Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

ERTHYGL ASTUDIO 16

CÂN 64 Cydweithio yn Llawen yn y Cynhaeaf

Sut i Gael Mwy o Lawenydd yn y Weinidogaeth

Sut i Gael Mwy o Lawenydd yn y Weinidogaeth

“Addolwch yr ARGLWYDD yn llawen.”SALM 100:2.

PWRPAS

Mae’r erthygl hon yn ystyried camau gallwn ni eu cymryd i gael mwy o lawenydd yn y weinidogaeth.

1. Sut mae rhai yn teimlo am siarad ag eraill yn y weinidogaeth? (Gweler hefyd y llun.)

 FEL pobl Jehofa, rydyn ni’n pregethu i eraill achos rydyn ni’n caru ein Tad nefol ac eisiau i’n cymdogion ddod i’w adnabod ef. Mae nifer o gyhoeddwyr yn dwlu ar y gwaith pregethu. Ond mae rhai yn ei weld yn waith caled. Pam? Mae rhai yn swil a gyda diffyg hyder ac yn teimlo’n anghyfforddus yn mynd i dai pobl eraill heb gael eu gwahodd. Efallai bydd rhai yn poeni y byddan nhw’n cael eu gwrthod. Dydy rhai ddim eisiau dweud rhywbeth a allai ypsetio rhywun arall. Er eu bod nhw’n caru Jehofa, mae’r brodyr a’r chwiorydd hyn yn ei chael hi’n anodd mynd at bobl ddieithr i siarad am y newyddion da. Er hynny, maen nhw’n gwybod pa mor bwysig ydy’r gwaith hwn, ac maen nhw’n cael rhan ynddo’n aml. Mae’n rhaid bod hynny’n gwneud Jehofa’n hapus iawn!

A wyt ti’n mwynhau’r gwaith o bregethu? (Gweler paragraff 1)


2. Os wyt ti’n stryglo i fwynhau’r weinidogaeth, pam na ddylet ti boeni?

2 Wyt ti weithiau yn stryglo i gael llawenydd yn y weinidogaeth oherwydd teimlo fel hyn? Os felly, paid â phoeni. Gall teimladau o ddiffyg hyder ddod oherwydd dwyt ti ddim eisiau tynnu sylw atat ti dy hun nac eisiau cael ffrae. Hefyd, does neb eisiau cael eu gwrthod, yn enwedig pan mae rhywun yn trio gwneud rhywbeth da dros eraill. Mae dy Dad nefol yn gwybod am yr heriau hyn rwyt ti’n eu hwynebu ac mae eisiau rhoi’r cymorth sydd ei angen arnat ti. (Esei. 41:13) Yn yr erthygl hon, byddwn yn ystyried pum peth sy’n gallu ein helpu ni i frwydro yn erbyn y teimladau hyn ac i gael llawenydd yn y weinidogaeth.

GAD I AIR DUW DY GRYFHAU DI

3. Beth helpodd y proffwyd Jeremeia i bregethu i eraill?

3 Drwy’r oesoedd, mae’r neges oddi wrth Dduw wedi cryfhau ei weision os oedd tasg anodd i’w chyflawni. Cymera fel enghraifft y proffwyd Jeremeia. Doedd ef ddim yn siŵr pam gwnaeth Jehofa roi aseiniad iddo i bregethu. Dywedodd Jeremeia: “Alla i ddim siarad ar dy ran di, dw i’n rhy ifanc.” (Jer. 1:6) Sut daeth ef dros ei ddiffyg hyder? Cafodd ei gryfhau gan Air Duw. Dywedodd: “Mae fel fflam yn llosgi yn fy esgyrn. Dw i’n trïo fy ngorau i’w ddal yn ôl, ond alla i ddim!” (Jer. 20:​8, 9) Er bod gan Jeremeia diriogaeth anodd, roedd y neges a gafodd ei aseinio i’w bregethu wedi rhoi’r cryfder iddo i wneud ei waith.

4. Beth ydy’r canlyniad pan ydyn ni’n darllen Gair Duw a myfyrio arno? (Colosiaid 1:​9, 10)

4 Mae Cristnogion yn cael eu cryfhau gan y neges sydd yng Ngair Duw. Pan ysgrifennodd yr apostol Paul at y gynulleidfa yn Colosae, dywedodd byddai gwybodaeth gywir yn ysgogi ei frodyr i “gerdded yn deilwng o Jehofa” er mwyn iddyn nhw “barhau i ddwyn ffrwyth ym mhob gweithred dda.” (Darllen Colosiaid 1:​9, 10.) Mae’r gwaith hwn yn cynnwys mynd ar y weinidogaeth. Felly, pan ydyn ni’n darllen Gair Duw ac yn myfyrio arno, mae’n ein cryfhau ni ac mae’r pwysigrwydd o rannu’r newyddion da yn dod yn glir.

