect mawr hwnnw.
9. Sut gwnaeth Dafydd ymateb i newyddion siomedig?
9 Ond yn fuan, cafodd Dafydd ei siomi pan ddaeth proffwyd Jehofa yn ôl gyda newyddion. Dywedodd Jehofa wrth Nathan “y noson honno” nad Dafydd a fyddai’n adeiladu’r deml, ond un o’i feibion. (1 Cron. 17:3, 4, 11, 12) Sut gwnaeth Dafydd ymateb i’r neges hon? Gosododd nod newydd. Canolbwyntiodd ar gasglu arian a nwyddau y byddai ei fab Solomon eu hangen ar gyfer y prosiect.—1 Cron. 29:1-5.
10. Sut gwnaeth Jehofa fendithio Dafydd?
10 Yn syth ar ôl rhoi gwybod i Dafydd y byddai rhywun arall yn adeiladu’r deml, gwnaeth Jehofa gyfamod â Dafydd. Addawodd Jehofa y byddai un o ddisgynyddion Dafydd yn teyrnasu am byth. (2 Sam. 7:16) Yn y byd newydd, yn ystod y Teyrnasiad Mil Blynyddoedd, dychmyga pa mor hapus fydd Dafydd o ddysgu mai Brenin y Deyrnas ydy Iesu, un o’i ddisgynyddion! Beth rydyn ni’n ei ddysgu o’r hanes hwn? Hyd yn oed os nad ydyn ni’n gallu gwneud popeth roedden ni’n gobeithio ei wneud i Jehofa, efallai bydd Duw yn ein bendithio ni mewn ffyrdd na fydden ni byth wedi eu dychmygu.
11. Sut cafodd Cristnogion yn y ganrif gyntaf eu bendithio er na wnaeth y Deyrnas ddechrau rheoli pan oedden nhw’n disgwyl? (Actau 6:7)
11 Roedd Cristnogion y Ganrif Gyntaf yn delio â heriau annisgwyl. Er enghraifft, roedden nhw’n awyddus i Deyrnas Dduw ddod, ond doedden nhw ddim yn gwybod pryd byddai hynny’n digwydd. (Act. 1:6, 7) Felly, beth wnaethon nhw? Arhoson nhw’n brysur yn y gwaith pregethu. Ac wrth i’r newyddion da ledaenu, gwelon nhw fod Jehofa yn bendithio eu hymdrechion.—Darllen Actau 6:7.
12. Beth wnaeth y Cristnogion cynnar yn ystod newyn?
12 Ar un adeg cafodd y Cristnogion cynnar eu heffeithio gan newyn mawr “ar yr holl fyd.” (Act. 11:28) Dychmyga sut roedden nhw wedi dioddef oherwydd y prinder bwyd difrifol. Mae’n rhaid bod rhieni wedi poeni am sut bydden nhw’n bwydo eu plant. A meddylia am y rhai ifanc oedd wedi bod yn cynllunio i wneud mwy yn y weinidogaeth. Oedden nhw’n teimlo bod rhaid iddyn nhw aros nes bod y newyn drosodd? Fe wnaeth y Cristnogion addasu ni waeth beth oedd eu sefyllfa. Roedden nhw’n parhau i bregethu mewn unrhyw ffordd bosib, ac roedden nhw’n hapus i rannu eu pethau materol â’u brodyr a’u chwiorydd yn Jwdea.—Act. 11:29, 30.
13. Pa bethau da a wnaeth Jehofa ar gyfer y Cristnogion yn ystod y newyn?
13 Pa fendithion gafodd y Cristnogion yn ystod y newyn? Gwelodd y rhai a dderbyniodd gymorth materol fod Jehofa yn eu helpu nhw. (Math. 6:31-33) Mae’n rhaid eu bod nhw wedi teimlo’n fwy agos at y brodyr a chwiorydd oedd wedi eu helpu. A byddai’r rhai oedd wedi gwneud cyfraniadau, neu a roddodd gymorth mewn ffyrdd eraill, wedi teimlo’r hapusrwydd sy’n dod o roi i eraill. (Act. 20:35) A heb os, fe wnaeth Jehofa eu bendithio nhw i gyd wrth iddyn nhw addasu i’r newidiadau yn eu bywydau.
14. Beth ddigwyddodd i Barnabas a’r apostol Paul, a beth oedd y canlyniad? (Actau 14:21, 22)
14 Cafodd y Cristnogion yn y ganrif gyntaf eu herlid yn aml, weithiau yn hollol annisgwyl. Meddylia am beth ddigwyddodd i Barnabas a’r apostol Paul tra oedden nhw’n pregethu yn ardal Lystra. Ar y dechrau, gwnaeth pobl roi croeso cynnes iddyn nhw a gwrando arnyn nhw. Ond yn nes ymlaen, gwnaeth rhai o’r un bobl labyddio Paul gan feddwl ei fod wedi marw. Roedd hynny am fod gwrthwynebwyr wedi “perswadio’r tyrfaoedd.” (Act. 14:19) Ond gwnaeth Barnabas a Paul barhau i bregethu yn rhywle arall. Beth oedd y canlyniad? Fe wnaethon nhw “nifer o ddisgyblion,” ac roedd eu geiriau a’u hesiampl yn cryfhau eu cyd-Gristnogion. (Darllen Actau 14:21, 22.) Oherwydd wnaeth Barnabas a Paul ddim rhoi’r gorau iddi yn wyneb erledigaeth annisgwyl, gwnaeth llawer elwa. Beth yw’r wers i ni? Os ydyn ni’n dal ati yn y gwaith mae Jehofa wedi ei roi inni, cawn ninnau hefyd ein bendithio.
