Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

ERTHYGL ASTUDIO 28

Bydda’n Sicr Fod Gen Ti’r Gwirionedd

Bydda’n Sicr Fod Gen Ti’r Gwirionedd

“Dal di dy afael yn beth rwyt wedi’i ddysgu. Rwyt ti’n gwybod yn iawn mai dyna ydy’r gwir.”—2 TIM. 3:14.

CÂN 56 Gwna i’r Gwir Wir Fyw!

CIPOLWG *

1. Beth mae’r ymadrodd “y gwirionedd” yn ei olygu i ni?

“SUT cest ti’r gwirionedd?” “Gest ti dy fagu yn y gwir?” “Ers faint wyt ti wedi bod yn y gwirionedd?” Mae’n debyg fod eraill wedi gofyn y cwestiynau hyn iti, neu efallai dy fod ti wedi eu gofyn i eraill. Beth mae’r ymadrodd “y gwirionedd” yn ei olygu i ni? Yn gyffredinol, rydyn ni’n ei ddefnyddio i ddisgrifio ein daliadau, ein ffordd o addoli, a’n ffordd o fyw. Mae pobl sydd “yn y gwirionedd” yn gwybod beth mae’r Beibl yn ei ddysgu ac yn byw’n unol â’i egwyddorion. O ganlyniad, maen nhw wedi eu rhyddhau oddi wrth gau ddysgeidiaeth grefyddol ac maen nhw’n mwynhau’r bywyd gorau gall pobl amherffaith ei gael.—Ioan 8:32.

2. Yn ôl Ioan 13:34, 35, beth all ddenu rhywun at y gwirionedd?

2 Beth wnaeth dy ddenu di at y gwirionedd? Efallai cest ti dy ddenu gan ymddygiad pobl Jehofa. (1 Pedr 2:12) Neu efallai gan y cariad roedden nhw’n ei ddangos. Mae llawer yn sylwi ar hyn yn eu cyfarfod cyntaf, a’r cariad hwnnw yn cael mwy o argraff nag unrhyw beth a gafodd ei ddweud. Dydy hynny ddim yn syndod oherwydd dywedodd Iesu y byddai ei ddisgyblion yn cael eu hadnabod am eu cariad tuag at ei gilydd. (Darllen Ioan 13:34, 35.) Ond mae angen mwy na hynny i gael ffydd gref.

3. Beth all ddigwydd os mai cariad Cristnogol ein brodyr a’n chwiorydd yw unig sail ein ffydd yn Nuw?

3 Mae’n rhaid inni seilio ein ffydd ar fwy na chariad Cristnogol yn unig. Pam? Dyweda bod un o dy gyd-gredinwyr—henuriad neu arloeswr hyd yn oed—yn pechu’n ddifrifol. Neu beth petai brawd neu chwaer yn dy frifo mewn rhyw ffordd neu’i gilydd? Neu efallai bod rhywun yn dod yn wrthgiliwr, gan fynnu nad oes gynnon ni’r gwirionedd. Petai pethau felly yn digwydd, a fyddi di’n cael dy faglu a stopio gwasanaethu Jehofa? Dyma’r wers: Petaset ti’n seilio dy ffydd yn Nuw ar y ffordd mae pobl eraill yn ymddwyn yn unig, yn hytrach nag ar dy berthynas â Jehofa ei hun, ni fyddai dy ffydd yn gadarn. Yn nhŷ dy ffydd, dylet ti ddefnyddio mwy na deunydd meddal fel teimladau ac emosiynau, dylet ti ddefnyddio ffeithiau cadarn a rhesymeg solet. Rwyt ti angen profi i ti dy hun fod y Beibl yn cynnwys y gwirionedd am Jehofa.—Rhuf. 12:2.

4. Yn ôl Mathew 13:3-6, 20, 21, sut mae rhai yn ymateb pan fydd eu ffydd o dan brawf?

4 Dywedodd Iesu y byddai rhai yn derbyn y gwirionedd “yn frwd,” ond bydd eu ffydd yn gwywo o dan brawf. (Darllen Mathew 13:3-6, 20, 21.) Efallai nad oedden nhw’n sylweddoli byddai dilyn Iesu yn anodd. (Math. 16:24) Neu efallai oedden nhw’n meddwl y bydden nhw byth yn cael problemau, neu byddai Duw yn cael gwared ar eu holl broblemau. Ond fe fydd ’na heriau yn y byd amherffaith hwn. Gall amgylchiadau newid, gan achosi inni golli rhywfaint o’n llawenydd am gyfnod.—Salm 6:6; Preg. 9:11.

