Rydyn Ni’n Perthyn i Jehofa
“Mae’r genedl sydd a’r ARGLWYDD yn Dduw iddi wedi ei bendithio’n fawr, sef y bobl hynny mae wedi eu dewis yn eiddo iddo’i hun.”—SALM 33:12.
1. Pam gallwn ni ddweud mai Jehofa piau pob dim? (Gweler y llun agoriadol.)
JEHOFA piau pob dim! Mae’r “ddaear a’r cwbl sydd arni, a’r awyr, a hyd yn oed y nefoedd uchod” yn perthyn iddo. (Deuteronomium 10:14; Datguddiad 4:11) Oherwydd bod Jehofa wedi creu’r holl fodau dynol, rydyn ni i gyd yn rhan o’i eiddo. (Salm 100:3) Ond, o’r holl bobl sydd wedi byw erioed, mae Duw wedi dewis rhai i fod yn perthyn iddo mewn ffordd arbennig.
2. Yn ôl y Beibl, pwy sydd wedi perthyn i Jehofa mewn ffordd arbennig?
2 Er enghraifft, mae Salm 135 yn disgrifio addolwyr ffyddlon Jehofa yn Israel gynt “fel ei drysor sbesial.” (Salm 135:4) Hefyd, proffwydodd Hosea y byddai rhai pobl nad oedden nhw’n Israeliaid yn dod yn bobl i Jehofa. (Hosea 2:23) Cafodd y broffwydoliaeth hon ei chyflawni pan ddechreuodd Jehofa ddewis pobl nad oedden nhw’n Israeliaid i reoli yn y nefoedd gyda Christ. (Actau 10:45; Rhufeiniaid 9:23-26) Mae’r rhai sydd wedi cael eu heneinio â’r ysbryd glân yn cael eu galw “yn genedl sanctaidd.” Maen nhw’n “bobl sy’n perthyn i Dduw” ac yn werthfawr iddo. (1 Pedr 2:9, 10) Ond beth am yr holl Gristnogion ffyddlon heddiw sy’n gobeithio byw am byth ar y ddaear? Mae Jehofa yn cyfeirio atyn nhw hefyd fel “fy mhobl” ac “y rhai dw i wedi eu dewis.”—Eseia 65:22.
3. (a) Pwy sydd â pherthynas arbennig â Jehofa heddiw? (b) Beth fyddwn ni’n ei drafod yn yr erthygl hon?
3 Heddiw, mae’r praidd bach, sy’n gobeithio byw am byth yn y nefoedd, a’r defaid eraill, sy’n gobeithio byw am byth ar y ddaear, yn addoli Jehofa gyda’i gilydd “yn un praidd.” (Luc 12:32; Ioan 10:16) Rydyn ni eisiau dangos i Jehofa gymaint rydyn ni’n gwerthfawrogi ein perthynas arbennig ag Ef. Yn yr erthygl hon, byddwn ni’n trafod sut y gallwn ni ddangos ein gwerthfawrogiad i Jehofa am y fraint fawr honno.
YMGYSEGRU I JEHOFA
4. Sut gallwn ni ddiolch i Jehofa am iddo ganiatáu inni gael perthynas ag ef, a sut gwnaeth Iesu rywbeth tebyg?
4 Rydyn ni’n dangos ein gwerthfawrogiad i Jehofa pan ydyn ni’n cysegru ein bywyd iddo ac yn cael ein bedyddio. Wedyn, mae pawb yn gallu gweld ein bod ni’n perthyn i Jehofa a’n bod ni’n barod i ufuddhau iddo. (Hebreaid 12:9) Gwnaeth Iesu rywbeth tebyg pan gafodd ef ei fedyddio. Er ei fod eisoes yn rhan o genedl a oedd wedi ei chysegru i Jehofa, fe wnaeth ei roi ei hun i Jehofa. Roedd fel petai’n dweud: “Mae dy ddysgeidiaeth di yn rheoli fy mywyd i.”—Salm 40:7, 8.
5, 6. (a) Beth ddywedodd Jehofa pan gafodd Iesu ei fedyddio? (b) Pa eglureb sy’n gallu ein helpu i ddeall sut mae Jehofa yn teimlo am ein cysegriad iddo?
