Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Ble Rwyt Ti’n Edrych?

Ble Rwyt Ti’n Edrych?

“Dw i’n edrych i fyny arnat ti sydd wedi dy orseddu yn y nefoedd.”—SALM 123:1.

CANEUON: 143, 124

1, 2. Beth mae edrych at Jehofa yn ei olygu?

RYDYN ni’n byw mewn “adegau ofnadwy o anodd.” (2 Timotheus 3:1) A bydd bywyd yn mynd yn anoddach byth cyn i Jehofa ddinistrio’r byd drwg hwn a dod â gwir heddwch i’r ddaear. Am y rheswm hwn, dylen ni ofyn i ni’n hunain, ‘At bwy rydw i’n edrych am arweiniad?’ Efallai ein bod ni’n dweud, “At Jehofa” yn syth bin, a dyna’r ateb gorau.

2 Ond beth mae edrych at Jehofa yn ei olygu? A sut gallwn ni sicrhau ein bod ni’n parhau i edrych at Jehofa pan fydd problemau’n codi? Amser maith yn ôl, esboniodd un o ysgrifenwyr y Beibl gymaint mae angen inni edrych at Jehofa pan fydd angen help arnon ni. (Darllen Salm 123:1-4.) Pan fyddwn ni’n edrych at Jehofa, dywedodd ein bod ni fel caethwas yn edrych at ei feistr. Sut felly? Mae caethwas yn edrych at ei feistr, neu’n dibynnu arno i roi bwyd a lloches iddo. Ond, mae’n rhaid iddo hefyd wylio ei feistr trwy’r amser er mwyn deall beth mae ei feistr eisiau iddo ei wneud, ac wedyn mae’n rhaid iddo weithredu ar hynny. Mewn ffordd debyg, mae angen inni astudio Gair Duw yn ofalus bob dydd er mwyn deall beth mae Jehofa eisiau inni ei wneud, ac wedyn mae’n rhaid inni weithredu. Yna y gallwn fod yn sicr o gael help Jehofa pan fydd angen.—Effesiaid 5:17.

3. Beth all dynnu ein sylw rhag edrych at Jehofa?

3 Er ein bod ni’n gwybod y dylen ni edrych at Jehofa drwy’r amser, weithiau mae ein sylw yn cael ei dynnu. Dyna’n union beth ddigwyddodd i Martha, un o ffrindiau Iesu. “Roedd yr holl baratoadau roedd angen eu gwneud yn cymryd sylw Martha i gyd.” (Luc 10:40-42) Os yw’n bosib i sylw rhywun ffyddlon fel Martha gael ei dynnu er bod Iesu ei hun yno gyda hi, nid yw’n syndod bod ein sylw ninnau’n gallu cael ei dynnu hefyd. Felly, beth sy’n gallu tynnu ein sylw oddi wrth Jehofa? Yn yr erthygl hon, byddwn yn trafod sut gall ymddygiad pobl eraill dynnu ein sylw. A byddwn yn dysgu sut i barhau i edrych at Jehofa.

DYN FFYDDLON YN COLLI BRAINT

4. Pam gall gwybod bod Moses wedi colli’r fraint o fynd i mewn i Wlad yr Addewid fod yn syndod inni?

4 Roedd Moses yn bendant yn troi at Jehofa am arweiniad. Mae’r Beibl yn dweud amdano: “Daliodd ati i’r diwedd am ei fod yn cadw ei olwg ar y Duw anweledig.” (Darllen Hebreaid 11:24-27.) Mae hefyd yn dweud: “Fuodd yna erioed broffwyd arall tebyg i Moses yn Israel—roedd Duw yn delio gydag e wyneb yn wyneb.” (Deuteronomium 34:10) Er bod Moses yn ffrind agos â Jehofa, collodd y fraint o fynd i mewn i Wlad yr Addewid. (Numeri 20:12) Beth ddigwyddodd?

