Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Cydnabyddiaeth Pwy Rwyt Ti’n ei Cheisio?

Cydnabyddiaeth Pwy Rwyt Ti’n ei Cheisio?

“Dydy Duw ddim yn annheg; wnaiff e ddim anghofio beth dych chi wedi ei wneud. Dych chi wedi dangos eich cariad ato drwy helpu Cristnogion eraill.”—HEBREAID 6:10.

CANEUON: 39, 30

1. Pa awydd naturiol sydd gan bob un ohonon ni?

SUT rwyt ti’n teimlo pan fydd rhywun rwyt ti’n ei adnabod ac yn ei barchu yn anghofio dy enw neu, yn waeth byth, yn anghofio pwy wyt ti’n llwyr? Gall hynny ein digalonni. Pam? Oherwydd bod gan bob un ohonon ni awydd naturiol i gael ein derbyn gan bobl eraill. Ond, rydyn ni eisiau iddyn nhw wneud mwy nag ein hadnabod ni’n unig. Rydyn ni eisiau iddyn nhw wybod pa fath o berson ydyn ni a pha bethau rydyn ni wedi eu cyflawni.—Numeri 11:16; Job 31:6.

2, 3. Beth sy’n gallu digwydd i’n hawydd i gael ein derbyn gan bobl eraill? (Gweler y llun agoriadol.)

2 Ond, os nad ydyn ni’n ofalus, gallai’r awydd naturiol hwnnw droi’n amhriodol. Gall byd Satan wneud inni eisiau bod yn enwog neu’n gyfoethog. Pan fydd hynny’n digwydd, fyddwn ni ddim yn rhoi’r gydnabyddiaeth na’r addoliad haeddiannol i’n Tad nefol, Jehofa Dduw.—Datguddiad 4:11.

3 Yn nyddiau Iesu, roedd gan rai o’r arweinwyr crefyddol yr agwedd anghywir tuag at gydnabyddiaeth. Rhybuddiodd Iesu ei ddisgyblion: “Gwyliwch yr arbenigwyr yn y Gyfraith. Maen nhw wrth eu bodd yn cerdded o gwmpas yn swancio yn eu gwisgoedd swyddogol, ac yn hoffi cael pawb yn eu cyfarch ac yn talu sylw iddyn nhw yn sgwâr y farchnad. Mae’n rhaid iddyn nhw gael y seddi gorau yn y synagogau, ac eistedd ar y bwrdd uchaf mewn gwleddoedd.” Ychwanegodd: “Bydd pobl fel nhw yn cael eu cosbi’n llym.” (Luc 20:46, 47) I’r gwrthwyneb, gwnaeth Iesu ganmol y wraig weddw dlawd a gyfrannodd ddwy geiniog fach, pan nad oedd neb arall, yn ôl pob tebyg, wedi sylwi arni. (Luc 21:1-4) Yn amlwg, roedd agwedd Iesu tuag at gydnabyddiaeth yn wahanol iawn i agwedd pobl eraill. Bydd yr erthygl hon yn ein helpu i gadw’r agwedd gywir tuag at gydnabyddiaeth, yr agwedd mae Jehofa Dduw eisiau inni ei meithrin.

Y MATH GORAU O GYDNABYDDIAETH

4. Beth ydy’r math gorau o gydnabyddiaeth, a pham?

4 Beth ydy’r math gorau o gydnabyddiaeth? Mae’n wahanol i’r sylw mae llawer o bobl yn ei ddymuno drwy geisio addysg uwch, busnes llwyddiannus, neu enwogrwydd ym maes adloniant. Disgrifiodd Paul y math gorau o gydnabyddiaeth pan ddywedodd: “Ac yn awr, a chwi yn adnabod Duw, ond yn hytrach, yn adnabyddus gan Dduw, pa fodd yr ydych yn troi drachefn at yr egwyddorion llesg a thlodion, y rhai yr ydych yn chwennych drachefn o newydd eu gwasanaethu?” (Galatiaid 4:9, Beibl Cysegr-lân) Braint fawr ydy cael ein hadnabod gan Dduw, Penarglwydd y bydysawd! Mae Jehofa yn gwybod pwy ydyn ni, mae’n ein caru ni, ac yn awyddus inni fod yn agos ato. Cawson ni ein creu gan Jehofa i fod yn ffrindiau iddo.—Pregethwr 12:13, 14.