5 Sut roedd Jehofa’n teimlo pan gafodd Iesu ei fedyddio? Mae’r Beibl yn dweud: “Ar ôl cael ei fedyddio, yr eiliad y daeth allan o’r dŵr, dyma’r awyr yn rhwygo’n agored, a gwelodd Ysbryd Duw yn dod i lawr fel colomen ac yn glanio arno. A dyma lais o’r nefoedd yn dweud: ‘Hwn ydy fy Mab annwyl i; mae wedi fy mhlesio i’n llwyr.’” (Mathew 3:16, 17) Roedd Iesu eisoes yn perthyn i Dduw. Ond roedd Jehofa’n hapus o weld bod Iesu’n fodlon defnyddio ei fywyd i’w wasanaethu Ef yn unig. Hefyd, mae Jehofa’n hapus pan ydyn ninnau’n cysegru ein bywydau iddo, ac fe fydd yn ein bendithio.—Salm 149:4.
6 Ond, mae popeth yn perthyn i Jehofa yn barod! Beth allwn ni ei roi iddo? Dychmyga ddyn sydd â blodau hardd yn ei ardd. Un diwrnod mae ei ferch fach yn pigo un o’r blodau ac yn ei roi iddo. Er bod y blodau i gyd eisoes yn perthyn iddo, mae’r tad cariadus wrth ei fodd â’r anrheg. Mae’n dangos bod ei ferch yn ei garu. Mae’r blodyn hwnnw oddi wrth ei ferch yn fwy gwerthfawr iddo na’r holl flodau eraill yn ei ardd. Mewn ffordd debyg, mae Jehofa wrth ei fodd pan ydyn ninnau’n cysegru ein bywydau iddo.—Exodus 34:14.
7. Sut gwnaeth Malachi ein helpu i ddeall sut mae Jehofa’n teimlo am y rhai sy’n fodlon ei wasanaethu?
7 Darllen Malachi 3:16. (BCND) Pam mae cysegru ein bywydau i Jehofa a chael ein bedyddio mor bwysig? Yn wir, o’r eiliad y dechreuaist ti fodoli, roeddet ti eisoes yn perthyn i dy Greawdwr, Jehofa. Ond, meddylia am ba mor hapus bydd Jehofa pan fyddi di’n ei dderbyn fel dy Reolwr ac yn dy gysegru dy hun iddo. (Diarhebion 23:15) Mae Jehofa’n adnabod y rhai sy’n ei wasanaethu o’u gwirfodd, ac mae’n ysgrifennu eu henwau yn ei “gofrestr o’r rhai a oedd yn ofni’r ARGLWYDD.”
8, 9. Beth mae Jehofa yn ei ddisgwyl gan y rhai sydd â’u henwau yn ei “gofrestr”?
8 Os ydyn ni eisiau i’n henw aros yng nghofrestr Jehofa, mae ’na rywbeth sy’n rhaid inni ei wneud. Dywedodd Malachi fod rhaid inni ofni Jehofa a myfyrio ar ei enw. Os ydyn ni’n addoli unrhyw berson neu unrhyw beth arall, bydd ein henw yn cael ei ddileu o gofrestr Jehofa!—Exodus 32:33; Salm 69:28.
Drwy gydol ein bywyd, mae’n rhaid inni brofi drwy ein gweithredoedd ein bod ni’n ufudd i Jehofa
9 Felly, dydy addo gwneud ewyllys Jehofa a chael ein bedyddio ddim yn ddigon. Un tro yn unig rydyn ni’n gwneud y pethau hynny, ond mae addoli Jehofa yn ffordd o fyw. Bob dydd, drwy gydol ein bywydau, mae’n rhaid inni brofi drwy ein gweithredoedd ein bod ni’n ufudd i Jehofa.—1 Pedr 4:1, 2.
GWRTHOD CHWANTAU BYDOL
10. Pa wahaniaeth clir sy’n rhaid bodoli rhwng y rhai sy’n gwasanaethu Jehofa a’r rhai sydd ddim?
10 Yn yr erthygl flaenorol, dysgon ni fod Cain, Solomon, a’r Israeliaid wedi honni eu bod nhw’n addoli Jehofa ond nid oedden nhw’n ffyddlon iddo. Gwnaeth yr esiamplau hynny ddangos nad yw’n ddigon inni ddweud ein bod ni’n addoli Jehofa. Mae’n rhaid inni gasáu’r hyn sy’n ddrwg a charu’r hyn sy’n dda. (Rhufeiniaid 12:9) Mae Jehofa’n dweud y byddai gwahaniaeth mawr rhwng “yr un sydd wedi byw’n iawn a’r rhai drwg, rhwng y sawl sy’n gwasanaethu Duw a’r rhai sydd ddim.”—Malachi 3:18.