5-7. Beth ddigwyddodd yn fuan ar ôl i’r Israeliaid adael yr Aifft, a beth wnaeth Moses?

5 Lai na deufis ar ôl i’r Israeliaid adael yr Aifft, a chyn iddyn nhw gyrraedd Mynydd Sinai hyd yn oed, digwyddodd rhywbeth difrifol. Dechreuodd y bobl gwyno oherwydd doedd ’na ddim dŵr. Dechreuon nhw droi yn erbyn Moses, ac roedden nhw mor flin fel bod Moses yn “gweddïo’n daer ar yr ARGLWYDD, ‘Beth dw i’n mynd i’w wneud? Maen nhw ar fin fy lladd i!’” (Exodus 17:4) Rhoddodd Jehofa gyfarwyddyd eglur i Moses. Dywedodd wrtho i gymryd ei ffon a tharo’r graig yn Horeb. Mae’r Beibl yn dweud: “Dyma Moses yn gwneud hynny o flaen llygaid arweinwyr Israel.” Gwnaeth dŵr lifo allan ohoni, roedd gan yr Israeliaid ddigon i’w yfed, ac roedd y broblem wedi ei datrys.—Exodus 17:5, 6.

6 Mae’r Beibl yn dweud bod Moses wedi enwi’r lle hwnnw’n Massa, sy’n golygu “lle’r profi,” a Meriba, sy’n golygu “lle’r ffraeo.” Pam? “O achos yr holl ffraeo, a’r ffordd wnaeth pobl Israel roi’r ARGLWYDD ar brawf yno drwy ofyn, ‘Ydy’r ARGLWYDD gyda ni neu ddim?’”—Exodus 17:7.

7 Sut roedd Jehofa’n teimlo am yr hyn a ddigwyddodd yn Meriba? Roedd yn teimlo bod yr Israeliaid wedi gwrthryfela yn ei erbyn Ef a’i awdurdod, nid yn erbyn Moses yn unig. (Darllen Salm 95:8, 9.) Roedd yr hyn a wnaeth yr Israeliaid yn anghywir. Ond, gwnaeth Moses y peth iawn. Edrychodd at Jehofa ac yna dilynodd ei gyfarwyddyd yn ofalus.

8. Beth ddigwyddodd tua diwedd taith yr Israeliaid trwy’r anialwch?

8 Ond, beth ddigwyddodd tua 40 mlynedd yn ddiweddarach pan gododd sefyllfa debyg? Roedd yr Israeliaid bron ar ddiwedd eu taith yn yr anialwch. Roedden nhw wedi cyrraedd lle a oedd yn agos at Cadesh, ddim yn bell o ffin Gwlad yr Addewid. Cafodd y lle hwn ei alw’n Meriba hefyd. * (Gweler y troednodyn.) Pam? Oherwydd bod yr Israeliaid wedi cwyno unwaith eto am y diffyg dŵr. (Numeri 20:1-5) Ond, y tro hwn, gwnaeth Moses gamgymeriad difrifol.

9. Pa gyfarwyddyd roddodd Jehofa i Moses, ond beth wnaeth Moses? (Gweler y llun agoriadol.)

9 Beth wnaeth Moses pan wrthryfelodd y bobl? Eto, edrychodd at Jehofa am arweiniad. Ond, y tro yma wnaeth Jehofa ddim dweud wrth Moses i daro’r graig. Dywedodd wrth Moses i gymryd ei ffon, dod â’r bobl yn agos at y graig, ac yna siarad â’r graig. (Numeri 20:6-8) A wnaeth Moses hynny? Naddo. Roedd wedi digio gymaint nes iddo weiddi ar y bobl: “Gwrandwch, chi rebeliaid! Oes rhaid i ni ddod â dŵr allan o’r graig yma i chi?” Yna, tarodd y graig, nid unwaith yn unig, ond dwywaith.—Numeri 20:10, 11.

