Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

ERTHYGL ASTUDIO 18

Calonogi Ein Gilydd yng Nghyfarfodydd y Gynulleidfa

Calonogi Ein Gilydd yng Nghyfarfodydd y Gynulleidfa

“Gadewch inni ystyried ein gilydd . . . , calonogi ein gilydd.”—HEB. 10:24, 25.

CÂN 88 Dysga Dy Ffyrdd i Mi

CIPOLWG a

1. Pam rydyn ni’n rhoi sylwadau yn y cyfarfodydd?

 PAM rydyn ni’n mynychu cyfarfodydd y gynulleidfa? Yn bennaf, er mwyn moli Jehofa. (Salm 26:12; 111:1) Rydyn ni hefyd yn mynd i’r cyfarfodydd er mwyn calonogi ein gilydd yn yr amserau anodd hyn. (1 Thes. 5:11) Rydyn ni’n gwneud y ddau beth hynny pan fyddwn ni’n codi ein llaw ac yn rhoi sylwad.

2. Pa gyfleoedd sydd gynnon ni i wneud sylwadau yn ein cyfarfodydd?

2 Bob wythnos, mae gynnon ni gyfle i wneud sylwadau yn ein cyfarfodydd. Er enghraifft, ar benwythnosau gallwn ni gyfrannu yn ystod yr astudiaeth o’r Tŵr Gwylio. Yn ein cyfarfodydd canol wythnos, mae ’na gyfle i gyfrannu yn ystod yr eitem Cloddio am Drysorau Ysbrydol, yn Astudiaeth Feiblaidd y Gynulleidfa, ac mewn rhannau eraill sy’n gofyn am drafodaeth.

3. Pa heriau gallwn ni eu hwynebu, a sut gall Hebreaid 10:24, 25 ein helpu?

3 Rydyn ni i gyd eisiau moli Jehofa ac annog ein brodyr a’n chwiorydd. Ond gallwn ni wynebu heriau wrth wneud sylwadau. Efallai ein bod ni’n teimlo’n nerfus am wneud sylwad, neu efallai rydyn ni’n rhoi ein llaw i fyny’n aml ond ddim yn cael ein dewis i ateb bob tro. Sut gallwn ni ddelio â’r heriau hyn? Cawn hyd i’r ateb yn llythyr yr Apostol Paul at yr Hebreaid. Wrth drafod y pwysigrwydd o gyfarfod gyda’n gilydd, dywedodd Paul y dylen ni ganolbwyntio ar ‘galonogi ein gilydd.’ (Darllen Hebreaid 10:24, 25.) Pan fyddwn ni’n sylweddoli ein bod ni’n gallu calonogi eraill yn y gynulleidfa drwy roi sylwad syml sy’n mynegi ein ffydd, byddwn ni’n teimlo’n well am roi ein llaw i fyny. Ac os nad ydyn ni’n cael ein dewis bob tro i roi sylwad, gallwn ni fod yn hapus bod eraill yn y gynulleidfa wedi cael cyfle i roi eu sylwadau nhw.—1 Pedr 3:8.

4. Pa dri phwynt byddwn ni’n eu trafod yn yr erthygl hon?

4 Yn yr erthygl hon, byddwn ni’n trafod sut gallwn ni galonogi ein gilydd mewn cynulleidfa fechan lle does ’na ddim llawer o bobl i ateb. Yna, byddwn ni’n ystyried sut gallwn ni galonogi ein gilydd mewn cynulleidfa fawr lle mae llawer iawn yn codi eu dwylo i wneud sylwadau. Yn olaf, byddwn ni’n trafod sut gallwn ni fynd ati i sicrhau bod ein sylwadau bob tro yn galonogol i eraill.

CALONOGA ERAILL MEWN CYNULLEIDFA FECHAN

5. Sut gallwn ni galonogi ein gilydd os nad oes llawer yn y cyfarfod?

5 Does gan yr arweinydd ddim gymaint o bobl i ddewis rhyngddyn nhw mewn cynulleidfa fechan neu grŵp bach. Ar adegau, efallai bydd rhaid iddo ddisgwyl ychydig cyn i rywun godi ei law i wneud sylwad. Gall hyn greu’r teimlad bod y cyfarfod yn mynd ymlaen am byth—a dydy hynny ddim yn galonogol iawn. Beth gelli di ei wneud? Bydda’n barod i godi dy law yn aml. Drwy wneud hynny, efallai gwnei di ysgogi eraill i gyfrannu yn amlach.

