Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

ERTHYGL ASTUDIO 19

Sut Gallwn Ni Gryfhau Ein Ffydd yn Addewid Jehofa am Fyd Newydd?

Sut Gallwn Ni Gryfhau Ein Ffydd yn Addewid Jehofa am Fyd Newydd?

“Ydy [Jehofa’n] dweud, a ddim yn gwneud? . . . Na!”—NUM. 23:19.

CÂN 142 Dal Ein Gafael yn Ein Gobaith

CIPOLWG a

1-2. Beth sy’n rhaid inni ei wneud wrth inni ddisgwyl am y byd newydd?

 RYDYN ni’n trysori addewid Jehofa i ddisodli’r system hon gyda byd cyfiawn. (2 Pedr 3:13) Er nad ydyn ni’n gwybod pa bryd mae’r byd newydd yn mynd i fod yn realiti, mae’r dystiolaeth yn dangos na fydd rhaid inni ddisgwyl llawer hirach.—Math. 24:32-34, 36; Act. 1:7.

2 Yn y cyfamser, mae angen i bob un ohonon ni gryfhau ein ffydd yn yr addewid hwnnw, ni waeth pa mor hir rydyn ni wedi bod yn y gwir. Pam? Oherwydd bod hyd yn oed ffydd gref yn gallu gwanhau. Yn wir, cyfeiriodd yr apostol Paul at ddiffyg ffydd fel y “pechod sy’n ein clymu ni mor hawdd.” (Heb. 12:1) I osgoi gadael i’n ffydd wanhau, mae’n rhaid inni ddatblygu’r arfer o fyfyrio ar y dystiolaeth sy’n profi bydd y byd newydd yn fuan yn realiti.—Heb. 11:1.

3. Beth byddwn ni’n ei drafod yn yr erthygl hon?

3 Yn yr erthygl hon, byddwn ni’n trafod tair ffordd gallwn ni gryfhau ein ffydd yn addewid Jehofa am fyd newydd: (1) drwy fyfyrio ar y pridwerth, (2) drwy ystyried grym Jehofa, a (3) drwy dreulio amser yn gwneud pethau ysbrydol. Yna byddwn ni’n trafod sut mae neges Jehofa i Habacuc yn cryfhau ein ffydd heddiw. Ond yn gyntaf, dewch inni ystyried rhai o’r sefyllfaoedd gallen ni eu hwynebu nawr sy’n gofyn am ffydd gref yn yr addewid am fyd newydd i ddod.

SEFYLLFAOEDD SY’N GOFYN AM FFYDD GREF

4. Pa benderfyniadau sy’n gofyn am ffydd gref?

4 Mae ’na benderfyniadau i’w gwneud bob dydd sy’n gofyn am ffydd gref. Er enghraifft, rydyn ni’n gwneud penderfyniadau am adloniant, addysg, priodi, plant, gwaith seciwlar, a’r cwmni rydyn ni’n ei gadw. Peth da ydy gofyn inni’n hunain: ‘Ydy fy mhenderfyniadau yn dangos fy mod i’n sicr bydd y system hon yn cael ei disodli gan fyd newydd Duw yn fuan? Neu ydw i’n byw fel y rhai sydd heb unrhyw obaith am y dyfodol?’ (Math. 6:19, 20; Luc 12:16-21) Gwnawn ni’r penderfyniadau gorau drwy gryfhau ein ffydd yn y ffaith ein bod ni’n byw ar drothwy’r byd newydd.

5-6. Pam rydyn ni angen ffydd gref wrth wynebu treialon? Rho eglureb.

5 Ar adegau byddwn ni’n wynebu treialon sy’n gofyn am ffydd gref. Mae erledigaeth, salwch difrifol, a phethau eraill yn gallu gwneud inni deimlo’n ddigalon. Ar y dechrau, efallai byddwn ni’n wynebu’r treial yn benderfynol o wneud y peth iawn. Ond wrth iddo barhau—fel mae treialon yn tueddu i wneud—byddwn ni angen ffydd gref i ddyfalbarhau a dal ati i wasanaethu Jehofa yn llawen.—Rhuf. 12:12; 1 Pedr 1:6, 7.

6 Yn ystod treial, efallai byddwn ni’n teimlo na fydd byd newydd Jehofa byth yn dod. Ydy hyn yn golygu bod ein ffydd yn wan? Ddim yn angenrheidiol. Ystyria hyn fel eglureb: Yng nghanol gaeaf sydd wedi bod yn hynod o oer a llwm, gallwn deimlo na fydd yr haf byth yn dod. Ond eto mae’r haf yn dod. Yn yr un modd, pan fyddwn ni mewn twll o ddigalondid, gallwn deimlo na fydd y byd newydd byth yn dod. Ond os ydy ein ffydd ni’n gryf, rydyn ni’n gwybod y bydd holl addewidion Duw yn cael eu cyflawni. (Salm 94:3, 14, 15; Heb. 6:17-19) Gyda’r hyder hwnnw, gallwn ni flaenoriaethu addoliad Jehofa.