YN YR OES FODERN
15. Beth rwyt ti’n ei ddysgu o brofiad y Brawd A. H. Macmillan?
15 Yn ystod y blynyddoedd cyn 1914, roedd pobl Jehofa yn disgwyl i bethau mawr ddigwydd. Ystyria brofiad y Brawd A. H. Macmillan er enghraifft. Fel llawer yr adeg honno, roedd y Brawd Macmillan yn meddwl y byddai’n mynd i’r nefoedd yn fuan iawn. Mewn anerchiad a roddodd ym mis Medi 1914, dywedodd: “Mae’n debyg mai hwn yw’r anerchiad cyhoeddus olaf bydda i’n ei roi.” Wrth gwrs dim dyna oedd ei anerchiad olaf. Ysgrifennodd y Brawd Macmillan ymhellach ymlaen: “Efallai bod rhai ohonon ni wedi bod yn rhy gyflym i feddwl bydden ni’n mynd i’r nefoedd yn syth.” Ychwanegodd: “Dw i’n meddwl mai’r peth pwysicaf inni ei wneud ydy cadw’n brysur yng ngwaith yr Arglwydd.” A dyna’n union a wnaeth y Brawd Macmillan. Roedd yn selog yn y gwaith pregethu ac roedd ganddo’r fraint o galonogi llawer o frodyr oedd yn y carchar am fod yn niwtral. Ac roedd yn mynychu’r cyfarfodydd yn ffyddlon, hyd yn oed pan oedd yn hŷn. Sut gwnaeth y Brawd Macmillan elwa o gadw’n brysur wrth iddo ddisgwyl am ei wobr? Yn fuan cyn ei farwolaeth ym 1966, ysgrifennodd: “Mae fy ffydd i mor gryf heddiw ag erioed.” Am agwedd wych i bob un ohonon ni ei hefelychu, yn enwedig os ydyn ni wedi bod yn wynebu treialon am hirach nag oedden ni’n disgwyl!—Heb. 13:7.
16. Pa heriau annisgwyl gwnaeth Herbert Jennings a’i wraig eu hwynebu? (Iago 4:14)
16 Mae llawer o bobl Jehofa yn gorfod delio â phroblemau iechyd annisgwyl. Mae’r Brawd Herbert Jennings b yn esiampl o hyn. Yn ei hanes bywyd, disgrifiodd sut roedd ef a’i wraig yn mwynhau gwasanaethu fel cenhadon yn Ghana. Ond ymhen amser, cafodd ei ddiagnosio â phroblem iechyd meddwl ddifrifol oedd yn effeithio ar ei hwyliau. Gwnaeth y Brawd Jennings ddyfynnu o Iago 4:14, ac esbonio bod eu sefyllfa newydd “yn ‘yfory’ doedden ni ddim yn ei ddisgwyl.” (Darllen.) Ysgrifennodd: “Roedd rhaid inni wynebu’r ffeithiau, felly trefnon ni i adael Ghana a llawer o’n ffrindiau agos a mynd yn ôl i Ganada [i gael triniaeth feddygol].” Gwnaeth Jehofa helpu’r Brawd Jennings a’i wraig i barhau i’w wasanaethu’n ffyddlon er gwaethaf eu heriau.
17. Sut mae rhai wedi elwa o brofiad y Brawd Jennings?
17 Gwnaeth sylwadau gonest y Brawd Jennings yn ei hanes bywyd, gael effaith fawr ar eraill. Ysgrifennodd un chwaer: “Does dim byd wedi cyffwrdd â fy nghalon gymaint â’r erthygl hon. . . . Mae darllen am sut roedd rhaid i’r Brawd Jennings adael ei aseiniad i ofalu am ei iechyd wedi fy helpu i gadw agwedd gytbwys tuag at fy sefyllfa innau.” Ysgrifennodd un brawd rywbeth tebyg: “Ar ôl gwasanaethu fel henuriad am ddeng mlynedd, roedd rhaid imi roi’r gorau i’r fraint honno oherwydd afiechyd meddwl. Weithiau, roedd y teimlad fy mod i wedi methu mor gryf, o’n i’n rhy ddigalon i ddarllen hanesion bywyd. . . . Ond roedd y ffordd gwnaeth y Brawd Jennings ddyfalbarhau yn codi fy nghalon.” Mae hyn yn ein hatgoffa ni ein bod ni’n gallu calonogi eraill pan ydyn ni’n dal ati drwy broblemau annisgwyl. Hyd yn oed pan dydy bywyd ddim yn mynd y ffordd roedden ni’n gobeithio, gallwn ni fod yn esiampl fyw o ffydd a dyfalbarhad.—1 Pedr 5:9.
