Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Cwestiynau Ein Darllenwyr

Cwestiynau Ein Darllenwyr

Pryd daeth Iesu yn Archoffeiriad, ac oes ’na wahaniaeth rhwng pryd cafodd y cyfamod newydd ei gadarnhau a phryd y cafodd ei sefydlu?

Mae’r dystiolaeth yn dangos y daeth Iesu yn Archoffeiriad pan gafodd ei fedyddio yn 29 OG. Beth yw’r dystiolaeth honno? Ar adeg ei fedydd, cyflwynodd Iesu ei hun fel aberth ar yr allor symbolaidd sy’n cynrychioli “beth mae Duw eisiau.” (Gal. 1:4; Heb. 10:5-10) Gan fod yr allor symbolaidd honno wedi bodoli ers bedydd Iesu, mae’n rhaid fod y deml ysbrydol fawr—sy’n cynrychioli’r drefn ar gyfer addoliad pur i Jehofa ar sail y pridwerth—hefyd wedi dod i fodolaeth bryd hynny. Mae’r allor yn rhan bwysig o’r deml ysbrydol honno.—Math. 3:16, 17; Heb. 5:4-6.

Roedd y deml ysbrydol fawr angen archoffeiriad. I lenwi’r angen hwnnw, cafodd Iesu ei eneinio “â’r Ysbryd Glân ac â nerth rhyfeddol.” (Act. 10:37, 38; Marc 1:9-11) Ond sut gallwn ni fod yn sicr fod Iesu wedi cael ei benodi fel Archoffeiriad cyn iddo farw a chael ei atgyfodi? Bydd esiampl Aaron a’r archoffeiriaid a ddaeth ar ei ôl yn ein helpu i ateb y cwestiwn hwn.

Yn ôl Cyfraith Moses, dim ond yr archoffeiriad oedd yn cael mynd i’r Lle Mwyaf Sanctaidd yn y tabernacl, ac yn hwyrach, i’r Lle Mwyaf Sanctaidd yn y deml. Yr hyn oedd yn gwahanu’r lle hwn oddi wrth y Lle Sanctaidd oedd llen. Dim ond ar Ddydd y Cymod y byddai’r archoffeiriad yn mynd drwy’r llen honno. (Heb. 9:1-3, 6, 7) Yn union fel cafodd Aaron a’i olynwyr eu heneinio fel archoffeiriaid cyn mynd “drwy’r llen” llythrennol yn y tabernacl, mae’n rhaid fod Iesu wedi cael ei eneinio yn Archoffeiriad i deml ysbrydol fawr Jehofa cyn iddo farw ac wedyn mynd “drwy’r llen,” sef “ei gorff ei hun,” i fywyd nefol. (Heb. 10:20) Am y rheswm hwnnw, cyfeiriodd yr apostol Paul at Iesu yn dod “fel Archoffeiriad” ac yna’n pasio “drwy’r babell go iawn, sef yr un berffaith na chafodd ei gwneud gan bobl,” ac i’r “nefoedd ei hun.”—Heb. 9:11, 24.

Does ’na ddim gwahaniaeth rhwng pryd cafodd y cyfamod newydd ei gadarnhau a phryd y cafodd ei sefydlu. Pam ddim? Pan esgynnodd Iesu i’r nef a chyflwyno ei fywyd dynol perffaith droston ni, cymerodd y cam cyntaf o dri a fyddai’n cadarnhau’r cyfamod newydd, neu’n ei wneud yn gyfreithlon. Roedd yr un camau hefyd yn sefydlu’r cyfamod, neu’n ei gweithredu. Beth oedd y camau hynny?

Yn gyntaf, ymddangosodd Iesu gerbron Jehofa; yn ail, cyflwynodd Iesu werth ei aberth i Jehofa; ac yn drydydd, derbyniodd Jehofa werth gwaed Iesu. Nes i’r camau hyn gael eu cymryd, doedd y cyfamod newydd ddim ar waith.

Dydy’r Beibl ddim yn dweud wrthon ni yn union pryd y derbyniodd Jehofa werth aberth Iesu. Felly, allwn ni ddim dweud yn union pryd cafodd y cyfamod newydd ei gadarnhau a’i sefydlu. Er hynny, rydyn ni’n gwybod bod Iesu wedi esgyn i’r nef ddeg diwrnod cyn y Pentecost. (Act. 1:3) Rywdro yn ystod y cyfnod byr hwnnw, cyflwynodd werth ei aberth i Jehofa, a’i dderbyniodd. (Heb. 9:12) Roedd tystiolaeth fod y cyfamod newydd bellach yn weithredol yn gwbl weladwy ym Mhentecost. (Act. 2:1-4, 32, 33) Roedd yn amlwg felly fod y cyfamod newydd yn bodoli ac yn cael ei roi ar waith.

I grynhoi, cafodd y cyfamod newydd ei gadarnhau a’i sefydlu ar ôl i Jehofa dderbyn gwerth aberth Iesu a dod â’r eneiniog o dan y cyfamod hwnnw. Daeth y cyfamod yn weithredol gyda’r Archoffeiriad, Iesu, yn gwasanaethu fel ei Ganolwr, neu Gyfryngwr.—Heb. 7:25; 8:1-3, 6; 9:13-15.