Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

A Fu Farw Iesu Drosof fi?

A Fu Farw Iesu Drosof fi?

YN Y Beibl, rydyn ni’n darllen am bobl gyffredin fel ni yn mynegi eu teimladau. (Iago 5:17) Er enghraifft, gallwn gydymdeimlo â Paul pan ddywedodd yn Rhufeiniaid 7:21-24: “Er fy mod i eisiau gwneud beth sy’n iawn, mae’r drwg yno yn cynnig ei hun i mi. . . . Dw i mewn picil go iawn!” Mae gwybod am deimladau dyn ffyddlon fel Paul yn gysur mawr wrth inni frwydro yn erbyn ein ffaeleddau ein hunain.

Ond gwnaeth Paul hefyd sôn am deimladau eraill. Yn Galatiaid 2:20, dywedodd am Iesu ei fod ‘wedi ei garu a rhoi ei hun yn aberth yn ei le.’ Roedd Paul yn sicr o hyn. Wyt ti’n teimlo’r un ffordd? Efallai nid trwy’r amser.

Os ydyn ni’n dal i deimlo’n ddiwerth oherwydd pechodau’r gorffennol, efallai y byddwn ni weithiau’n ei chael hi’n anodd derbyn cariad a maddeuant Jehofa, a gallai fod yn anodd iawn i weld aberth Iesu fel rhodd bersonol i ni. Ydy Iesu’n wir eisiau inni feddwl am y pridwerth fel ’na? Os felly, beth sy’n gallu ein helpu i wneud hynny? Gad inni ystyried y ddau gwestiwn hynny.

AGWEDD IESU TUAG AT EI ABERTH

Yn wir, mae Iesu eisiau inni weld ei aberth fel rhodd bersonol. Sut gallwn ni fod yn sicr o hynny? Dychmyga’r olygfa yn Luc 23:39-43. Mae dyn wedi ei hoelio ar bren artaith ar bwys Iesu. Mae’n cyfaddef ei fod wedi pechu yn y gorffennol. Mae’n rhaid bod ei drosedd yn un ddifrifol oherwydd dim ond troseddwyr drwg iawn oedd yn cael eu dienyddio mewn modd creulon fel hyn. Yn ei ofid, mae’r dyn yn ymbil ar Iesu: “Cofia amdana i pan fyddi di’n teyrnasu.”

Sut gwnaeth Iesu ymateb? Dychmyga’r boen wrth i Iesu symud ei ben er mwyn edrych ar y troseddwr. Er gwaetha’r boen ofnadwy, mae Iesu’n llwyddo i wenu ar y dyn ac yn ei gysuro: “Wir i ti—cei di ddod gyda mi i baradwys.” Gallai Iesu fod wedi atgoffa’r dyn o’r canlynol: “Des i . . . i aberthu fy mywyd er mwyn talu’r pris i ryddhau llawer o bobl.” (Math. 20:28) Ond yn hytrach, yn ei garedigrwydd, gwnaeth Iesu bwysleisio natur bersonol ei aberth. Roedd tôn ei lais yn gyfeillgar a defnyddiodd y rhagenwau personol “ti” a “mi.” Ac roedd yn dal yn bersonol pan gyfeiriodd at obaith y dyn o fyw mewn paradwys ar y ddaear.

Roedd Iesu eisiau i’r dyn ddeall y byddai ei aberth yn rhodd bersonol iddo. Os oedd Iesu’n teimlo fel hyn am droseddwr nad oedd wedi cael y cyfle i wasanaethu Duw, gallwn fod yn sicr fod Iesu’n teimlo’r un fath am Gristion bedyddiedig sydd yn gwasanaethu Duw. Beth sy’n gallu ein helpu, felly, i gredu y bydd aberth Crist o fudd inni yn bersonol?

BETH OEDD O HELP I PAUL?