5. Beth sy’n rhaid inni ei wneud i gael ein hadnabod gan Dduw?

5 Rydyn ni’n gwybod bod Moses wedi bod yn ffrind i Jehofa. Pan ofynnodd Moses i Jehofa: “Dangos i mi beth rwyt ti am ei wneud,” atebodd Jehofa: “Iawn, bydda i’n gwneud beth rwyt ti’n ei ofyn. Ti wedi fy mhlesio i, a dw i wedi dy ddewis di.” (Exodus 33:12-17) Gall Jehofa ein hadnabod ar lefel bersonol. Ond, beth sy’n rhaid inni ei wneud er mwyn bod yn ffrind i Jehofa? Mae’n rhaid inni ei garu a chysegru ein bywyd iddo.—Darllen 1 Corinthiaid 8:3.

6, 7. Beth all achosi inni golli ein cyfeillgarwch â Jehofa?

6 Ond, mae’n rhaid inni aros yn ffrindiau â’n Tad nefol. Fel y Cristnogion cynnar yn Galatia, mae’n rhaid inni stopio ceisio pethau “llesg a thlodion” y byd hwn, gan gynnwys y llwyddiant a’r enwogrwydd mae’r byd yn eu cynnig. (Galatiaid 4:9, BC) Roedd y Cristnogion yn Galatia eisoes wedi dod i adnabod Duw, ac roedd Duw’n eu hadnabod nhwthau. Ond dywedodd Paul fod yr union frodyr hynny yn troi yn ôl at bethau gwag. Felly, mewn geiriau eraill, roedd yn gofyn iddyn nhw: ‘Pam gwnaethoch chi droi’n ôl a dechrau ceisio’r un pethau diwerth eto?’

7 A allai’r un peth ddigwydd i ni? Gallai. Fel Paul, pan ddaethon ni i mewn i’r gwirionedd, mae’n bosib ein bod ni wedi cefnu ar enwogrwydd a llwyddiant ym myd Satan. (Darllen Philipiaid 3:7, 8.) Efallai ein bod ni wedi cefnu ar ysgoloriaeth, swydd dda, neu gyfleoedd i wneud lot o arian. Neu efallai ein bod ni wedi cefnu ar gyfle i fod yn enwog neu’n gyfoethog oherwydd ein galluoedd cerddorol neu athletaidd. Ond gwrthodon ni’r cyfleon hynny i gyd. (Hebreaid 11:24-27) Annoeth iawn fyddai difaru’r penderfyniadau da hynny a theimlo y byddai ein bywydau wedi bod yn well petaen ni wedi mynd ar ôl y pethau hynny! Gall agwedd o’r fath achosi inni droi’n ôl at bethau’r byd hwn, y pethau rydyn ni eisoes wedi ystyried yn “llesg a thlodion.” *—Gweler y troednodyn.

CAEL CYDNABYDDIAETH JEHOFA

8. Beth fydd yn ein gwneud ni’n benderfynol o gael cydnabyddiaeth Jehofa?

8 Sut gallwn ni fod mor benderfynol o gael cydnabyddiaeth Jehofa nes i gydnabyddiaeth y byd olygu ddim byd inni? Mae angen inni ffocysu ar ddau wirionedd pwysig. Yn gyntaf, mae Jehofa bob amser yn cydnabod y rhai sy’n ei wasanaethu’n ffyddlon. (Darllen Hebreaid 6:10; 11:6) Mae pob un o’i weision ffyddlon yn werthfawr i Jehofa, felly mae’n teimlo y byddai’n “annheg” i anwybyddu unrhyw un ohonyn nhw. Mae Jehofa’n wastad yn adnabod “ei bobl ei hun.” (2 Timotheus 2:19) Mae’n “gofalu am y rhai sy’n ei ddilyn” ac yn gwybod sut i’w hachub.—Salm 1:6; 2 Pedr 2:9.

