Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Meithrin Trugaredd Tuag at “Bobl o Bob Math”

Meithrin Trugaredd Tuag at “Bobl o Bob Math”

PAN ddysgodd Iesu ei ddisgyblion am sut i bregethu’r newyddion da, rhybuddiodd na fyddai pobl bob amser yn gwrando arnyn nhw. (Luc 10:3, 5, 6) Mae’r un peth yn wir yn ein gweinidogaeth ninnau. Efallai bydd rhai o’r bobl byddwn ni’n cwrdd â nhw’n anghwrtais neu hyd yn oed yn ymosodol. A phan fyddan nhw’n ymateb fel hynny, gallai fod yn anodd inni deimlo’n drugarog tuag atyn nhw ac eisiau pregethu iddyn nhw.

Mae person trugarog yn gweld anghenion a phroblemau pobl eraill, yn teimlo drostyn nhw, ac eisiau eu helpu nhw. Ond beth fydd yn digwydd pe byddwn ni’n colli ein trugaredd tuag at y bobl rydyn ni’n cwrdd â nhw yn y weinidogaeth? Byddwn ni’n colli ein sêl, hynny yw, ni fyddwn ni’n awyddus i bregethu iddyn nhw, ac ni fyddwn ni’n gallu eu helpu. Gallwn ni gymharu ein sêl â thân. Er mwyn i dân losgi’n danbaid, mae angen llawer o ocsigen. Yn yr un modd, er mwyn i’n sêl fod yn gryf, mae angen inni gael trugaredd!—1 Thesaloniaid 5:19.

Sut gallwn ni ddysgu i fod yn fwy trugarog hyd yn oed pan fydd hynny’n anodd? Gad inni drafod tair esiampl y gallwn ni eu hefelychu: Jehofa, Iesu, a’r apostol Paul.

EFELYCHU TRUGAREDD JEHOFA

Am filoedd o flynyddoedd, mae pobl wedi dweud celwyddau drwg am Jehofa. Ond “mae’n garedig i bobl anniolchgar a drwg.” (Luc 6:35) Sut mae Jehofa yn dangos ei garedigrwydd? Mae’n amyneddgar â phawb. Mae Jehofa eisiau i “bobl o bob math” gael eu hachub. (1 Timotheus 2:3, 4) Er bod Duw yn casáu drygioni, mae pobl yn werthfawr iddo a dydy Ef ddim eisiau i’r un ohonyn nhw farw.—2 Pedr 3:9.

Mae Jehofa yn gwybod bod Satan yn dda iawn yn gwneud i bobl goelio celwyddau. (2 Corinthiaid 4:3, 4) Mae celwyddau am Dduw wedi cael eu dysgu i lawer o bobl ers iddyn nhw fod yn blant. Efallai bydd y ffordd maen nhw’n meddwl neu’n teimlo yn ei gwneud hi’n anodd iddyn nhw dderbyn y gwirionedd. Ond mae Jehofa yn awyddus i’w helpu nhw. Sut rydyn ni’n gwybod hynny?

Sylwa, er enghraifft, ar sut roedd Jehofa yn teimlo tuag at y bobl yn ninas Ninefe. Er eu bod nhw’n dreisgar, dywedodd Jehofa wrth Jona: “Ydy hi ddim yn iawn i mi fod â chonsýrn am y ddinas fawr yma, Ninefe? Mae yna dros gant dau ddeg o filoedd o bobl ddiniwed yn byw ynddi.” (Jona 4:11) Roedd Jehofa’n teimlo piti dros y bobl nad oedd yn gwybod y gwir amdano ef. Felly, anfonodd Jona i’w rhybuddio.

Rydyn ni’n teimlo yr un ffordd ag y mae Jehofa yn teimlo tuag at bobl. Maen nhw’n werthfawr. Fel Jehofa, rydyn ni’n awyddus i’w helpu nhw i ddysgu amdano ef hyd yn oed pan fydd yn ymddangos na fyddan nhw’n derbyn y gwirionedd.