7. Pa agwedd dylen ni ei hosgoi?

7 Rydyn ni hefyd angen ffydd gref wrth bregethu. Mae llawer o bobl sy’n clywed y “newyddion da” am y byd newydd yn meddwl eu bod yn rhy dda i fod yn wir. (Math. 24:14; Esec. 33:32) Fyddwn ni byth eisiau i’w hamheuon nhw effeithio’n negyddol arnon ni. Er mwyn osgoi hynny, mae’n rhaid inni barhau i gryfhau ein ffydd. Dewch inni ystyried tair ffordd medrwn ni wneud hynny.

MYFYRIO AR Y PRIDWERTH

8-9. Sut gall myfyrio ar y pridwerth gryfhau ein ffydd?

8 Un ffordd gallwn ni gryfhau ein ffydd yw drwy fyfyrio ar y pridwerth. Mae’r pridwerth yn rhoi sicrwydd inni y bydd addewidion Duw yn dod yn wir. Dylen ni fyfyrio ar y rheswm cafodd y pridwerth ei ddarparu, ac ar faint gwnaeth Jehofa ei aberthu. Beth fydd y canlyniad o wneud hynny? Byddwn ni’n cryfhau ein ffydd yn addewid Duw o fywyd tragwyddol mewn byd gwell. Pam gallwn ni ddweud hynny?

9 Wel, beth wnaeth y pridwerth ei gostio? Anfonodd Jehofa ei Fab cyntaf-anedig annwyl, ei ffrind agosaf, o’r nef i gael ei eni’n ddyn perffaith ar y ddaear. Tra oedd Iesu ar y ddaear, gwnaeth ef ddioddef bob math o galedi. Yna cafodd ei roi i farwolaeth yn y ffordd fwyaf erchyll. Am bris anhygoel dalodd Jehofa! Fyddai ein Duw cariadus byth wedi caniatáu i’w Fab ddioddef a marw dim ond er mwyn rhoi bywyd gwell inni am gyfnod byr. (Ioan 3:16; 1 Pedr 1:18, 19) Ar ôl talu pris mor uchel, bydd Jehofa yn sicrhau bod bywyd tragwyddol yn y byd newydd yn dod yn realiti.

YSTYRIED GRYM JEHOFA

10. Beth mae Jehofa’n gallu ei wneud yn ôl Effesiaid 3:20?

10 Yr ail ffordd gallwn ni gryfhau ein ffydd ydy drwy ystyried grym Jehofa. Mae ganddo’r grym i gyflawni ei holl addewidion. Mae’n wir bod byw am byth mewn byd newydd yn gallu ymddangos yn amhosib. Ond mae Jehofa yn aml yn addo gwneud pethau sydd y tu hwnt i allu pobl. Wedi’r cwbl, ef yw’r Duw Hollalluog. (Job 42:2; Marc 10:27) Felly does dim syndod ei fod yn addo pethau rhyfeddol!—Darllen Effesiaid 3:20.

11. Rho esiampl o un o’r addewidion anhygoel mae Duw wedi ei gyflawni. (Gweler y blwch “ Addewidion Rhyfeddol Sydd Wedi eu Cyflawni.”)

11 Ystyria rai o’r pethau gwnaeth Jehofa eu haddo i’w bobl yn y gorffennol oedd yn ymddangos yn amhosib. Addawodd i Abraham a Sara y bydden nhw’n cael mab yn eu henaint. (Gen. 17:15-17) Gwnaeth ef hefyd addo i Abraham y byddai’n rhoi gwlad Canaan i’w ddisgynyddion. Ond roedd disgynyddion Abraham, yr Israeliaid, yn gaethweision yn yr Aifft am flynyddoedd. Felly bryd hynny, byddai wedi ymddangos yn amhosib i’r addewid ddod yn wir. Ond fe ddaeth yn wir. Meddylia am esiampl arall. Yn hwyrach ymlaen, dywedodd Jehofa y byddai Elisabeth, a oedd mewn oed, yn cael plentyn. Dywedodd hefyd wrth Mair, a oedd yn wyryf, y byddai hi’n rhoi genedigaeth i’w Fab ei hun. Hwn oedd y Mab yr oedd Jehofa wedi ei addo filoedd o flynyddoedd yn gynharach, yng ngardd Eden. Cafodd yr addewid hwn ei gyflawni hefyd!—Gen. 3:15.