9. Rho esiamplau o sut mae Jehofa wedi cymeradwyo ei bobl.

9 Ar adegau, mae Jehofa wedi dangos ei fod yn cymeradwyo ei bobl mewn ffyrdd arbennig iawn. (2 Cronicl 20:20, 29) Er enghraifft, meddylia am y ffordd gwnaeth Jehofa achub ei bobl wrth y Môr Coch pan oedd byddin bwerus Pharo yn ceisio eu dal nhw. (Exodus 14:21-30; Salm 106:9-11) Roedd yr achlysur hwnnw mor syfrdanol nes bod pobl yn y rhan honno o’r byd yn dal yn siarad amdano 40 mlynedd yn ddiweddarach. (Josua 2:9-11) Calonogol iawn ydy cofio sut mae Jehofa wedi caru ei bobl ac wedi defnyddio ei rym i’w hachub nhw yn y gorffennol, oherwydd yn fuan bydd Gog o dir Magog yn ymosod arnon ni. (Eseciel 38:8-12) Yr adeg honno, byddwn ni’n falch iawn ein bod ni wedi troi at Dduw am ei gymeradwyaeth yn hytrach nag at y byd.

Weithiau mae Jehofa yn gwobrwyo ei weision mewn ffyrdd annisgwyl

10. Pa wirionedd arall y mae angen inni ganolbwyntio arno?

10 Yr ail wirionedd y mae angen inni ffocysu arno ydy bod Jehofa yn gallu rhoi cydnabyddiaeth inni mewn ffyrdd annisgwyl. Os ydy pobl yn gwneud pethau da er mwyn iddyn nhw gael eu canmol gan bobl eraill yn unig, fydd Jehofa ddim yn eu gwobrwyo. Pam ddim? Oherwydd, fel y dywedodd Iesu, pan fydd eraill yn eu clodfori, dyna ydy eu gwobr nhw. (Darllen Mathew 6:1-5.) Ar y llaw arall, mae Jehofa yn “gweld pob cyfrinach” ac yn sylwi ar y rhai sydd ddim yn cael eu cydnabod am y pethau da maen nhw’n eu gwneud ar gyfer eraill. Mae’n eu gwobrwyo, neu’n eu bendithio nhw. Ac weithiau mae Jehofa yn gwobrwyo ei weision mewn ffyrdd annisgwyl. Gad inni drafod rhai esiamplau.

CYDNABYDDIAETH ANNISGWYL I DDYNES IFANC

11. Sut gwnaeth Jehofa roi cydnabyddiaeth i Mair?

11 Dewisodd Jehofa ddynes ifanc a gostyngedig o’r enw Mair i fod yn fam i’w Fab, Iesu. Roedd Mair yn byw yn y ddinas fach Nasareth, yn bell i ffwrdd o Jerwsalem a’r deml hyfryd. (Darllen Luc 1:26-33.) Pam gwnaeth Jehofa ddewis Mair? Roedd yr angel Gabriel wedi dweud wrthi: “Mae Duw wedi dewis dy fendithio di’n fawr.” Gallwn weld ei bod hi’n ffrind agos i Jehofa o’r hyn a ddywedodd hi’n ddiweddarach i’w pherthynas Elisabeth. (Luc 1:46-55) Roedd Jehofa wedi bod yn gwylio Mair, a rhoddodd y fendith annisgwyl hon iddi oherwydd ei bod hi wedi aros yn ffyddlon iddo.

12, 13. Sut cafodd Iesu ei anrhydeddu ar adeg ei eni a phan aeth Mair ag ef i’r deml 40 diwrnod yn ddiweddarach?

