Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

ERTHYGL ASTUDIO 29

“Ewch i Wneud Pobl . . . yn Ddisgyblion”

“Ewch i Wneud Pobl . . . yn Ddisgyblion”

“Ewch i wneud pobl o bob gwlad yn ddisgyblion i mi.”—MATH. 28:19.

CÂN 60 Mae Eu Bywydau yn y Fantol

CIPOLWG *

1-2. (a) Yn ôl gorchymyn Iesu yn Mathew 28:18-20, beth yw prif nod y gynulleidfa Gristnogol? (b) Pa gwestiynau y byddwn ni’n eu hystyried yn yr erthygl hon?

MAE’N rhaid fod yr apostolion yn llawn cyffro wrth iddyn nhw ymgynnull ar ochr mynydd. Ar ôl iddo gael ei atgyfodi, gwnaeth Iesu drefnu iddyn nhw gwrdd ag ef yn y lleoliad hwnnw. (Math. 28:16) Dyna pryd efallai “cafodd ei weld ar yr un pryd gan dros bum cant o’n brodyr a’n chwiorydd.” (1 Cor. 15:6) Pam roedd Iesu wedi gwahodd ei ddisgyblion i’r cyfarfod hwn? I roi gorchymyn cyffrous iddyn nhw: “Ewch i wneud pobl o bob gwlad yn ddisgyblion i mi.”—Darllen Mathew 28:18-20.

2 Daeth y disgyblion a glywodd eiriau Iesu yn rhan o gynulleidfa y ganrif gyntaf. Prif nod y gynulleidfa honno oedd gwneud mwy o bobl yn ddisgyblion i Grist. * Heddiw, mae ’na ddegau ar filoedd o gynulleidfaoedd Cristnogol ar draws y byd, ac nid yw eu prif gyfrifoldeb wedi newid. Yn yr erthygl hon, byddwn yn ystyried pedwar cwestiwn: Pam mae gwneud disgyblion mor bwysig? Beth mae’n ei gynnwys? Oes gan bob Cristion ran yn y gwaith o wneud disgyblion? A pham mae angen amynedd arnon ni i wneud y gwaith hwn?

PAM MAE GWNEUD DISGYBLION MOR BWYSIG?

3. Yn ôl Ioan 14:6 ac 17:3, pam mae’r gwaith o wneud disgyblion mor bwysig?

3 Pam mae’r gwaith o wneud disgyblion mor bwysig? Oherwydd dim ond disgyblion Crist sy’n gallu bod yn ffrindiau i Dduw. Ar ben hynny, mae gan ddilynwyr Crist fywyd gwell nawr a’r gobaith o fyw am byth yn y dyfodol. (Darllen Ioan 14:6; 17:3.) Yn sicr, mae Iesu wedi rhoi cyfrifoldeb pwysig inni, ond dydyn ni ddim yn gwneud y gwaith hwn ar ein pennau ein hunain. Ysgrifennodd yr apostol Paul y canlynol amdano’i hun a rhai cyfeillion agos: “Canys eiddo Duw ydym ni, fel cydweithwyr.” (1 Cor. 3:9, Beibl Cymraeg Diwygiedig) Am fraint mae Jehofa ac Iesu wedi rhoi i fodau dynol amherffaith!