Gwrthododd Moses ufuddhau i’r cyfarwyddiadau newydd roedd Jehofa wedi eu rhoi iddo

10. Sut ymatebodd Jehofa i’r hyn a wnaeth Moses?

10 Roedd Jehofa yn grac iawn gyda Moses. (Deuteronomium 1:37; 3:26) Pam gwnaeth Jehofa ymateb fel hyn? Un rheswm posib ydy bod Moses wedi gwrthod ufuddhau i’r cyfarwyddiadau newydd gan Jehofa.

11. Drwy daro’r graig, pam gallai Moses fod wedi gwneud i’r Israeliaid feddwl nad oedd Jehofa wedi gwneud gwyrth?

11 Efallai fod ’na reswm arall i Jehofa droi’n flin. Mae’r creigiau enfawr yn y Meriba cyntaf yn wenithfaen cadarn. Dim ots pa mor galed y mae rhywun yn taro’r creigiau hynny, does neb yn disgwyl i ddŵr lifo allan. Ond mae’r creigiau yn yr ail Meriba yn wahanol iawn. Calchfaen ydy’r rhan fwyaf ohonyn nhw. Gan fod calchfaen yn eithaf meddal, yn aml mae dŵr yn gallu mynd i mewn iddo a chasglu o dan y ddaear. Wedyn, mae pobl yn gallu cael hyd i’r dŵr drwy wneud twll yn y graig. Felly, pan wnaeth Moses daro’r graig yn lle siarad, ydy hi’n bosib fod yr Israeliaid wedi meddwl bod y dŵr wedi dod allan yn naturiol, yn hytrach na thrwy wyrth Jehofa? * (Gweler y troednodyn.) Allwn ni ddim bod yn sicr.

MOSES YN GWRTHRYFELA

12. Pa reswm arall efallai sy’n esbonio pam roedd Jehofa mor flin â Moses ac Aaron?

12 Efallai fod ’na reswm arall hefyd sy’n esbonio pam roedd Jehofa mor flin â Moses ac Aaron. Gofynnodd Moses i’r bobl: “Oes rhaid i ni ddod â dŵr allan o’r graig yma i chi?” Pan ddywedodd Moses “ni,” mae’n debyg ei fod yn sôn amdano’i hun ac Aaron. Roedd yr hyn a ddywedodd Moses yn amharchus iawn oherwydd iddo beidio â rhoi’r clod dyledus i Jehofa am y wyrth honno. Mae Salm 106:32, 33 yn dweud: “Dyma nhw’n digio Duw eto wrth Ffynnon Meriba a bu’n rhaid i Moses ddiodde o’u hachos. Roedden nhw wedi ei wneud e mor chwerw nes iddo ddweud pethau byrbwyll.” * (Gweler y troednodyn.) (Numeri 27:14) Ni roddodd Moses i Jehofa yr anrhydedd roedd yn ei haeddu. Dywedodd Jehofa wrth Moses ac Aaron fod y ddau ohonyn nhw wedi mynd yn groes i’w gyfarwyddiadau. (Numeri 20:24) Pechod difrifol oedd hwnnw!

13. Pam roedd y ffordd y cafodd Moses ei gosbi gan Jehofa yn deg?

13 Roedd Moses ac Aaron yn fwy atebol i Jehofa oherwydd eu bod nhw’n arwain Ei bobl. (Luc 12:48) Yn y gorffennol, ni adawodd Jehofa i genhedlaeth gyfan o Israeliaid fynd i mewn i Wlad yr Addewid oherwydd eu bod nhw wedi gwrthryfela yn ei erbyn. (Numeri 14:26-30, 34) Felly, pan wrthryfelodd Moses, teg oedd i Jehofa ei gosbi yn yr un ffordd. Yn union fel y gwrthryfelwyr eraill, ni chafodd Moses fynd i mewn i Wlad yr Addewid.

ACHOS Y BROBLEM

14, 15. Beth achosodd Moses i wrthryfela yn erbyn Jehofa?