5. Sut gallwn ni gael y gorau allan o ddarllen y Beibl ac astudio?

5 I gael y mwyaf allan o Air Duw, ddylen ni ddim brysio wrth ddarllen, astudio, a myfyrio. Cymera dy amser. Os wyt ti’n dod ar draws adnod sy’n anodd iti ei deall, paid â sgipio drosti. Yn lle hynny, defnyddia’r Watch Tower Publications Index neu’r Llawlyfr Cyhoeddiadau Tystion Jehofa i ffeindio esboniad o’r adnod honno. Os wyt ti’n cymryd dy amser wrth astudio, byddi di’n cryfhau dy hyder yng ngwirionedd Gair Duw. (1 Thes. 5:21) Wrth i dy hyder godi, byddi di eisiau rhannu beth rwyt ti wedi ei ddysgu ag eraill.

PARATOI YN DDA AR GYFER Y WEINIDOGAETH

6. Pam dylen ni baratoi’n dda ar gyfer y weinidogaeth?

6 Os wyt ti’n paratoi’n dda ar gyfer y weinidogaeth, byddi di’n teimlo’n fwy cyfforddus wrth siarad ag eraill. Roedd Iesu wedi helpu ei ddisgyblion i baratoi ar gyfer y weinidogaeth cyn eu hanfon nhw allan. (Luc 10:​1-11) O ganlyniad i wneud beth ddywedodd Iesu wrthyn nhw, cawson nhw lawenydd mawr o beth roedden nhw’n gallu ei gyflawni.—Luc 10:17.

7. Sut gallwn ni baratoi ar gyfer y weinidogaeth? (Gweler hefyd y llun.)

7 Sut gallwn ni baratoi ar gyfer y weinidogaeth? Mae’n rhaid inni feddwl yn ddwys am sut gallwn ni siarad am y gwir yn ein geiriau ein hunain. Mae hefyd yn syniad da i ystyried dau neu dri ymateb sy’n gyffredin yn dy diriogaeth a meddwl am sut i ddelio â nhw. Wedyn, wrth fynd i siarad â phobl, gallwn ni ymlacio, gwenu, a bod yn gyfeillgar.

Gwna’n siŵr dy fod ti’n paratoi’n dda ar gyfer y weinidogaeth (Gweler paragraff 7)


8. Ym mha ffordd mae Cristnogion yn debyg i’r llestri pridd yn eglureb yr apostol Paul?

8 Gwnaeth yr apostol Paul egluro ein rôl yn y gwaith pregethu fel hyn: “Mae gynnon ni’r trysor hwn sydd mewn llestri pridd.” (2 Cor. 4:7) Beth ydy’r trysor hwn? Y gwaith o bregethu neges y Deyrnas sy’n achub bywydau. (2 Cor. 4:1) Beth ydy’r llestri pridd? Gweision Jehofa sy’n mynd â’r newyddion da i eraill. Yn nyddiau Paul, roedd masnachwyr yn defnyddio jariau clai i gario nwyddau gwerthfawr, fel gwin, bwyd, ac arian. Yn yr un modd, mae Jehofa wedi gofyn inni fynd â’r neges werthfawr hon am y newyddion da i bobl. Gyda chefnogaeth Jehofa, gallwn ni gael y cryfder i fynd â’r neges hon i eraill.

GWEDDÏA AM DDEWRDER

9. Sut gallwn ni drechu ofn dyn ac ofn cael ein gwrthod? (Gweler hefyd y llun.)

9 Weithiau, gall ofn dyn neu ofn cael ein gwrthod effeithio arnon ni. Sut gallwn ni drechu hyn? Cofia beth ddywedodd yr apostolion pan gawson nhw eu gorchymyn i beidio â phregethu. Yn hytrach nag ildio i’r ofn, gofynnon nhw am help Jehofa i “barhau i gyhoeddi [ei] air â phob hyder.” Atebodd Jehofa eu gweddi ar unwaith. (Act. 4:​18, 29, 31) Dylen ni hefyd weddïo ar Jehofa i’n helpu ni i garu pobl er mwyn trechu ofn dyn.

