Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

ERTHYGL ASTUDIO 30

Dalia Ati i Fyw’n Ffyddlon i’r Gwir

Dalia Ati i Fyw’n Ffyddlon i’r Gwir

“Does dim byd yn fy ngwneud i’n fwy llawen na chael clywed fod fy mhlant yn byw’n ffyddlon i’r gwir.”—3 IOAN 4.

CÂN 54 “Dyma’r Ffordd”

CIPOLWG *

1. Yn ôl 3 Ioan 3, 4, beth sy’n gwneud ni’n hapus?

ELLI di ddychmygu pa mor hapus oedd yr apostol Ioan i glywed bod y rhai yr oedd wedi eu helpu i ddysgu’r gwirionedd yn dal i wasanaethu Jehofa yn ffyddlon? Roedden nhw’n wynebu llawer o broblemau, ac roedd Ioan yn gweithio’n galed i gryfhau ffydd y Cristnogion ffyddlon hyn a oedd fel plant ysbrydol iddo. Mewn ffordd debyg, rydyn ni’n hapus i weld ein plant ein hunain, neu’n plant ysbrydol, yn cysegru eu hunain i Jehofa ac yn dal ati i’w wasanaethu.—Darllen 3 Ioan 3, 4.

2. Beth oedd bwriad y llythyrau a ysgrifennodd Ioan?

2 Yn 98 OG, roedd Ioan yn ôl pob tebyg yn byw yn ardal Effesus. Efallai y symudodd yno ar ôl cael ei ryddhau o’r carchar ar ynys Patmos. Tua’r adeg honno, gwnaeth ysbryd Jehofa ei sbarduno i ysgrifennu tri llythyr. Bwriad y llythyrau hynny oedd ysgogi Cristnogion ffyddlon i gadw eu ffydd yn Iesu ac i ddal ati i fyw’n ffyddlon i’r gwir.

3. Pa gwestiynau byddwn ni’n eu hateb?

3 Ioan oedd y diwethaf o’r apostolion, ac roedd yn poeni am yr effaith roedd athrawon ffals yn ei chael ar y cynulleidfaoedd. * (1 Ioan 2:18, 19, 26) Roedd y gwrthgilwyr hynny yn honni adnabod Duw, ond doedden nhw ddim yn ufuddhau i orchmynion Jehofa. Gad inni ystyried cyngor ysbrydoledig Ioan. Wrth inni wneud hynny, byddwn yn ateb tri chwestiwn: Beth mae’n ei olygu i fyw’n ffyddlon i’r gwir? Pa heriau rydyn ni’n eu hwynebu? A sut gallwn ni helpu ein gilydd i aros yn y gwirionedd?

BETH MAE’N EI OLYGU I FYW’N FFYDDLON I’R GWIR?

4. Yn ôl 1 Ioan 2:3-6 ac 2 Ioan 4, 6, beth sy’n rhaid inni ei wneud er mwyn byw’n ffyddlon i’r gwir?

4 Er mwyn byw’n ffyddlon i’r gwir, mae’n rhaid inni wybod gwirioneddau Gair Duw, y Beibl. Hefyd, mae’n rhaid inni fod “yn ufudd i beth mae [Jehofa’n] ddweud.” (Darllen 1 Ioan 2:3-6; 2 Ioan 4, 6.) Gosododd Iesu esiampl berffaith o ufuddhau i Jehofa. Felly, un ffordd bwysig rydyn ni’n ufuddhau i Jehofa yw drwy ddilyn esiampl Iesu mor agos â phosib.—Ioan 8:29; 1 Pedr 2:21.