4. Beth gallwn ni ei ddysgu o esiampl Ivan a Matilde?

4 Gall y gwaith o wneud disgyblion ddod â llawenydd mawr inni. Ystyria esiampl Ivan a’i wraig, Matilde, yn Colombia. Pregethon nhw i ddyn ifanc o’r enw Davier, a ddywedodd wrthyn nhw: “Dw i eisiau gwneud newidiadau yn fy mywyd, ond dydw i ddim yn gallu.” Bocsiwr oedd Davier a oedd yn cymryd cyffuriau, yn goryfed, ac yn byw gyda’i gariad, Erika. Mae Ivan yn esbonio: “Dechreuon ni ymweld ag ef yn ei bentref anghysbell, ac roedd rhaid inni deithio ar gefn ein beiciau am oriau maith ar hyd heolydd mwdlyd. Ar ôl iddi sylwi bod ymddygiad ac agwedd Davier yn gwella, gwnaeth Erika ymuno â’r astudiaeth Feiblaidd.” Ymhen amser, rhoddodd Davier y gorau i’r cyffuriau, yr yfed, a’r bocsio. Hefyd, gwnaeth ef briodi Erika. Mae Matilde yn dweud: “Pan gafodd Davier ac Erika eu bedyddio yn 2016, roedden ni’n cofio Davier yn dweud, ‘Dw i eisiau newid, ond dydw i ddim yn gallu.’ Doedden ni ddim yn gallu dal y dagrau yn ôl.” Heb amheuaeth, rydyn ni’n teimlo llawenydd mawr pan fyddwn ni’n helpu pobl i ddod yn ddisgyblion i Grist.

BETH MAE GWNEUD DISGYBLION YN EI GYNNWYS?

5. Beth yw’r cam cyntaf i wneud disgyblion?

5 Rydyn ni’n cymryd y cam cyntaf i wneud disgyblion pan fyddwn ni’n edrych am y rhai sy’n fodlon dysgu am Jehofa. (Math. 10:11) Rydyn ni’n profi ein bod ni wir yn Dystion Jehofa drwy dystiolaethu i bawb rydyn ni’n cwrdd â nhw. Profwn ein bod ni’n wir Gristnogion drwy ddilyn gorchymyn Iesu i bregethu.

6. Beth sy’n gallu ein helpu i lwyddo yn y weinidogaeth?

6 Mae rhai pobl yn awyddus i ddysgu gwirioneddau Beiblaidd, ond dydy llawer ddim yn dangos diddordeb ar y cychwyn. Efallai bydd rhaid inni ennyn eu diddordeb. I lwyddo yn y weinidogaeth, mae’n rhaid inni baratoi’n drylwyr. Dewisa bynciau penodol a fydd efallai o ddiddordeb i’r rhai y byddi di’n cwrdd â nhw. Yna, meddylia am sut byddi di’n cyflwyno’r pwnc dan sylw.

7. Sut gelli di ddechrau sgwrs â rhywun, a pham mae’n bwysig iti wrando a dangos parch?

7 Er enghraifft, gelli di ofyn i’r deiliad: “Ga’ i ofyn eich barn ar rywbeth? Mae llawer o’r problemau rydyn ni’n eu hwynebu heddiw yn effeithio ar bobl ar draws y byd. Ydych chi’n meddwl bod llywodraeth ddynol yn gallu datrys problemau’r byd?” Yna gelli di drafod Daniel 2:44. Neu gallet ti ddweud wrth rywun: “Beth ydych chi’n feddwl yw’r allwedd i fagu plant cwrtais? Hoffwn i glywed eich barn.” Yna trafoda Deuteronomium 6:6, 7. Pa bynnag bwnc rwyt ti’n dewis ei drafod, meddylia am y bobl a fydd yn gwrando arnat ti. Dychmyga sut byddan nhw’n elwa drwy ddysgu gwirioneddau’r Beibl. Wrth iti siarad â nhw, mae’n bwysig iti wrando arnyn nhw a pharchu eu safbwynt. Wedyn byddi di’n eu deall yn well, a byddan nhw’n fwy tebygol o wrando arnat ti.

8. Pam mae’n rhaid inni ddal ati i alw ar bobl?

8 Cyn i rywun benderfynu astudio’r Beibl, efallai bydd hi’n cymryd amser ac ymdrech i alw’n ôl. Pam? Oherwydd dydy pobl ddim wastad gartref pan fyddwn ni’n ceisio galw arnyn nhw eto. Hefyd, efallai bydd rhaid iti alw’n ôl sawl gwaith cyn i’r deiliad deimlo’n ddigon cyfforddus i dderbyn astudiaeth Feiblaidd. Cofia, mae planhigyn yn fwy tebygol o dyfu pan fydd rhywun yn ei ddyfrio’n rheolaidd. Mewn modd tebyg, mae cariad rhywun tuag at Jehofa ac Iesu yn fwy tebygol o dyfu pan fyddwn ni’n trafod Gair Duw â’r person hwnnw yn rheolaidd.