14 Beth achosodd Moses i wrthryfela yn erbyn Jehofa? Sylwa eto ar beth mae Salm 106:32, 33 yn ei ddweud: “Dyma nhw’n digio Duw eto wrth Ffynnon Meriba a bu’n rhaid i Moses ddiodde o’u hachos. Roedden nhw wedi ei wneud e mor chwerw nes iddo ddweud pethau byrbwyll.” Felly, er mai yn erbyn Jehofa y gwrthryfelodd yr Israeliaid, Moses a wnaeth droi’n chwerw, neu’n ddig. Ni ddangosodd hunanddisgyblaeth ond siaradodd heb feddwl am y canlyniadau.

15 Stopiodd Moses edrych ar Jehofa am arweiniad oherwydd iddo adael i weithredoedd pobl eraill dynnu ei sylw. Y tro cyntaf i’r bobl gwyno am ddiffyg dŵr, gwnaeth Moses y peth iawn. (Exodus 7:6) Ond efallai iddo ddechrau blino a theimlo’n rhwystredig oherwydd bod yr Israeliaid wedi gwrthryfela am flynyddoedd lawer. Efallai roedd Moses bellach yn meddwl dim ond am ei deimladau ei hun yn hytrach nag am anrhydeddu Jehofa.

Mae’n rhaid inni barhau i edrych at Jehofa am arweiniad ac ufuddhau iddo drwy’r amser

16. Pam dylen ni feddwl am beth wnaeth Moses?

16 Os oedd proffwyd ffyddlon fel Moses yn gallu cael ei faglu a phechu, hawdd iawn fyddai i’r un peth ddigwydd i ni. Roedd Moses ar fin mynd i mewn i Wlad yr Addewid ac rydyn ninnau ar fin mynd i mewn i’r byd newydd. (2 Pedr 3:13) Heb os, dydyn ni ddim eisiau colli’r fraint arbennig honno. Ond i fynd i mewn i’r byd newydd, mae’n rhaid inni barhau i edrych ar Jehofa am arweiniad ac ufuddhau iddo. (1 Ioan 2:17) Pa wersi y gallwn ni eu dysgu oddi wrth gamgymeriad Moses?

PAID Â GADAEL I YMDDYGIAD POBL ERAILL DDENU DY SYLW

17. Sut gallwn ni osgoi colli ein hunanddisgyblaeth pan fyddwn ni’n teimlo’n rhwystredig?

17 Paid â cholli dy hunanddisgyblaeth pan fyddi di’n teimlo’n rhwystredig. Weithiau, rydyn ni’n dioddef yr un problemau dro ar ôl tro. Ond dywed y Beibl: “Dylen ni byth flino gwneud daioni. Os gwnawn ni ddal ati daw’r amser pan fyddwn ni’n medi cynhaeaf o fendith.” (Galatiaid 6:9; 2 Thesaloniaid 3:13) Pan fydd rhywbeth neu rywun yn achosi inni deimlo’n rhwystredig dro ar ôl tro, a ydyn ni’n meddwl cyn siarad? A ydyn ni’n rheoli ein tymer? (Diarhebion 10:19; 17:27; Mathew 5:22) Pan fydd eraill yn ein herian ni, pwysig ydy gadael “i Dduw ddelio gyda’r peth,” neu roi’r cyfle iddo fynegi ei ddicter. (Darllen Rhufeiniaid 12:17-21.) Beth mae hynny’n ei olygu? Yn hytrach na bod yn ddig, rydyn ni’n disgwyl yn amyneddgar i Jehofa ddatrys ein problem yn ei amser ei hun. Petaen ni’n ceisio dial yn hytrach na dibynnu ar Jehofa, bydden ni’n ei amharchu.