5. Beth sy’n rhaid inni fod yn sicr ohono?

5 Er mwyn byw’n ffyddlon i’r gwir, mae’n rhaid inni fod yn sicr fod Jehofa wastad yn dweud y gwir, a bod popeth mae’n ei ddweud wrthon ni yn ei Air, y Beibl, yn wir. Ac mae’n rhaid inni hefyd fod yn sicr mai Iesu yw’r Meseia addawedig. Mae llawer heddiw yn amau’r ffaith fod Iesu wedi cael ei eneinio’n Frenin Teyrnas Dduw. Rhybuddiodd Ioan y byddai “llawer o rai sy’n twyllo” yn gallu camarwain y rhai nad oedd yn barod i amddiffyn y gwirionedd am Jehofa ac Iesu. (2 Ioan 7-11) Ysgrifennodd Ioan: “A phwy sy’n dweud celwydd? . . . Unrhyw un sy’n gwrthod y ffaith mai Iesu ydy’r Meseia.” (1 Ioan 2:22) Yr unig ffordd gallwn ni osgoi cael ein twyllo yw drwy astudio Gair Duw. Dim ond drwy wneud hynny y down ni i adnabod Jehofa ac Iesu. (Ioan 17:3) A dim ond wedyn byddwn ni’n argyhoeddedig fod gynnon ni’r gwirionedd.

PA HERIAU RYDYN NI’N EU HWYNEBU?

6. Beth yw un her mae Cristnogion ifanc yn ei hwynebu?

6 Rhaid i bob Cristion warchod ei hun rhag dysgeidiaethau dynol. (1 Ioan 2:26) Mae’n rhaid i Gristnogion ifanc yn enwedig fod yn effro i’r fagl hon. Dywedodd Alexia, * chwaer 25 oed o Ffrainc: “Pan o’n i’n iau, oeddwn i’n cael fy nrysu gan syniadau’r byd, fel esblygiad ac athroniaeth ddynol. Ar brydiau, oedd y syniadau hynny yn apelio ata i. Ond oeddwn i’n teimlo na allwn i wrando ar beth o’n i’n ddysgu yn yr ysgol heb roi cyfle i Jehofa siarad.” Astudiodd Alexia y llyfr Life—How Did It Get Here? By Evolution or by Creation? O fewn ychydig o wythnosau, diflannodd yr amheuon i gyd. Dywedodd Alexia: “Profais i fi fy hun fod y Beibl yn cynnwys y gwirionedd. A sylweddolais y byddai byw yn ôl ei safonau yn rhoi llawenydd a heddwch imi.”

7. Pa demtasiwn sy’n rhaid inni ei wrthod, a pham?

7 Mae’n rhaid i bob Cristion, hen ac ifanc, wrthod y temtasiwn i fyw bywyd dwbl. Dywedodd Ioan na allwn ni fyw’n ffyddlon i’r gwirionedd a byw’n anfoesol ar yr un pryd. (1 Ioan 1:6) Os ydyn ni eisiau plesio Jehofa heddiw ac yn y dyfodol, mae’n rhaid inni ymddwyn fel petai popeth rydyn ni’n ei wneud yn y golwg. Mewn ffordd, does dim ffasiwn beth â phechod cudd, achos mae Jehofa yn gweld popeth rydyn ni’n ei wneud.—Heb. 4:13.

8. Beth sy’n rhaid inni ei wrthod?

8 Mae’n rhaid inni wrthod agwedd y byd tuag at bechod. Ysgrifennodd yr apostol Ioan: “Os ydyn ni’n honni ein bod ni heb bechod, dŷn ni’n twyllo’n hunain.” (1 Ioan 1:8) Yn amser Ioan, roedd gwrthgilwyr yn honni y gallai rhywun barhau i bechu’n fwriadol a chadw ei berthynas â Duw. Heddiw, rydyn ni’n byw ymhlith pobl o’r un farn. Mae llawer yn honni credu yn Nuw, ond dydyn nhw ddim yn cytuno â beth mae Jehofa yn ei ddweud am bechod, yn enwedig ynglŷn â rhyw. Maen nhw’n galw’r hyn mae Jehofa yn ei weld fel pechod yn ddewis personol, neu ffordd wahanol o fyw.