OES GAN BOB CRISTION RAN YN Y GWAITH O WNEUD DISGYBLION?

Mae Tystion ar draws y byd yn helpu i chwilio am bobl ddiffuant (Gweler paragraffau 9-10) *

9-10. Pam gallwn ni ddweud bod gan bob gweinidog Cristnogol ran mewn chwilio am bobl ddiffuant?

9 Mae gan bob gweinidog Cristnogol ran mewn helpu i ddod o hyd i’r rhai diffuant. Gallwn ni gymharu’r gwaith hwn â phobl sy’n chwilio am blentyn coll. Ym mha ffordd? Ystyria esiampl bachgen tair blwydd oed a oedd wedi crwydro o’r cartref. Gwnaeth tua 500 o bobl helpu i chwilio amdano. O’r diwedd, ryw 20 awr ar ôl i’r plentyn fynd ar goll, dyma wirfoddolwr yn dod o hyd iddo mewn cae ŷd. Gwrthododd gymryd y clod am gael hyd i’r bachgen. Dywedodd: “Roedd cannoedd o bobl yn gyfrifol am ddod o hyd iddo.”

10 Mae llawer o bobl yn debyg i’r bachgen hwnnw. Maen nhw’n teimlo ar goll. Does ganddyn nhw ddim gobaith, ond maen nhw eisiau help. (Eff. 2:12) Mae ’na dros wyth miliwn ohonon ni yn cydweithio i ddod o hyd i’r bobl hyn. Efallai na fyddi di’n dod o hyd i rywun sydd eisiau astudio’r Beibl. Fodd bynnag, gall cyhoeddwyr eraill sy’n gweithio’r un diriogaeth ddod o hyd i rywun sydd eisiau dysgu gwirionedd y Beibl. Pan fydd brawd neu chwaer yn cwrdd â rhywun sy’n dod yn ddisgybl i Grist, mae gan bawb a helpodd i chwilio amdano reswm dros lawenhau.

11. Hyd yn oed os nad wyt ti’n cynnal astudiaeth Feiblaidd, sut gelli di helpu i wneud disgyblion?

11 Hyd yn oed os nad wyt ti’n cynnal astudiaeth Feiblaidd ar hyn o bryd, gelli di helpu i wneud disgyblion mewn ffyrdd eraill. Er enghraifft, gelli di estyn croeso i rai newydd a bod yn gyfeillgar pan fyddan nhw’n dod i Neuadd y Deyrnas. O wneud hynny, gelli di eu hargyhoeddi nhw mai cariad sy’n dangos ein bod ni’n wir Gristnogion. (Ioan 13:34, 35) Hyd yn oed os bydd dy atebion yn y cyfarfodydd yn fyr, gelli di ddysgu’r rhai newydd sut i fynegi eu ffydd mewn ffordd ddiffuant a pharchus. Gelli di hefyd weithio gyda chyhoeddwr newydd yn y weinidogaeth a’i helpu i ddefnyddio’r Ysgrythurau i ddysgu pobl. Drwy wneud hyn, byddi di’n ei helpu i efelychu Crist.—Luc 10:25-28.