EFELYCHU TRUGAREDD IESU

Fel ei Dad, roedd Iesu yn teimlo piti dros bobl “am eu bod fel defaid heb fugail, ar goll ac yn gwbl ddiymadferth.” (Mathew 9:36) Roedd Iesu yn deall pam eu bod nhw yn y sefyllfa honno. Oherwydd bod eu harweinwyr crefyddol wedi eu trin nhw mewn ffordd ddrwg ac wedi dysgu celwyddau iddyn nhw. Roedd Iesu yn gwybod, am resymau gwahanol, na fyddai llawer a oedd yn dod ato i wrando arno yn ei ddilyn, er hynny cariodd ymlaen i ddysgu llawer o bethau iddyn nhw.—Marc 4:1-9.

Paid â digalonni pan ni fydd rhywun yn gwrando ar y dechrau

Pan fydd amgylchiadau mewn bywyd yn newid, efallai bydd pobl yn ymateb i’r gwirionedd mewn ffordd wahanol

Pan fydd pobl yn ymateb mewn ffordd negyddol i’n neges, mae’n rhaid inni drio deall pam maen nhw wedi ymateb yn y ffordd honno. Efallai fod ganddyn nhw farn ddrwg tuag at y Beibl neu Gristnogion oherwydd eu bod nhw wedi gweld rhai sy’n honni eu bod nhw’n Gristnogion yn gwneud pethau drwg. Efallai byddai eraill wedi clywed celwyddau am yr hyn rydyn ni’n ei gredu. Ond eto, efallai byddai eraill yn ofni rhag i’w perthnasau neu bobl o’u cymuned eu gwawdio am siarad â ni.

Efallai bydd rhai o’r bobl byddwn ni’n cwrdd â nhw wedi wynebu profiadau erchyll sydd wedi effeithio’n fawr arnyn nhw. Mae cenhades o’r enw Kim yn dweud bod llawer o bobl yn ei thiriogaeth wedi goroesi rhyfel ac wedi colli popeth oedd ganddyn nhw. Does ganddyn nhw ddim gwir obaith ar gyfer y dyfodol. Maen nhw’n teimlo’n rhwystredig a dydyn nhw ddim yn ymddiried yn neb. Mae pobl yn y diriogaeth honno yn aml yn ceisio stopio’r Tystion rhag pregethu. Ar un adeg, pan oedd Kim ar y weinidogaeth, gwnaeth rhywun ymosod arni hi.

Sut mae Kim yn aros yn drugarog, hyd yn oed pan fydd pobl yn ei thrin hi’n ddrwg? Mae hi bob amser yn ceisio cofio Diarhebion 19:11, sy’n dweud: “Mae rhywun call yn rheoli ei dymer.” Pan fydd hi’n meddwl am yr hyn mae’r bobl yn ei thiriogaeth wedi ei wynebu, mae’n ei helpu i deimlo trugaredd tuag atyn nhw. A dydy pawb mae hi’n cwrdd â nhw ddim yn anghyfeillgar. Yn y diriogaeth honno mae ganddi hi ail alwadau da.

Gallwn ni ofyn inni ein hunain: ‘Os nad oeddwn i’n gwybod am y gwirionedd, sut byddwn i’n ymateb pe byddai un o Dystion Jehofa yn dod a phregethu imi?’ Er enghraifft, beth petaen ni wedi clywed llawer o gelwyddau am y Tystion? Efallai byddwn ninnau’n ymateb mewn ffordd negyddol ac angen cael ein trin â thrugaredd. Dywedodd Iesu fod rhaid inni drin eraill y ffordd rydyn ni eisiau cael ein trin. Felly, mae’n rhaid inni geisio deall sut mae eraill yn teimlo a bod yn amyneddgar â nhw, hyd yn oed pe byddai hynny’n anodd.—Mathew 7:12.

EFELYCHU TRUGAREDD PAUL

Dangosodd yr apostol Paul drugaredd hyd yn oed tuag at bobl a oedd yn ymateb mewn ffordd dreisgar pan oedd yn pregethu. Pam? Oherwydd iddo gofio sut roedd ef yn arfer bod. Dywedodd: “Roeddwn i’n arfer cablu ei enw; roeddwn i’n erlid y bobl oedd yn credu ynddo, ac yn greulon iawn atyn nhw. Ond roedd Duw yn garedig ata i—doeddwn i ddim yn credu nac yn sylweddoli beth oeddwn i’n ei wneud.” (1 Timotheus 1:13) Roedd Paul yn gwybod bod Jehofa ac Iesu wedi bod yn drugarog iawn tuag ato. Roedd yn deall y bobl a oedd eisiau rhoi terfyn ar ei bregethu, oherwydd roedd ef wedi teimlo’r un ffordd â nhw ar un adeg.