6-7. Sut gallwn ni leihau unrhyw bryder sydd gynnon ni am roi sylwad?

6 Beth os ydy hyd yn oed y syniad o roi dy law i fyny yn gwneud iti deimlo’n nerfus? Mae ’na lawer sy’n teimlo’r un fath, ond er mwyn calonogi dy frodyr a dy chwiorydd yn fwy, beth am feddwl am rai ffyrdd o leihau dy bryderon am wneud sylwad? Sut gelli di wneud hynny?

7 Efallai byddai’n ddefnyddiol i adolygu rhai o’r awgrymiadau yn rhifynnau blaenorol y Tŵr Gwylio. b Er enghraifft, paratoa’n drylwyr. (Diar. 21:5) Y mwyaf rwyt ti’n gyfarwydd â’r deunydd, y mwyaf tebygol byddi di o deimlo’n ddigon cyfforddus i gynnig sylwad. Hefyd, gwna sylwad sy’n gryno. (Diar. 15:23; 17:27) Mae ateb byr yn rhywbeth llai i boeni amdano. A gall sylwad cryno, o ryw un neu ddwy o frawddegau, fod yn haws i dy frodyr a dy chwiorydd ei ddeall na sylwad hirwyntog sy’n datblygu amryw o syniadau. Drwy roi sylwad byr yn dy eiriau dy hun, gelli di ddangos dy fod ti wedi paratoi’n drylwyr a dy fod ti’n deall y deunydd yn glir.

8. Sut mae Jehofa’n teimlo pan ydyn ni’n gwneud ein gorau?

8 Beth os wyt ti wedi ceisio rhoi ar waith rhai o’r awgrymiadau hyn, ac eto’n dal yn rhy bryderus i wneud mwy nag un neu ddau o sylwadau? Cofia fod Jehofa yn gwerthfawrogi dy ymdrech ddiffuant. (Luc 21:1-4) Dydy Jehofa ddim yn gofyn inni wneud mwy na’n gorau glas. (Phil. 4:5) Gosoda nod sydd o fewn dy allu, a gweddïa am galon dawel. Ar y dechrau, efallai dy nod fydd i wneud un sylwad byr.

CALONOGA ERAILL MEWN CYNULLEIDFA FAWR

9. Pa her sy’n gallu codi mewn cynulleidfa fawr?

9 Os wyt ti mewn cynulleidfa fawr, efallai bod gen ti her wahanol. Gyda llawer o frodyr a chwiorydd yn awyddus i wneud sylwadau, efallai fydd dy law di ddim yn dal sylw’r arweinydd. Er enghraifft, mae Danielle wastad wedi mwynhau rhoi sylwadau yn y cyfarfodydd. c Mae hi’n gweld hyn yn rhan o’i haddoliad, yn ffordd o galonogi eraill, ac yn ffordd o atgyfnerthu ei ffydd. Ond pan symudodd hi i gynulleidfa fwy, doedd hi ddim yn cael y cyfle i ateb yn aml—weithiau ddim o gwbl mewn cyfarfod cyfan. Dywedodd hi: “Roeddwn i’n teimlo’n rhwystredig, fel petaswn i’n colli allan ar ryw fraint. Pan mae hyn yn digwydd dro ar ôl tro, mae’n ddigon hawdd dechrau teimlo ei bod hi’n bwrpasol.”

10. Sut gallwn ni gynyddu’r tebygolrwydd o roi sylwad?

10 Wyt ti erioed wedi teimlo yr un fath â Danielle? Os wyt ti, gallai fod yn demtasiwn i roi’r ffidil yn y to, a dim ond gwrando yn y cyfarfod. Ond paid â rhoi’r gorau i geisio rhoi sylwad. Beth gelli di ei wneud? Gelli di baratoi amryw o sylwadau ar gyfer pob cyfarfod. Wedyn os na fydd yr arweinydd yn dewis dy sylwad cyntaf di, bydd gen ti gyfleoedd eraill i roi sylwad fel mae’r cyfarfod yn mynd yn ei flaen. Wrth baratoi ar gyfer yr Astudiaeth o’r Tŵr Gwylio, meddylia am sut mae pob paragraff yn cyfrannu at thema’r erthygl. Drwy wneud hynny, mae’n debyg bydd gen ti rywbeth i’w gynnig drwy gydol y drafodaeth. Ar ben hynny, gelli di baratoi sylwad ar baragraffau sy’n trafod gwirioneddau dwfn, sy’n fwy anodd i’w hesbonio. (1 Cor. 2:10) Pam? Oherwydd efallai bydd llai yn barod i ateb yn y rhan honno o’r erthygl. Beth os wyt ti wedi rhoi ar waith yr awgrymiadau hyn, ond yn dal heb gael cyfle i roi sylwad ar ôl nifer o gyfarfodydd? Gelli di fynd at yr arweinydd cyn y cyfarfod a dweud wrtho fod gen ti ateb ar gyfer un cwestiwn penodol.