12. Beth mae Josua 23:14 ac Eseia 55:10, 11 yn ei ddweud am rym Jehofa?

12 Mae ystyried addewidion mae Duw eisoes wedi eu cyflawni yn cryfhau ein ffydd yng ngallu Jehofa i ddod â’r byd newydd. (Darllen Josua 23:14; Eseia 55:10, 11.) Drwy wneud hynny byddwn ni’n fwy parod i helpu eraill i weld nad ydy’r byd newydd a addawodd Jehofa yn freuddwyd nac yn ffantasi. Wrth siarad am y nefoedd newydd a’r ddaear newydd, dywedodd Jehofa ei hun: “Mae’r geiriau hyn yn ffyddlon ac yn wir.”—Dat. 21:1, 5.

CADW’N BRYSUR YN GWNEUD PETHAU YSBRYDOL

CYFARFODYDD Y GYNULLEIDFA

Sut gall y gweithgaredd ysbrydol hwn gryfhau dy ffydd? (Gweler paragraff 13)

13. Sut gall cyfarfodydd y gynulleidfa gryfhau ein ffydd? Esbonia.

13 Y drydedd ffordd gallwn ni gryfhau ein ffydd ydy drwy dreulio amser yn gwneud pethau ysbrydol. Er enghraifft, ystyria sut gallwn ni elwa o gyfarfodydd y gynulleidfa. Mae Anna, sydd wedi gwasanaethu Jehofa’n llawn-amser am ddegawdau mewn gwahanol aseiniadau, yn dweud: “Mae’r cyfarfodydd yn angor i fy ffydd. Hyd yn oed os nad ydy’r siaradwr yn athro arbennig o dda, nac yn dysgu rhywbeth newydd imi, yn aml dw i’n clywed rhywbeth sy’n fy helpu i ddeall y Beibl yn well, ac mae hyn yn cryfhau fy ffydd.” b Ac mae gwrando ar sylwadau ein brodyr a’n chwiorydd yn y cyfarfodydd bob tro yn cryfhau ein ffydd.—Rhuf. 1:11, 12; 10:17.

Y WEINIDOGAETH

Sut gall y gweithgaredd ysbrydol hwn gryfhau dy ffydd? (Gweler paragraff 14)

14. Sut mae’r weinidogaeth yn cryfhau ein ffydd?

14 Mae ein ffydd hefyd yn cryfhau pan ydyn ni’n cymryd rhan yn y weinidogaeth. (Heb. 10:23) Mae Barbara, sydd wedi gwasanaethu Jehofa ers dros 70 mlynedd, yn dweud: “Mae’r gwaith pregethu wastad wedi bod yn ffordd imi gryfhau fy ffydd. Y mwya’n y byd dw i’n dweud wrth eraill am Jehofa a’i addewidion rhyfeddol, y cryfaf yw fy ffydd.”

ASTUDIAETH BERSONOL

Sut gall y gweithgaredd ysbrydol hwn gryfhau dy ffydd? (Gweler paragraff 15)

15. Sut mae astudiaeth bersonol yn cryfhau ein ffydd? (Gweler hefyd y lluniau.)

15 Ystyria rywbeth arall sy’n cryfhau ein ffydd: astudiaeth bersonol. Mae Susan yn dweud bod cael amserlen yn ei helpu hi i astudio: “Ar ddydd Sul, bydda i’n astudio’r Tŵr Gwylio ar gyfer yr wythnos nesaf. Ar ddydd Llun a dydd Mawrth, bydda i’n paratoi ar gyfer y cyfarfod canol wythnos. Ar y dyddiau eraill, bydda i’n gweithio ar brosiectau astudio personol.” Drwy gadw at raglen gyson o astudio, mae Susan yn adeiladu ei ffydd yn barhaol. Mae Irene, sydd wedi gwasanaethu ym mhencadlys Tystion Jehofa ers degawdau, yn teimlo bod astudio proffwydoliaethau Beiblaidd wedi cryfhau ei ffydd. Mae’n dweud: “Mae wastad yn fy rhyfeddu bod proffwydoliaethau Jehofa yn cael eu cyflawni i’r manylyn lleiaf.” c

“MAE’N SIŴR O DDOD AR YR AMSER IAWN”