12. Oes rhaid inni gael sgiliau arbennig i wneud disgyblion? Esbonia.

12 Ni ddylen ni feddwl bod rhaid inni gael sgiliau arbennig i ddysgu eraill y gwirionedd. Pam ddim? Ystyria esiampl Faustina, sy’n byw yn Bolifia. Nid oedd hi’n gallu darllen pan ddechreuodd hi gymdeithasu â Thystion Jehofa. Ers hynny, mae hi wedi dysgu darllen tipyn bach. Nawr mae hi wedi cael ei bedyddio, ac mae hi wrth ei bodd yn dysgu eraill. Fel arfer, mae hi’n cynnal pump astudiaeth Feiblaidd bob wythnos. Er nad ydy Faustina yn gallu darllen cystal â’r rhan fwyaf o’i myfyrwyr eto, mae hi wedi helpu chwech o bobl i gael eu bedyddio.—Luc 10:21.

13. Hyd yn oed os ydyn ni’n brysur iawn, beth yw rhai o’r buddion rydyn ni’n eu cael wrth inni wneud disgyblion?

13 Mae llawer o Gristnogion yn brysur iawn yn gofalu am gyfrifoldebau pwysig. Ond eto, maen nhw’n neilltuo amser i gynnal astudiaethau Beiblaidd, ac mae hyn yn dod â llawenydd iddyn nhw. Ystyria esiampl Melanie. Roedd hi’n rhiant sengl, yn byw yn Alasga gyda’i merch wyth oed. Roedd hi hefyd yn gweithio’n llawn amser ac yn helpu edrych ar ôl rhiant a chanser arni. Melanie oedd yr unig Dyst yn ei thref anghysbell. Byddai hi’n gweddïo am nerth i fynd allan i bregethu yn yr oerni, oherwydd ei bod hi’n wir eisiau dod o hyd i rywun a fyddai’n fodlon cael astudiaeth Feiblaidd. Ymhen amser, gwnaeth hi gwrdd â Sara, a oedd yn hapus iawn i ddysgu bod gan Dduw enw personol. Ar ôl i amser fynd heibio, derbyniodd Sara astudiaeth Feiblaidd. Mae Melanie yn dweud: “Ar nosweithiau Gwener, roeddwn i wedi blino’n lân, ond gwnes i a fy merch elwa wrth fynd i gynnal yr astudiaeth honno. Gwnaethon ni fwynhau ymchwilio’r atebion i gwestiynau Sara, ac roedden ni mor hapus yn ei gweld hi’n dod yn ffrind i Jehofa.” Cafodd Sara wrthwynebiad, ond dyfalbarhaodd yn ddewr, gadael ei heglwys, a chael ei bedyddio.

PAM MAE GWNEUD DISGYBLION YN GOFYN AM AMYNEDD?

14. (a) Sut mae gwneud disgyblion yn debyg i bysgota? (b) Pa effaith y mae geiriau Paul yn 2 Timotheus 4:1, 2 yn ei chael arnat ti?

14 Hyd yn oed os nad wyt ti eto wedi dod o hyd i rywun sydd eisiau bod yn ddisgybl, dal ati i chwilio. Cofia, gwnaeth Iesu gymharu’r gwaith o wneud disgyblion â physgota. Gall pysgotwyr dreulio llawer o oriau cyn dal pysgod. Yn aml, maen nhw’n gweithio’n hwyr yn y nos neu’n gynnar yn y bore, ac weithiau mae’n rhaid iddyn nhw deithio pellteroedd maith. (Luc 5:5) Mewn modd tebyg, mae rhai Cristnogion yn treulio llawer o oriau yn “pysgota” yn amyneddgar a hynny ar amseroedd gwahanol ac mewn amryw o leoliadau. Pam? Er mwyn iddyn nhw gwrdd â mwy o bobl. Mae’r rhai sy’n gweithio’n galed fel hyn yn aml yn cael eu gwobrwyo drwy gwrdd â phobl sydd â diddordeb yn ein neges. A elli di drio pregethu ar amser neu mewn lleoliad lle rwyt ti’n debygol o gwrdd â phobl?—Darllen 2 Timotheus 4:1, 2.