Gweddïa am ddewrder (Gweler paragraff 9)


10. Sut mae Jehofa yn ein helpu ni i gyflawni ein rôl fel Tystion iddo? (Eseia 43:​10-12)

10 Mae Jehofa wedi gofyn inni fod yn Dystion iddo, ac mae’n addo ein helpu ni i fod yn ddewr. (Darllen Eseia 43:​10-12.) Ystyria bedair ffordd y mae’n gwneud hynny. Yn gyntaf, mae Iesu gyda ni bryd bynnag rydyn ni’n pregethu’r newyddion da. (Math. 28:​18-20) Yn ail, mae Jehofa wedi penodi angylion i’n helpu ni. (Dat. 14:6) Yn drydydd, mae Jehofa wedi rhoi’r ysbryd glân i’n helpu ni i gofio’r pethau rydyn ni wedi eu dysgu’n barod. (Ioan 14:​25, 26) Yn bedwerydd, mae Jehofa wedi rhoi’r brodyr a’r chwiorydd i’n helpu ni ar y weinidogaeth. Gyda chefnogaeth Jehofa, ein brodyr, a’n chwiorydd, mae gynnon ni bopeth sydd ei angen arnon ni i lwyddo.

BYDDA’N HYBLYG, A CHAEL Y SAFBWYNT CYWIR

11. Sut gallwn ni ddod o hyd i fwy o bobl yn y weinidogaeth? (Gweler hefyd y llun.)

11 A wyt ti’n digalonni os does neb gartref? Gofynna i ti dy hun: ‘Ble mae’r bobl o’r diriogaeth hon ar hyn o bryd?’ (Act. 16:13) ‘A ydyn nhw’n gweithio neu’n siopa?’ Os dyna ydy’r sefyllfa, a elli di ddod o hyd i fwy o bobl wrth dystiolaethu ar y stryd? Dywedodd brawd o’r enw Joshua, “Rydw i wedi dod o hyd i gyfleoedd i dystiolaethu wrth gerdded trwy ganolfannau siopa neu feysydd parcio.” Mae ef a’i wraig, Bridget, wedi ffeindio mwy o bobl gartref wrth alw gyda’r nos ac ar brynhawn dydd Sul.—Eff. 5:​15, 16.

Addasa dy rwtîn (Gweler paragraff 11)


12. Sut gallwn ni ddarganfod beth sydd ar feddyliau pobl?

12 Os nad ydy pobl yn dangos lot o ddiddordeb yn y neges, tria ddarganfod beth maen nhw’n wir yn ei gredu neu’n poeni amdano. Mae Joshua a Bridget yn defnyddio cwestiwn ar flaen un o’r taflenni yn eu cyflwyniad. Er enghraifft, yn defnyddio’r daflen Sut Rydych Chi’n Teimlo am y Beibl? maen nhw’n dweud: “Mae rhai pobl yn credu bod y Beibl yn llyfr oddi wrth Dduw, ond dydy eraill ddim yn siŵr. Beth rydych chi’n ei feddwl am hyn?” Mae hyn yn aml yn arwain at sgwrs.

13. Pam gallwn ni ddweud ein bod ni wedi cael llwyddiant yn y weinidogaeth hyd yn oed pan dydy pobl ddim yn ymateb yn dda? (Diarhebion 27:11)

13 Dydy llwyddiant yn y weinidogaeth ddim yn dibynnu ar ganlyniadau. Pam? Oherwydd ein bod ni wedi gwneud beth mae Jehofa ac Iesu wedi gofyn inni ei wneud, sef tystiolaethu. (Act. 10:42) Hyd yn oed pan nad ydyn ni’n ffeindio pobl i siarad â nhw neu maen nhw’n gwrthod ein neges, gallwn ni fod yn hapus o wybod ein bod ni’n plesio ein Tad nefol.—Darllen Diarhebion 27:11.

14. Pam gallwn ni fod yn hapus pan mae cyhoeddwr arall yn ffeindio rhywun yn y diriogaeth sydd â diddordeb?

14 Gallwn ni hefyd fod yn hapus pan mae brawd neu chwaer yn ffeindio rhywun yn y diriogaeth sydd â diddordeb. Mae’r Tŵr Gwylio wedi cymharu ein gwaith â chwilio am blentyn sydd wedi mynd ar goll. Mae nifer o bobl yn chwilio am y plentyn, mewn un lle ar ôl y llall. Pan maen nhw’n ffeindio’r plentyn, mae pawb yn hapus, nid jyst yr un a wnaeth ei ffeindio. Yn yr un modd, mae’r gwaith o wneud disgyblion yn waith tîm. Mae ’na angen am bawb i weithio’r diriogaeth, ac rydyn ni i gyd yn llawenhau pan mae rhywun newydd yn dod i’r cyfarfodydd am y tro cyntaf.