16. Pam mae’r addewid a roddodd Jehofa i Habacuc yn dal yn berthnasol i ni heddiw? (Hebreaid 10:36, 37)

16 Mae rhai o weision Jehofa wedi bod yn disgwyl am ddiwedd y system hon ers amser hir. O safbwynt dynol, gall ymddangos fel petai Duw yn oedi cyn dod â’r diwedd. Dywedodd Jehofa wrth y proffwyd Habacuc: “Mae’n weledigaeth o beth sy’n mynd i ddigwydd; mae’n dangos sut fydd pethau yn y diwedd. Os nad ydy e’n digwydd yn syth, bydd yn amyneddgar—mae’n siŵr o ddod ar yr amser iawn.” (Hab. 2:3) Ai er lles Habacuc yn unig rhoddodd Duw yr addewid hwnnw? Neu ydy Ei eiriau yn golygu rhywbeth i ni heddiw? Cafodd yr apostol Paul ei ysbrydoli i esbonio bod y geiriau hyn yn berthnasol i Gristnogion sy’n edrych ymlaen at y byd newydd. (Darllen Hebreaid 10:36, 37.) Hyd yn oed os ydyn ni’n teimlo bod Jehofa’n hwyr yn cyflawni ei addewid i’n hachub ni, “mae’n siŵr o ddod ar yr amser iawn.”

17. Sut gwnaeth un chwaer roi ar waith gyngor Jehofa i Habacuc?

17 Mae llawer o weision Jehofa wedi rhoi ar waith gyngor Jehofa i fod “yn amyneddgar”—hyd yn oed am ddegawdau. Er enghraifft, dechreuodd Louise wasanaethu Jehofa ym 1939. Mae hi’n dweud: “Bryd hynny, roeddwn i’n disgwyl i Armagedon ddod cyn imi orffen ysgol uwchradd. Wnaeth hynny ddim digwydd. Dros y blynyddoedd dw i wedi elwa o ddarllen hanesion rhai oedd yn gorfod disgwyl am amser hir i Jehofa gyflawni ei addewidion—rhai fel Noa, Abraham, Joseff, ac eraill. Mae disgwyl yn amyneddgar wedi fy helpu i, ac eraill, i fod yn hollol sicr bod y byd newydd yn agos iawn.” Mae llawer sydd wedi addoli Jehofa ers amser maith yn cytuno!

18. Sut gall talu sylw i’r greadigaeth gryfhau ein ffydd yn y byd newydd sydd i ddod?

18 Mae’n wir nad ydy’r byd newydd yma eto. Er hynny, sylwa ar rai o’r pethau sydd eisoes wedi bod yma—y sêr, y coed, yr anifeiliaid, a’r bobl o’n cwmpas. Fyddai neb yn dweud nad ydy’r pethau hyn yn real, er doedden nhw ddim yn bodoli ar un adeg. Maen nhw yma heddiw dim ond oherwydd bod Jehofa wedi eu creu. (Gen. 1:1, 26, 27) Mae sefydlu byd newydd hefyd yn rhan o bwrpas Duw, ac fe fydd yn gwneud hynny. Yn y byd newydd bydd pobl yn mwynhau bywyd tragwyddol ac iechyd perffaith. Ar yr union amser mae Duw wedi ei ddewis, bydd y byd newydd yr un mor real â’r bydysawd sydd o’n cwmpas ni heddiw.—Esei. 65:17; Dat. 21:3, 4.

19. Sut gelli di gryfhau dy ffydd?

19 Yn y cyfamser, defnyddia bob cyfle a gei di i gryfhau dy ffydd. Cryfha dy werthfawrogiad am y pridwerth. Myfyria ar rym Jehofa. Cadwa’n brysur yn gwneud pethau ysbrydol. Drwy wneud hyn, gelli di fod yn un o’r rhai a fydd yn “etifeddu’r addewidion drwy ffydd ac amynedd.”—Heb. 6:11, 12; Rhuf. 5:5.

CÂN 139 Dy Weld Dy Hun yn y Byd Newydd

a Dydy llawer heddiw ddim yn credu yn addewid y Beibl am fyd newydd. Maen nhw’n meddwl ei fod yn freuddwyd, yn chwedl, yn rhy dda i fod yn wir. Ond rydyn ni’n hollol sicr y bydd holl addewidion Jehofa yn cael eu cyflawni. Er hynny, rydyn ni dal angen parhau i gryfhau ein ffydd. Bydd yr erthygl hon yn esbonio sut gallwn ni wneud hynny.

b Newidiwyd rhai enwau.

c Mae llawer o erthyglau ar broffwydoliaethau’r Beibl i’w gweld o dan y pennawd “Prophecy” yn y Watch Tower Publications Index. Er enghraifft, gweler yr erthygl “What Jehovah Foretells Comes to Be” yn rhifyn Ionawr 1, 2008, o’r Tŵr Gwylio.