11. Beth mae Philipiaid 2:4 yn ein hannog i’w wneud?

11 Darllen Philipiaid 2:4. O dan ysbrydoliaeth, gwnaeth yr Apostol Paul annog Cristnogion i ofalu am les pobl eraill. Sut gallwn ni roi hyn ar waith yn ystod cyfarfodydd? Drwy gofio bod eraill, fel ninnau, eisiau cymryd rhan.

Yn union fel rwyt ti’n rhoi cyfle i eraill rannu mewn sgwrs, rho gyfle i eraill gyfrannu yn y cyfarfodydd (Gweler paragraff 12)

12. Sut gallwn ni galonogi eraill yn y cyfarfodydd? (Gweler hefyd y llun.)

12 Meddylia am hyn. Pan fyddi di’n cael sgwrs gyda dy ffrindiau, a fyddet ti’n siarad gymaint nes eu bod nhw’n methu cael gair i mewn? Na fyddet siŵr! Rwyt ti eisiau iddyn nhw rannu yn y sgwrs. Yn yr un modd, yn ein cyfarfodydd rydyn ni eisiau calonogi ein brodyr a’n chwiorydd, ac un o’r ffyrdd gorau o wneud hynny ydy drwy adael iddyn nhw fynegi eu ffydd. (1 Cor. 10:24) Dewch inni ystyried sut gallwn ni wneud hynny.

13. Sut gallwn ni sicrhau bod mwy yn y gynulleidfa yn cael cyfle i ateb?

13 Am un peth, gallwn ni gadw ein sylwadau yn gryno. Drwy wneud hynny bydd eraill yn cael cyfle i gymryd rhan. Gall henuriaid a chyhoeddwyr profiadol osod yr esiampl. Hyd yn oed pan fyddi di’n rhoi sylwad cryno, paid â siarad am ormod o bwyntiau. Petaset ti’n sôn am bopeth sydd yn y paragraff, fydd ’na ddim lle i eraill gael dweud rhywbeth. Yn y paragraff hwn, er enghraifft, mae ’na ddau awgrym—bydda’n gryno gyda dy sylwad a phaid â chynnwys popeth. Os mai ti yw’r cyntaf i gael rhoi sylwad ar y paragraff hwn, beth am siarad am un pwynt yn unig?

Pryd efallai byddwn ni’n dewis peidio â chodi ein llaw yn y cyfarfod? (Gweler paragraff 14) f

14. Beth sy’n gallu ein helpu ni i benderfynu pa mor aml i godi llaw? (Gweler hefyd y llun.)

14 Meddylia’n ofalus am ba mor aml byddi di’n codi dy law. Os gwnei di hynny yn rhy aml, efallai bydd yr arweinydd yn teimlo dan bwysau i ofyn iti dro ar ôl tro am dy sylwad, er bod ’na eraill heb gael cyfle eto. Wedyn mae ’na beryg i eraill ddigalonni a pheidio â rhoi eu llaw i fyny.—Preg. 3:7.

15. (a) Sut dylen ni ymateb os na chawn ni ein dewis i ateb? (b) Sut gall brodyr fod yn gytbwys wrth arwain trafodaeth? (Gweler y blwch “ Os Wyt Ti’n Arwain.”)

15 Pan fydd llawer o gyhoeddwyr yn codi llaw yn ystod astudiaeth, efallai chawn ni ddim cyfle i ateb mor aml ag y byddwn ni’n hoffi. Ar adegau, fydd yr arweinydd ddim yn gallu galw am ein hateb o gwbl. Yn lle digalonni, ceisia beidio â chymryd y peth yn bersonol.—Preg. 7:9.