11. Pam y dylai hi fod yn hawdd i bawb weld ein bod ni’n addoli Jehofa yn unig?
11 Rydyn ni’n ddiolchgar am i Jehofa ein dewis ni i fod yn bobl iddo! Dylai fod yn hawdd i bawb weld ein bod ni ar ochr Jehofa. (Mathew 5:16; 1 Timotheus 4:15) Gofynna i ti dy hun: ‘Ydy pobl eraill yn gallu gweld fy mod i’n hollol ffyddlon i Jehofa? Ydw i’n falch o ddweud wrth bobl fy mod i’n un o Dystion Jehofa?’ Dychmyga ba mor drist byddai Jehofa’n teimlo petaen ni’n teimlo cywilydd o ddweud ein bod ni’n perthyn iddo.—Salm 119:46; darllen Marc 8:38.
12, 13. Sut mae rhai wedi ei gwneud hi’n anodd i eraill wybod eu bod nhw’n Dystion Jehofa?
12 Trist yw bod hyd yn oed rhai Tystion yn efelychu “safbwynt y byd.” O ganlyniad, dydyn nhw ddim yn wahanol iawn i’r rhai sydd ddim yn addoli Jehofa. (1 Corinthiaid 2:12) Mae “safbwynt y byd” yn gwneud i bobl ganolbwyntio ar eu chwantau hunanol eu hunain. (Effesiaid 2:3) Er enghraifft, er gwaetha’r holl gyngor rydyn ni wedi ei dderbyn, mae rhai yn dewis gwisgo mewn ffordd amhriodol. Maen nhw hyd yn oed yn gwisgo dillad i ddigwyddiadau Cristnogol sy’n rhy dynn ac sy’n dangos gormod. Neu maen nhw’n dewis steilio eu gwallt mewn ffordd eithafol. (1 Timotheus 2:9, 10) O ganlyniad, mae’n gallu bod yn anodd i eraill wybod a ydyn nhw’n Dystion Jehofa neu ddim.—Iago 4:4.
13 Mae rhai Tystion wedi bod yn debyg i’r byd mewn ffyrdd eraill hefyd. Er enghraifft, mewn partïon, mae rhai wedi dawnsio ac ymddwyn mewn ffordd sydd ddim yn dderbyniol i Gristnogion. Mae eraill wedi llwytho lluniau ohonyn nhw eu hunain, neu sylwadau, i’r we sy’n dangos eu bod nhw’n meddwl mewn ffordd gnawdol. Efallai dydyn nhw ddim wedi cael eu disgyblu yn y gynulleidfa am bechu’n ddifrifol, ond maen nhw’n dal yn gallu bod yn ddylanwad drwg ar eu brodyr a’u chwiorydd sy’n gwneud ymdrech fawr i fod yn wahanol i’r byd.—Darllen 1 Pedr 2:11, 12.
14. Beth sy’n rhaid inni ei wneud i amddiffyn ein cyfeillgarwch arbennig â Jehofa?
14 Mae popeth yn y byd wedi ei ddylunio i wneud inni ganolbwyntio ar “bleserau corfforol, chwant am bethau materol, a brolio am beth sydd gynnon ni a beth dŷn ni wedi ei gyflawni.” (1 Ioan 2:16) Rydyn ni’n perthyn i Jehofa, felly rydyn ni’n wahanol. Rydyn ni’n barod “i ddweud ‘na’ wrth ein pechod a’n chwantau bydol,” ac “i fyw’n gyfrifol, gwneud beth sy’n iawn a rhoi’r lle canolog yn ein bywydau i Dduw.” (Titus 2:12) Dylai ein holl ffordd o fyw, gan gynnwys y ffordd rydyn ni’n siarad, yn bwyta, yn gwisgo, ac yn gweithio, ddangos i bawb ein bod ni’n perthyn i Jehofa.—Darllen 1 Corinthiaid 10:31, 32.
“CARIAD DWFN AT EICH GILYDD”
15. Pam y dylen ni fod yn garedig ac yn gariadus wrth Gristnogion eraill?
15 Rydyn ni’n dangos bod cyfeillgarwch Jehofa yn werthfawr inni yn y ffordd rydyn ni’n trin ein brodyr a’n chwiorydd. Maen nhw, fel ninnau, yn perthyn i Jehofa. Os ydyn ni’n cofio’r ffaith honno, byddwn ni’n wastad yn eu trin mewn ffordd garedig a chariadus. (1 Thesaloniaid 5:15) Pa mor bwysig ydy hyn? Dywedodd Iesu wrth ei ddilynwyr: “Dyma sut bydd pawb yn gwybod eich bod chi’n ddilynwyr i mi, am eich bod chi’n caru’ch gilydd.”—Ioan 13:35.