Ar adegau, gwnaeth Paul gwrdd â phobl a oedd yn credu’n gryf mewn gau ddysgeidiaethau. Sut gwnaeth hyn wneud iddo deimlo? Yn Actau 17:16, darllenwn fod Paul, tra oedd yn Athen, “wedi cynhyrfu’n lân wrth weld cymaint o eilunod oedd yn y ddinas.” Ond, defnyddiodd Paul yr union beth a wnaeth ei wylltio i ddysgu pobl. (Actau 17:22, 23) Gwnaeth newidiadau i’r ffordd roedd ef yn pregethu, a siaradodd mewn ffordd wahanol â phobl o wahanol gefndiroedd er mwyn iddo allu “gwneud popeth sy’n bosib i achub pobl.”—1 Corinthiaid 9:20-23.

Pan ydyn ni’n pregethu i bobl sy’n ymateb mewn ffordd negyddol neu sydd â daliadau cryf, gallwn ni wneud beth wnaeth Paul. Gallwn ni ddefnyddio’r hyn rydyn ni’n ei wybod amdanyn nhw i’w helpu nhw i ddysgu am y “newyddion da” o rywbeth gwell. (Eseia 52:7) Mae chwaer o’r enw Dorothy yn dweud: “Yn ein tiriogaeth, mae llawer wedi cael eu dysgu bod Duw yn llym ac yn feirniadol. Dw i’n canmol y fath bobl am eu cred gref yn Nuw ac yna’n denu eu sylw at beth mae’r Beibl yn ei ddweud am bersonoliaeth gariadus Jehofa a’i addewidion ar gyfer y dyfodol.”

“TRECHA DI DDRYGIONI DRWY WNEUD DAIONI”

Yr agosaf rydyn ni i’r diwedd, y mwyaf gallwn ni ddisgwyl i agweddau rhai pobl fynd “o ddrwg i waeth.” (2 Timotheus 3:1, 13) Ond ni ddylwn ni golli ein trugaredd na’n llawenydd oherwydd y ffordd maen nhw’n ymateb. Mae Jehofa yn gallu rhoi’r nerth inni allu trechu drygioni “drwy wneud daioni.” (Rhufeiniaid 12:21) Mae arloeswraig o’r enw Jessica yn dweud ei bod hi’n aml yn cwrdd â phobl sy’n falch ac sy’n gwneud hwyl am ein pennau ac am ein neges. Mae hi’n ychwanegu: “Gall hyn fod yn boen. Pan dw i’n dechrau sgwrs, dw i’n gweddïo’n ddistaw ar Jehofa ac yn gofyn am ei help i weld y person fel y mae ef yn ei weld.” Mae hyn yn helpu Jessica i ganolbwyntio nid ar ei theimladau ei hun ond yn hytrach ar sut i helpu’r person.

Rydyn ni’n parhau i chwilio am y rhai sydd eisiau dod o hyd i’r gwirionedd

Mewn amser, bydd rhai pobl yn derbyn ein help ac yn dysgu’r gwirionedd

Dylen ni bob amser geisio annog ein brodyr a’n chwiorydd wrth inni bregethu gyda nhw. Mae Jessica yn dweud pan fydd hi ar y weinidogaeth gydag eraill ac mae un ohonyn nhw’n cael profiad drwg, mae hi’n ceisio peidio â chanolbwyntio ar hynny. Yn hytrach, mae hi’n sôn am rywbeth positif, fel y canlyniadau da mae ein pregethu yn eu cael er bod rhai yn ymateb mewn ffordd negyddol.

Mae Jehofa’n gwybod yn iawn ei bod hi’n anodd inni bregethu ar adegau. Ond, mae’n hapus iawn pan ydyn ni’n efelychu ei drugaredd! (Luc 6:36) Wrth gwrs, ni fydd Jehofa yn drugarog na’n amyneddgar â phobl yn y byd hwn am byth. Gallwn ni fod yn siŵr ei fod yn gwybod yn union pryd i ddod â’r diwedd. Tan hynny, mae ein pregethu yn fater o frys. (2 Timotheus 4:2) Felly, gad inni gario ymlaen i bregethu â sêl a dangos gwir drugaredd i “bobl o bob math.”