Bobl ifanc, atgyfnerthwch eich daliadau Beiblaidd ynglŷn â’r hyn sy’n foesol neu’n anfoesol er mwyn ichi allu amddiffyn eich ffydd (Gweler paragraff 9) *

9. Sut mae’r rhai ifanc yn elwa ar lynu wrth eu daliadau Beiblaidd?

9 Efallai y bydd Cristnogion ifanc yn arbennig o dan bwysau i efelychu agwedd eu ffrindiau ysgol neu eu cyd-weithwyr tuag at ymddygiad anfoesol. Dyna ddigwyddodd i Aleksandar. Dywedodd: “Roedd rhai o’r genethod yn fy ysgol yn rhoi pwysau arna i i gael rhyw â nhw. Dywedon nhw, ‘Does gen ti ddim cariad, felly mae’n rhaid dy fod ti’n hoyw.’” Os byddi di’n wynebu prawf tebyg, cofia hyn: Pan fyddi di’n glynu wrth dy ddaliadau Beiblaidd, byddi di’n amddiffyn dy hunan-barch, dy iechyd corfforol ac emosiynol, a dy berthynas â Jehofa. A phob tro rwyt ti’n gwrthod temtasiwn, bydd yn dod yn haws i wneud yr hyn sy’n iawn. Cofia hefyd, mai Satan sydd y tu ôl i agwedd wyrdroëdig y byd tuag at ryw. Felly, pan fyddi di’n gwrthod meddwl fel pobl y byd, byddi di’n “ennill y frwydr yn erbyn yr un drwg.”

10. Sut mae 1 Ioan 1:9 yn ein helpu i wasanaethu Jehofa â chydwybod lân?

10 Rydyn ni’n cydnabod mai Jehofa sydd â’r hawl i ddiffinio pechod. Ac rydyn ni’n gwneud ein gorau i beidio â phechu. Ond pan fyddwn ni’n pechu, rydyn ni’n cyfaddef ein pechod i Jehofa mewn gweddi. (Darllen 1 Ioan 1:9.) Ac os byddwn ni’n pechu’n ddifrifol, byddwn ni’n ceisio help yr henuriaid, sydd wedi eu penodi gan Jehofa i ofalu amdanon ni. (Iago 5:14-16) Er hynny, ddylen ni ddim cael ein llethu gan euogrwydd dros gamgymeriadau’r gorffennol. Pam ddim? Achos mae ein Tad cariadus wedi rhoi ei Fab yn aberth pridwerthol er mwyn i’n pechodau ni gael eu maddau. Pan fydd Jehofa yn dweud y bydd yn maddau i bechaduriaid edifar, dyna’n union fydd yn digwydd. Felly, does dim byd yn gallu ein stopio ni rhag gwasanaethu Jehofa â chydwybod lân.—1 Ioan 2:1, 2, 12; 3:19, 20.

11. Sut gallwn ni amddiffyn ein hunain rhag dysgeidiaethau a all niweidio ein ffydd?

11 Mae’n rhaid inni wrthod syniadau gwrthgiliol. Ers dechrau’r gynulleidfa Gristnogol, mae’r Diafol wedi bod yn defnyddio twyllwyr i hau amheuon ym meddyliau gweision ffyddlon Duw. O ganlyniad, rydyn ni angen gwybod sut i wahaniaethu rhwng ffaith a chelwydd. * Efallai bydd ein gelynion yn defnyddio’r We neu gyfryngau cymdeithasol i geisio tanseilio ein ffydd yn Jehofa a’n cariad tuag at ein brodyr. Cofia pwy sydd y tu ôl i’r fath bropaganda, a’i wrthod yn llwyr!—1 Ioan 4:1, 6; Dat. 12:9.