12 Pan gafodd Iesu ei eni, i bwy rhoddodd Jehofa wybod am ei enedigaeth? Nid i unrhyw un o’r swyddogion na’r rheolwyr pwysig yn Jerwsalem a Bethlehem. Yn hytrach, anfonodd angylion at fugeiliaid gostyngedig a oedd yn gofalu am eu defaid yn y caeau y tu allan i Fethlehem. (Luc 2:8-14) Wedyn, dyma’r bugeiliaid hynny’n mynd i weld y babi newydd. (Luc 2:15-17) Mae’n rhaid fod Mair a Joseff wedi synnu o weld Iesu’n cael ei anrhydeddu fel hyn. Mae ffordd Jehofa o wneud pethau yn wahanol iawn i ffordd y Diafol o wneud pethau. Pan anfonodd Satan sêr-ddewiniaid at Iesu a’i rieni, clywodd pawb yn Jerwsalem am enedigaeth Iesu, ac achosodd hyn lawer o drafferth. (Mathew 2:3) O ganlyniad, cafodd llawer o blant dieuog eu lladd yn nes ymlaen.—Mathew 2:16.

13 Roedd Cyfraith Jehofa i Israel yn dweud bod mamau yn gorfod rhoi aberth i Jehofa 40 diwrnod ar ôl iddyn nhw roi genedigaeth i fab. Felly, teithiodd Mair gyda Joseff ac Iesu o Fethlehem am tua chwe milltir i’r deml yn Jerwsalem. (Luc 2:22-24) Ar y ffordd, efallai fod Mair yn meddwl a fyddai’r offeiriad yn gwneud rhywbeth arbennig i glodfori Iesu. Fe gafodd Iesu ei glodfori, ond mewn ffordd doedd Mair ddim efallai yn ei disgwyl. Dewisodd Jehofa Simeon, “dyn da a duwiol,” a’r broffwydes Anna, gwraig weddw 84 mlwydd oed, i gyhoeddi mai Iesu fyddai’r Meseia, neu’r Crist.—Luc 2:25-38.

14. Sut gwnaeth Jehofa wobrwyo Mair?

14 A wnaeth Jehofa barhau i roi cydnabyddiaeth i Mair wrth iddi fagu a gofalu am Iesu yn ffyddlon? Do’n wir. Sicrhaodd Duw fod rhai o’r pethau roedd Mair wedi eu gwneud a’u dweud wedi eu cofnodi yn y Beibl. Mae’n ymddangos nad oedd Mair yn gallu teithio gyda Iesu yn ystod y tair blynedd a hanner pan oedd yn pregethu. Roedd rhaid iddi aros yn Nasareth, efallai oherwydd ei bod hi bellach yn wraig weddw. Felly, roedd hi wedi colli allan ar rai profiadau arbennig a gafodd pobl eraill. Ond, roedd hi yno pan fu farw Iesu. (Ioan 19:26) Yn nes ymlaen, roedd Mair yn Jerwsalem gyda disgyblion Iesu cyn iddyn nhw dderbyn yr ysbryd glân ar adeg Pentecost. (Actau 1:13, 14) Mae’n debyg ei bod hi wedi cael ei heneinio ynghyd â’r disgyblion eraill. Os felly, mae’n golygu ei bod hi wedi derbyn y cyfle i fod gyda Iesu am byth yn y nefoedd. Dyna wobr hyfryd am ei gwasanaeth ffyddlon!

JEHOFA YN CYDNABOD EI FAB

15. Sut gwnaeth Jehofa gymeradwyo Iesu pan oedd ar y ddaear?

15 Doedd Iesu ddim eisiau cael ei anrhydeddu gan arweinwyr crefyddol a gwleidyddol. Ond siaradodd Jehofa yn uniongyrchol o’r nefoedd dair gwaith gan adael i’w Fab wybod ei fod yn ei garu. Yn sicr, roedd hynny wedi calonogi Iesu yn fawr iawn! Yn syth ar ôl i Iesu gael ei fedyddio yn yr Iorddonen, dywedodd Jehofa: “Hwn ydy fy Mab annwyl i; mae wedi fy mhlesio i’n llwyr.” (Mathew 3:17) Mae’n ymddangos mai Ioan Fedyddiwr oedd yr unig berson arall i glywed y geiriau hynny. Wedyn, tua blwyddyn cyn i Iesu farw, gwnaeth tri o’i apostolion glywed Jehofa yn dweud: “Fy Mab annwyl i ydy hwn; mae wedi fy mhlesio i’n llwyr. Gwrandwch arno!” (Mathew 17:5) Yn olaf, ychydig o ddyddiau cyn i Iesu farw, siaradodd Jehofa â’i Fab o’r nefoedd unwaith eto.—Ioan 12:28.