Bydda’n amyneddgar wrth iti helpu dy fyfyrwyr i wneud cynnydd ysbrydol (Gweler paragraffau 15-16) *

15. Pam mae cynnal astudiaeth Feiblaidd yn gofyn am amynedd?

15 Pam mae cynnal astudiaeth Feiblaidd yn gofyn am amynedd? Un rheswm yw bod angen inni wneud mwy na helpu’r myfyriwr i ddysgu gwirioneddau’r Beibl a’u caru. Mae angen inni hefyd helpu’r myfyriwr i ddysgu am Awdur y Beibl, Jehofa, a’i garu. Ac yn ogystal â dysgu myfyriwr beth mae Iesu wedi gorchymyn i’w ddisgyblion ei wneud, mae angen inni ei helpu i wybod sut i fyw fel gwir Gristion. Mae’n rhaid fod yn amyneddgar a’i helpu wrth iddo geisio rhoi egwyddorion y Beibl ar waith. Mae rhai yn gallu newid eu meddyliau a’u harferion mewn ychydig o fisoedd; mae eraill angen mwy o amser.

16. Beth gwnest ti ei ddysgu o brofiad Raúl?

16 Cafodd cenhadwr ym Mheriw brofiad sy’n dangos y buddion o fod yn amyneddgar. “Roeddwn i wedi astudio dau lyfr gyda myfyriwr Beiblaidd o’r enw Raúl,” meddai’r cenhadwr. “Ond roedd yn dal i wynebu problemau difrifol yn ei fywyd. Roedd ganddo briodas gythryblus, defnyddiodd iaith anweddus, ac roedd ei blant yn ei chael hi’n anodd dangos parch tuag ato. Roedd yn dod i’r cyfarfodydd yn rheolaidd, felly gwnes i barhau i ymweld ag ef a’i deulu er mwyn eu helpu nhw. Fwy na thair blynedd ar ôl i mi gwrdd ag ef, roedd yn gymwys i gael ei fedyddio.”

17. Beth byddwn ni’n ei drafod yn yr erthygl nesaf?

17 Dywedodd Iesu wrth ei ddisgyblion: “Ewch i wneud pobl o bob gwlad yn ddisgyblion i mi.” I gyflawni’r comisiwn hwnnw, yn aml mae’n rhaid inni siarad â phobl sy’n meddwl mewn ffordd wahanol iawn i ni, gan gynnwys y rhai sydd ddim yn perthyn i unrhyw grefydd neu sydd ddim yn credu bod Duw yn bodoli. Bydd yr erthygl nesaf yn ystyried sut y gallwn ni gyflwyno’r newyddion da i bobl o wahanol gefndiroedd.

CÂN 68 Hau Had y Deyrnas

^ Par. 5 Prif nod y gynulleidfa Gristnogol yw helpu pobl i ddod yn ddisgyblion i Grist. Mae’r erthygl hon yn rhoi awgrymiadau ymarferol a fydd yn ein helpu i gyflawni ein nod.

^ Par. 2 ESBONIAD: Mae disgyblion Crist yn gwneud mwy na’r hyn a ddysgodd Iesu. Maen nhw’n rhoi beth maen nhw’n ei ddysgu ar waith. Maen nhw’n ceisio dilyn ôl traed Iesu, neu ei esiampl, mor agos â phosib.—1 Pedr 2:21.

^ Par. 52 DISGRIFIAD O’R LLUN: Dyn sy’n mynd ar ei wyliau yn derbyn llenyddiaeth oddi wrth y Tystion mewn maes awyr. Yn hwyrach ymlaen, tra ei fod yn ymweld â’r ddinas, mae’n gweld Tystion eraill yn tystiolaethu’n gyhoeddus. Ar ôl iddo gyrraedd adref, mae cyhoeddwyr yn galw ar ei dŷ.

^ Par. 54 DISGRIFIAD O’R LLUN: Mae’r un dyn yn derbyn astudiaeth Feiblaidd. Yn y pen draw, mae’n gymwys i gael ei fedyddio.