16. Beth ydyn ni’n ei ddysgu o Gyfraith Moses am gariad Jehofa tuag at ei bobl?
16 Gall enghraifft sy’n dod o Gyfraith Moses ein helpu i ddeall sut y dylen ni drin pobl eraill yn y gynulleidfa. Yn nheml Jehofa, roedd ’na offer a oedd yn cael eu defnyddio ar gyfer addoli yn unig. Roedd y Gyfraith yn esbonio’n gwbl eglur sut y dylai’r Lefiaid ofalu am yr offer hynny, a byddai unrhyw un nad oedd yn dilyn y cyfarwyddiadau hynny’n cael ei ladd. (Numeri 1:50, 51) Os oedd gan Jehofa gymaint o ddiddordeb yn y ffordd y dylai’r offer hynny ar gyfer addoli gael eu trin, mae ganddo gymaint mwy o ddiddordeb yn y ffordd y mae pobl yn trin ei addolwyr ffyddlon a chysegredig! Dangosodd Jehofa ba mor werthfawr ydyn ni iddo pan ddywedodd fod “unrhyw un sy’n eich cyffwrdd chi yn cyffwrdd cannwyll ei lygad!”—Sechareia 2:8.
Mae Jehofa’n sylwi pan ydyn ni’n lletygar, yn hael, yn faddeugar, ac yn garedig
17. O beth mae Jehofa yn cymryd sylw?
17 Dywedodd Malachi fod Jehofa yn clywed ac yn cymryd sylw o’r ffordd mae pobl yn trin ei gilydd. (Malachi 3:16) Mae Jehofa “yn nabod ei bobl ei hun.” (2 Timotheus 2:19) Mae’n sylwi ar bob peth rydyn ni’n ei wneud ac yn ei ddweud. (Hebreaid 4:13) Pan ydyn ni’n gas wrth ein brodyr a’n chwiorydd, mae’n sylwi ar hynny. Ond, gallwn fod yn sicr ei fod yn sylwi pan ydyn ni’n lletygar, yn hael, yn faddeugar, ac yn garedig.—Hebreaid 13:16; 1 Pedr 4:8, 9.
NI FYDD JEHOFA’N CEFNU AR EI BOBL
18. Sut gallwn ni ddangos ein bod ni’n ddiolchgar am i Jehofa ein dewis i fod yn bobl iddo?
18 Rydyn ni eisiau dangos i Jehofa pa mor ddiolchgar ydyn ni ein bod ni’n perthyn iddo ac yn bobl iddo. Rydyn ni’n gwybod mai cysegru ein bywyd iddo ydy’r penderfyniad doethaf y gallwn ni ei wneud. Er ein bod ni’n byw “yng nghanol cymdeithas o bobl droëdig ac ystyfnig,” gallwn fyw “bywydau glân a di-fai” a bod “fel sêr yn disgleirio yn yr awyr.” (Philipiaid 2:15) Felly, rydyn ni’n benderfynol o osgoi gwneud unrhyw beth mae Jehofa’n ei gasáu. (Iago 4:7) Ac rydyn ni’n caru ac yn parchu ein brodyr a’n chwiorydd oherwydd eu bod nhwthau hefyd yn perthyn i Jehofa.—Rhufeiniaid 12:10.
19. Sut mae Jehofa’n bendithio’r rhai sy’n perthyn iddo?
19 Mae’r Beibl yn addo: “Fydd yr ARGLWYDD ddim yn siomi ei bobl.” (Salm 94:14) Gwarant ydy hyn. Beth bynnag sy’n digwydd, bydd Jehofa gyda ni. Hyd yn oed os bydden ni’n marw, fydd Jehofa ddim yn anghofio amdanon ni. (Rhufeiniaid 8:38, 39) “Wrth fyw ac wrth farw, dŷn ni eisiau bod yn ffyddlon i’r Arglwydd. Pobl Dduw ydyn ni tra byddwn ni byw a phan fyddwn ni farw.” (Rhufeiniaid 14:8) Rydyn ni’n edrych ymlaen at yr amser pan fydd Jehofa yn dod â’i holl ffrindiau ffyddlon sydd wedi marw yn ôl yn fyw. (Mathew 22:32) A hyd yn oed nawr, rydyn ni’n mwynhau llawer o anrhegion bendigedig oddi wrth ein Tad. Fel mae’r Beibl yn dweud: “Mae’r genedl sydd a’r ARGLWYDD yn Dduw iddi wedi ei bendithio’n fawr, sef y bobl hynny mae wedi eu dewis yn eiddo iddo’i hun.”—Salm 33:12.