12. Pam dylen ni gryfhau ein ffydd yn y gwirioneddau rydyn ni wedi eu dysgu?

12 Er mwyn gwrthod ymosodiadau Satan, mae’n rhaid inni gryfhau ein ffydd yn Iesu a’r rhan mae’n ei chwarae ym mhwrpas Duw. Rydyn ni hefyd angen ymddiried yn yr unig sianel y mae Jehofa yn ei defnyddio heddiw. (Math. 24:45-47) Rydyn ni’n cryfhau ein ffydd drwy astudio Gair Duw yn rheolaidd. Yna, bydd ein ffydd fel coeden â gwreiddiau sy’n treiddio’n ddwfn i’r ddaear. Dywedodd Paul rywbeth tebyg wrth ysgrifennu at gynulleidfa Colosae. Dywedodd: “Dych chi wedi derbyn y Meseia Iesu fel eich Arglwydd, felly daliwch ati i fyw yn ufudd iddo—Cadwch eich gwreiddiau’n ddwfn ynddo, eich bywyd wedi ei adeiladu arno, eich hyder ynddo yn gadarn.” (Col. 2:6, 7) Os byddwn ni’n gweithio’n galed i gryfhau ein ffydd, ni fydd Satan na’i gefnogwyr yn gallu’n stopio ni rhag byw’n ffyddlon i’r gwir.—2 Ioan 8, 9.

13. Beth dylen ni ei ddisgwyl, a pham?

13 Dylen ni ddisgwyl y bydd y byd yn ein casáu. (1 Ioan 3:13) Mae Ioan yn ein hatgoffa bod y “byd o’n cwmpas ni yn cael ei reoli gan yr un drwg.” (1 Ioan 5:19) Wrth i’r system bresennol dynnu at ei therfyn, mae Satan yn gwylltio’n fwy ac yn fwy. (Dat. 12:12) Yn ogystal ag ymosodiadau llai amlwg, fel tynfa anfoesoldeb a chelwyddau gwrthgilwyr, bydd hefyd yn ymosod yn uniongyrchol gan ddefnyddio erledigaeth greulon. Mae Satan yn gwybod mai dim ond ychydig o amser sydd ganddo ar ôl i geisio stopio ein gwaith pregethu neu dorri ein ffydd. Does dim syndod felly, bod ein gwaith wedi ei gyfyngu neu ei wahardd mewn nifer o wledydd. Er hynny, mae ein brodyr a chwiorydd yn y gwledydd hynny yn dyfalbarhau. Maen nhw’n profi y gallwn ni aros yn ffyddlon ni waeth beth mae Satan yn ei wneud i bobl Jehofa!

HELPU’N GILYDD I AROS YN Y GWIRIONEDD

14. Beth yw un ffordd gallwn ni helpu ein brodyr a chwiorydd i aros yn y gwirionedd?

14 I helpu ein brodyr a chwiorydd i aros yn y gwirionedd, mae’n rhaid inni ddangos tosturi. (1 Ioan 3:10, 11, 16-18) Rydyn ni angen caru ein gilydd, nid yn unig pan fydd pethau’n mynd yn dda, ond hefyd pan fydd problemau’n codi. Er enghraifft, wyt ti’n adnabod rhywun sydd wedi colli anwylyn ac sydd angen cysur neu help ymarferol? A wyt ti wedi clywed am frodyr sydd wedi colli llawer o’u heiddo oherwydd trychineb naturiol ac angen help i ailadeiladu eu Neuaddau’r Deyrnas neu eu cartrefi? Dangoswn ddyfnder ein cariad a’n tosturi at ein brodyr a chwiorydd nid yn unig drwy ein geiriau, ond yn bwysicach fyth, drwy ein gweithredoedd.

