Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Cwestiynau Ein Darllenwyr

Cwestiynau Ein Darllenwyr

Os ydy dyn a dynes sydd ddim wedi priodi yn cysgu dros nos yn yr un tŷ heb reswm dilys, ydy hyn yn dystiolaeth eu bod nhw wedi pechu a bod angen ffurfio pwyllgor barnwrol?

Ydy, mae treulio noson gyda’i gilydd heb neb arall yno a heb reswm dilys dros wneud hynny yn dystiolaeth gref eu bod nhw wedi cyflawni anfoesoldeb rhywiol. Felly, oni bai bod ’na resymau dilys, dylai pwyllgor barnwrol gael ei ffurfio.—1 Corinthiaid 6:18.

Mae’r corff henuriaid yn ystyried pob sefyllfa yn ofalus er mwyn penderfynu a oes angen pwyllgor barnwrol. Er enghraifft: Ydy’r cwpl wedi bod yn canlyn? Ydy’r henuriaid wedi eu cynghori yn y gorffennol am y ffordd maen nhw’n ymddwyn gyda’i gilydd? Pam gwnaethon nhw dreulio’r noson yn yr un tŷ gyda’i gilydd? A wnaethon nhw gynllunio o flaen llaw i wneud hynny? A oedd ganddyn nhw opsiwn arall, neu a wnaeth rhywbeth ddigwydd a oedd y tu hwnt i’w rheolaeth, fel digwyddiad annisgwyl neu argyfwng a oedd yn eu gadael nhw heb unrhyw ddewis ond treulio’r noson gyda’i gilydd? (Pregethwr 9:11) Lle gwnaethon nhw gysgu? Mae pob sefyllfa yn wahanol, ac efallai bydd gwybodaeth ychwanegol yn dylanwadu ar benderfyniad yr henuriaid.

Ar ôl i’r corff henuriaid ystyried yr holl wybodaeth, byddan nhw’n penderfynu a ddylai pwyllgor barnwrol gael ei ffurfio neu beidio.