CANOLBWYNTIA AR GARU JEHOFA A CHARU DY GYMYDOG

15. Sut gall Mathew 22:​37-39 ein helpu ni i gael mwy o sêl yn y weinidogaeth? (Gweler hefyd y llun.)

15 Gallwn ni gael mwy o sêl yn ein gwaith o bregethu drwy ganolbwyntio ar garu Jehofa a charu ein cymdogion. (Darllen Mathew 22:​37-39.) Dychmyga hapusrwydd Jehofa pan mae’n gweld y gwaith rydyn ni’n ei wneud a pha mor hapus bydd pobl pan maen nhw’n dechrau astudio’r Beibl! Meddylia hefyd am yr iachawdwriaeth fydd yn dod i’r rhai sy’n ymateb yn dda i’n neges.—Ioan 6:40; 1 Tim. 4:16.

Bydd canolbwyntio ar ein cariad at Jehofa ac at ein cymdogion yn ein helpu ni i fod yn hapus yn y weinidogaeth (Gweler paragraff 15)


16. Sut gallwn ni gael llawenydd yn ein gweinidogaeth pan ydyn ni wedi ein cyfyngu i’n cartref? Rho enghreifftiau.

16 Os wyt ti wedi cael dy gyfyngu i dy dŷ am ryw reswm, paid â phoeni. Canolbwyntia ar beth rwyt ti’n gallu ei wneud i ddangos dy gariad at Jehofa ac at dy gymdogion. Yn ystod y pandemig COVID-19, doedd Samuel a Dania ddim yn gallu gadael eu tŷ. Yn ystod yr amser anodd hwnnw, roedden nhw’n aml yn tystiolaethu dros y ffôn, yn ysgrifennu llythyrau, ac yn cynnal astudiaethau Beiblaidd ar Zoom. Roedd Samuel yn siarad â rhai roedd wedi cwrdd â nhw yn y clinig lle roedd yn cael triniaeth ar gyfer canser. Dywedodd Samuel: “Mae pethau anodd yn cael effaith negyddol arnon ni’n feddyliol, yn gorfforol, ac yn ysbrydol. Mae’n rhaid inni gael hyd i lawenydd yn ein gwasanaeth i Jehofa.” Yng nghanol hyn i gyd, gwnaeth Dania gwympo ac roedd hi yn ei gwely am dri mis. Ar ôl hynny, roedd hi mewn cadair olwyn am chwe mis. Dywedodd hi: “Dwi’n trio gwneud beth bynnag mae fy amgylchiadau yn caniatáu imi ei wneud. Roeddwn i’n gallu pregethu i nyrs a oedd yn dod i’r tŷ neu i bobl a oedd yn delifro pethau. Ges i drafodaethau da dros y ffôn gyda dynes o gwmni meddygol.” Mae amgylchiadau Samuel a Dania wedi cyfyngu ar beth roedden nhw’n gallu ei wneud. Er hynny, cawson nhw hyd i lawenydd yn yr hyn roedden nhw’n gallu ei wneud.

17. Sut gelli di wneud defnydd da o’r awgrymiadau yn yr erthygl hon?

17 Yn debyg i gynhwysion mewn rysáit, mae’r awgrymiadau yn yr erthygl hon yn gweithio’n well pan maen nhw’n cael eu defnyddio gyda’i gilydd. Pan mae’r cynhwysion i gyd yn cael eu rhoi at ei gilydd, rydyn ni’n cael bwyd blasus. Felly, os ydyn ni’n defnyddio’r awgrymiadau hyn i gyd, byddwn ni’n gallu delio â theimladau negyddol a chael llawenydd yn y weinidogaeth.

SUT BYDD Y CANLYNOL YN DY HELPU DI I GAEL LLAWENYDD YN Y WEINIDOGAETH?

  • Cymryd yr amser i baratoi’n dda

  • Gweddïo am ddewrder

  • Canolbwyntio ar garu Jehofa a charu ein cymdogion

CÂN 80 Profwch Flas a Gwelwch mai Da Ydy Duw