5. Sut mae’r rhan fwyaf o’n brodyr a’n chwiorydd yn dangos eu bod nhw’n hollol sicr fod ganddyn nhw’r gwir?

5 Mae’r rhan fwyaf o’n brodyr a’n chwiorydd yn dangos eu bod nhw’n hollol sicr fod ganddyn nhw’r gwir. Sut? Dydy eu ffydd ddim yn gwegian hyd yn oed os bydd cyd-grediniwr yn eu brifo neu’n gwneud rhywbeth anghristnogol. (Salm 119:165) Gyda phob prawf mae eu ffydd yn cryfhau, nid yn gwanhau. (Iago 1:2-4) Sut gelli di feithrin ffydd gref o’r fath?

“DOD I NABOD DUW YN WELL”

6. Beth oedd sail ffydd disgyblion y ganrif gyntaf?

6 Adeiladodd disgyblion y ganrif gyntaf eu ffydd ar eu gwybodaeth o’r Ysgrythurau a dysgeidiaethau Iesu Grist, sef “gwirionedd y newyddion da.” (Gal. 2:5) Y gwirionedd hwn yw popeth rydyn ni’n ei gredu fel Cristnogion, gan gynnwys y ffeithiau am aberth pridwerthol Iesu a’i atgyfodiad. Roedd yr apostol Paul yn hollol sicr fod y dysgeidiaethau hyn yn wir. Pam? Oherwydd defnyddiodd yr Ysgrythurau i brofi “fod rhaid i’r Meseia ddioddef, a dod yn ôl yn fyw ar ôl marw.” (Act. 17:2, 3) Derbyniodd disgyblion y ganrif gyntaf y dysgeidiaethau hynny a dibynnon nhw ar yr ysbryd glân i’w helpu i ddeall Gair Duw. Gwnaethon nhw brofi iddyn nhw eu hunain fod y dysgeidiaethau hyn wedi’i seilio ar yr Ysgrythurau. (Act. 17:11, 12; Heb. 5:14) Wnaethon nhw ddim seilio eu ffydd ar deimladau ac emosiwn yn unig, na gwasanaethu Jehofa dim ond am eu bod yn mwynhau cymdeithasu â’u cyd-gredinwyr. Yn hytrach, roedden nhw wedi “dod i nabod Duw yn well” ac wedi seilio eu ffydd ar hynny.—Col. 1:9, 10.

7. Beth fydd ein ffydd yng ngwirioneddau’r Beibl yn ei wneud i ni?

7 Dydy gwirioneddau Gair Duw ddim yn newid. (Salm 119:160) Er enghraifft, dydyn nhw ddim yn newid os bydd cyd-grediniwr yn ein brifo ni neu’n pechu’n ddifrifol. A dydyn nhw ddim yn newid pan fyddwn ni’n wynebu problemau. Felly mae’n rhaid inni fod yn gwbl gyfarwydd â dysgeidiaethau’r Beibl ac yn hollol sicr eu bod nhw’n wir. Bydd ein ffydd gadarn yn seiliedig ar wirioneddau’r Beibl yn ein sadio ni mewn cyfnodau anodd, yn union fel mae angor yn sefydlogi cwch mewn storm dymhestlog. Sut gelli di fod yn hollol sicr fod gen ti’r gwirionedd?

CAEL DY BERSWADIO I GREDU

8. Fel y gwelwn yn 2 Timotheus 3:14, 15, sut daeth Timotheus yn hollol sicr fod ganddo’r gwirionedd?

8 Roedd Timotheus yn hollol sicr fod ganddo’r gwirionedd. Sut daeth at y casgliad hwnnw? (Darllen 2 Timotheus 3:14, 15.) Cafodd dysgeidiaethau’r “ysgrifau sanctaidd” eu cyflwyno iddo gan ei fam a’i nain. Ond hefyd, does ’na ddim ddwywaith ei fod wedi defnyddio ei amser a’i egni i astudio’r ysgrifau hynny ei hun. Ac o ganlyniad, cafodd ei argyhoeddi eu bod nhw’n cynnwys y gwirionedd. Yn hwyrach ymlaen, daeth Timotheus, ei fam, a’i nain i gysylltiad â Christnogaeth. Heb os, cafodd y cariad a ddangosodd disgyblion Iesu argraff fawr ar Timotheus, ac roedd yn awyddus iawn i dreulio amser gyda’i frodyr a chwiorydd ysbrydol, ac i ofalu amdanyn nhw. (Phil. 2:19, 20) Er hynny, nid cariad tuag at bobl oedd sail ei ffydd, ond ffeithiau o’r Beibl a oedd yn ei glosio at Jehofa. Mae’n rhaid i tithau hefyd resymu’n ofalus ar yr hyn rwyt ti wedi dysgu am Jehofa o ddarllen y Beibl.