18. Beth ddylen ni ei gofio am ddilyn cyfarwyddiadau?

18 Dilyna’r cyfarwyddiadau diweddaraf yn ofalus. A ydyn ni’n glynu wrth y cyfarwyddiadau diweddaraf mae Jehofa wedi eu rhoi inni? Ni ddylen ni barhau i wneud pethau y ffordd rydyn ni’n wastad wedi eu gwneud nhw yn y gorffennol dim ond oherwydd mai dyna sut rydyn ni wedi arfer eu gwneud nhw. Yn hytrach, dylen ni fod yn gyflym iawn i ddilyn unrhyw gyfarwyddyd newydd y mae Jehofa yn ei roi inni drwy gyfrwng ei gyfundrefn. (Hebreaid 13:17) Hefyd, pwysig iawn ydy peidio â “mynd y tu hwnt i beth mae’r ysgrifau sanctaidd yn ei dweud.” (1 Corinthiaid 4:6) Pan fyddwn ni’n dilyn cyfarwyddiadau Jehofa yn ofalus, rydyn ni’n edrych arno am arweiniad yn barhaus.

Pa wers dylen ni ei dysgu o ymateb Moses i gamgymeriadau pobl eraill? (Gweler paragraff 19)

19. Sut gallwn ni osgoi gadael i gamgymeriadau pobl eraill niweidio ein cyfeillgarwch â Jehofa?

19 Paid â gadael i gamgymeriadau pobl eraill niweidio dy gyfeillgarwch â Jehofa. Os ydyn ni’n parhau i ddibynnu ar Jehofa, ni fyddwn ni’n difetha ein cyfeillgarwch ag ef neu’n troi’n ddig oherwydd yr hyn mae pobl eraill yn ei wneud. Mae hyn yn arbennig o bwysig os oes gennyn ni gyfrifoldebau yng nghyfundrefn Duw. Wrth gwrs, mae angen i bob un ohonon ni weithio’n galed ac ufuddhau i Jehofa er mwyn cael ein hachub. (Philipiaid 2:12) Fodd bynnag, os oes gennyn ni fwy o gyfrifoldebau, mae Jehofa’n disgwyl mwy gennyn ni. (Luc 12:48) Ond os ydyn ni’n wir yn caru Jehofa, ni fydd unrhyw beth yn ein baglu nac yn ein gwahanu oddi wrth ei gariad.—Salm 119:165; Rhufeiniaid 8:37-39.

20. Beth ddylen ni fod yn benderfynol o’i wneud?

20 Rydyn ni’n byw mewn dyddiau anodd a heriol. Felly, mae hi’n bwysig iawn inni ddal ati i edrych ar Jehofa sydd wedi ei “orseddu yn y nefoedd” er mwyn deall beth mae Ef eisiau inni ei wneud. Ni ddylen ni byth adael i weithredoedd pobl eraill niweidio ein cyfeillgarwch â Jehofa. Mae’r hyn a ddigwyddodd i Moses yn dysgu’r wers bwysig hon inni. Yn hytrach na gorymateb pan fydd eraill yn gwneud camgymeriadau, gad inni fod yn benderfynol o ddweud: “Mae ein llygaid ni yn edrych ar yr ARGLWYDD ein Duw, ac yn disgwyl iddo ddangos ei ffafr.”—Salm 123:1, 2.

^ Par. 8 Roedd y Meriba hwn yn wahanol i’r Meriba ger Reffidim a oedd hefyd yn cael ei alw’n Massa. Ond, cafodd y ddau le eu galw’n Meriba oherwydd i’r Israeliaid ffraeo, neu gwyno, yno.—Gweler Rhan 7, tudalen 38, yn Cymorth i Astudio Gair Duw.

^ Par. 11 Yn ôl un ysgolhaig Beiblaidd, mae traddodiad Iddewig yn dweud bod y gwrthryfelwyr wedi honni nad oedd hyn yn wyrth oherwydd bod Moses yn gwybod bod ’na ddŵr yn y graig. Felly roedden nhw eisiau iddo ail-wneud y wyrth ar graig arall. Wrth gwrs, dim ond traddodiad ydy hyn.

^ Par. 12 Gweler Y Tŵr Gwylio Saesneg 15 Hydref 1987, “Questions From Readers.”