Roedd gweinidogaeth Paul yn effeithio ar ei agwedd tuag at aberth Iesu. Sut felly? Esboniodd: “Dw i mor ddiolchgar fod ein Harglwydd, y Meseia Iesu, yn gweld ei fod yn gallu dibynnu arna i. Fe sy’n rhoi’r nerth i mi, ac mae wedi fy newis i weithio iddo. Cyn dod yn Gristion roeddwn i’n arfer cablu ei enw; roeddwn i’n erlid y bobl oedd yn credu ynddo, ac yn greulon iawn atyn nhw.” (1 Tim. 1:12-14) Gwnaeth aseiniad Paul roi hyder iddo fod Iesu yn drugarog, yn gariadus, ac yn ymddiried ynddo ef yn bersonol. Mae Iesu hefyd wedi rhoi aseiniad i bob un ohonon ni i bregethu. (Math. 28:19, 20) A all ein gweinidogaeth gael yr un effaith arnon ninnau?

Mae Albert, a ddychwelodd at Jehofa yn ddiweddar ar ôl cael ei ddiarddel am bron i 34 o flynyddoedd, yn esbonio: “Dw i’n methu’n glir ag anghofio pechodau’r gorffennol. Ond pan ydw i ar y weinidogaeth, dw i’n teimlo, yn debyg i’r apostol Paul, fod Iesu wedi rhoi gweinidogaeth i fi yn bersonol. Mae’n fy nghryfhau ac yn gwneud imi deimlo’n fwy positif amdanaf fi fy hun, fy mywyd, a’m dyfodol.”—Salm 51:3.

Wrth iti astudio gyda phobl o bob math, atgoffa nhw o drugaredd a chariad Iesu

Mae Allan, a oedd wedi byw bywyd o droseddu a thrais cyn iddo ddysgu’r gwirionedd, yn cyfaddef: “Dw i’n dal yn meddwl am yr holl niwed wnes i achosi i bobl. Ar adegau, mae’n gwneud imi deimlo’n isel iawn. Ond dw i’n diolch i Jehofa am iddo adael i bechadur fel fi ddysgu’r newyddion da i eraill. Pan ydw i’n gweld pobl yn ymateb i’r newyddion da, mae’n fy atgoffa o ddaioni a chariad Jehofa. Dw i’n teimlo ei fod yn fy nefnyddio i helpu eraill sy’n dod o gefndir tebyg i mi.”

Mae ein gweinidogaeth bersonol yn rhoi cyfle inni ganolbwyntio ar weithredoedd a meddyliau positif. Mae’n ein hatgoffa fod Iesu yn drugarog, yn gariadus, ac yn ymddiried ynon ni.

MAE JEHOFA’N FWY NA’N CALONNAU

Hyd nes i system ddrwg Satan gael ei dinistrio, gall ein calonnau ein condemnio ni oherwydd camgymeriadau’r gorffennol. Beth fydd yn ein helpu i frwydro yn erbyn teimladau o’r fath?

“Dw i’n gwerthfawrogi bod ‘Duw uwchlaw ein cydwybod ni,’” meddai Jean, sydd yn aml yn teimlo’n euog am iddi fyw bywyd dwbl pan oedd hi’n ifanc. (1 Ioan 3:19, 20) Mae cysur i’w gael hefyd o wybod bod Jehofa ac Iesu yn deall ein bod ni’n bechaduriaid. Cofia, gwnaethon nhw ddarparu’r pridwerth, nid ar gyfer bodau dynol perffaith, ond ar gyfer bodau dynol amherffaith sy’n edifeiriol.—1 Tim. 1:15.

Rydyn ni’n dod yn argyhoeddedig o’r gwirionedd hwn pan fyddwn ni’n gweddïo ac yn myfyrio ar y ffordd gwnaeth Iesu drin pobl amherffaith a phan fyddwn ni’n gwneud ein gorau i gyflawni’r weinidogaeth mae wedi ei haseinio inni. Drwy wneud hyn gelli di ddweud, fel Paul: Mae Iesu ‘wedi fy ngharu i a rhoi ei hun yn aberth yn fy lle i.’