9. Pa dri gwirionedd sylfaenol rwyt ti angen profi i ti dy hun?

9 I ddechrau, mae’n rhaid iti brofi i ti dy hun o leiaf dri gwirionedd syml. Yn gyntaf, mae’n rhaid iti fod yn hollol sicr mai Jehofa Dduw yw creawdwr pob peth. (Ex. 3:14, 15; Heb. 3:4; Dat. 4:11) Yn ail, mae’n rhaid iti brofi i ti dy hun mai’r Beibl yw neges Duw i’r ddynoliaeth. (2 Tim. 3:16, 17) Ac yn drydydd, mae’n rhaid iti gydnabod bod gan Jehofa grŵp trefnus o bobl sy’n ei addoli o dan arweiniad Crist, ac mai Tystion Jehofa yw’r grŵp hwnnw. (Esei. 43:10-12; Ioan 14:6; Act. 15:14) Dydy profi’r gwirioneddau sylfaenol hyn i ti dy hun ddim yn golygu bod rhaid iti fod yn wyddoniadur Beiblaidd ar ddwy droed. Dylet ti fod yn benderfynol o “bwyso a mesur” y ffeithiau er mwyn iti fod yn gwbl sicr fod gen ti’r gwirionedd.—1 Thes. 5:21.

BYDDA’N BAROD I ARGYHOEDDI ERAILL

10. Yn ogystal â gwybod y gwirionedd, beth sydd rhaid inni allu ei wneud?

10 Unwaith iti sefydlu’r tri gwirionedd sylfaenol ynghylch Duw, y Beibl, a phobl Dduw, mae’n rhaid iti allu defnyddio’r Ysgrythurau i brofi’r gwirioneddau hyn i eraill. Pam? Oherwydd fel Cristnogion, mae gynnon ni gyfrifoldeb i ddysgu’r gwirioneddau rydyn ni wedi eu dysgu i’r rhai sy’n fodlon gwrando. * (1 Tim. 4:16) Ac wrth inni geisio argyhoeddi eraill o wirioneddau’r Beibl, rydyn ni’n cryfhau ein hargyhoeddiad ein hunain o’r gwirioneddau hynny.

11. Pa esiampl a osododd yr apostol Paul fel athro?

11 Pan oedd yr apostol Paul yn dysgu pobl, byddai’n “defnyddio Cyfraith Moses ac ysgrifau’r Proffwydi i geisio eu cael nhw i weld mai Iesu oedd y Meseia.” (Act. 28:23) Sut gallwn ni efelychu Paul wrth ddysgu’r gwirionedd i eraill? Mae’n rhaid inni wneud mwy nag adrodd ffeithiau. Mae’n rhaid inni helpu ein myfyrwyr y Beibl i resymu ar yr Ysgrythurau wrth iddyn nhw glosio at Jehofa. Rydyn ni eisiau iddyn nhw dderbyn y gwirionedd, nid am eu bod nhw’n ein hedmygu ni, ond am eu bod nhw wedi profi iddyn nhw eu hunain eu bod nhw’n dysgu’r gwirionedd am ein Duw cariadus.

Rieni, helpwch eich plant i feithrin eu ffydd drwy eu dysgu nhw am ‘ddyfnion bethau Duw’ (Gweler paragraffau 12-13) *

12-13. Sut gall rhieni helpu eu plant i aros yn y gwirionedd?

12 Rieni, does dim dwywaith eich bod chi eisiau i’ch plant aros yn y gwirionedd. Efallai eich bod chi’n teimlo y byddan nhw’n gwneud cynnydd da yn y gwirionedd os oes ganddyn nhw ffrindiau da yn y gynulleidfa. Ond, os ydych chi eisiau i’ch plant fod yn hollol sicr fod ganddyn nhw’r gwirionedd, maen nhw angen mwy na ffrindiau da. Mae’n rhaid iddyn nhw gael eu perthynas eu hunain â Duw, a bod yn gwbl sicr fod beth mae’r Beibl yn ei ddysgu yn wir.