16. Sut gallwn ni annog eraill sy’n rhoi atebion?

16 Os wyt ti’n methu ateb mor aml ag y byddet ti’n hoffi, beth am wrando’n astud ar eraill yn cyfrannu, ac wedyn ar ôl y cyfarfod eu canmol nhw am eu hatebion? Efallai bydd y ganmoliaeth rwyt ti’n ei rhoi i dy frodyr a dy chwiorydd yr un mor galonogol â’r sylwadau roeddet ti eisiau eu rhoi. (Diar. 10:21) Mae rhoi canmoliaeth yn ffordd dda o annog ein gilydd.

FFYRDD ERAILL O GALONOGI EIN GILYDD

17. (a) Sut gall rhieni helpu eu plant i baratoi atebion addas? (b) Yn ôl y fideo, pa bedwar cam sy’n helpu wrth baratoi ateb? (Gweler hefyd y troednodyn.)

17 Ym mha ffyrdd eraill gallwn ni galonogi ein gilydd yn y cyfarfodydd? Os oes gen ti blant, helpa nhw i baratoi atebion sy’n addas i’w hoed. (Math. 21:16) Weithiau mae pynciau difrifol yn cael eu trafod, fel problemau yn y briodas neu faterion moesol. Ond mae’n debyg bydd ’na o leiaf un neu ddau o baragraffau lle bydd plentyn yn gallu rhoi sylwad. Hefyd, helpa dy blant i ddeall pam fyddan nhw ddim yn cael eu dewis bob tro maen nhw’n rhoi eu llaw i fyny. Bydd deall hyn yn eu helpu nhw i beidio â theimlo’n siomedig pan fydd eraill yn cael eu dewis.—1 Tim. 6:18. d

18. Sut gallwn ni osgoi tynnu sylw aton ni’n hunain wrth ateb? (Diarhebion 27:2)

18 Gall pob un ohonon ni roi atebion sy’n moli Jehofa ac sy’n calonogi ein brodyr a’n chwiorydd. (Diar. 25:11) Efallai gallwn ni roi profiad personol byr ar adegau, ond dylen ni osgoi siarad gormod amdanon ni’n hunain. (Darllen Diarhebion 27:2; 2 Cor. 10:18.) Yn lle gwneud hynny, gwna dy orau i ganolbwyntio ar Jehofa, ei Air, a’i bobl. (Dat. 4:11) Wrth gwrs, os ydy’r cwestiwn yn gofyn am brofiad personol, mae’n addas i wneud hynny. Mae ’na enghraifft o hynny yn y paragraff nesaf.

19. (a) Beth fydd y canlyniad os gwnawn ni ystyried teimladau pawb arall sydd yn y cyfarfodydd? (Rhufeiniaid 1:11, 12) (b) Beth wyt ti’n ei werthfawrogi am roi atebion yn y cyfarfodydd?

19 Er does ’na ddim rheolau penodol ar sut i roi ateb, gall pob un ohonon ni wneud ein gorau i galonogi eraill. Efallai bydd hyn yn golygu ein bod ni’n ateb yn fwy aml. Neu gall feddwl ein bod ni’n fodlon ar y cyfleoedd sydd gynnon ni i ateb, ac yn hapus bod eraill yn cael y cyfle i wneud yr un peth. Drwy ganolbwyntio ar deimladau pobl eraill yn y cyfarfodydd, gallwn ni i gyd fwynhau ‘cael ein calonogi.’—Darllen Rhufeiniaid 1:11, 12.

CÂN 93 Bendithia Ein Cyfarfod

a Wrth roi atebion yn y cyfarfodydd, byddwn ni’n calonogi ein gilydd. Ond, mae rhai yn teimlo’n nerfus am roi sylwad. Mae eraill yn mwynhau gwneud hynny ac yn awyddus i ateb yn amlach. Sut gallwn ni ystyried teimladau ein gilydd fel bod pawb yn cael eu calonogi? A sut gallwn ni roi sylwadau fel ein bod ni’n annog ein gilydd i ddangos cariad a gwneud pethau da? Bydd yr erthygl hon yn esbonio.

c Newidiwyd yr enw.

d Gwylia’r fideo Dod yn Ffrind i Jehofa—Paratoi Dy Ateb ar jw.org.

f DISGRIFIAD O’R LLUN: Mewn cynulleidfa fawr, mae brawd sydd eisoes wedi rhoi ateb yn rhoi cyfle i eraill gael rhan yn y cyfarfod.