15. Yn ôl 1 Ioan 4:7, 8, beth rydyn ni angen ei wneud?

15 Efelychwn ein Tad nefol cariadus pan fyddwn ni’n dangos cariad tuag at ein gilydd. (Darllen 1 Ioan 4:7, 8.) Un ffordd bwysig o ddangos cariad yw drwy faddau i’n gilydd. Er enghraifft, efallai bydd rhywun yn brifo ein teimladau ond yna’n ymddiheuro. Dangoswn gariad drwy faddau iddo ac anghofio am y peth. (Col. 3:13) Wynebodd brawd o’r enw Aldo sefyllfa debyg pan glywodd frawd yr oedd yn ei barchu yn dweud rhywbeth angharedig am bobl o’i ddiwylliant. Dywedodd Aldo, “Gweddïais yn ddi-baid ar Jehofa am help i beidio â chael teimladau negyddol tuag at y brawd hwn.” Ond, gwnaeth Aldo fwy na hynny. Penderfynodd ofyn i’r brawd fynd ar y weinidogaeth gydag ef. Wrth iddyn nhw weithio gyda’i gilydd, esboniodd Aldo sut roedd sylw’r brawd wedi effeithio arno. “Pan glywodd y brawd sut o’n i’n teimlo am ei sylw angharedig, fe ymddiheurodd,” meddai Aldo. “O’n i’n gallu synhwyro o dôn ei lais cymaint yr oedd yn difaru beth oedd e wedi ei ddweud. Ar ôl hynny, oedden ni’n ffrindiau da unwaith eto.”

16-17. Beth dylen ni fod yn benderfynol o’i wneud?

16 Roedd yr apostol Ioan yn caru ei frodyr yn fawr iawn ac yn poeni am eu hiechyd ysbrydol, ac mae’r teimladau hynny yn cael eu hadlewyrchu yn y cyngor a roddodd yn ei dri llythyr ysbrydoledig. Mae’n hynod o galonogol i wybod bod dynion a merched, fel Ioan, wedi eu heneinio i reoli gyda Christ!—1 Ioan 2:27.

17 Gad inni gymryd y cyngor rydyn ni wedi ei drafod o ddifri. Gad inni fod yn benderfynol o fyw’n ffyddlon i’r gwir, gan ufuddhau i Jehofa ym mhob agwedd o’n bywydau. Astudia ei Air, ac ymddirieda ynddo. Adeilada ffydd gref yn Iesu. Gwrthoda athroniaethau dynol a dysgeidiaethau gwrthgiliol. Paid ag ildio i’r temtasiwn i fyw bywyd dwbl a syrthio i bechod. Cadwa at safonau moesol uchel Jehofa. A gad inni helpu ein brodyr i aros yn gryf drwy faddau i’r rhai sy’n ein brifo ni a thrwy helpu’r rhai mewn angen. Yna, er gwaetha’r heriau a wynebwn, byddwn ni’n dal ati i fyw’n ffyddlon i’r gwir.

CÂN 49 Llawenhau Calon Jehofa

^ Par. 5 Rydyn ni’n byw mewn byd sy’n cael ei reoli gan dad pob celwydd, Satan. Felly, gall fod yn anodd iawn inni gadw’n ffyddlon i’r gwir. Roedd y Cristnogion cynnar yn wynebu’r un her. Er mwyn eu helpu nhw a ninnau, ysbrydolodd Jehofa yr apostol Ioan i ysgrifennu tri llythyr. Bydd cynnwys y llythyrau hynny yn ein helpu i adnabod yr heriau a wynebwn ac i ddysgu sut i’w trechu.

^ Par. 3 Gweler y blwch “ Cefndir Llythyrau Ioan.”

^ Par. 6 Newidiwyd rhai enwau.

^ Par. 11 Gweler yr erthygl astudio “Oes Gen Ti’r Ffeithiau i Gyd?” yn rhifyn Awst 2018 o’r Tŵr Gwylio.

^ Par. 59 DISGRIFIAD O’R LLUN: Yn yr ysgol, mae chwaer ifanc yn cael ei bombardio gan bropaganda hoyw. (Mewn rhai diwylliannau, mae lliwiau’r enfys yn cael eu defnyddio i gynrychioli cyfunrhywiaeth.) Yn nes ymlaen, mae hi’n cymryd amser i wneud ymchwil er mwyn cryfhau ei ffydd yn ei daliadau Cristnogol. Mae hyn yn ei helpu i wneud y penderfyniad iawn mewn sefyllfa anodd.