13 Er mwyn dysgu eu plant y gwir am Dduw, mae’n rhaid i rieni osod yr esiampl drwy fod yn astudwyr da o’r Beibl. Mae’n rhaid iddyn nhw dreulio amser yn myfyrio ar yr hyn maen nhw wedi ei ddysgu. Yna byddan nhw’n gallu dysgu eu plant i wneud yr un fath. Maen nhw angen dysgu eu plant i ddefnyddio ein hadnoddau astudio’r Beibl, yn union fel y bydden nhw’n ei wneud gyda’u myfyrwyr y Beibl. Drwy wneud hynny, byddan nhw’n helpu eu plant i werthfawrogi Jehofa a’r sianel mae’n ei defnyddio i ddosbarthu bwyd ysbrydol—“y gwas ffyddlon a chall.” (Math. 24:45-47, BCND) Rieni, peidiwch â bodloni ar ddysgu gwirioneddau Beiblaidd sylfaenol yn unig i’ch plant. Helpwch nhw i feithrin ffydd gref drwy eu dysgu nhw am ‘ddyfnion bethau Duw’ i’r graddau sy’n briodol ar gyfer eu hoed a’u gallu.—1 Cor. 2:10, BC.

ASTUDIA BROFFWYDOLIAETH FEIBLAIDD

14. Pam dylen ni astudio proffwydoliaethau Beiblaidd? (Gweler hefyd y blwch “ A Elli Di Esbonio’r Proffwydoliaethau Hyn?”)

14 Mae proffwydoliaeth Feiblaidd yn rhan bwysig o Air Duw sy’n ein helpu i feithrin ffydd gref yn Jehofa. Pa broffwydoliaethau sydd wedi cryfhau dy ffydd di? Efallai y byddi di’n ateb, ‘Proffwydoliaethau am y dyddiau diwethaf.’ (2 Tim. 3:1-5; Math. 24:3, 7) Ond pa broffwydoliaethau eraill all gryfhau dy ffydd? Er enghraifft, elli di esbonio sut mae’r proffwydoliaethau yn Daniel pennod 2, neu 11 wedi cael eu cyflawni ac yn parhau i gael eu cyflawni? * Pan fydd dy ffydd wedi’i seilio’n gadarn ar y Beibl, bydd y ffydd honno yn ddi-sigl. Ystyria esiampl ein brodyr a wynebodd erledigaeth lem yn yr Almaen yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Er nad oedden nhw’n deall proffwydoliaethau’r Beibl ynglŷn â’r dyddiau diwethaf yn llwyr, roedd ganddyn nhw ffydd gref yng Ngair Duw.

Gall ein hastudiaeth o’r Beibl, gan gynnwys ei broffwydoliaethau, ein helpu i aros yn ffyddlon i Jehofa yn wyneb treialon (Gweler paragraffau 15-17) *

15-17. Sut gwnaeth astudio’r Beibl atgyfnerthu’r brodyr a gafodd eu herlid gan y Natsïaid?

15 Pan oedd y llywodraeth Natsïaidd mewn grym yn yr Almaen, cafodd miloedd o’n brodyr a’n chwiorydd eu hanfon i wersylloedd crynhoi. Roedd Hitler a Phennaeth yr SS, Heinrich Himmler, yn casáu Tystion Jehofa. Yn ôl un chwaer, dywedodd Himmler wrth grŵp o’n chwiorydd mewn un gwersyll crynhoi: “Efallai mai’ch Jehofa chi sy’n teyrnasu yn y nef, ond yma ar y ddaear, y ni sy’n rheoli! Gewch chi weld pwy fydd yn para’n hirach, y chi ’ta ni!” Beth helpodd pobl Jehofa i aros yn ffyddlon?

16 Gwyddai’r Myfyrwyr y Beibl hynny fod Teyrnas Dduw wedi dechrau rheoli ym 1914. Doedd yr erledigaeth lem ddim yn syndod iddyn nhw. Roedden nhw’n gwbl sicr na allai unrhyw lywodraeth ddynol stopio Duw rhag cyflawni ei bwrpas. Allai Hitler ddim cael gwared ar wir addoliad na sefydlu llywodraeth a allai fwrw Teyrnas Dduw o’r neilltu. Roedd ein brodyr yn hollol sicr y byddai rheolaeth Hitler yn dod i ben rywsut neu’i gilydd.