Beth wyt ti’n ei ddysgu am sut gwnaeth Jehofa ddangos cydnabyddiaeth i’w Fab? (Gweler paragraffau 15-17)

16, 17. Sut gwnaeth Jehofa anrhydeddu Iesu mewn ffordd annisgwyl?

16 Roedd Iesu’n gwybod y byddai pobl yn ei gyhuddo o gablu ac y byddai’n marw mewn ffordd sarhaus. Ond eto, gweddïodd am i ewyllys Duw gael ei gyflawni nid ei ewyllys ef ei hun. (Mathew 26:39, 42) Bu farw ar y stanc “gan wrthod ystyried y cywilydd o wneud hynny” oherwydd ei fod eisiau cydnabyddiaeth ei Dad, nid cydnabyddiaeth y byd. (Hebreaid 12:2) Sut gwnaeth Jehofa roi’r gydnabyddiaeth honno i Iesu?

17 Pan oedd Iesu ar y ddaear, gweddïodd am iddo gael yr anrhydedd a oedd ganddo gynt, pan oedd yn y nefoedd gyda’i Dad. (Ioan 17:5) Dydy’r Beibl ddim yn sôn yn unman am Iesu yn disgwyl mwy na hynny. Doedd ddim yn disgwyl gwobr arbennig am wneud ewyllys Jehofa ar y ddaear. Ond, beth wnaeth Jehofa? Gwnaeth anrhydeddu Iesu mewn ffordd annisgwyl. Pan wnaeth Jehofa atgyfodi Iesu, dyma’n “ei ddyrchafu i’r safle uchaf” yn y nefoedd. Hefyd, rhoddodd fywyd anfarwol fel ysbryd greadur iddo, rhywbeth doedd neb arall wedi ei dderbyn o’r blaen! * (Gweler y troednodyn.) (Philipiaid 2:9; 1 Timotheus 6:16) Am ffordd anhygoel o wobrwyo Iesu am ei wasanaeth ffyddlon!

18. Beth fydd yn ein helpu i droi at Jehofa am gymeradwyaeth yn hytrach nag at y byd hwn?

18 Beth fydd yn ein helpu i droi at Jehofa am gymeradwyaeth yn hytrach nag at y byd hwn? Dylwn ni ganolbwyntio ar y ffaith fod Jehofa bob amser yn cydnabod ei weision ffyddlon a’i fod yn aml yn eu gwobrwyo mewn ffyrdd annisgwyl. Gallwn ni ond ddychmygu sut bydd Jehofa yn ein bendithio yn y dyfodol! Ond, yn y cyfamser, tra ein bod ni’n wynebu problemau a thrafferthion y byd drwg hwn, mae’n rhaid inni gofio bod y byd hwn yn mynd heibio. Felly, bydd unrhyw gydnabyddiaeth sy’n dod ohono yn mynd heibio hefyd. (1 Ioan 2:17) Ar y llaw arall, fydd ein Tad nefol, Jehofa, byth yn anghofio am ein gwaith caled a’r cariad rydyn ni wedi ei ddangos dros ei enw, oherwydd “dydy Duw ddim yn annheg.” (Hebreaid 6:10) Yn sicr, fe fydd yn dangos ei fod yn ein cymeradwyo ni, efallai mewn ffyrdd dydyn ni ddim hyd yn oed wedi meddwl amdanyn nhw!

^ Par. 7 Mae cyfieithiadau eraill o’r Beibl yn defnyddio’r geiriau “diwerth,” “diffygiol,” “amddifad,” a “truenus” yn lle “llesg a thlodion.”

^ Par. 17 Efallai fod y wobr hon yn annisgwyl oherwydd does dim sôn am anfarwoldeb yn yr Ysgrythurau Hebraeg.