PROSIECT ASTUDIO
Mae Pobl Ysbrydol yn Gwneud Penderfyniadau Doeth
Darllen Genesis 25:29-34 i ddysgu os gwnaeth Esau a Jacob benderfyniadau doeth.
Cloddio’n ddyfnach i’r cyd-destun. Beth ddigwyddodd yn gynharach? (Gen. 25:20-28) Beth ddigwyddodd wedyn?—Gen. 27:1-46.
Cloddio’n ddyfnach i’r manylion. Beth oedd cyfrifoldebau a breintiau’r mab cyntaf-anedig yn adeg y Beibl?—Gen. 18:18, 19; w10-E 5/1 13.
-
A oedd rhaid bod yn fab cyntaf-anedig i fod yn un o hynafiaid y Meseia? (w18.02 31-32)
Meddylia am y gwersi a’u rhoi nhw ar waith. Pam roedd hawliau’r cyntaf-anedig yn fwy pwysig i Jacob nag oedden nhw i Esau? (Heb. 12:16, 17; w03-E 10/15 28-29) Sut roedd Jehofa yn teimlo am y ddau frawd, a pham? (Mal. 1:2, 3) Beth byddai Esau wedi gallu ei wneud yn wahanol er mwyn gwneud penderfyniadau gwell?
-
Gofynna i ti dy hun: ‘Sut galla i ddangos fy mod i eisiau plesio Jehofa drwy’r ffordd dwi’n treulio fy amser yn ystod yr wythnos a gwneud yn siŵr bod gen i amser ar gyfer addoliad teuluol?’