17 Roedd yr hyn y credodd y brodyr a chwiorydd yn gryf ynddo yn wir. Cyn hir, cwympodd y llywodraeth Natsïaidd, ac roedd Heinrich Himmler—y dyn a ddywedodd “yma ar y ddaear, y ni sy’n rheoli”—yn rhedeg am ei fywyd. Wrth ffoi, daeth ar draws y Brawd Lübke, cyn-garcharor roedd yn ei adnabod. Yn benisel, gofynnodd Himmler i’r Brawd Lübke: “Wel Myfyriwr y Beibl, beth sy’n digwydd nawr?” Esboniodd y Brawd Lübke i Himmler fod Tystion Jehofa yn gwybod o’r cychwyn cyntaf y byddai’r llywodraeth Natsïaidd yn methu ac y bydden nhw’n cael eu rhyddhau. O’r diwedd, roedd Himmler—y dyn a oedd gynt â chymaint i ddweud am Dystion Jehofa—yn hollol fud. Yn fuan wedyn, lladdodd ei hun. Y wers? Gall ein hastudiaeth o’r Beibl, gan gynnwys ei broffwydoliaethau, ein helpu i gael ffydd gref yn Nuw a’r gallu i sefyll yn gadarn yn wyneb erledigaeth.—2 Pedr 1:19-21.

18. Yn ôl Ioan 6:67, 68, pam rydyn ni angen y wybodaeth gywir a’r “gallu i benderfynu beth sy’n iawn” y soniodd Paul amdanyn nhw?

18 Dylai pob un ohonon ni dangos cariad—nod adnabod gwir Gristnogion. Ond hefyd, rydyn ni angen gwybodaeth gywir a’r “gallu i benderfynu beth sy’n iawn.” (Phil. 1:9) Fel arall, digon hawdd fyddai “newid ein meddyliau bob tro mae rhywun yn dweud rhywbeth newydd, neu’n cael ein twyllo gan bobl slei,” gan gynnwys gwrthgilwyr. (Eff. 4:14) Pan stopiodd llawer o ddisgyblion y ganrif gyntaf ddilyn Iesu, mynegodd yr apostol Pedr yn gryf fod yr hyn oedd Iesu yn ei ddweud “yn arwain i fywyd tragwyddol.” (Darllen Ioan 6:67, 68.) Er nad oedd Pedr yn deall popeth a ddywedodd Iesu, arhosodd yn ffyddlon am ei fod yn deall y gwir am Grist. Gelli dithau hefyd gryfhau dy ffydd yn yr hyn mae’r Beibl yn ei ddysgu. Drwy wneud hynny, bydd dy ffydd yn gryf beth bynnag a ddaw, a byddi di’n helpu i gryfhau ffydd eraill.—2 Ioan 1, 2.

CÂN 72 Gwneud Gwirionedd y Deyrnas yn Hysbys

^ Par. 5 Bydd yr erthygl hon yn ein helpu i werthfawrogi gwirioneddau Gair Duw. Bydd hefyd yn trafod sut gallwn ni ddod yn fwy sicr mai’r hyn rydyn ni’n ei gredu yw’r gwirionedd.

^ Par. 10 I dy helpu di resymu ag eraill ar ddysgeidiaethau sylfaenol y Beibl, gweler y gyfres “A Conversation With a Neighbor,” a ymddangosodd yn y Tŵr Gwylio Saesneg rhwng 2010 a 2015. Ymhlith y pynciau mae “Ai Iesu yw Duw?,” “Pryd Dechreuodd Teyrnas Dduw Reoli?,” ac “Ydy Duw yn Cosbi Pobl yn Nhân Uffern?

^ Par. 14 Am drafodaeth ar y proffwydoliaethau hyn, gweler rhifyn Mehefin 15, 2012 y Tŵr Gwylio Saesneg, a rhifyn Mai 2020 y Tŵr Gwylio.

^ Par. 60 DISGRIFIADAU O’R LLUNIAU: Yn ystod addoliad teuluol, mae rhieni yn astudio proffwydoliaethau Beiblaidd am y gorthrymder mawr gyda’u plant.

^ Par. 62 DISGRIFIADAU O’R LLUNIAU: Yn ystod y gorthrymder mawr, ni fydd yr hyn sy’n digwydd yn synnu’r teulu hwnnw.