18. Fel sy’n cael ei ddangos yn y lluniau, beth rwyt ti’n ei ddysgu o esiampl gwraig weddw yn Nigeria?
18 Mae trychinebau fel y pandemig COVID-19 wedi effeithio ar lawer o bobl Jehofa. Ystyria brofiad gwraig weddw o Nigeria. Un bore, gofynnodd ei merch iddi beth roedden nhw am ei fwyta ar ôl iddyn nhw goginio eu cwpan olaf o reis. Dywedodd y fam wrth ei merch doedd ganddyn nhw ddim arian na bwyd ar ôl, ond dylen nhw efelychu’r wraig weddw o Sareffath drwy baratoi eu pryd o fwyd olaf a thrystio’n llwyr yn Jehofa. (1 Bren. 17:8-16) Hyd yn oed cyn iddyn nhw ddechrau meddwl am beth bydden nhw’n ei gael i ginio’r diwrnod hwnnw, gwnaethon nhw dderbyn parsel gan eu brodyr a’u chwiorydd, yn llawn digon o fwyd i bara am bythefnos. Dywedodd y chwaer doedd hi ddim yn sylweddoli faint o sylw roedd Jehofa yn ei roi i beth ddywedodd hi wrth ei merch. Yn wir, pan ydyn ni’n dibynnu ar Jehofa, gall hyd yn oed pethau annisgwyl mewn bywyd ein helpu ni i glosio ato.—1 Pedr 5:6, 7.
19. Pa erledigaeth mae Aleksey Yershov wedi ei dioddef?
19 Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae llawer o’n brodyr a’n chwiorydd wedi dioddef erledigaeth annisgwyl. Meddylia am esiampl y Brawd Aleksey Yershov, sy’n byw yn Rwsia. Cafodd ei fedyddio ym 1994. Bryd hynny roedd pobl Jehofa yn mwynhau rhywfaint o ryddid. Ond ers hynny, mae’r sefyllfa yn Rwsia wedi newid. Yn 2020, torrodd yr heddlu i mewn i dŷ’r Brawd Aleksey, chwilio drwy ei bethau a chymryd llawer o’i eiddo. Rai misoedd wedyn, gwnaeth y llywodraeth ei gyhuddo o droseddu. I wneud pethau’n waeth, cafodd ei gyhuddo ar sail recordiadau fideo a oedd wedi eu gwneud gan rywun oedd wedi honni am dros flwyddyn fod ganddo ddiddordeb astudio’r Beibl. Am fradwr!
20. Sut mae’r Brawd Aleksey wedi cryfhau ei berthynas â Jehofa?
20 A oes unrhyw beth da wedi dod allan o erledigaeth y Brawd Aleksey? Oes. Mae ei berthynas â Jehofa wedi cryfhau. Dywedodd: “Mae fy ngwraig a minnau’n gweddïo gyda’n gilydd yn fwy rheolaidd. Dw i’n sylweddoli alla i ddim delio â’r sefyllfa yma heb help Jehofa. Mae astudiaeth bersonol yn fy helpu i frwydro yn erbyn digalondid. Dw i’n myfyrio ar esiamplau gweision ffyddlon sydd wedi eu cofnodi yn y Beibl. Mae ’na gymaint ohonyn nhw sy’n dangos pa mor bwysig yw trystio yn Jehofa a pheidio â chynhyrfu.”
21. Beth rydyn ni wedi ei ddysgu yn yr erthygl hon?
21 Beth rydyn ni wedi ei ddysgu yn yr erthygl hon? Weithiau byddwn ni’n wynebu problemau annisgwyl yn y system hon. Ond bydd Jehofa yn sicr o’n helpu os ydyn ni’n dibynnu arno. Mae’r adnod sy’n thema i’r erthygl hon yn dweud: “Mae’r rhai sy’n byw yn iawn yn wynebu pob math o helyntion, ond bydd yr ARGLWYDD yn eu hachub nhw drwy’r cwbl.” (Salm 34:19) Gad inni ddal ati i ganolbwyntio, nid ar ein helyntion, ond ar allu Jehofa i’n cynnal ni. Yna, fel yr apostol Paul, byddwn ni’n gallu dweud: “Mae gen i’r grym i wynebu pob peth drwy’r un sy’n rhoi nerth imi.”—Phil. 4:13.
CÂN 38 Bydd Ef yn Dy Gryfhau
a Wrth inni ddelio â bywyd yn y system hon, mae problemau annisgwyl yn gallu codi, ond gelli di fod yn sicr y bydd Jehofa yn dy gefnogi. Sut mae Jehofa wedi helpu ei weision yn y gorffennol, a sut mae’n ein helpu ni heddiw? Bydd ystyried esiamplau o’r Beibl ac o’r oes fodern yn cryfhau ein hyder y bydd Jehofa yn ein cynnal ni os ydyn ni’n dibynnu arno.